Darn 1 - Animal Partners Gwelir drudwyod sy’n clwydo ar gefnau defaid a gwartheg yn pori yn y caeau ym Mhrydain yn aml. Petaech yn edrych at yr adar hyn am gyfnod, byddech yn eu gweld nhw’n cloddio o gwmpas yn brysur gyda’u pigau ar gefnau’r anifeiliaid. Efallai y byddech yn gofyn beth maent yn ei wneud. Yr ateb yw bod yr drudwyod yn bwyta pryfed a chynrhon y maent yn cael gwared o grwyn yr anifeiliaid. Mae’r adar yn gwahanu ceinciau o wlân sydd ar gefn defad gyda’u pigau a maent yn codi a bwyta’r pryfed a thorogod maent yn dod o hyd yna. Maent yn cael gwared â chynrhon o gefnau gwartheg sy’n achosi poen a chlefyd. Mae’r adar yn mwynhau’r cynrhon hyn. Felly mae’r anifeiliaid yn darparu bwyd ar gyfer yr adar tra bod mae’r adar yn gwared yr anifeiliaid rhag plâu niweidiol yn eu tro. Ffeindir perthnasau diddorol rhwng anifeiliaid ac adar yn Affrica. Efallai bod crocodil yn torheulo yn yr heulwen yn agos at ddŵr â’i enau yn agored yn lled a pen. Mae ei bartner yn hopiau i mewn, sef y cwtiad sy’n gweithredu fel brws dannedd yr ymlusgiad. Mae’n dechrau codi a bwyta darnau cig sy’n glynu wrth ddannedd y crocodil yn syth. Wedyn mae’n cael gwared ag abwyd, a adwaenir fel gelen, o dafod y crocodil. Mae’n ymddangos bod y crocodil yn gwybod bod yr aderyn hwn yn gyfaill oherwydd ei fod e byth yn niweidio’r cwtiad. Darn 2 - Cwmnïau Yswiriant Talu hawliadau deiliaid polisi os bydd angen yw nod cronfeydd cwmnïau yswiriant. Mae’r cwmnïau’n cadw llygad arnyn ychydig fel ymddiriedolwyr. Mae’n gywir hefyd bod 90% o elw’r cronfeydd bywyd yn mynd i ddeiliaid polisi “gydag elw”. Sut i greu cronfa cwmni yswiriant, felly? Buddsoddir y symiau anferth sy’n arllwys i swyddfeydd aswiriant bywyd bob dydd, sef premiymau deiliaid polisi, o dan reolaeth arbenigol y cwmni. Defnyddir yr arian wedi’i fuddsoddi hwn i ariannu cynlluniau llywodraeth ac awdurdodau lleol. Buddsoddir yr arian yng nghwmnïau cyhoeddus i’w datblygiad ac ehangiad hefyd. Mae derbynnydd yr arian yn talu llog i’w ddefnydd, fel mewn mathau eraill o fuddsoddiad. Mae’r incwm hwn ychwanegol yn mynd i gronfa cwmni yswiriant hefyd. Petai’r gronfa’n cynnwys premiymau yn unig, byddai’n llai. Mae sawl canlyniadau oherwydd hynny. Yn y lle cyntaf, mae’r cwmnïau yswiriant yn gallu cadw’r premiymau’n is nag y byddent fel arall. Yn ail, mae’r arian sy’n mynd i gynlluniau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn cadw’n trethi ni’n is nag y byddent. Yn drydydd, gellir dosbarthu hyn sydd ar ôl o’r swm angenrheidiol i dalu hawliadau fel elw i ryw fath o ddeiliaid polisi. Darn 3 - The Secret Garden Swatiasant yn feddal ar y glaswellt ac eisteddasant yna heb symud. “Rhaid iddo fe beidio meddwl ein bod ni’n cadw llygad barcud arno fe,” dywedodd Dickson. “Byddai e’n troi ei gefn arnon ni am byth tasai fe’n meddwl y bydden ni’n dodi bys yn y cawl. Bydd e’n hollol wahanol hyd nes bod hyn wedi gorffen. Mae e’n sefydlu’i dŷ. Bydd e’n swilach ac yn fwy tebygol o lyncu mul. Does dim amser ‘da fe i weld neb na hel clecs. Rhaid i ni aros yn llonydd am sbel ac esgus bod yn laswellt a choed a llwyni. Pan fydd e’n dod i abnabod ni, bydda i’n yswitian ychydig a bydd e’n gwybod na fyddwn ni’n niwsans.” Doedd Miss Mary ddim yn hollol siŵr ei bod hi’n gwybod sut i drio esgus bod yn laswellt a choed a llwyni, fel roedd Dickson yn gwybod ei wneud yn ôl pob golwg. Roedd wedi dweud y peth rhyfedd fel pe bai’r peth symlaf ac yn fwyaf naturiol yn y byd. Roedd yn meddwl bod hyn yn dod yn hawdd iddo. Edrychodd arno am ychydig o funudau yn ofalus yn meddwl tybed a allai droi yn wyrdd yn dawel a thyfu canghennau a dail. Eisteddodd yn rhyfeddol o lonydd er hynny. Pan siaradodd, siaradodd mor dawel ei bod hi’n rhyfedd bod hi’n gallu ei glwyed e : roedd yn bosib er hynny. “Mae adeiladu nythod yn rhan o’r gwanwyn,” dywedodd. “Mae e’n debyg bod hi’n wedi bod yn digwydd fel ‘na bob blwyddyn er dechreuad y byd. Dyma eu dull nhw o feddwl ac o wneud pethau. Byddai’n well i ni beidio â dodi’n pig i mewn. Bydd e’n hawddach colli ffrind yn y gwanwyn nag yn unrhyw dymor arall os byddi di’n rhy chwilfrydig.” Darn 4 - Y Combein Mae un peiriant cyffredinol yn unig ar hyn o bryd sy’n cynaeafu grawn yng Ngogledd America, sef y combein. Mae’r combein cyfoes, sydd wedi’i wneud o fwy na 35’000 o rannau, yn ffatri a fwriadwyd ar gyfer gweithio yn y caeau. Mae’n rhyfeddod peirianneg a thechnoleg cynhyrchu. Gellir cynaeafu mwy na 100 o rywogaethau hadau gwahanol a allai fod yn ficrosgopig neu ffa (sydd 5000 o weithiau yn fwy), gan ddefnyddio’r peiriant penedol hwn yn ogystal ag ychydig o atodion bychain. Mae’r combein yn ddrud. Fe’i defnyddir am 200 o oriau y flwyddyn yn unig ar gyfartaledd felly mae heb ei ddefnyddio ddigon. Mae rhesymeg ariannol yn gyfrifol am yr yswiriant hwn rhag colledion cnydau er hynny. Os bydd ffermwyr yn gallu dewis, byddant yn prynu peiriant yn fwy cynhyrchiol (ac yn ddrutach hefyd) er mwyn cynaeafu eu cnydau ar adeg orau y tymor. Mae oedi cynaeafu’n ddrud. Bydd y combein dim ond mor gynhyrchiol â dolen wanaf y peiriant serch hynny, gan gynnwys y gweithredwr ac ei reolaethau. Bydd dylunio combein yn y dyfodol yn dal i ganolbwyntio ar ble mae’r gweithredwr yn eistedd, oherwyyd bod cysur a chyfleustra y gweithredwr yn dal yn arbennig o bwysig. Monitrir mwy o weithrediadau yn electronig oherwydd bod y gweithredwr ar ei ben ei hunan yn y caban ar gau ac mae’r peiriant ei hunan yn fwy cymhleth. Bydd monitro gweithgaredd yn ogystal â monitro proces yn fwy cymhleth. Rhoir prawf ar fonitoriaid lleithder cnydau a cholled grawn sy’n gallu dangos colled yng nghanran dros gefn y peiriant yn ogystal â rheoli gweithrediadau combein yn ôl cyflyrau cnydau’n awtomatig. Mae’r fath welliannau’n galluogi’r gweithredwr i wireddu potensial y peiriant yn llawn. Darn 5 - Erthygl Papur Newydd Mae cwmnïau cyfreithiol ledled Cymru yn sefyll yn gadarn gydag eraill ledled y Deyrnas Unedig yn erbyn toriadau Llywodraeth i system cymorth cyfreithiol. Gostyngwyd ffioedd cyfreithwyr yng Nghymru a Lloegr gan 8.75% o’r cyntaf o Orffennaf. Gwnaethpwyd yr un toriad canrannol yn 2014. Mae’r Llywodraeth yn gwneud toriadau er mwyn gostwng y bil o £1.7 biliwn am gymorth cyfreithiol. Mae’r cymorth cyfreithiol yn helpu pobl sydd ddim yn gallu fforddio costau cyngor cyfreithiol. Mae’r cyfreithwyr mewn cwmnïau yng Ngheredigion yn gwrthod derbyn gwaith sydd wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol o dan y cyfraddau newydd wedi’i torri, i brotestio yn erbyn y toriadau. Mae’r Sir yn ymuno â chwmnïau yn Merseyside, Manceinion, Sir Efrog, Newcastle-upon-Tyne, Dyrham a Llundain sy’n gwrthod derbyn gwaith wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol hefyd. Gwna cwmnïau yn Sir Gaerfyrddin waith sy’n angenrheidiol o dan gymorth cyfreithiol, ond nid ânt i’r eithaf am ddim fel maent wedi gwneud yn y gorffennol. Helpodd yr oriau ychwanegol am ddim i atal gorlwytho’r system presennol ac oediadau mewn achosion. Mae pob cwmni wedi penderfynu mynd ymlaen fel y gwêl orau. Dywedodd Katy Hanson, sy’n gweithio fel cyfreithwraig i Welch & Co. yn Aberteifi, y byddai y penderfyniad nid derbyn achosion cymorth cyfreithiol yn parhau “yn amhenodol” nes i Lywodraeth fod yn barod i siarad â’r proffesiwn cyfreithiol. Ymunodd y cwmni ag eraill ledled y Deyrnas Unedig i fynd ar streic ddydd Mercher diwethaf. Dywedodd Mrs. Hanson, “Mae’r system cyfreithiol ar fin torri, mae e wedi bod fel ‘na am sbel. Mae De Cymru’n wahanol oherwydd pynciau daearyddol teithio ac oherwydd y bydd yn anodd cadw gwasanaethau cymorth cyfreithiol o dan y toriadau. Dyw ein cwmni, yn ogystal â chwmnïau eraill yng Ngheredigion, ddim yn derbyn cymorth cyfreithiol o dan y toriadau. Mae cwmnïau yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn gweithio i reol a dim mwy.” Rhybuddiodd y gallai pobl wynebu cyfweliadau heddlu ac ymddangosiadau llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol.