{"ask-the-expert":{"acc":{"entries":"Dewiswch gwestiwn i ofyn i’r arbenigwr."},"entries":{"entry001":{"answer":["
Fel rheol, byddai hynny’n cael ei ystyried yn wahaniaethu cadarnhaol, sy’n anghyfreithlon. Fodd bynnag, ceir rhai eithriadau:

Gall sefydliadau, yn gyfreithlon, gymryd ystod o fesurau i annog ceisiadau gan bobl o grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gelwir hynny’n “weithredu cadarnhaol”, a gallai gynnwys:

Darparu hyfforddiant i bobl er mwyn eu galluogi i gystadlu am swyddi penodol.

Targedu hysbysebion at grwpiau penodol.

Cynnal diwrnodau codi ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, er enghraifft pobl anabl.

Mewn un sefyllfa benodol, gall gweithredu cadarnhaol gael ei ymestyn yn gyfreithlon hefyd i benderfyniadau ynghylch recriwtio a dyrchafu. Y sefyllfa dan sylw yw pan geir dau neu ragor o ymgeiswyr y mae eu haeddiant yn gyfartal ond na ellir eu gwahanu ar unrhyw sail sy’n ymwneud â’r swydd. Yn y sefyllfa hon, gall y ffaith bod un ymgeisydd yn perthyn i grŵp gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fod yn ddigon i gyfiawnhau ei ddewis.

Yn olaf, o ran anabledd, mae’r gyfraith yn mynnu’n benodol bod sefydliadau’n gwneud pob “addasiad rhesymol” posibl er mwyn atal pobl anabl rhag bod dan anfantais sylweddol, e.e. cael eu cau allan o swydd neu wasanaeth penodol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* cadarnhaol.* chadarnhaol.* gadarnhaol.* recriwt.* dewis.* ffafri.*","question":"A yw’n iawn rhoi ffafriaeth i grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, er mwyn cynyddu eu niferoedd?"},"entry002":{"answer":["
Mae gweithredu cadarnhaol yn cynnwys unrhyw fesurau cyfreithlon y bydd sefydliad yn eu cymryd er mwyn annog ceisiadau gan bobl o grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Gallai enghreifftiau o fesurau o’r fath gynnwys:

Darparu hyfforddiant i bobl er mwyn eu galluogi i gystadlu am swyddi penodol.

Targedu hysbysebion at grwpiau penodol.

Cynnal diwrnodau codi ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, er enghraifft pobl anabl.

Ar y llaw arall, mae gwahaniaethu cadarnhaol yn mynd gam y tu hwnt i weithredu cadarnhaol, ac mae’n ymwneud â dewis ymgeiswyr oherwydd eu bod yn perthyn i grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Un enghraifft o hynny fyddai cyflogwr sy’n dewis recriwtio ymgeisydd du dim ond er mwyn gwella cynrychiolaeth pobl dduon. Yn wahanol i weithredu cadarnhaol, mae gwahaniaethu cadarnhaol bron bob amser yn anghyfreithlon.

Mae’r ffin rhwng gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol wedi mynd ychydig yn niwlog ers cyflwyno’r Ddeddf Cydraddoldeb. Dan y Ddeddf, ceir un sefyllfa benodol erbyn hyn lle gall grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol gael eu ffafrio mewn penderfyniadau ynghylch recriwtio a dyrchafu. Y sefyllfa dan sylw yw pan geir dau neu ragor o ymgeiswyr y mae eu haeddiant yn gyfartal ond na ellir eu gwahanu ar unrhyw sail sy’n ymwneud â’r swydd. Yn y sefyllfa hon, gall y ffaith bod un ymgeisydd yn perthyn i grŵp gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol fod yn ddigon i gyfiawnhau ei ddewis. Gelwir hynny’n weithredu cadarnhaol wrth recriwtio a dyrchafu.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* cadarnhaol.* chadarnhaol.* gadarnhaol.* gweithredu.* weithredu.* recriwt.* dewis.*","question":"Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol?"},"entry003":{"answer":["
Ni cheir unrhyw ofyniad cyfreithiol, felly mae sefydliadau’n rhydd i ddewis pa gamau gweithredu cadarnhaol yr hoffent eu cymryd, os oes rhai o gwbl. Wedi dweud hynny, mae’r rhan fwyaf o sefydliadau bellach yn cydnabod manteision posibl cael gweithlu amrywiol ac yn mynd ati’n wirfoddol i gymryd ystod o gamau gweithredu cadarnhaol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"cadarnhaol.* chadarnhaol.* gadarnhaol.* gweithredu.* weithredu.* recriwt.* dewis.*","question":"A yw’n ofynnol yn ôl y gyfraith i sefydliadau weithredu’n gadarnhaol?"},"entry004":{"answer":["
Cynllun gwirfoddol Llywodraeth y DU yw Hyderus o ran Anabledd, sy’n ceisio annog cyflogwyr i recriwtio, cadw a datblygu staff anabl. Mae’n cymryd lle’r cynllun blaenorol, sef y cynllun Tic Dwbl. Mae gan y cynllun dair haen sy’n gofyn am lefelau cynyddol o ymrwymiad gan gyflogwyr. Ar gyfer lefel 1, rhaid i gyflogwyr o leiaf:

Sicrhau bod eu proses recriwtio’n gynhwysol ac yn hygyrch, er enghraifft drwy ddarparu gwybodaeth mewn fformatau amgen.

Rhoi gwybod i bobl anabl am swyddi gwag a’u hyrwyddo iddynt, er mwyn annog ceisiadau ganddynt.

Cynnig cyfweliad i unrhyw ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol/hanfodol a ddiffiniwyd ar gyfer y swydd.

Rhagweld a darparu addasiadau rhesymol fel y bo angen, er mwyn sicrhau na fydd pobl anabl dan anfantais ddifrifol wrth ymgeisio am swydd a chyflawni eu swydd.

Cefnogi gweithwyr presennol sy’n mynd yn anabl neu sy’n cael cyflwr iechyd hirdymor, er mwyn eu galluogi i barhau i weithio.

Gweithredu er mwyn gwneud gwahaniaeth i bobl anabl, drwy gynnig o leiaf un o’r canlynol iddynt:

Profiad gwaith

Treialon gwaith

Cyflogaeth gyda thâl

Prentisiaethau

Cyfleoedd i ddilyn gweithwyr yn eu swyddi

Gweler hefyd:

"],"keywords":"anabl.* anabledd.* nam.* tic dwbl.*","question":"Beth yw’r cynllun Hyderus o ran Anabledd?"},"entry005":{"answer":["
Mae achrediad Hyderus o ran Anabledd yn cynnwys ymrwymiad i gyfweld pob ymgeisydd anabl sy’n bodloni’r meini prawf gofynnol/hanfodol a ddiffiniwyd ar gyfer y swydd. Fodd bynnag, rhaid i’r dewis terfynol gael ei wneud o hyd ar sail gallu’r ymgeiswyr.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"anabl.* anabledd.* nam.* tic dwbl.* recriwt.* dewis.*","question":"Pa effaith y mae’r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn ei chael ar brosesau recriwtio a dewis?"},"entry006":{"answer":["
Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, rhaid i sefydliadau wneud pob “addasiad rhesymol” posibl er mwyn atal pobl anabl rhag bod dan anfantais sylweddol. Gallai addasiadau o’r fath gynnwys:

Gwneud addasiadau i safle (e.e. lledu drysau, gosod rampiau).

Rhoi rhywfaint o’r gwaith/rhan o’r swydd i rywun arall.

Trosglwyddo’r aelod anabl o staff i swydd arall neu weithle arall.

Bod yn hyblyg ynghylch oriau gwaith neu leoliad gwaith.

Darparu hyfforddiant ychwanegol.

Defnyddio offer sydd wedi’u haddasu, cyflenwi offer arbennig neu addasu offer presennol.

Sicrhau bod cyfarwyddiadau a llawlyfrau’n fwy hygyrch.

Darparu gwasanaeth darllenydd neu ddehonglwr.

Darparu goruchwyliaeth ddigonol/ychwanegol.

Nid yw’r gyfraith yn diffinio'r hyn y gellir ei ystyried yn “rhesymol”, felly y cyflogwyr sy’n gyfrifol am asesu a yw addasiad penodol yn ymarferol o ddifrif. Bydd hynny fel rheol yn golygu pwyso a mesur ystod o ffactorau, gan gynnwys:

Y gost sy’n gysylltiedig â gwneud yr addasiad.

Lefel y budd y bydd yr addasiad yn ei gynnig.

Effaith yr addasiad ar bobl eraill.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"rhesymol.* addasi.* anabl.* anabledd.* nam.*","question":"Beth yw addasiadau rhesymol?"},"entry007":{"answer":["
Yr unig beth sy’n ofynnol ar gyfer llawer o addasiadau rhesymol yw hyblygrwydd o ran arferion gweithio, ac ni fydd cost uniongyrchol yn gysylltiedig â nhw. Os ceir costau, dylech siarad â’ch rheolwr llinell neu’ch tîm adnoddau dynol am opsiynau a threfniadau ariannu.

Mae’r gyfraith yn datgan yn benodol na ddylai pobl anabl orfod talu am unrhyw addasiadau rhesymol a gaiff eu gwneud ar eu cyfer.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"rhesymol.* addasi.* anabl.* anabledd.* nam.* talu.* cost.* gost.* chost.* pris.* phris.* bris.*","question":"Pwy sy’n talu am addasiadau rhesymol?"},"entry008":{"answer":["
Gellir dal sefydliadau’n gyfrifol, ar sail atebolrwydd dirprwyol, am weithredoedd neu ddiffyg gweithredoedd gweithwyr unigol, pan fyddant yn methu â chymryd camau rhesymol i atal y gweithredoedd neu’r diffyg gweithredoedd hynny rhag digwydd. Gallai “camau rhesymol” gynnwys:

Datblygu a dosbarthu polisïau a chanllawiau cyfredol.

Diffinio prosesau gwaith a gweithdrefnau cadarn, e.e. ar gyfer creu rhestr fer o ymgeiswyr.

Rhoi systemau cymorth ar waith ar gyfer y staff, er mwyn gallu ymdrin ag unrhyw broblemau a’u datrys yn fewnol.

Darparu gwybodaeth a hyfforddiant perthnasol i’r staff.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"dirprwyol.* atebol.* atebolr.* gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* aflonydd.* dioddefw.* cyfrifol.* gyfrifol.* chyfrifol.* sefydli.* cwmni.* gwmni.* chwmni.* cyflogw.* chyflogw.* gyflogw.*","question":"Pryd y gellir dal sefydliad yn gyfrifol, ar sail atebolrwydd dirprwyol, am weithredoedd gweithwyr unigol?"},"entry009":{"answer":["
Ydy, mae deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol i unrhyw ddigwyddiad a gaiff ei drefnu drwy’r gwaith, hyd yn oed os yw’r digwyddiad yn cael ei gynnal y tu allan i’r gweithle ac i oriau gwaith arferol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"parti.* barti.* pharti.* partïon.* bartïon.* phartïon.* adeiladu tîm.* digwyddi.* ddigwyddi.* Nadol.* parti Nadol.* barti Nadol.* pharti Nadol.* gwaith.* waith.*","question":"A yw deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol i ddigwyddiadau gwaith, megis partïon Nadolig?"},"entry010":{"answer":["
Mae’n anghyfreithlon gofyn cwestiynau’n ymwneud ag iechyd i ymgeiswyr cyn cynnig swydd iddynt, oni bai bod hynny’n cael ei wneud er mwyn:

Darganfod a oes angen gwneud unrhyw addasiadau rhesymol yn ystod y broses recriwtio (er enghraifft, gwneud trefniadau arbennig ar gyfer y cyfweliad).

Darganfod a fydd yr ymgeisydd yn gallu cyflawni elfennau hanfodol y swydd (er enghraifft, codi pethau trwm).

Darganfod a oes gan yr ymgeisydd anabledd penodol sy’n un o ofynion y swydd.

Cymryd camau gweithredu cadarnhaol er mwyn cynorthwyo unigolyn anabl (os yw deddfwriaeth arall yn caniatáu hynny).

Monitro amrywiaeth yr ymgeiswyr.

Sylwer mai cyfrifoldeb y cyflogwr yn awr yw profi ei safbwynt. Felly, os caiff ymgeisydd ei wrthod ar ôl i gwestiynau’n ymwneud ag iechyd gael eu gofyn iddo, bydd tribiwnlys yn tybio bod y cyflogwr wedi gwahaniaethu yn ei erbyn oni bai bod y cyflogwr yn gallu profi fel arall.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"anabl.* anabledd.* nam.* tic dwbl.* recriwt.* dewis.* iechyd.*","question":"A ellir gofyn cwestiynau’n ymwneud ag iechyd i ymgeiswyr yn rhan o’r broses recriwtio a dewis?"},"entry011":{"answer":["
Gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd bod ganddo gysylltiad ag unigolyn neu grŵp sydd â nodwedd warchodedig benodol. Un enghraifft fyddai peidio ag ystyried dyrchafu unigolyn oherwydd ei fod yn gofalu am berthynas anabl.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* cysylltiad.* gysylltiad.* chysylltiad.* perthynas.* pherthynas.* berthynas.* gofal.* ofal.*","question":"Beth yw gwahaniaethu oherwydd cysylltiad?"},"entry012":{"answer":["
Gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd cred bod gan yr unigolyn hwnnw nodwedd warchodedig, er nad yw hynny’n wir. Un enghraifft fyddai peidio â rhoi swydd i ymgeisydd oherwydd cred ei fod yn hoyw.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* canfyddiad.* chanfyddiad.* ganfyddiad.* ","question":"Beth yw gwahaniaethu oherwydd canfyddiad?"},"entry013":{"answer":["
Mae’n anghyfreithlon i unrhyw un gael ei drin yn llai ffafriol ar sail nodweddion penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio naw nodwedd warchodedig:

Oedran

Anabledd

Ailbennu rhywedd

Priodas neu bartneriaeth sifil

Beichiogrwydd neu famolaeth

Hil

Crefydd neu gred

Rhyw

Cyfeiriadedd rhywiol

Gweler hefyd:

"],"keywords":"nodwedd warchodedig.* nodweddion gwarchodedig.* gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* aflonydd.*","question":"Beth yw nodweddion gwarchodedig?"},"entry014":{"answer":["
O safbwynt cyfreithiol, ceir pedair prif ffurf ar “driniaeth lai ffafriol”:

Gwahaniaethu uniongyrchol
Triniaeth lai ffafriol oherwydd un neu ragor o nodweddion gwarchodedig (hil, anabledd, rhyw ac ati).

Gwahaniaethu anuniongyrchol
Darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol.

Aflonyddu
Ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas.

Erlid
Triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* aflonydd.* erlid.* ffafri.* anffafri.* anfant.* trin yn annheg.* thrin yn annheg.* drin yn annheg.* triniaeth annheg.* thriniaeth annheg.* driniaeth annheg.*","question":"Beth yw “triniaeth lai ffafriol”?"},"entry015":{"answer":["
Er mwyn profi bod gwahaniaethu wedi digwydd yn erbyn unigolyn, bydd angen dangos ei fod wedi’i drin yn llai ffafriol o’i gymharu ag unigolyn arall, a elwir yn “gymharydd”.

Gall dewis cymharydd addas fod yn broses gymhleth, ond yn ei hanfod mae’n golygu adnabod rhywun sydd mor debyg ag sy’n bosibl ym mhob ffordd berthnasol – o ran gallu, profiad, cymwysterau ac ati – i’r sawl sy’n gwneud yr honiad, ond rhywun nad oes ganddo nodwedd warchodedig yr unigolyn hwnnw. Felly, er enghraifft:

Yng nghyswllt honiadau o wahaniaethu ar sail hil, byddai lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu darddiad cenedlaethol y cymharydd yn wahanol.

Yng nghyswllt honiadau o wahaniaethu ar sail rhyw, byddai’r cymharydd yn perthyn i’r rhyw arall.

Yng nghyswllt honiadau o wahaniaethu ar sail anabledd, byddai’r cymharydd yn unigolyn nad oes ganddo anabledd y sawl sy’n gwneud yr honiad.

Yn ddelfrydol dylai’r cymharydd fod yn berson go iawn, ond os nad yw hynny’n bosibl gall fod yn berson damcaniaethol.

Os dangosir bod y sawl sy’n gwneud yr honiad yn cael ei drin yn llai ffafriol na’r cymharydd, yr awgrym yw bod yn rhaid bod hynny’n digwydd ar sail ei nodwedd warchodedig, gan mai dyna’r unig wahaniaeth gwirioneddol sydd rhwng y ddau unigolyn. Cyfrifoldeb y diffynnydd wedyn yw profi nad yw hynny’n wir, neu fel arall caiff ei ddal yn gyfrifol am wahaniaethu’n anghyfreithlon.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* cymhar.* gymhar.* chymhar.*","question":"Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer penderfynu a oes gwahaniaethu wedi digwydd yn erbyn unigolyn?"},"entry016":{"answer":["
Gwahaniaethu uniongyrchol yw pan fydd unigolyn yn cael ei drin yn llai ffafriol yn uniongyrchol oherwydd:

bod ganddo nodwedd warchodedig, NEU

y credir bod ganddo nodwedd warchodedig (hyd yn oed os nad yw hynny’n wir), NEU

bod ganddo gysylltiad ag unigolyn sydd â nodwedd warchodedig.

Er bod gwahaniaethu uniongyrchol fel rheol yn anghyfreithlon, ceir dau eithriad pwysig:

Gallai gofynion corfforol hanfodol fod yn berthnasol i rai swyddi, a fyddai’n cau rhai pobl allan. Er enghraifft, ni fyddai’n bosibl i unigolyn sydd ag anabledd corfforol difrifol gael ei ystyried ar gyfer swydd diffoddwr tân.

Gallai gofynion galwedigaethol fod yn berthnasol i rai swyddi, a fyddai’n golygu ei bod yn afrealistig i rai pobl eu cyflawni. Er enghraifft, efallai y byddai’n gyfreithlon bod lloches i fenywod yn gallu atal ymgeiswyr sy’n ddynion rhag cael o leiaf rhai swyddi. Mae hynny oherwydd bod natur y gwaith a wneir mewn lloches i fenywod yn golygu bod angen bod yn fenyw i allu cyflawni rhai swyddi.

Wrth gwrs, y perygl gyda gofynion galwedigaethol yw bod cyflogwyr diegwyddor yn gallu eu camddefnyddio i wahaniaethu yn erbyn grwpiau penodol o bobl. Er mwyn helpu i atal hynny rhag digwydd, mae gofynion galwedigaethol bob amser yn agored i her, ac os cânt eu herio cyfrifoldeb y cyflogwr yw profi eu bod yn angenrheidiol, a bydd yn rhaid iddo gyflwyno tystiolaeth i’w cyfiawnhau.

Yn ogystal â’r uchod, gellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol ar sail oedran os yw’r gwahaniaethu’n gyfystyr â dull cymesur o gyflawni nod dilys. Er enghraifft, mae modd cyfiawnhau pennu oedrannau ymddeol gorfodol ar gyfer peilotiaid am resymau’n ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* uniong.*","question":"Dan ba amgylchiadau y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu uniongyrchol?"},"entry017":{"answer":["
Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb yn rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol.

Yr unig bryd y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol yn ôl y gyfraith yw pan fydd modd dangos yn glir ei fod yn ddull cymesur o gyflawni nod dilys. Dyma enghraifft er mwyn dangos beth y mae’n ei olygu’n ymarferol...

Rhaid i brifysgol fawr amserlennu darlithoedd a seminarau ar gyfer miloedd o fyfyrwyr, gyda’r bwriad o ddyrannu adnoddau’n deg a sicrhau bod pawb yn cael y profiad addysgol gorau posibl, sef y nod dilys. Ond wrth gwrs, o gofio faint o fyfyrwyr a chyrsiau sydd i’w cael, mae bron yn anochel y bydd o leiaf rhai amserlenni yn gwrthdaro â defodau crefyddol rhai credoau. Ac mae hynny’n gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol.

Mewn sefyllfa o’r fath, serch hynny, mae’n annhebygol y bydd camau gweithredu’r brifysgol yn cael eu hystyried yn anghyfreithlon. Mae hynny oherwydd na fyddai’n bosibl cynnig amserlen unigol i bob myfyriwr a fyddai’n gofyn am un. Felly, cyhyd â bod y brifysgol yn cymryd camau rhesymol i leihau unrhyw broblemau, gellir cyfiawnhau ei chamau gweithredu’n wrthrychol fel dull cymesur o gyflawni nod dilys.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* anuniong.*","question":"Dan ba amgylchiadau y gellir cyfiawnhau gwahaniaethu anuniongyrchol?"},"entry018":{"answer":["
Mae anabledd yn un o’r nodweddion gwarchodedig y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin â nhw. Diffiniad y Ddeddf o anabledd yw nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd.

Er mwyn defnyddio’r diffiniad hwn yn ymarferol, mae angen i chi ddeall pob un o’i elfennau allweddol...

Nam

Nam yw cyflwr corfforol neu feddyliol sy’n gwanhau unigolyn. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Unrhyw namau corfforol neu feddyliol sy’n deillio o anaf i’r corff neu’r ymennydd.

Namau ar y synhwyrau, megis namau sy’n effeithio ar y golwg neu’r clyw.

Namau y mae eu heffeithiau’n amrywio neu’n dychwelyd dro ar ôl tro, megis arthritis gwynegol, enseffalitis myalgig/syndrom blinder cronig, ffibromyalgia, iselder ac epilepsi.

Cyflyrau sy’n gwaethygu gydag amser, megis clefyd niwronau motor, dystroffi’r cyhyrau, mathau o ddementia a lwpws.

Clefydau megis canser, haint HIV neu sglerosis ymledol.

Namau sy’n berthnasol i organau penodol, gan gynnwys cyflyrau anadlol megis asthma, a chyflyrau cardiofasgwlaidd megis thrombosis, strôc a chlefyd y galon.

Namau datblygiadol megis anhwylderau’r sbectrwm awtistig, dyslecsia a dyspracsia.

Anawsterau dysgu.

Cyflyrau iechyd meddwl a salwch meddwl megis iselder, sgitsoffrenia, anhwylderau bwyta, anhwylderau affeithiol deubegynol, anhwylderau obsesiynol cymhellol, yn ogystal ag anhwylderau personoliaeth a rhai mathau o ymddygiad hunan-niweidiol.

Anffurfiadau difrifol a allai fod yn greithiau, yn fannau geni, yn anffurfiadau’n ymwneud â’r breichiau, y coesau neu ystum (gan gynnwys datblygiad corfforol cyfyngedig) neu’n glefydau’r croen.

Er bod rhychwant y Ddeddf yn eang, ni chaiff rhai cyflyrau eu hystyried yn namau. Mae’r rhain yn cynnwys:

Dibyniaeth ar alcohol, nicotin neu unrhyw sylwedd arall, neu gaethiwed iddynt, oni bai bod hynny oherwydd bod y sylwedd wedi’i ragnodi am resymau meddygol.

Y cyflwr a elwir yn rhinitis alergaidd tymhorol (e.e. clefyd y gwair), oni bai ei fod yn dwysáu effaith cyflwr arall.

Sylweddol

Mae angen dangos bod effaith nam yn sylweddol – h.y. ei fod yn fwy nag effaith fach neu ddibwys – er mwyn i’r nam gael ei ystyried yn anabledd. Felly, er enghraifft, ni fyddai unigolyn y mae angen iddo wisgo sbectol i ddarllen, oherwydd ei fod yn methu â gweld yn agos, yn cael ei ystyried yn anabl. Fodd bynnag, byddai unigolyn sydd â nam ar ei olwg, sy’n ei atal rhag gyrru neu fynd o gwmpas heb gymorth, yn cael ei ystyried yn anabl.

Mae’r rheol ynghylch bod yn sylweddol yn berthnasol i’r rhan fwyaf o namau, ond ceir rhai eithriadau:

Yn achos anffurfiad difrifol, nid yw’n ofynnol dangos effaith andwyol sylweddol. Mae asesu difrifoldeb anffurfiad yn golygu ystyried ffactorau megis natur, maint, amlygrwydd a lleoliad yr anffurfiad.

Mae’r gyfraith yn datgan bod unrhyw un sydd â chanser, haint HIV neu sglerosis ymledol yn berson anabl o’r adeg y caiff diagnosis ei roi.

Hirdymor

O safbwynt cyfreithiol, caiff nam ei ystyried yn nam hirdymor pan fydd wedi para, neu pan fydd yn debygol o bara, o leiaf 12 mis. Mae hynny’n cynnwys namau sy’n debygol o bara am oes.

Gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd

Er nad yw’r gyfraith yn diffinio gweithgaredd arferol o ddydd i ddydd, ystyrir ei fod yn cynnwys yr holl bethau y bydd y rhan fwyaf o bobl yn eu gwneud yn rheolaidd neu bob dydd. Er enghraifft:

Siopa.

Darllen ac ysgrifennu.

Cael sgwrs neu ddefnyddio’r ffôn.

Gwylio’r teledu.

Ymolchi a gwisgo.

Paratoi bwyd a’i fwyta.

Gwneud gwaith tŷ.

Cerdded a theithio gan ddefnyddio gwahanol fathau o drafnidiaeth.

Cymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"anabl.* anabledd.* nam.*","question":"Beth yw’r sail gyfreithiol ar gyfer penderfynu a yw unigolyn yn anabl?"},"entry019":{"answer":["
Mae hil yn un o’r nodweddion gwarchodedig y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin â nhw. Diffiniad y Ddeddf o hil yw unrhyw grŵp o bobl sy’n rhannu’r un:

lliw,

cenedligrwydd,

tarddiad ethnig,

tarddiad cenedlaethol.

Caiff sawl grŵp o sipsiwn a theithwyr eu cydnabod yn grwpiau hil, gan gynnwys:

Sipsiwn Romani.

Teithwyr Gwyddelig.

Sipsiwn a Theithwyr Albanaidd.

Yn ogystal, cadarnhawyd erbyn hyn bod cast yn gallu cael ei ystyried yn ôl y gyfraith yn agwedd ar hil.

Weithiau, ceir gorgyffwrdd rhwng hil a chrefydd, sy’n golygu bod rhai grwpiau crefyddol – megis Siciaid ac Iddewon – hefyd yn cael eu cydnabod yn ôl y gyfraith yn grwpiau hil.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"hil.* ethn.* cenedl.* chenedl.* genedl.* cast.* chast.* gast.* gwlad.* tarddiad.* darddiad.* tharddiad.* sipsi.* teith.* deith.* theith.* ","question":"Sut y mae’r gyfraith yn diffinio “hil”?"},"entry020":{"answer":["
Caiff sawl grŵp o sipsiwn a theithwyr eu cydnabod yn grwpiau hil, felly cânt eu gwarchod gan ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb. Maent yn cynnwys:

Sipsiwn Romani.

Teithwyr Gwyddelig.

Sipsiwn a Theithwyr Albanaidd.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"sipsi.* teith.* deith.* theith.*","question":"A gaiff sipsiwn a theithwyr eu gwarchod gan ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb?"},"entry021":{"answer":["
Proses yw ailbennu rhywedd, lle caiff mynegiant unigolyn o ran rhywedd – hynny yw, y modd y mae pobl eraill yn ei weld – ei newid. Yn aml, caiff pobl sy’n newid eu rhywedd yn y modd hwn eu galw’n bobl drawsryweddol neu drawsrywiol.

Gall ailbennu rhywedd fod yn broses sy’n cynnwys triniaeth feddygol, ond nid oes angen iddi gynnwys triniaeth o’r fath. Felly, er enghraifft, byddai ailbennu rhywedd yn berthnasol i rywun y pennwyd adeg ei eni ei fod yn ferch ond sy’n byw ei fywyd fel dyn, hyd yn oed os nad yw wedi cael unrhyw driniaeth feddygol.

Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig, ac mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn bwriadu newid y modd y mae’n mynegi ei rywedd neu’i fod wedi dechrau neu gwblhau’r broses honno.

Mae’n bwysig deall bod ailbennu rhywedd yn wahanol i ryw, sy’n nodwedd warchodedig. Dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, rhaid i unigolyn trawsryweddol gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd er mwyn newid y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni. Heb y dystysgrif hon, ei ryw yn ôl y gyfraith fydd y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni.

Dan adran 22 y Ddeddf Cydnabod Rhywedd, gall fod yn drosedd os caiff gwybodaeth ynghylch cais unigolyn am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, neu ynghylch y ffaith bod unigolyn wedi cael tystysgrif o’r fath, ei datgelu heb ganiatâd yr unigolyn trawsryweddol. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i staff adnoddau dynol sy’n trin cofnodion personél.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"ailbennu rhywedd.* trawsr.* drawsr.* thrawsr.*","question":"Beth yw ailbennu rhywedd?"},"entry022":{"answer":["
Mae beichiogrwydd yn un o’r nodweddion gwarchodedig y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin â nhw. Dan y Ddeddf, caiff pawb sy’n feichiog eu gwarchod rhag cael eu trin yn anffafriol ar sail beichiogrwydd neu famolaeth, hyd yn oed os nad ydynt yn eu hystyried eu hunain yn fenyw.

Yng nghyd-destun cyflogaeth, cânt eu gwarchod hefyd drwy gydol cyfnod eu beichiogrwydd ac unrhyw absenoldeb mamolaeth statudol ac mae’n anghyfreithlon i unigolyn gael telerau cyflogaeth llai ffafriol wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cymryd absenoldeb mamolaeth statudol.

Ond nid yn y gweithle yn unig y mae’r warchodaeth hon o safbwynt beichiogrwydd a mamolaeth yn berthnasol. Felly, er enghraifft, byddai’n anghyfreithlon i gaffi ofyn i unigolyn adael oherwydd ei fod yn bwydo ar y fron, neu i ysgol atal disgybl rhag sefyll arholiad am ei fod yn feichiog. Mae’r warchodaeth hon yn berthnasol drwy gydol y beichiogrwydd ac am gyfnod o 26 wythnos wedi i’r babi gael ei eni.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"beichiog.* feichiog.* mamolaeth.* famolaeth.*","question":"Pa warchodaeth gyfreithiol y mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei chynnig i bobl feichiog?"},"entry023":{"answer":["
Diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o grefydd neu gred yw unrhyw grefydd, cred grefyddol neu athronyddol neu ddiffyg cred.

Dan y Ddeddf, mae crefydd neu gred yn nodwedd warchodedig. Mae hynny’n golygu ei bod yn anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo, neu oherwydd nad oes ganddo, grefydd neu gred benodol. Un pwynt allweddol yw bod y gyfraith yn berthnasol nid yn unig i gredoau crefyddol: mae hefyd yn berthnasol i gredoau athronyddol nad ydynt yn rhai crefyddol, megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth. Yn wir, gall y gyfraith fod yn berthnasol i unrhyw gred sy’n sail i fywyd unigolyn a’i safbwynt ar y byd, er enghraifft amgylcheddaeth.

Weithiau, ceir gorgyffwrdd rhwng hil a chrefydd, sy’n golygu bod rhai grwpiau crefyddol – megis Siciaid ac Iddewon – hefyd yn cael eu cydnabod yn ôl y gyfraith yn grwpiau hil.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"crefydd.* grefydd.* chrefydd.* cred.* gred.* chred.*","question":"Beth yw’r diffiniad cyfreithiol o grefydd neu gred?"},"entry024":{"answer":["
Gwahaniaethu uniongyrchol yw pan fydd unigolyn yn cael ei drin yn llai ffafriol yn uniongyrchol oherwydd:

bod ganddo nodwedd warchodedig, NEU

y credir bod ganddo nodwedd warchodedig (hyd yn oed os nad yw hynny’n wir), NEU

bod ganddo gysylltiad ag unigolyn sydd â nodwedd warchodedig.

Mae enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys:

Gwesty bach yn gwrthod rhoi llety i bâr hoyw.

Peidio ag ystyried gweithiwr ar gyfer dyrchafiad oherwydd ei fod yn feichiog.

Person anabl yn cael cyflog is nag aelodau eraill y tîm, er mwyn talu’r costau sy’n gysylltiedig â gwneud addasiadau rhesymol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* uniong.*","question":"Beth yw gwahaniaethu uniongyrchol?"},"entry025":{"answer":["
Gwahaniaethu anuniongyrchol yw pan fydd darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb yn rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol. Mae enghreifftiau’n cynnwys:

Mynnu bod gan bob ymgeisydd drwydded yrru, pan nad yw gyrru’n un o ofynion y swydd. Mae hynny’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr â rhai anableddau, sy’n llai tebygol o yrru.

Mynnu bod gan ymgeiswyr brofiad gormodol o weithio mewn swydd benodol yn y gorffennol. Mae hynny’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr iau, na fyddant wedi cael amser i gael profiad digonol, ac ymgeiswyr sy’n fenywod, sy’n fwy tebygol o fod wedi cymryd seibiant yn ystod eu gyrfa i fagu plant.

Pennu amserau neu batrymau gweithio sefydlog yn ddiangen, sy’n gwrthdaro â defodau crefyddol ac sydd felly’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl sy’n arddel crefyddau penodol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"gwahaniaethu.* wahaniaethu.* gwahaniaethol.* wahaniaethol.* anuniong.*","question":"Beth yw gwahaniaethu anuniongyrchol?"},"entry026":{"answer":["
Aflonyddu yw unrhyw ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas. Gall aflonyddu amrywio o fod yn fwlio neu’n gyswllt corfforol amhriodol agored i fod yn ymddygiad mwy cynnil megis defnyddio llysenwau, ensynio, tynnu coes, galw enwau ac ati.

Dyma ddau bwynt allweddol i’w cadw mewn cof:

Gall unigolion wneud honiad ynghylch achos o aflonyddu, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw’n bersonol, cyhyd â’u bod yn gallu dangos ei fod yn creu amgylchedd atgas ar eu cyfer.

Nid yr hyn sy’n cael ei ddweud neu’i wneud sy’n bwysig, ond effaith hynny ar yr unigolyn arall. Felly, hyd yn oed pan nad oes unrhyw fwriad maleisus, gall yr hyn y mae unigolyn yn ei ddweud a’i wneud fod yn gyfystyr ag aflonyddu, os gellir disgwyl yn rhesymol i hynny darfu ar urddas neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu atgas.

Mae aflonyddu sy’n seiliedig ar y rhan fwyaf o nodweddion gwarchodedig yn anghyfreithlon dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwatwar hiliol, sylwadau homoffobig, sylwadau rhywiaethol ac ati. Dan y Ddeddf, gall hyd yn oed un digwyddiad rhwng dau weithiwr gael ei ystyried yn aflonyddu, os yw’n ddigon difrifol.

Ond beth os nad yw’r aflonyddu yn seiliedig ar nodwedd warchodedig? Wel, dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997, mae pob math o aflonyddu sy’n digwydd dro ar ôl tro yn anghyfreithlon, hyd yn oed os nad yw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Hynny yw, mae aflonyddu’n cynnwys unrhyw ymddygiad a all gael ei ystyried yn rhesymol yn ymddygiad bygythiol, atgas, gelyniaethus neu ddiraddiol i unigolyn arall.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"aflonydd.* fwli.* bwli.*","question":"Beth yw aflonyddu?"},"entry027":{"answer":["
Gelwir hynny’n aflonyddu gan drydydd parti. Gallai’r trydydd parti dan sylw fod yn gwsmer, yn gontractwr, yn gyflenwr neu’n unrhyw un arall y mae’r gweithiwr yn dod ar ei draws drwy ei waith.

Pan gafodd y Ddeddf Cydraddoldeb ei chyflwyno i ddechrau, roedd yn cynnwys darpariaethau a oedd yn golygu bod gan sefydliadau gyfrifoldeb cyfreithiol i warchod eu gweithwyr rhag unrhyw aflonyddu gan drydydd parti, sy’n digwydd dro ar ôl tro. Fodd bynnag, cafodd yr agwedd hon ar y Ddeddf ei dirymu wedyn, ac oherwydd hynny mae llawer o bobl yn tybio nad oes gan gyflogwyr mwyach unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol i fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu gan drydydd parti. Ond nid yw hynny’n wir.

Dan ddeddfwriaeth ynghylch iechyd a diogelwch, mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol hollbwysig i gymryd camau rhesymol i warchod eu gweithwyr rhag anaf corfforol neu seicolegol y gellir ei ragweld. Ac wrth gwrs, gallai aflonyddu gan drydydd parti achosi anaf o’r fath.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"aflonydd.* trydydd parti.* drydydd parti.* thrydydd parti.*","question":"Sut y mae’r gyfraith yn berthnasol pan fydd trydydd parti, e.e. aelod o’r cyhoedd, yn aflonyddu ar weithiwr?"},"entry028":{"answer":["
Erlid yw triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath.

Er bod erlid yn anghyfreithlon ers blynyddoedd lawer, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb wedi ymestyn yn sylweddol hyd a lled y warchodaeth gyfreithiol a gynigir:

Yr unig bobl yr oedd y gyfraith yn arfer eu gwarchod oedd pobl a oedd yn cyflwyno cwyn, neu’n cefnogi cwyn, ynghylch achos o wahaniaethu neu aflonyddu. Fodd bynnag, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gwarchod pobl sy’n gwneud ymholiadau ynghylch materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, cyhyd â bod yr ymholiadau’n cael eu gwneud er mwyn darganfod a oes systemau neu arferion annheg ar waith.

Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd cymalau sy’n ymwneud â chadw cyflogau’n gyfrinachol, ac mae’n ei gwneud yn gyfreithlon i weithwyr drafod cyflogau â’u cydweithwyr, cyhyd â bod hynny’n cael ei wneud at ddiben darganfod a oes gwahaniaethu’n digwydd. Nod y Ddeddf yw cael gwared â hen anghydraddoldebau drwy hybu mwy o eglurder a thryloywder mewn sefydliadau.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"erlid.*","question":"Beth yw erlid?"},"entry029":{"answer":["
Dan y Ddeddf Cydraddoldeb mae gan gyrff cyhoeddus ddyletswydd arbennig i hybu cydraddoldeb, a elwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd yn mynnu eu bod:

Yn diffinio’r camau y maent yn eu cymryd i ddileu annhegwch, hybu cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da ar draws y nodweddion gwarchodedig.

Yn asesu effaith yr hyn a wnânt ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhoi grwpiau penodol dan anfantais yn anfwriadol.

Nod y Ddeddf yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn gallu adnabod, deall a diwallu anghenion yr ystod amrywiol o bobl y mae’r cyrff hynny’n bodoli er mwyn eu gwasanaethu.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"cyhoeddus.* sector.* cydraddoldeb.* dyletswydd.*","question":"Beth yw Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus?"},"entry030":{"answer":["
Ni chaiff gordewdra ynddo’i hun ei ystyried yn anabledd. Fodd bynnag, os yw unigolyn yn dioddef problemau iechyd a achosir gan ei ordewdra, gallai’r problemau cysylltiedig hynny olygu bod yr unigolyn yn anabl at ddibenion deddfwriaeth ym maes gwahaniaethu, yn dibynnu ar yr amgylchiadau penodol.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"anabl.* anabledd.* nam.* gordew.* pwysau.* pwyso.* dros bwysau.* rhy drwm.*","question":"A all gordewdra gael ei ystyried yn anabledd?"},"entry031":{"answer":["
Ddim o reidrwydd. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn diffinio ailbennu rhywedd a rhyw fel dwy nodwedd warchodedig wahanol. Dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, rhaid i unigolyn trawsryweddol gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd er mwyn newid y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni. Heb y dystysgrif hon, ei ryw yn ôl y gyfraith fydd y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni.

Gweler hefyd:

"],"keywords":"ailbennu rhywedd.* trawsr.* drawsr.* thrawsr.* rhyw.* ryw.*","question":"A yw ailbennu rhywedd yn newid rhyw unigolyn?"}},"title":"Gofyn i’r Arbenigwr"},"assessment-introduction":{"pass-mark-label":{"text":"Y MARC AR GYFER PASIO"},"text1":{"paragraph1":"Bydd y prawf hwn yn gyfle i chi wirio eich dealltwriaeth o’r hyn yr ydym wedi ymdrin ag ef yn ystod y cwrs, er mwyn i chi deimlo’n hyderus eich bod yn deall popeth.","paragraph2":"Yn ystod y prawf bydd angen i chi ateb cyfres o gwestiynau, a bydd nifer benodol o farciau ar gael ar gyfer pob cwestiwn, yn dibynnu ar ba mor anodd ydyw. Ni fyddwch yn cael adborth manwl ynghylch eich atebion cywir neu anghywir wrth i chi ateb y cwestiynau, ond byddwch yn gweld eich sgôr wrth fynd yn eich blaen, felly bydd modd i chi weld pa mor dda yr ydych yn ei wneud.","paragraph3":"Ar ddiwedd y prawf byddwch yn cael sgôr derfynol - dyma’r sgôr y bydd angen i chi ei chael er mwyn pasio’r prawf. Peidiwch â phoeni os na fyddwch yn llwyddo i basio’r prawf: ewch ati i ailastudio’r agweddau ar y cwrs a oedd wedi peri trafferth i chi cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr. Pan fyddwch yn barod, dewiswch y botwm Ymlaen i ddechrau arni. Pob lwc!","paragraph4":"Ar ddiwedd y prawf byddwch yn cael sgôr derfynol. Os bydd y sgôr hon yn dangos bod bylchau yn eich dealltwriaeth, bydd modd i chi ailastudio’r agweddau ar y cwrs a oedd wedi peri trafferth i chi cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr. Pan fyddwch yn barod, dewiswch y botwm Ymlaen i ddechrau arni. Pob lwc!"},"title":"Cyflwyniad"},"assessment-questions":{"assessment-element":{"assessment-score-indicator":{"assessment":"Sgôr hyd yn hyn: ${currentAssessmentMarks} / ${availableAssessmentMarks}","question":"Sgôr ar gyfer y cwestiwn hwn: ${currentQuestionMarks} / ${availableQuestionMarks}"}},"title":"Cwestiwn ${core.course.assessment.questionNumber} o ${core.course.assessment.questionCount}"},"assessment-summary":{"recommended-label":{"text":"Argymell ailastudio"},"text1":{"paragraph1":"Llongyfarchiadau, rydych wedi cael sgôr o 100%. Mae’n amlwg bod gennych ddealltwriaeth ardderchog o gynnwys y cwrs hwn. Da iawn!","paragraph2":"Da iawn, rydych wedi pasio’r prawf! Mae eich sgôr yn dangos bod gennych ddealltwriaeth dda o gynnwys y cwrs hwn. Serch hynny, nid oeddech wedi ateb pob cwestiwn yn gywir, felly efallai yr hoffech ddychwelyd at y rhannau o’r cwrs yr ydym wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth.","paragraph3":"Eithaf da, ond mae eich sgôr ychydig yn is na’r marc ar gyfer pasio. Mae’r agweddau a oedd wedi peri trafferth i chi wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs. Byddem yn argymell eich bod yn dychwelyd at yr agweddau hynny cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr. Cofiwch, mae angen i chi basio’r prawf er mwyn cwblhau’r cwrs hwn.","paragraph4":"Mae eich sgôr dipyn yn is na’r marc ar gyfer pasio. Mae’r agweddau a oedd wedi peri trafferth i chi wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs. Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn dychwelyd at yr agweddau hynny cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr. Cofiwch, mae angen i chi basio’r prawf er mwyn cwblhau’r cwrs hwn.","paragraph5":"Da iawn, mae eich sgôr yn dangos bod gennych ddealltwriaeth dda o gynnwys y cwrs hwn. Serch hynny, nid oeddech wedi ateb pob cwestiwn yn gywir, felly efallai yr hoffech ddychwelyd at y rhannau o’r cwrs yr ydym wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn eich dealltwriaeth.","paragraph6":"Rydych wedi cwblhau’r prawf. Mae eich sgôr yn dangos bod rhai bylchau yn eich dealltwriaeth o’r hyn y buom yn ymdrin ag ef yn y cwrs. Mae’r agweddau a oedd wedi peri trafferth i chi wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs. Byddem yn argymell eich bod yn dychwelyd at yr agweddau hynny cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr.","paragraph7":"Rydych wedi cwblhau’r prawf. Mae eich sgôr yn dangos bod nifer o fylchau yn eich dealltwriaeth o’r hyn y buom yn ymdrin ag ef yn y cwrs. Mae’r agweddau a oedd wedi peri trafferth i chi wedi’u lliwio ar ddewislen y cwrs. Byddem yn argymell yn gryf eich bod yn dychwelyd at yr agweddau hynny cyn ailgymryd y prawf i geisio gwella eich sgôr.","paragraph8":"Dewiswch y botwm Hafan i ddychwelyd i ddewislen y cwrs, lle gallwch lawrlwytho tystysgrif bersonol i ddangos eich bod wedi cwblhau’r cwrs.","paragraph9":"Dewiswch y botwm Hafan i ddychwelyd i ddewislen y cwrs."},"title":"Eich sgôr"},"course-configuration":{"info-panel-desktop-zoom-text":{"text":"Ar gyfrifiadur pen desg – newidiwch faint ffenestr y cwrs a bydd y cynnwys yn mynd yn fwy neu’n llai er mwyn llenwi’r ffenestr. Drwy wneud y ffenestr mor fawr ag sy’n bosibl a defnyddio’r sgrîn i gyd, bydd y cynnwys mor fawr ag y gall fod."},"info-panel-mobile-zoom-text":{"text":"Ar lechen – pinsiwch i mewn neu allan unrhyw le ar y sgrîn nes bod maint y cwrs wrth eich bodd."},"info-panel-text":{"text":"A yw’r cwrs yn rhy fach neu’n rhy fawr ar eich sgrîn? I newid y maint:"},"setting-description":{"audio-enabled":"Mae’r cwrs yn gwneud defnydd helaeth o droslais sain. Os byddai’n well gennych ddarllen y cynnwys, neu os yw eich cysylltiad yn araf, gallwch ddiffodd y sain yma.","focus-outline":"Os byddwch yn defnyddio bysellfwrdd i symud drwy’r cwrs, byddem yn argymell eich bod yn galluogi’r cyfleuster amlinell botwm, er mwyn gallu cadw golwg ar ba fotymau sydd wedi’u dewis.","high-contrast":"Y cynllun lliw safonol yw testun tywyll ar gefndir golau, ond gallwch wrthdroi’r cynllun lliw er mwyn cael testun golau ar gefndir tywyll.","video-subtitles":"Dewiswch yr opsiwn hwn os hoffech weld isdeitlau gydag unrhyw olygfeydd fideo."},"settings-footer":{"text":"Dewiswch y botwm Cadarnhau pan fyddwch wedi gorffen."},"text1":{"paragraph1":"Cyn dechrau arni, beth am gymryd eiliad neu ddwy i gyflunio’r cwrs er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu eich anghenion? Peidiwch â phoeni, gallwch bob amser newid eich dewisiadau yn nes ymlaen."},"title":"Cyfluniad y cwrs"},"course-copyright":{"client-logo":{"accName":"Logo’r cwmni."},"copyright":{"text":"${core.licence.licenceText}"},"course-logo":{"accName":"Logo’r cwrs."},"cpd-logo":{"accName":"Wedi’i ardystio yn ddatblygiad proffesiynol parhaus."},"cylix-logo":{"accName":"Logo Cylix Limited."},"title":"Hawlfraint y cwrs"},"course-introduction":{"text1":{"paragraph1":"Croeso i’r cwrs hwn ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.","paragraph2":"Yn y cwrs hwn byddwn yn esbonio wrthych beth yw ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ac yn esbonio pam y maent mor bwysig i’r brifysgol ac i chi fel unigolyn.","paragraph3":"Byddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi ar waith ym maes cydraddoldeb er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg.","paragraph4":"Byddwn hefyd yn archwilio rhai o’r problemau a’r rhwystrau y gallech ddod ar eu traws, ac yn ystyried beth y gallwch ei wneud i’w goresgyn.","paragraph5":"Byddwn yn canolbwyntio’n gyson ar roi arweiniad a chyngor ymarferol, er mwyn osgoi eich llethu â manylion. Fodd bynnag, os byddwch am gael rhagor o fanylion unrhyw bryd, gallwch bob amser ddefnyddio ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr."},"title":"Cyflwyniad i’r cwrs"},"course-menu":{"client-logo":{"accName":"Logo’r cwmni."},"course-completed-dialog":{"title":"Rydych wedi cwblhau’r cwrs"},"duration":{"accName":" bydd yn cymryd ${duration} i gwblhau’r adran hon.","label":"${duration} munud"},"first-entry-dialog":{"title":"Croeso"},"instruction":{"text":"Dewiswch yr adran yr hoffech ei hastudio. Yn y lle cyntaf, byddem yn argymell eich bod yn astudio’r adrannau yn y drefn y maent wedi’u rhestru."},"options":{"accName":"Adrannau’r cwrs.","certificate":{"label":"Tystysgrif cwblhau’r cwrs"}},"progress-indicator":{"accName":"Statws yr adran: ${element.status}","completed":"wedi’i chwblhau.","not-started":"heb ei dechrau.","started":"${element.progress}% ${core.manifest.course-menu.progress-indicator.completed}."},"recommended":"Argymhellir eich bod yn ailastudio’r adran hon.","title":"Dewislen y cwrs"},"custom-policies":{"accepted-label":{"text":"DERBYNIWYD"},"client-logo":{"accName":"Logo’r cwmni."},"text1":{"paragraph1":"Er mwyn sicrhau ein bod yn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol ac yn cyrraedd y safonau uchaf posibl o ran arfer da, rydym wedi datblygu ein polisïau a’n canllawiau ein hunain.","paragraph2":"Mae’n bwysig eich bod yn deall ac yn dilyn y polisïau a’r canllawiau hyn bob amser, felly cymerwch yr amser i’w darllen yn ofalus.","paragraph3":"Mae’n bwysig eich bod yn deall ac yn dilyn y polisïau a’r canllawiau hyn bob amser. Cadarnhewch y byddwch yn gwneud hynny trwy dderbyn y datganiad canlynol."},"text2":{"paragraph1":"“Rwyf gan hynny’n cydnabod fy mod wedi neu fy mod yn bwriadu darllen a deall y safonau, y prosesau a’r gweithdrefnau a nodir yn y polisïau a’r canllawiau a roddwyd ac fy mod yn cytuno i’w dilyn.”"},"text3":{"paragraph1":"Yn yr adran nesaf, bydd modd i chi roi prawf ar eich gwybodaeth am beth rydym wedi ei drafod yn y cwrs hwn. Dewiswch Hafan i ddychwelyd i ddewislen y cwrs.","paragraph2":"Dewiswch y botwm Hafan i ddychwelyd i ddewislen y cwrs."},"title":"Ein polisïau a’n canllawiau"},"demo-end":{"text1":{"paragraph1":"Rydych bellach wedi cyrraedd diwedd yr adran arddangos hon. I gael gwybod mwy am y cwrs hwn neu i drefnu arddangosiad rhad ac am ddim heb unrhyw reidrwydd i brynu, cysylltwch â Cylix.","paragraph2":"Rhif ffôn: ${core.manifest.resources.entries.contact-1.phone}","paragraph3":"Ebost: ${core.manifest.resources.entries.contact-1.email}","paragraph4":"Dewiswch y botwm Hafan i ddychwelyd i ddewislen y cwrs."},"title":"Diwedd yr adran"},"edb":{"title":"Briffio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth","title2":"Briffio Cydraddoldeb ac Amrywiaeth"},"ede":{"title":"Hanfodion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth","title2":"Hanfodion Cydraddoldeb ac Amrywiaeth"},"ede-01":{"description":"Dyma gyfle i ddarganfod beth yw ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a pham y maent mor bwysig.","title":"Deall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant"},"ede-01-000-010":{"text1":{"paragraph1":"Beth yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant? Pam y maent mor bwysig i’r brifysgol? Ac yn bwysicach na hynny, pam y maent mor bwysig i chi?","paragraph2":"Os ydych eisoes yn gofyn cwestiynau fel hyn i chi’ch hun, bydd yr adran hon yn gyfle i chi gael yr atebion yr ydych yn chwilio amdanynt. Byddwn yn archwilio beth y mae’r termau “cyfle cyfartal”, “amrywiaeth” a “chynhwysiant” yn ei olygu mewn gwirionedd. Byddwn yn ystyried pam yr ydym mor awyddus i sicrhau eu bod yn digwydd. A byddwn yn egluro’r holl fanteision y gallant eu cynnig i chi, waeth beth yw eich rôl."},"title":"Cyflwyniad"},"ede-01-010-010":{"option1-label":{"text":"Person #1"},"option1-text":{"paragraph1":"“Wel, rydw i’n credu ei fod yn ymwneud â thrin grwpiau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yr un fath ag y byddech yn trin pawb arall.”"},"option2-label":{"text":"Person #2"},"option2-text":{"paragraph1":"“Cyfle cyfartal? Wel, byddwn i’n dweud ei fod yn ymwneud â sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.”"},"option3-label":{"text":"Person #3"},"option3-text":{"paragraph1":"“Rydw i wastad wedi meddwl ei fod yn ymwneud â thrin pobl yn yr un modd yn union, hyd yn oed os oes ganddyn nhw alluoedd ac anghenion gwahanol.”"},"option4-label":{"text":"Person #4"},"option4-text":{"paragraph1":"“A yw e’n ymwneud yn bennaf â sicrhau bod menywod yn cael eu trin yn deg yn y gwaith?”"},"option5-label":{"text":"Person #5"},"option5-text":{"paragraph1":"“Mae’n ymwneud â ffafrio grwpiau lleiafrifol – fel pobl dduon a phobl anabl – er mwyn cynyddu eu niferoedd.”"},"question-footer":{"text":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni."},"question-header":{"text":"Pum person gwahanol, a phum barn wahanol iawn ynghylch cyfle cyfartal. Pa ymateb oedd agosaf ati, yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"Beth am ddechrau drwy ystyried beth yw ystyr “cyfle cyfartal”? Buom yn gofyn i nifer o bobl am eu barn ynghylch hyn. Dewiswch y lluniau a ddangosir yma i weld pa ymateb a gafwyd gan bob unigolyn. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae cyfle cyfartal yn ymwneud â thrin pawb yn deg: dim mwy, dim llai. Dylid cadw tri phwynt allweddol mewn cof:","paragraph2":"Mae llawer o bobl yn dewis yr ymateb hwn, ond y gwir amdani yw bod cyfle cyfartal yn ymwneud â thrin pawb yn deg: dim mwy, dim llai. Dylid cadw tri phwynt allweddol mewn cof:","paragraph3":"Yn gyntaf, nid yw cydraddoldeb yn berthnasol i grwpiau lleiafrifol yn unig; mae’n berthnasol i ni i gyd. Wedi’r cyfan, mae cael ein trin yn deg o fantais i bob un ohonom, p’un a ydym yn ddyn neu’n fenyw, yn berson du neu’n berson gwyn, ac yn y blaen. ","paragraph4":"Yn ail, nid yw cydraddoldeb yn ymwneud â thrin pobl â galluoedd ac anghenion gwahanol yn yr un modd yn union. Mae’n golygu bod gan bawb hawl gyfartal i gael eu trin yn deg, ar sail eu galluoedd a’u hanghenion perthnasol.","paragraph5":"Ac yn drydydd, nid yw cydraddoldeb yn golygu ffafrio grwpiau lleiafrifol yn weithredol, er gwaethaf yr hyn y gallech fod yn ei ddarllen yn y wasg! Mae cydraddoldeb yn ymwneud â thrin pawb yn deg, p’un a ydynt yn perthyn i grŵp lleiafrifol neu grŵp mwyafrifol."},"title":"Beth yw cyfle cyfartal?"},"ede-01-010-020":{"text1":{"paragraph1":"Yn syml, mae cyfle cyfartal yn ymwneud â chreu amgylchedd lle caiff pawb eu trin yn deg, ar sail eu galluoedd a’u hanghenion perthnasol yn unig.","paragraph2":"Meddyliwch am y peth fel hyn: pe baech yn sefyll eich prawf gyrru, byddech yn disgwyl cael eich asesu’n wrthrychol ar sail pa mor dda yr ydych yn gallu gyrru. Pe baech yn methu oherwydd eich bod wedi gyrru i mewn i wal, efallai y byddech yn siomedig ond ni fyddech yn teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg.","paragraph3":"Fodd bynnag, pe bai’r arholwr yn gwrthod gadael i chi basio oherwydd eich bod, er enghraifft, yn dod o Ffrainc neu’n fenyw, byddech yn naturiol yn ddig – wedi’r cyfan, beth sydd a wnelo eich cenedligrwydd neu’ch rhyw â’ch gallu i yrru car? Mae cydraddoldeb yn ymwneud â sicrhau bod pobl yn cael eu hasesu ar sail eu sgiliau a’u galluoedd, ac nid ar sail ffactorau amherthnasol.","paragraph4":"Dros oddeutu’r hanner canrif diwethaf, mae deddfwriaeth fwyfwy cynhwysfawr wedi’i chyflwyno ym maes cydraddoldeb er mwyn helpu i atal pobl rhag cael eu trin yn annheg ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn “nodweddion gwarchodedig”. Erbyn hyn, mae trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail nodwedd warchodedig nid yn unig yn anfoesol ond hefyd yn anghyfreithlon.","paragraph5":"Byddwn yn edrych yn fanylach ar ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb, a’r nodweddion gwarchodedig y mae’n ymdrin â nhw, yn yr adran nesaf. Ond am nawr, beth am symud ymlaen i ystyried y berthynas rhwng cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant..."},"title":"Ystyr cydraddoldeb yn ymarferol"},"ede-01-010-030":{"text1":{"paragraph1":"Fel yr ydych newydd weld, mae cyfle cyfartal yn ymwneud â thrin pobl yn deg, a chaiff ei ategu gan ddeddfwriaeth sy’n golygu ei bod yn anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig."},"text2":{"paragraph1":"Ond beth am amrywiaeth? Wel, mae cysylltiad agos rhwng amrywiaeth a chydraddoldeb, ond mae amrywiaeth yn gysyniad llawer ehangach: mae’n ymwneud â chydnabod, gwerthfawrogi a pharchu pob math o wahaniaeth mewn unigolion. Ac nid yw’n cynnwys gwahaniaethau gweladwy yn unig, megis rhyw, oedran a lliw. Mae hefyd yn cynnwys y llu o ffyrdd anweladwy y gallwn fod yn wahanol i’n gilydd, megis ein cefndir cymdeithasol, ein math o bersonoliaeth, ein credoau ac ati.","paragraph2":"Ac mae hynny’n dod â ni at gynhwysiant. Mae amrywiaeth yn ymwneud â’r holl ffyrdd y gallwn fod yn wahanol i’n gilydd, ond mae cynhwysiant yn ymwneud â’r holl ffyrdd y gallwn groesawu a defnyddio’r gwahaniaethau hynny er mwyn creu cymunedau cydlynol a gweithleoedd effeithiol. Nid yw’n syndod mai un agwedd allweddol ar hynny yw cydnabod a diwallu anghenion unigolion gwahanol."},"title":"Beth am gydraddoldeb a chynhwysiant?"},"ede-01-010-050":{"category1-label":{"text":"RHYW/HUNANIAETH O RAN RHYWEDD"},"category2-label":{"text":"STATWS PRIODASOL"},"category3-label":{"text":"OEDRAN"},"category4-label":{"text":"ANABLEDD"},"category5-label":{"text":"CYFEIRIADEDD RHYWIOL"},"category6-label":{"text":"CREFYDD NEU GRED"},"instruction":{"text":"Dewiswch opsiwn yma i ddechrau arni."},"new-profile-button":{"label":"Proffil Newydd"},"option1-1-label":{"text":"Benywaidd"},"option1-2-label":{"text":"Gwrywaidd"},"option1-3-label":{"text":"Dim un/Y ddau/Arall"},"option2-1-label":{"text":"Yn briod neu mewn partneriaeth sifil"},"option2-2-label":{"text":"Ddim yn briod neu mewn partneriaeth sifil"},"option3-1-label":{"text":"16-29"},"option3-2-label":{"text":"30-39"},"option3-3-label":{"text":"40-49"},"option3-4-label":{"text":"50-59"},"option3-5-label":{"text":"60+"},"option4-1-label":{"text":"Yn anabl"},"option4-2-label":{"text":"Ddim yn anabl"},"option5-1-label":{"text":"Gwahanrywiol"},"option5-2-label":{"text":"Lesbiaidd, hoyw, deurywiol, arall"},"option6-1-label":{"text":"Bwdhaeth"},"option6-2-label":{"text":"Cristnogaeth"},"option6-3-label":{"text":"Hindŵaeth"},"option6-4-label":{"text":"Iddewiaeth"},"option6-5-label":{"text":"Islam"},"option6-6-label":{"text":"Siciaeth"},"option6-7-label":{"text":"Arall"},"option6-8-label":{"text":"Dim crefydd/ Anffyddiaeth"},"population-label":{"text":"Cyfanswm poblogaeth y DU: ${element.population}"},"profile-label":{"text":"Pobl sy’n rhannu proffil tebyg: ${element.profile}"},"profile-min":"Llai na ${prop.profile-min}","source-label":{"text":"Daw’r canlyniadau’n bennaf o Gyfrifiad 2011 y DU."},"text1":{"paragraph1":"Gobeithio eich bod yn deall erbyn hyn beth yw ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ond y cwestiwn yw, a ydynt yn berthnasol mewn gwirionedd i unrhyw un heblaw grwpiau lleiafrifol penodol? Wel, fel y gwelwch yn y man, mae’r ateb yn dibynnu ar eich diffiniad o’r term “grŵp lleiafrifol”..."},"text2":{"paragraph1":"Ystyriwch y meysydd gwahaniaeth a ddangosir yma, a rhowch gynnig ar ddewis un o’r opsiynau ym mhob maes i greu proffil. Efallai y byddwch am ddechrau drwy adeiladu proffil ohonoch chi’ch hun, ond byddem yn argymell y dylech hefyd neilltuo amser i adeiladu proffiliau o’r grwpiau lleiafrifol a mwyafrifol sydd yn y DU, yn eich barn chi. Pan fyddwch wedi adeiladu pob proffil, byddwch yn gallu gweld faint o bobl yn y DU sy’n rhannu’r proffil yr ydych wedi’i greu."},"text3":{"paragraph1":"O holl boblogaeth y DU, dyma faint o bobl sy’n rhannu’r proffil yr ydych wedi’i greu. Fel y gwelwch, mae’r bobl yma’n sicr yn grŵp lleiafrifol yn y DU. Dewiswch y botwm Proffil Newydd i adeiladu proffil gwahanol. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen.","paragraph2":"Dyma faint o bobl sy’n rhannu’r proffil newydd yr ydych wedi’i greu. Unwaith eto, gallwch weld bod y bobl yma’n sicr yn grŵp lleiafrifol. Dewiswch y botwm Proffil Newydd i adeiladu proffil gwahanol. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen.","paragraph3":"Os gwnaethoch greu ystod o broffiliau, byddwch wedi gweld bod pob un ohonynt yn cynrychioli grŵp lleiafrifol bach iawn yn y DU, ar ôl dewis chwech yn unig o nodweddion. Pe baem wedi ychwanegu opsiynau ar gyfer nodweddion megis cenedligrwydd, math o bersonoliaeth, diddordebau, cefndir economaidd-gymdeithasol ac ati, byddai’r canlyniadau wedi bod yn llai fyth.","paragraph4":"Mae’r ymarfer hwn yn tynnu sylw at y ffaith ein bod i gyd yn unigolion unigryw, sy’n golygu ein bod i gyd yn y pen draw yn “grŵp lleiafrifol” sy’n cynnwys un person yn unig. O ran hynny mae’n wir bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn berthnasol i grwpiau lleiafrifol yn unig – sef pob un ohonom fel unigolion!"},"title":"Perthnasedd cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant"},"ede-01-020-010":{"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-true},${manifest.player.question.option.choice-label-false}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Mae dynion a menywod bellach yn ennill yr un faint, ar gyfartaledd, a chânt eu cynrychioli’n gyfartal ar bob lefel mewn sefydliadau.","option2":"Erbyn hyn, mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael yr un cyfleoedd o ran cyflogaeth a datblygiad gyrfa â phobl wyn.","option3":"Gallu – ac nid cefndir cymdeithasol – yw’r ffactor allweddol o ran pa mor dda y mae plant yn cyflawni yn yr ysgol.","option4":"Mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl anabl yn agos iawn yn awr at gyfraddau cyflogaeth pobl nad ydynt yn anabl.","option5":"Mae agweddau mwy rhyddfrydol at rywioldeb yn golygu bod agweddau homoffobig yn perthyn i raddau helaeth i’r oes o’r blaen.","question":"Fel yr unigolyn yr ydych newydd ei weld, nid yw llawer o bobl yn anghytuno â chydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ond nid ydynt yn gallu deall pam y maent mor bwysig. Felly, beth amdanoch chi? Ar lefel genedlaethol, pa rai o’r datganiadau canlynol sy’n wir yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Does dim un o’r datganiadau hyn yn wir. Dewch i ni gael ystyried pob un ohonynt yn fanylach...","paragraph2":"Mewn gwirionedd, does dim un o’r datganiadau hyn yn wir. Dewch i ni gael ystyried pob un ohonynt yn fanylach...","paragraph3":"Bydd hyn yn syndod i chi: mewn gwirionedd, does dim un o’r datganiadau hyn yn wir. Dewch i ni gael ystyried pob un ohonynt yn fanylach...","paragraph4":"Er gwaethaf ymdrechion diweddar i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae arolygon ar gyfer gweithwyr llawn-amser a rhan-amser yn dangos bod menywod yn dal i ennill bron 20% yn llai na dynion ar gyfartaledd. Ond nid dyna’r cyfan: er bod menywod yn cyfrif am dros hanner y boblogaeth, dim ond oddeutu un o bob pump o swyddi cyfarwyddwyr yng nghwmnïau’r FTSE 250 sy’n cael eu dal gan fenywod, ac mae llai nag un o bob tri o’n Haelodau Seneddol yn fenywod. [Ffynonellau]","paragraph5":"Os ydych yn perthyn i grŵp lleiafrif ethnig, rydych bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith na pherson gwyn. A hyd yn oed os oes gennych waith, mae’n debygol y bydd yn anodd i chi gamu ymlaen yn eich gyrfa: mae cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifoedd ethnig ar lefelau rheoli bron 25% yn brin o fod yn gyfartal. [Ffynonellau]","paragraph6":"Mae disgyblion ysgol o gefndiroedd tlotach, sy’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim, bron ddwywaith yn fwy tebygol o fethu ag ennill 5 gradd A* i C yn eu harholiadau TGAU, sef y targed. Hynny yw, mae cefndir cymdeithasol yn dal i chwarae rhan fawr o safbwynt pennu cyflawniad addysgol miliynau o blant – a’u rhagolygon ar gyfer y dyfodol hefyd felly. [Ffynonellau]","paragraph7":"Mae’r gyfradd diweithdra ar gyfer pobl anabl bron 40% yn uwch na’r gyfradd ar gyfer pobl nad ydynt yn anabl. A hyd yn oed pan fydd pobl anabl mewn cyflogaeth, mae’n debygol y byddant yn cael tâl is o lawer na’u cymheiriaid nad ydynt yn anabl: mae’r diffyg yn oddeutu 11% ar gyfer dynion anabl, ac yn uwch fyth ar gyfer menywod anabl – oddeutu 22%. [Ffynonellau]","paragraph8":"Efallai fod agweddau at rywioldeb yn newid, ond mae ffordd bell i fynd o hyd: mae 55% o blant ysgol hoyw, lesbiaidd a deurywiol wedi profi bwlio homoffobig yn yr ysgol, ac mae bron 20% o oedolion hoyw a lesbiaidd wedi profi bwlio homoffobig yn y gwaith. [Ffynonellau]","paragraph9":"Mae’r cyfan hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod llawer o bobl ym Mhrydain heddiw yn dal i gael eu trin yn annheg. Ond nid dyma’r unig sbardun i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Fel y gwelwch yn y man, maent hefyd yn cynnig llawer o fanteision pwysig i ni fel sefydliad ac i chi fel unigolyn."},"title":"Ond pam yr holl ffỳs?"},"ede-01-030-010":{"option1-label":{"text":"Dawn"},"option1-text":{"paragraph1":"Er mwyn llwyddo ym myd hynod gystadleuol addysg uwch, mae angen i’r staff a’r myfyrwyr gorau ein dewis ni fel prifysgol. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein galluogi i ddenu pobl o’r gronfa fwyaf posibl o bobl ddawnus, a chreu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu parchu a’u bod yn gallu gwireddu eu potensial."},"option2-label":{"text":"Arloesi"},"option2-text":{"paragraph1":"Anaml y ceir un ateb yn unig i broblem, hyd yn oed os yw’n broblem syml. Bydd gwahanol bobl yn cyfrannu gwahanol safbwyntiau, sy’n golygu bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ffactorau allweddol o safbwynt bod yn greadigol ac yn arloesol."},"option3-label":{"text":"Gwasanaeth"},"option3-text":{"paragraph1":"Rydym yn darparu ein gwasanaethau i bobl o bob math o gefndiroedd amrywiol. Er mwyn gwneud hynny’n dda, rhaid ein bod yn gallu deall, parchu a diwallu eu hanghenion. Hoffem bwysleisio nad ystyriaethau ymylol yw cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant – maent yn hollbwysig i’n perfformiad cyffredinol."},"option4-label":{"text":"Globaleiddio"},"option4-text":{"paragraph1":"Rydym yn gweithredu mewn byd sy’n fwyfwy eang. Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein helpu i weithio’n effeithiol ar draws ystod eang o ffiniau diwylliannol a rhyngwladol."},"text1":{"paragraph1":"Yn eich barn chi, beth yw rhai o’r prif fanteision y gall cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu cynnig i ni fel sefydliad? Ystyriwch hynny am eiliad, ac yna dewiswch bob un o’r meysydd a ddangosir yma er mwyn archwilio pedair o’r prif fanteision. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"title":"Y manteision?"},"ede-01-050-010":{"option1-label":{"text":"Haeddiant"},"option1-text":{"paragraph1":"Gallwch ddisgwyl cael eich trin yn deg a gyda pharch bob amser, a chamu ymlaen ar sail eich haeddiant yn unig."},"option2-label":{"text":"Rhwystrau"},"option2-text":{"paragraph1":"Mae gennych yr hawl i herio a dileu unrhyw rwystrau annheg sy’n eich atal rhag gwneud cynnydd, er mwyn i chi allu gwireddu eich potensial llawn yma."},"option3-label":{"text":"Cefnogaeth"},"option3-text":{"paragraph1":"Gallwch deimlo’n hyderus y byddwn yn eich cefnogi’n llwyr os bydd angen i chi fynegi unrhyw bryderon neu herio unrhyw ymddygiad annerbyniol."},"text1":{"paragraph1":"Mae llawer o resymau da pam yr ydym wedi ymrwymo i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Ond sut y mae hynny o fantais i chi? Dewiswch bob un o’r meysydd a ddangosir yma er mwyn darganfod yr ateb. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch yn barod i symud ymlaen."},"text2":{"paragraph1":"Y pwynt allweddol ynghylch hyn i gyd yw’r ffaith bod cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn newyddion da nid yn unig i grwpiau penodol o bobl: maent yn newyddion da i bawb."},"title":"Y manteision i chi"},"ede-01-060-010":{"text1":{"paragraph1":"Yn yr adran hon rydym wedi esbonio wrthych beth yw ystyr cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Buom yn ystyried pam yr ydym mor awyddus i sicrhau eu bod yn digwydd. A buom yn egluro rhai o’r manteision i chi.","paragraph2":"Yn yr adran nesaf, byddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth sydd wedi’i rhoi ar waith ym maes cydraddoldeb er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg. Dewiswch y botwm Ymlaen i symud ymlaen i’r adran nesaf yn awr, neu’r botwm Hafan i fynd yn ôl i ddewislen y cwrs."},"title":"Crynodeb"},"ede-02":{"description":"Dyma gyfle i gael gwybodaeth am ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb, a darganfod sut y mae’r gyfraith yn berthnasol mewn sefyllfaoedd go iawn.","title":"Yr hyn y mae’r gyfraith yn ei ddweud"},"ede-02-000-010":{"text1":{"paragraph1":"Fel y gwelsoch yn yr adran flaenorol mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn hollbwysig i ni fel sefydliad ac i chi fel unigolyn.","paragraph2":"Yn yr adran hon, byddwn yn ystyried y ddeddfwriaeth allweddol sydd wedi’i rhoi ar waith er mwyn hybu cyfle cyfartal. A byddwn yn archwilio cyfres o sefyllfaoedd astudiaethau achos er mwyn rhoi dealltwriaeth glir i chi o’r modd y mae’r gyfraith yn berthnasol yn ymarferol."},"title":"Cyflwyniad"},"ede-02-010-010":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Oedran","option10":"Cyfeiriadedd rhywiol","option2":"Anabledd","option3":"Addysg a chymwysterau","option4":"Ailbennu rhywedd","option5":"Priodas neu bartneriaeth sifil","option6":"Beichiogrwydd neu famolaeth","option7":"Hil","option8":"Crefydd neu gred","option9":"Rhyw","question":"Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn “nodweddion gwarchodedig”. Felly, pa rai o’r canlynol sy’n nodweddion gwarchodedig, yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"O ran cyfraith ym maes cydraddoldeb, y prif ddarn o ddeddfwriaeth yw’r Ddeddf Cydraddoldeb. Cafodd y Ddeddf ei chyflwyno yn 2010, ac roedd yn crynhoi ac yn ymestyn llawer o’r llinynnau deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb a oedd wedi’u cyflwyno yn ystod y degawdau blaenorol."},"text2":{"paragraph1":"Cywir, da iawn. Ar wahân i addysg a chymwysterau, mae’r rhain i gyd yn nodweddion gwarchodedig. Beth am i ni fynd drwy bob un ohonynt?","paragraph10":"Dan y gyfraith, rhaid i sefydliadau wneud pob “addasiad rhesymol” posibl er mwyn atal pobl anabl rhag bod dan anfantais sylweddol. Gallai hynny gynnwys caniatáu trefniadau gweithio hyblyg, gosod rampiau neu ddarparu cymhorthion ategol, megis dolenni clywed i bobl sydd â theclynnau clywed.","paragraph11":"Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i sefydliadau wneud pob addasiad sy’n angenrheidiol ar gyfer pob person anabl. Y gair allweddol yw “rhesymol”. Mae’r gyfraith yn derbyn na fydd rhai addasiadau efallai’n realistig oherwydd ffactorau megis cost, yr effaith ar bobl eraill ac ati. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph12":"Mae’r gyfraith hefyd yn gwarchod pobl drawsrywiol sydd wedi newid – neu sy’n bwriadu newid eu rhywedd o wrywaidd i fenywaidd neu o fenywaidd i wrywaidd, ac mae’n anghyfreithlon eu trin yn llai ffafriol ar sail hynny. Un pwynt pwysig yw nad oes angen i unigolyn fod wedi cael unrhyw driniaeth feddygol i ailbennu rhywedd, er mwyn cael ei warchod. Felly, er enghraifft, mae’r gyfraith yn berthnasol i unigolyn y pennwyd adeg ei eni ei fod yn ferch ond sy’n ei ystyried ei hun yn ddyn ac sy’n byw ei fywyd fel dyn, hyd yn oed os nad yw wedi cael unrhyw driniaeth feddygol. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph13":"Mae’r gyfraith yn gwarchod pobl rhag cael eu trin yn llai ffafriol oherwydd eu bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil. Mae’r warchodaeth hon yn berthnasol i barau cymysg a pharau o’r un rhyw sy’n briod neu sydd mewn partneriaeth sifil.","paragraph14":"Yn ogystal, caiff pobl eu gwarchod rhag cael eu trin yn anffafriol ar sail beichiogrwydd neu famolaeth. Cânt eu gwarchod drwy gydol cyfnod eu beichiogrwydd ac unrhyw absenoldeb mamolaeth statudol. At hynny, mae’n anghyfreithlon i rywun gael telerau cyflogaeth llai ffafriol wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cymryd absenoldeb mamolaeth statudol.","paragraph15":"Mae’r gyfraith yn gwarchod pobl o bob hil rhag cael eu trin yn annheg. Mae’r diffiniad cyfreithiol o “hil” yn eang iawn, ac mae’n cynnwys unrhyw grŵp o bobl sy’n rhannu’r un lliw, cenedligrwydd, tarddiad ethnig neu darddiad cenedlaethol. Mae hynny’n cynnwys sawl grŵp o Sipsiwn a Theithwyr. Yn ogystal, cadarnhawyd erbyn hyn bod cast yn gallu cael ei ystyried yn ôl y gyfraith yn agwedd ar hil. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph16":"Mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo, neu oherwydd nad oes ganddo, gred grefyddol benodol. Ond mae’r gyfraith yn berthnasol nid yn unig i gredoau crefyddol: mae hefyd yn berthnasol i gredoau athronyddol nad ydynt yn rhai crefyddol, megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth. Yn wir, gall y gyfraith fod yn berthnasol i unrhyw gred sy’n sail i fywyd unigolyn a’i safbwynt ar y byd, er enghraifft amgylcheddaeth.","paragraph17":"Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin yn deg a pheidio â dioddef unrhyw fath o driniaeth lai ffafriol ar sail eu rhyw. Ac er mai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fu’r brif broblem yn hanesyddol o safbwynt cydraddoldeb rhwng y rhywiau ym maes cyflogaeth, mae’r gyfraith yn berthnasol mewn gwirionedd i’r holl delerau cyflogaeth, ac nid i gyflog yn unig.","paragraph18":"Yn olaf, mae’r gyfraith erbyn hyn yn gwarchod pobl rhag cael eu trin yn llai ffafriol ar sail eu cyfeiriadedd rhywiol, boed hynny oherwydd eu bod yn wahanrywiol, yn hoyw, yn lesbiaidd neu’n ddeurywiol.","paragraph19":"Mae’n bwysig cofio bod cyfraith ym maes cydraddoldeb, bron bob amser, yn berthnasol erbyn hyn i gyflogaeth ac i waith darparu nwyddau a gwasanaethau. Felly, er enghraifft, byddai’n anghyfreithlon i westy wrthod cyflogi dynion hoyw neu wrthod darparu llety i ddynion hoyw.","paragraph2":"Ddim yn union. Ar wahân i addysg a chymwysterau, mae’r rhain i gyd yn nodweddion gwarchodedig. Beth am i ni fynd drwy bob un ohonynt?","paragraph3":"Mewn gwirionedd, ar wahân i addysg a chymwysterau, mae’r rhain i gyd yn nodweddion gwarchodedig. Beth am i ni fynd drwy bob un ohonynt?","paragraph4":"Mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ei oedran, er enghraifft oherwydd y caiff ei ystyried yn rhy ifanc neu’n rhy hen ar gyfer swydd benodol.","paragraph5":"Diffiniad y Ddeddf Cydraddoldeb o anabledd yw nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys ystod eang o:","paragraph6":"Namau’n ymwneud â’r gallu i symud, y clyw, lleferydd, y golwg a sgiliau echddygol manwl.","paragraph7":"Anableddau ac anawsterau dysgu, gan gynnwys syndrom Down a dyslecsia.","paragraph8":"Cyflyrau iechyd corfforol, gan gynnwys canser, HIV, sglerosis ymledol, epilepsi a diabetes.","paragraph9":"Cyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys sgitsoffrenia ac iselder."},"title":"Deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb"},"ede-02-010-020":{"drag-item1":{"label":"Aflonyddu"},"drag-item2":{"label":"Erlid"},"drag-item3":{"label":"Gwahaniaethu anuniongyrchol"},"drag-item4":{"label":"Gwahaniaethu uniongyrchol"},"drop-label1":{"text":"Triniaeth lai ffafriol oherwydd un neu ragor o nodweddion gwarchodedig (hil, anabledd, rhyw ac ati)."},"drop-label2":{"text":"Darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol."},"drop-label3":{"text":"Ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas."},"drop-label4":{"text":"Triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath."},"question-footer":{"text":"Ceisiwch baru pob term â’r diffiniad cywir. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni."},"question-header":{"text":"Felly, beth yw’r diffiniadau cyfreithiol o bob un o’r pedwar term dan sylw?"},"text1":{"paragraph1":"Rydych yn gwybod erbyn hyn ar ba sail y mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol. Ond beth yn union yw “triniaeth lai ffafriol”? Wel, o safbwynt cyfreithiol, ceir pedair prif ffurf ar “driniaeth lai ffafriol”: gwahaniaethu uniongyrchol, gwahaniaethu anuniongyrchol, aflonyddu ac erlid."},"text2":{"paragraph1":"Cywir, da iawn! Dewiswch y botwm Ymlaen i weld beth y gall pob un o’r termau hyn ei olygu’n ymarferol.","paragraph10":"Er enghraifft, gallai mynnu bod gradd gan ymgeiswyr am swydd ymddangos yn dderbyniol ar yr olwg gyntaf – wedi’r cyfan, nid yw addysg yn nodwedd warchodedig. Fodd bynnag, gallai hynny wahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn pobl sydd â nifer o nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys:","paragraph11":"Menywod hŷn, sy’n llai tebygol o fod wedi mynd yn eu blaen i gael addysg uwch.","paragraph12":"Pobl o rannau penodol o’r byd lle maent yn llai tebygol o fod wedi cael mynediad i addysg uwch.","paragraph13":"Pobl anabl, sy’n llai tebygol o fod wedi cael addysg i lefel gradd oherwydd rhwystrau hanesyddol i addysg uwch.","paragraph14":"Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu bod gofyn am radd bob amser yn gyfystyr â gwahaniaethu. Os oes modd cyfiawnhau’n wrthrychol bod y maen prawf hwn – neu unrhyw faen prawf arall – yn un o ofynion galwedigaethol hanfodol y swydd dan sylw, mae hynny’n iawn. Yr unig bryd y ceir problem yw pan nad oes modd cyfiawnhau’r gofyniad.","paragraph15":"Gall aflonyddu amrywio o fod yn fwlio neu’n gyswllt corfforol amhriodol agored i fod yn ymddygiad mwy cynnil megis defnyddio llysenwau, ensynio, tynnu coes, galw enwau ac ati.","paragraph16":"Ceir sawl math gwahanol o erlid: cydweithwyr yn eich anwybyddu; cael eich anwybyddu ar gyfer dyrchafiad; mynediad i gyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad yn cael ei wrthod i chi; ac ati.","paragraph17":"Un pwynt allweddol ynghylch hyn i gyd yw ei bod nid yn unig yn anghyfreithlon i unigolyn drin person arall yn llai ffafriol ei hun; mae hefyd yn anghyfreithlon iddo gyfarwyddo, annog neu helpu rhywun arall i drin person arall yn llai ffafriol.","paragraph18":"Yn ogystal, mae’r gyfraith yn berthnasol nid yn unig i’r gweithle; mae hefyd yn berthnasol i unrhyw ddigwyddiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith. Gallai hynny gynnwys unrhyw gyfarfod, parti neu ddigwyddiad a drefnir drwy’r gwaith, hyd yn oed os yw’n cael ei gynnal y tu allan i’r gweithle ac i oriau gwaith arferol.","paragraph19":"Ar y sgriniau nesaf, byddwn yn ystyried pob un o’r gwahanol fathau o driniaeth lai ffafriol yn fanylach, er mwyn sicrhau eich bod yn deall yn union beth y mae’r gyfraith yn ei ddweud...","paragraph2":"Rydych yn eithaf agos ati. Dewiswch y botwm Ymlaen i weld yr atebion cywir a gweld beth y gall pob un o’r termau hyn ei olygu’n ymarferol.","paragraph3":"Ddim yn union. Dewiswch y botwm Ymlaen i weld yr atebion cywir a gweld beth y gall pob un o’r termau hyn ei olygu’n ymarferol.","paragraph4":"Mae enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys:","paragraph5":"Penderfynu peidio â chyflogi neu dderbyn rhywun oherwydd bod yr unigolyn hwnnw o grŵp lleiafrif ethnig penodol.","paragraph6":"Cynnig telerau cyflogaeth llai ffafriol i unigolyn oherwydd ei fod yn anabl.","paragraph7":"Diswyddo rhywun neu gau rhywun allan, oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n hoyw.","paragraph8":"Anwybyddu menyw ar gyfer dyrchafiad oherwydd ei bod yn feichiog.","paragraph9":"Yn aml mae gwahaniaethu anuniongyrchol yn anos i’w adnabod na gwahaniaethu uniongyrchol, oherwydd fel rheol ni cheir unrhyw gysylltiad amlwg â nodwedd warchodedig."},"title":"Beth yw “triniaeth lai ffafriol”?"},"ede-02-010-022":{"dd-definition":{"paragraph1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","paragraph2":"Triniaeth lai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig."},"id-definition":{"paragraph1":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","paragraph2":"Darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol."},"option1-label":{"text":"Gwahaniaethu cadarnhaol"},"option1-text":{"paragraph1":"Mae gwahaniaethu yn anghyfreithlon, hyd yn oed pan gaiff ei gyflawni er mwyn gwella cynrychiolaeth grwpiau lleiafrifol. Gelwir hynny’n wahaniaethu cadarnhaol. Un enghraifft fyddai recriwtio unigolyn o grŵp lleiafrif ethnig er mwyn gwella’r amrywiaeth mewn tîm, er nad yr unigolyn hwnnw yw’r ymgeisydd gorau."},"option2-label":{"text":"Gweithredu cadarnhaol"},"option2-text":{"paragraph1":"Bydd pobl yn drysu’n aml rhwng gweithredu cadarnhaol a gwahaniaethu cadarnhaol, ond mae gweithredu cadarnhaol yn eithaf gwahanol ac yn gwbl gyfreithlon. Mae’n ymwneud ag annog ceisiadau gan grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a gallai gynnwys:","paragraph2":"Darparu hyfforddiant i grwpiau penodol er mwyn eu galluogi i gystadlu am swyddi penodol.","paragraph3":"Targedu hysbysebion at grwpiau penodol.","paragraph4":"Cynnal diwrnodau codi ymwybyddiaeth ar gyfer grwpiau penodol.","paragraph5":"Mae’r holl gamau gweithredu hynny’n gyfreithlon oherwydd mai eu hunig fwriad yw annog grwpiau penodol i ymgeisio. Fodd bynnag, rhaid i’r broses ddewis ei hun gael ei chynnal yn deg bob amser, a rhaid iddi beidio â ffafrio unrhyw grŵp penodol. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy."},"option3-label":{"text":"Gofynion galwedigaethol"},"option3-text":{"paragraph1":"Er bod gwahaniaethu ar sail unrhyw nodwedd warchodedig fel rheol yn anghyfreithlon, nid yw hynny’n berthnasol i swyddi sydd â gofynion galwedigaethol hanfodol sy’n rhwystro pobl â nodweddion penodol rhag eu cyflawni. Felly, byddai cwmni ffilmiau sy’n chwilio am rywun i chwarae rhan Martin Luther King yn gallu cyfiawnhau rhoi clyweliadau i actorion du yn unig. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy."},"text1":{"paragraph1":"O ran gwahaniaethu, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gynhwysfawr iawn ac mae’n gwarchod pobl rhag achosion o wahaniaethu oherwydd:","paragraph2":"Bod ganddynt nodwedd warchodedig.","paragraph3":"Y credir bod ganddynt nodwedd warchodedig, hyd yn oed os nad yw hynny’n wir. Gelwir hynny’n wahaniaethu oherwydd canfyddiad.","paragraph4":"Bod ganddynt gysylltiad â phobl sydd â nodwedd warchodedig, er enghraifft am eu bod yn gofalu am berthynas anabl. Gelwir hynny’n wahaniaethu oherwydd cysylltiad."},"text2":{"paragraph1":"Wrth benderfynu a yw gweithred benodol yn wahaniaethol, mae angen cadw ambell beth allweddol mewn cof. Dewiswch bob un o’r meysydd a ddangosir yma er mwyn cael gwybod mwy. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"title":"Canolbwyntio ar wahaniaethu"},"ede-02-010-024":{"definition":{"paragraph1":"Aflonyddu","paragraph2":"Ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas."},"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-true},${manifest.player.question.option.choice-label-false}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Gall unigolyn wneud honiad ynghylch achos o aflonyddu, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad sarhaus wedi’i gyfeirio ato ef/ati hi’n bersonol.","option2":"Gall ymddygiad unigolyn fod yn gyfystyr ag aflonyddu hyd yn oed os nad yw’n fwriad sarhau pobl eraill.","option3":"Er mwyn i ymddygiad gael ei ystyried yn aflonyddu, rhaid iddo fod yn gysylltiedig ag un o’r nodweddion gwarchodedig a ddiffinnir yn y Ddeddf Cydraddoldeb.","question":"Fel yr ydych wedi gweld, gall aflonyddu gynnwys ystod eang o wahanol fathau o ymddygiad. Felly, pa rai o’r datganiadau canlynol sy’n wir, yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae rhai pwyntiau allweddol i’w cadw mewn cof – dewch i ni gael eu hystyried yn awr...","paragraph2":"Rydych yn eithaf agos ati. Mae rhai pwyntiau allweddol i’w cadw mewn cof – dewch i ni gael eu hystyried yn awr...","paragraph3":"Ddim yn union. Mae rhai pwyntiau allweddol i’w cadw mewn cof – dewch i ni gael eu hystyried yn awr...","paragraph4":"Gall unigolion wneud honiad ynghylch achos o aflonyddu, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw’n bersonol, cyhyd â’u bod yn gallu dangos ei fod yn creu amgylchedd atgas ar eu cyfer.","paragraph5":"Nid yr hyn sy’n cael ei ddweud neu’i wneud sy’n bwysig, ond effaith hynny ar yr unigolyn arall. Felly, hyd yn oed pan nad oes unrhyw fwriad maleisus, gall yr hyn y mae unigolyn yn ei ddweud a’i wneud fod yn gyfystyr ag aflonyddu, os gellir disgwyl yn rhesymol i hynny darfu ar urddas neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu atgas.","paragraph6":"Mae’n wir bod aflonyddu sy’n seiliedig ar y rhan fwyaf o nodweddion gwarchodedig yn anghyfreithlon dan y Ddeddf Cydraddoldeb. Mae enghreifftiau’n cynnwys gwatwar hiliol, sylwadau homoffobig, sylwadau rhywiaethol ac ati. Dan y Ddeddf, gall hyd yn oed un digwyddiad rhwng dau weithiwr gael ei ystyried yn aflonyddu, os yw’n ddigon difrifol. Ond nid y Ddeddf Cydraddoldeb yw’r unig ddarn o ddeddfwriaeth i’w ystyried.","paragraph7":"Dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997, mae pob math o aflonyddu sy’n digwydd dro ar ôl tro yn anghyfreithlon, hyd yn oed os nad yw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Mae hynny’n golygu, i bob pwrpas, bod aflonyddu’n cynnwys unrhyw ymddygiad a all gael ei ystyried yn rhesymol yn ymddygiad bygythiol, atgas, gelyniaethus neu ddiraddiol i unigolyn arall."},"title":"Canolbwyntio ar aflonyddu"},"ede-02-010-026":{"definition":{"paragraph1":"Erlid","paragraph2":"Triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath."},"text1":{"paragraph1":"Er bod erlid yn anghyfreithlon ers blynyddoedd lawer, mae cyflwyno’r Ddeddf Cydraddoldeb wedi ymestyn yn sylweddol hyd a lled y warchodaeth gyfreithiol a gynigir.","paragraph2":"Yn draddodiadol, yr unig bobl yr oedd cyfraith ym maes cydraddoldeb yn arfer eu gwarchod oedd pobl a oedd yn cyflwyno cwyn, neu’n cefnogi cwyn, ynghylch achos o wahaniaethu neu aflonyddu. Erbyn hyn, fodd bynnag, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb hefyd yn gwarchod pobl sy’n gwneud ymholiadau ynghylch materion sy’n ymwneud â chydraddoldeb, cyhyd â bod yr ymholiadau’n cael eu gwneud er mwyn darganfod a oes systemau neu arferion annheg ar waith.","paragraph3":"Ac mae’r warchodaeth hon hyd yn oed yn ymestyn i ymholiadau ynghylch cyflog. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwahardd cymalau sy’n ymwneud â chadw cyflogau’n gyfrinachol, ac mae’n ei gwneud yn gyfreithlon i weithwyr drafod cyflogau â’u cydweithwyr, cyhyd â bod hynny’n cael ei wneud at ddiben darganfod a oes gwahaniaethu’n digwydd. Nod y Ddeddf yw cael gwared â hen anghydraddoldebau drwy hybu mwy o eglurder a thryloywder mewn sefydliadau."},"title":"Canolbwyntio ar erlid"},"ede-02-010-028":{"text1":{"paragraph1":"Mae’n bwysig deall bod y ddeddfwriaeth yr ydym wedi bod yn ei hystyried yn wirioneddol rymus: gall sefydliadau ac unigolion sy’n trin pobl yn llai ffafriol wynebu camau cyfreithiol, cosbau a dirwyon llym a thaliadau iawndal sylweddol. At hynny, gall sefydliadau hyd yn oed gael eu dal yn gyfrifol, ar sail atebolrwydd dirprwyol, am weithredoedd gweithwyr unigol, os oeddent wedi methu â chymryd camau rhesymol i atal gweithredoedd o’r fath. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph2":"Ond nid dyna’i diwedd hi yn aml: yn ogystal â’r holl gostau uniongyrchol, ceir yr holl gostau anuniongyrchol sy’n gysylltiedig â chyhoeddusrwydd gwael a niwed i enw da. Heb os nac oni bai, mae cydraddoldeb yn fater na all neb fforddio ei anwybyddu!"},"title":"Y cosbau"},"ede-02-010-030":{"text1":{"paragraph1":"Rydym wedi bod yn canolbwyntio mor belled ar yr agweddau ar ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb sy’n berthnasol i bob sefydliad. Fodd bynnag, fel corff cyhoeddus, mae’n hynod o bwysig ein bod yn hybu cydraddoldeb. Wedi’r cyfan, cawn ein hariannu gan grŵp amrywiol tu hwnt o bobl – ac rydym yma i’w gwasanaethu – sef y cyhoedd! Felly, nid yw ond yn iawn i ni ymddwyn mor deg a chynhwysol ag sy’n bosibl ym mhopeth a wnawn.","paragraph10":"Nod y Ddyletswydd yw sicrhau ein bod ni, a phob corff cyhoeddus arall, yn gallu adnabod, deall a diwallu anghenion yr ystod amrywiol o bobl yr ydym yma i’w gwasanaethu.","paragraph2":"Nid yw’n syndod bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn gosod dyletswydd gyfreithiol arbennig ar gyrff cyhoeddus i hybu cydraddoldeb. Fe’i gelwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, ac mae’n mynnu ein bod:","paragraph3":"Yn dileu achosion o wahaniaethu anghyfreithlon, aflonyddu, erlid ac unrhyw ymddygiad anghyfreithlon arall a ddiffinnir gan y Ddeddf.","paragraph4":"Yn hybu cyfle cyfartal.","paragraph5":"Ac yn meithrin cydberthnasau da ar draws y nodweddion gwarchodedig.","paragraph6":"Ond beth y mae hynny’n ei olygu’n ymarferol? Wel, yn syml, mae angen i ni sicrhau ein bod:","paragraph7":"Yn ystyried anghenion pobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig, a’r effaith y gallai ein gweithgareddau ei chael arnynt.","paragraph8":"Yn cymryd camau priodol i ddileu neu leihau unrhyw beth a allai eu rhoi dan anfantais.","paragraph9":"Nod y Ddyletswydd yw sicrhau ein bod ni, a phob corff cyhoeddus arall, yn gallu adnabod, deall a diwallu anghenion yr ystod amrywiol o bobl yr ydym yma i’w gwasanaethu. Dyma’r ydym yn ei wneud i gyflawni ein cyfrifoldebau:"},"title":"Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus"},"ede-02-010-040":{"option1-label":{"text":"Hyd a lled y ddeddfwriaeth"},"option1-text":{"paragraph1":"Mae’n bwysig deall bod deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol i bawb sy’n gweithio neu’n astudio yma. Felly, er enghraifft, mae’n anghyfreithlon i aelod o staff aflonyddu ar gydweithiwr neu fyfyriwr. Yn yr un modd, mae’n anghyfreithlon i fyfyriwr aflonyddu ar aelod o staff neu gydfyfyriwr."},"option2-label":{"text":"Derbyn a thrin myfyrwyr"},"option2-text":{"paragraph1":"Rhaid i ni sicrhau ein bod ni mor deg a chynhwysol ag sy’n bosibl wrth dderbyn a thrin myfyrwyr. Mae hynny’n berthnasol i sawl agwedd ar ein gwaith, gan gynnwys:","paragraph2":"Y trefniadau yr ydym yn eu gwneud ar gyfer penderfynu pwy sy’n cael cynnig lle fel myfyriwr.","paragraph3":"Ein hamodau ar gyfer derbyn unigolyn yn fyfyriwr.","paragraph4":"Y darpariaethau yr ydym yn eu rhoi ar waith er mwyn sicrhau bod gan yr holl fyfyrwyr fynediad teg i’r ystod lawn o gyfleusterau, gwasanaethau a manteision a gynigir gennym.","paragraph5":"Wrth gwrs, nid gostwng ein safonau yw diben hyn; y diben yw sicrhau bod gan bawb gyfle teg i fanteisio ar yr hyn yr ydym yn ei gynnig."},"option3-label":{"text":"Myfyrwyr ag anableddau"},"option3-text":{"paragraph1":"Rhaid i ni sicrhau nad yw myfyrwyr ag anableddau dan anfantais annheg. Gallai hynny gynnwys:","paragraph2":"Gwneud addasiadau ffisegol i’n cyfleusterau addysgu a’n llety er mwyn sicrhau eu bod yn fwy hygyrch.","paragraph3":"Darparu ein deunyddiau addysgu mewn fformatau amgen.","paragraph4":"Rhoi amser ychwanegol i fyfyrwyr â mathau penodol o namau gwblhau asesiadau neu arholiadau."},"text1":{"paragraph1":"Ond wrth gwrs gan mai prifysgol ydym ni, rydym yn fath pendant o gorff cyhoeddus, ac mae gan ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb nifer o oblygiadau penodol i ni fel darparwr gwasanaethau addysgol. Dewiswch bob un o’r meysydd yma i gael gwybod mwy. Dewiswch Ymlaen pan fyddwch yn barod i symud ymlaen."},"title":"Goblygiadau i’r Brifysgol"},"ede-02-020-010":{"text1":{"paragraph1":"Gan eich bod wedi cael cyflwyniad byr erbyn hyn i ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb, beth am i ni weld faint ohoni y gallwch ei rhoi ar waith mewn sefyllfaoedd go iawn?","paragraph2":"Ar y sgriniau canlynol, bydd modd i chi archwilio cyfres o astudiaethau achos ym maes cydraddoldeb a bydd angen i chi benderfynu sut y mae’r gyfraith yn berthnasol ym mhob achos. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch yn barod i ddechrau arni..."},"title":"Y gyfraith ar waith"},"ede-02-020-015":{"text1":{"paragraph1":"Defnyddiwch yr astudiaethau achos a ddangosir yma i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb. Dewiswch bob astudiaeth achos yn ei thro a cheisiwch benderfynu sut y mae’r gyfraith yn berthnasol ym mhob achos. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"title":"Y Ganolfan Astudiaethau Achos"},"ede-02-020-020":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, nid yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin â phroblemau iechyd meddwl. Felly, er bod hwn efallai’n benderfyniad gwael o safbwynt recriwtio, nid yw’n anghyfreithlon.","option2":"Nac ydy, does gan Amber ei hun ddim problemau iechyd meddwl, felly nid yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ei gwarchod.","option3":"Ydy, mae Cheng yn gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Amber ar sail y ffaith bod gan ei mab broblemau iechyd meddwl.","option4":"Ydy, mae Cheng yn erlid Amber yn anghyfreithlon ar sail y ffaith bod gan ei mab broblemau iechyd meddwl.","question":"O ystyried y pryderon hyn mae Cheng, yn anfoddog, yn penderfynu peidio â rhoi’r swydd i Amber ac yn cynnig y swydd i’r ymgeisydd ail orau. Yn eich barn chi, a yw wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol? "},"text1":{"paragraph1":"Mae Cheng yn rheolwr mewn adran dderbyniadau mewn prifysgol, ac mae’n awyddus i lenwi swydd wag yn ei dîm. Ar ôl proses helaeth o gyfweld a dewis, mae wedi nodi mai Amber yw’r ymgeisydd gorau: mae ganddi gymwysterau da, mae ganddi lawer o brofiad perthnasol ac mae gair da iawn iddi.","paragraph2":"Ond mae un broblem: mae gan Amber fab yn ei arddegau sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol, ac mae wedi nodi’n glir y bydd angen iddi weithio oriau hyblyg er mwyn gallu rhoi’r gofal a’r cymorth y mae eu hangen ar ei mab. Nid yw Cheng yn gwrthwynebu oriau hyblyg o gwbl – yn wir, mae sawl aelod o’r tîm eisoes yn gweithio oriau hyblyg – ond mae’n pryderu ei bod yn anochel y bydd ymrwymiadau Amber o ran gofal yn cael effaith ar ei gwaith."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae Cheng wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Amber.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin â phroblemau iechyd meddwl, felly mae Cheng nid yn unig wedi gwneud penderfyniad gwael o safbwynt recriwtio; mae hefyd wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Amber.","paragraph3":"Mae’n wir nad oes gan Amber ei hun broblemau iechyd meddwl, ond nid yw hynny’n newid y ffaith bod Cheng wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn ei herbyn.","paragraph4":"Mae Cheng yn sicr wedi ymddwyn yn anghyfreithlon, ond mae hynny oherwydd ei fod wedi gwahaniaethu yn erbyn Amber.","paragraph5":"Dan y Ddeddf Cydraddoldeb:","paragraph6":"Mae’r nodwedd warchodedig a elwir yn anabledd yn ymdrin ag ystod eang o gyflyrau, gan gynnwys problemau iechyd meddwl.","paragraph7":"Yn ogystal â’i bod yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd bod ganddo – neu y credir bod ganddo – nodwedd warchodedig; mae hefyd yn anghyfreithlon gwahaniaethu yn erbyn unigolyn ar sail y ffaith bod ganddo gysylltiad ag unrhyw un sydd â nodwedd warchodedig. Gelwir hynny’n wahaniaethu oherwydd cysylltiad.","paragraph8":"Yma, mae Cheng wedi gwrthod rhoi swydd i Amber oherwydd ei bod yn gofalu am ei mab anabl. Mae hynny’n golygu wrth gwrs y bydd angen iddi weithio oriau hyblyg, ond nid yw hynny wedi bod yn broblem i aelodau eraill y tîm, a does dim i awgrymu y bydd ei hymrwymiadau o ran gofal yn effeithio ar ei gwaith. O gofio hynny, mae’n anodd gweld unrhyw gyfiawnhad dros benderfyniad Cheng."},"title":"Nid yw’n ddim byd personol"},"ede-02-020-030":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, dim ond enghraifft o wasanaeth gwael i gwsmeriaid a geir yma.","option2":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.","option3":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail anabledd.","option4":"Ydy, mae’n enghraifft o erlid.","question":"O safbwynt cyfreithiol, a ellid barnu bod Jean wedi cael ei thrin yn anghyfreithlon yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Wayne yn gweithio yn yr adran gwasanaethau cwsmeriaid mewn cwmni bysiau cenedlaethol. Mae Jean, sy’n bwriadu ymweld â hen ffrind ysgol yn Northampton, newydd fod yn siarad ag ef. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Cywir, byddem yn cytuno â hynny. Mae’r modd y mae Jean wedi cael ei thrin yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.","paragraph2":"Mae’n sicr yn enghraifft o wasanaeth gwael i gwsmeriaid, ond o safbwynt cyfreithiol mae hefyd yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.","paragraph3":"Mewn gwirionedd, yn ein barn ni mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.","paragraph4":"Mae’r gyfraith yn mynnu bod sefydliadau’n gwneud pob “addasiad rhesymol” posibl er mwyn helpu pobl anabl i gael mynediad teg i gyfleoedd o ran cyflogaeth ac i nwyddau a gwasanaethau. Yn yr olygfa yr ydych newydd ei gwylio, ni ddigwyddodd hynny o gwbl: ni lwyddodd Jean i gael y wybodaeth yr oedd am ei chael, a chafodd ei bychanu gan Wayne oherwydd bod ganddi nam ar ei chlyw.","paragraph5":"Mae’n bwysig sylweddoli bod gwneud addasiadau rhesymol yn ddyletswydd ragflaenol pan ddaw’n fater o ddarparu nwyddau neu wasanaethau i’r cyhoedd. Hynny yw, ni all sefydliadau aros nes y bydd unigolyn anabl yn ceisio defnyddio gwasanaeth, cyn meddwl pa addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud – mae angen iddynt wneud yr addasiadau hynny o flaen llaw.","paragraph6":"Felly, beth y dylai Wayne fod wedi’i wneud yn y sefyllfa hon? Wel, yn ddelfrydol, dylai dolen glywed fod wedi’i gosod ar ei gownter er mwyn i unrhyw un sydd â theclyn clywed allu ei glywed yn glir. Fel arall, gallai fod wedi mynd â Jean i ystafell dawel neu gallai fod wedi argraffu’r wybodaeth a’i defnyddio i esbonio ei hopsiynau wrthi.","paragraph7":"Y pwynt yw, drwy ystyried o flaen llaw a meddwl yn greadigol, mae fel rheol yn hawdd iawn diwallu anghenion pobl anabl a darparu gwasanaeth o’r radd flaenaf i bawb."},"title":"Ydych chi’n fy nghlywed i?"},"ede-02-020-040":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, oherwydd er ei bod yn ymddangos bod Judith yn trin David yn annheg, ni cheir unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod hynny’n digwydd ar sail unrhyw nodwedd warchodedig.","option2":"Ydy, gallai David ddwyn achos o wahaniaethu ar sail hil.","option3":"Ydy, gallai David ddwyn achos lle mae’n honni bod Judith yn aflonyddu arno.","option4":"Ydy, gallai David ddwyn achos o wahaniaethu ar sail ailbennu rhywedd.","question":"Yn eich barn chi, a yw David mewn sefyllfa lle gallai ddwyn achos dilys yn erbyn y sefydliad o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae David wedi bod yn gweithio ym maes Gwasanaethau Myfyrwyr mewn prifysgol ers dros bedair blynedd, ac mae’n atebol i Judith. Dros y chwe mis diwethaf, mae David wedi dechrau ar y broses o newid i fod yn ddyn ac mae’n defnyddio’r rhagenw ‘fe’. Mae hefyd wedi dechrau gwisgo a’i gyflwyno ei hun fel dyn, ac mae wedi dweud wrth ei gydweithwyr ei fod yn ystyried cael triniaeth feddygol i gwblhau’r broses o newid i fod yn ddyn.","paragraph2":"Mae David bob amser wedi perfformio’n ardderchog yn y gwaith, a than yn ddiweddar roedd gan Judith feddwl mawr ohono. Roedd wedi cael sawl dyrchafiad a chyfleoedd i ddatblygu ei yrfa. Ers dechrau ar y broses o newid i fod yn ddyn, fodd bynnag, mae David yn teimlo’n fwyfwy ar y cyrion: mae wedi cael llawer yn llai o gyfleoedd ac mae Judith wedi rhoi’r gorau i’w gynnwys mewn penderfyniadau allweddol yn ymwneud â’r adran. Ar ben hynny, yn ei arfarniad diwethaf, roedd Judith yn amhenodol iawn ynghylch ei ragolygon ar gyfer y dyfodol ac, am y tro cyntaf ers iddo ymuno, ni roddwyd unrhyw gyfrifoldebau ychwanegol iddo."},"text2":{"paragraph1":"Cywir, byddem yn cytuno â hynny. Mae’n ymddangos bod y driniaeth annheg wedi’i hachosi gan y ffaith bod David yn ailbennu ei rywedd. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig, felly gallai David ddwyn achos cryf o wahaniaethu anghyfreithlon ar y sail hon.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae’n ymddangos bod y driniaeth annheg wedi’i hachosi gan y ffaith bod David yn ailbennu ei rywedd. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig, felly gallai David ddwyn achos cryf o wahaniaethu anghyfreithlon ar y sail hon.","paragraph3":"Wel, mae’n sicr yn ymddangos bod Judith yn gwahaniaethu yn erbyn David, ond nid oes unrhyw arwydd ei bod yn gwneud hynny ar sail hil. Mae’n ymddangos bod ei hymddygiad wedi’i achosi gan y ffaith bod David yn ailbennu ei rywedd. Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig, felly gallai David ddwyn achos cryf o wahaniaethu anghyfreithlon ar y sail hon.","paragraph4":"Wel, mae’n sicr yn ymddangos bod Judith yn trin David yn annheg, ond mae’n gwneud hynny drwy wahaniaethu yn ei erbyn, ac nid drwy aflonyddu arno. Ac oherwydd ei bod yn ymddangos bod y driniaeth annheg wedi’i hachosi gan y ffaith bod David yn ailbennu ei rywedd – sy’n nodwedd warchodedig – gallai David ddwyn achos cryf o wahaniaethu anghyfreithlon ar y sail hon."},"title":"Yn ddigon o ddyn?"},"ede-02-020-050":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, o ystyried y sefyllfa mae wedi gwneud penderfyniad cwbl resymol.","option2":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhywedd.","option3":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","option4":"Ydy, mae’n enghraifft o aflonyddu ar sail rhyw.","question":"Yn eich barn chi, a yw Graham wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Graham wedi galw heibio i swyddfa Alan er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am gynnydd o safbwynt cynlluniau ailddatblygu mawr. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n hollol gywir. Mae’n enghraifft amlwg o wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae’n enghraifft amlwg o wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","paragraph3":"Er gwaethaf y ffaith ei fod yn rheolwr prosiect hynod o fedrus, nid yw Zak wedi cael ei gynnwys mewn cyflwyniad pwysig, dim ond oherwydd ei fod yn hoyw. Does dim gwahaniaeth bod Alan yn honni iddo wneud y penderfyniad ar sail busnes yn hytrach nag ar sail homoffobig: mae’n dal i wahaniaethu’n annheg yn erbyn Zak, felly mae’n anghyfreithlon."},"title":"Mae’n amlwg ei fod e’n hoyw"},"ede-02-020-060":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydynt, maent wedi gwneud penderfyniad cwbl resymol a chyfreithlon.","option2":"Ydynt, maent yn euog o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.","option3":"Ydynt, maent yn euog o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail rhyw.","option4":"Ydynt, maent yn euog o wahaniaethu uniongyrchol ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","question":"Gan nad oes llawer o wahaniaeth rhwng y ddau ymgeisydd, yn eich barn chi a yw Andy a’i gydweithwyr wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Andy yn arwain adran cymorth technegol, ac mae newydd orffen cynnal cyfweliadau cychwynnol byr ar gyfer swydd wag yn y tîm. Mae’n awyddus i benodi rhywun yn fuan ac mae’n mynd drwy’r ymgeiswyr gorau gyda Jim a Mark, sydd wedi bod yn rhan o’r broses gyfweld. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Beth am fynd drwy rai o’r pwyntiau allweddol y dylid eu cadw mewn cof ynghylch yr olygfa hon?","paragraph10":"Felly, beth y dylai Andy a’i gydweithwyr fod wedi’i wneud? Wel, dylent fod wedi mynd yn ôl dros fanylion yr ymgeiswyr a chynnal ail rownd o gyfweliadau, os oedd angen, er mwyn penderfynu pwy yn union fyddai’n perfformio orau yn y swydd. Os nad oedd modd gwahanu’r ymgeiswyr ar ôl hynny, gallent wedyn ystyried recriwtio Tanya fel cam gweithredu cadarnhaol, o gofio na chaiff menywod eu cynrychioli’n ddigonol yn y tîm.","paragraph2":"Mae llawer o bobl yn dewis yr opsiwn hwn, ond nid dyma’r ateb cywir. Mewn gwirionedd, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Beth am fynd drwy rai o’r pwyntiau allweddol y dylid eu cadw mewn cof ynghylch yr olygfa hon?","paragraph3":"Mewn gwirionedd, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw. Beth am fynd drwy rai o’r pwyntiau allweddol y dylid eu cadw mewn cof ynghylch yr olygfa hon?","paragraph4":"Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, gall sefydliadau ddewis cymryd camau “gweithredu cadarnhaol” wrth wneud penderfyniadau ynghylch recriwtio a dyrchafu. Mae hynny’n eu galluogi i ffafrio ymgeiswyr o grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ond – ac mae’n ond mawr – dim ond wrth ddewis rhwng dau neu ragor o ymgeiswyr y mae eu haeddiant yn gyfartal.","paragraph5":"Ond ai dyna’r sefyllfa sydd gennym yma? Nage. Mae Andy a’i gydweithwyr wedi gwneud penderfyniad brysiog ar sail cyfweliad cychwynnol byr. At hynny, mae’n amlwg bod gan yr ymgeiswyr gryfderau a gwendidau gwahanol, felly mae’n annhebygol iawn bod eu haeddiant yn wirioneddol gyfartal ar gyfer y swydd.","paragraph6":"Y peth allweddol i’w gadw mewn cof yw nad yw gweithredu cadarnhaol wrth recriwtio a dyrchafu’n cyfiawnhau byrhau’r broses ddewis, neu ddewis ymgeiswyr yn benodol er mwyn bodloni cwotâu neu dargedau cydraddoldeb. Gelwir hynny’n wahaniaethu cadarnhaol, sydd bron bob amser yn anghyfreithlon. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph7":"Mae un ffactor arall i’w ystyried hefyd. Nid yw gweithredu cadarnhaol wrth wneud penderfyniadau ynghylch recriwtio a dyrchafu’n ddyletswydd gyfreithiol; mae’n fesur gwirfoddol y gall sefydliadau ddewis ei fabwysiadu os byddant yn dymuno gwneud hynny. Rydym wedi dewis peidio â mabwysiadu’r mesur hwn, oherwydd mae’n anodd penderfynu pryd y mae haeddiant dau neu ragor o ymgeiswyr yn wirioneddol gyfartal.","paragraph8":"Fodd bynnag, rydym yn cymryd camau gweithredu cadarnhaol eraill er mwyn sicrhau bod gennym yr ystod orau posibl o ymgeiswyr i ddewis o’u plith wrth recriwtio neu ddyrchafu staff. Defnyddiwch ein cyfleuster Gofyn i’r Arbenigwr os hoffech wybod mwy.","paragraph9":"Felly, o ystyried popeth, beth y dylai Andy a’i gydweithwyr fod wedi’i wneud? Wel, dylent fod wedi mynd yn ôl dros fanylion yr ymgeiswyr a chynnal ail rownd o gyfweliadau, os oedd angen, er mwyn penderfynu pwy yn union fyddai’n perfformio orau yn y swydd."},"title":"Dewis cadarnhaol?"},"ede-02-020-070":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, mae’n iawn i Ben newid oriau gwaith Phoebe fel hyn, ar yr amod nad yw’n gostwng ei chyfradd yr awr.","option2":"Nac ydy, efallai fod yr hyn y mae Ben wedi’i wneud yn rheolaeth wael, ond nid yw wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol oherwydd nid yw Phoebe yn feichiog nac ar absenoldeb mamolaeth erbyn hyn.","option3":"Ydy, mae Ben yn gwahaniaethu yn erbyn Phoebe ar sail mamolaeth.","option4":"Ydy, mae ymddygiad Ben yn gyfystyr ag aflonyddu.","option5":"Ydy, mae Ben yn erlid Phoebe.","question":"Nid dyna yw dymuniad Phoebe, ond mae’n teimlo mai’r unig ddewis sydd ganddi yw derbyn y rôl y mae Ben wedi’i chynnig iddi. Beth yw eich barn chi? A yw Ben wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Phoebe wedi bod yn gweithio fel darlithydd mewn prifysgol ers dros bum mlynedd ac mae’n atebol i’r pennaeth adran, Ben. Y llynedd, cymerodd Phoebe absenoldeb mamolaeth statudol ar gyfer genedigaeth ei phlentyn cyntaf ac mae newydd ddychwelyd i’r gwaith.","paragraph2":"Wrth iddi ddychwelyd i’r gwaith, mae Ben yn cwrdd â hi i drafod ei rôl yn y dyfodol. Mae’n dweud wrthi y byddai’n awr yn hoffi iddi rannu swydd â Lawrence, sef yr unigolyn a gyflogwyd gan Ben i gyflawni dyletswyddau Phoebe yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth. Nid yw Phoebe yn hapus â hynny, ond wrth iddi ddechrau cwyno mae Ben yn rhoi sicrwydd iddi y bydd ei chyfradd yr awr yr un fath ag o’r blaen ac mai’r unig newid fydd llai o oriau. Yn ôl Ben, dylai fod yn drefniant gwell i bawb gan y bydd yn ei galluogi i dreulio mwy o amser gyda’i phlentyn."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. O safbwynt cyfreithiol, mae Ben wedi gwahaniaethu yn erbyn Phoebe ar sail mamolaeth.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae Ben wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Phoebe ar sail mamolaeth.","paragraph3":"Wel, mae Ben yn sicr wedi ymddwyn yn anghyfreithlon, ond mae hynny oherwydd ei fod wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Phoebe ar sail mamolaeth.","paragraph4":"Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn gwarchod menywod rhag cael eu trin yn anffafriol ar sail beichiogrwydd neu famolaeth. Ac mae’r warchodaeth honno’n berthnasol nid yn unig i gyfnod eu beichiogrwydd a’u habsenoldeb mamolaeth; mae hefyd yn berthnasol i’r adeg pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl eu habsenoldeb mamolaeth. Yma, mae Phoebe wedi cael cynnig telerau cyflogaeth llai ffafriol, ac mae’n amlwg bod Ben wedi gwahaniaethu yn ei herbyn."},"title":"Gofid ar ôl geni "},"ede-02-020-080":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, mae ei gofynion yn eithaf rhesymol o ystyried natur y swydd.","option2":"Ydy, mae’n euog o wahaniaethu’n uniongyrchol ar sail rhyw.","option3":"Ydy, mae’n euog o wahaniaethu’n uniongyrchol ar sail oedran.","option4":"Ydy, mae’n euog o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail oedran.","question":"Yn eich barn chi, a yw Janet wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae angen i Janet recriwtio Cyfrifydd Rheoli newydd. Mae’n swydd uwch y mae llawer o gyfrifoldeb yn perthyn iddi. Mae wedi ffonio’r tîm adnoddau dynol i drafod ei gofynion. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae’n achos eithaf clir o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail oedran.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, yn ein barn ni mae’n achos eithaf clir o wahaniaethu’n anuniongyrchol ar sail oedran.","paragraph3":"Er ei bod yn rhesymol gofyn am gymhwyster mewn cyfrifyddiaeth reoli, mae gofyn am o leiaf 10 mlynedd o brofiad gwaith ar ben hynny’n ormod: i bob pwrpas mae’n cau unrhyw dan 35 oed allan. Fodd bynnag, oherwydd nad aeth Janet mor bell â nodi isafswm oedran, mae’n achos o wahaniaethu anuniongyrchol.","paragraph4":"Yr hyn sy’n ddiddorol am yr olygfa yw bod llawer o bobl yn meddwl bod deddfwriaeth ynghylch oedran wedi’i chyflwyno er mwyn gwarchod pobl hŷn yn unig. Ac er bod hynny’n rhan bwysig o rôl y ddeddfwriaeth, mae hi yno hefyd er mwyn gwarchod pobl iau rhag achosion o wahaniaethu annheg.","paragraph5":"Pwynt arall y mae’n werth ei nodi yw y gallai Janet, wrth ddisgwyl 10 mlynedd o brofiad, fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn menywod hefyd. Y rheswm am hynny yw ei bod yn fwy tebygol bod menywod wedi cymryd seibiant yn ystod eu gyrfa i fagu teulu.","paragraph6":"Felly, faint o flynyddoedd o brofiad y gallai Janet fod wedi gofyn yn rhesymol amdanynt? Wel, yn ddelfrydol, dylai fod wedi osgoi nodi unrhyw ffigur a dylai fod wedi canolbwyntio’n hytrach ar ddiffinio’r sgiliau sy’n ofynnol i gyflawni’r swydd yn effeithiol."},"title":"Hysbyseb dda?"},"ede-02-020-090":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Mae hynny’n iawn – wedi’r cyfan, bydd angen teithio rhywfaint rhwng dau brif gampws y brifysgol.","option2":"Mae hynny’n iawn cyhyd â bod Joyce yn ychwanegu esboniad ynghylch pam y mae angen trwydded yrru.","option3":"Dylai Joyce ailystyried: bydd y gofyniad hwn yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr sydd â’r gallu angenrheidiol.","option4":"Dylai Joyce ailystyried: mae’r gofyniad hwn yn gwahaniaethu’n uniongyrchol yn erbyn pobl nad oes ganddynt drwydded yrru.","option5":"Dylai Joyce ailystyried: i bob pwrpas mae’r gofyniad hwn yn erlid pobl nad oes ganddynt drwydded yrru.","question":"Beth yw eich barn am hynny? A yw’n rhesymol i Joyce ofyn am drwydded yrru lawn, o gofio natur y swydd, neu a ddylai hi ailystyried?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Joyce yn gweithio i brifysgol fawr mewn dinas fawr. Mae’n llunio hysbyseb ar gyfer swydd technegydd, ac oherwydd bod y swydd yn golygu teithio rhywfaint rhwng dau brif gampws y brifysgol yn y ddinas, mae’n cynnwys gofyniad ynghylch trwydded yrru lawn."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Er bod y gofyniad hwn efallai’n ymddangos yn rhesymol ar yr olwg gyntaf, mae’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr a allai fod yn hollol abl i gyflawni’r swydd.","paragraph2":"Ddim wir. Er bod y gofyniad hwn efallai’n ymddangos yn rhesymol ar yr olwg gyntaf, mae’n gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr a allai fod yn hollol abl i gyflawni’r swydd.","paragraph3":"Wel, rydych yn iawn i feddwl bod hwn yn achos o wahaniaethu annheg. Ond mae hynny oherwydd ei fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr a allai fod yn hollol abl i gyflawni’r swydd.","paragraph4":"Wel, rydych yn iawn i feddwl bod hwn yn ofyniad annheg. Ond mae hynny oherwydd ei fod yn gwahaniaethu’n anuniongyrchol yn erbyn ymgeiswyr a allai fod yn hollol abl i gyflawni’r swydd.","paragraph5":"Felly, yn erbyn pwy y mae’r gwahaniaethu yn digwydd? Nid yw gyrru yn nodwedd warchodedig, felly nid pobl nad ydynt yn gyrru yw’r ateb i’r cwestiwn hwnnw. Yn hytrach, pobl sydd â nodwedd warchodedig sy’n golygu nad ydynt yn gallu gyrru neu’u bod yn llai tebygol o yrru. Ac yn yr achos hwn, y nodwedd fwyaf perthnasol yw anabledd: er bod llawer o bobl anabl yn gyrru, mae cyfran fwy ohonynt yn bobl nad ydynt yn gyrru, o’u cymharu â phobl nad ydynt yn anabl.","paragraph6":"Ond a all Joyce gyfiawnhau bod trwydded yrru’n ofyniad galwedigaethol hanfodol ar gyfer y swydd hon? Yn ein barn ni, byddai hynny’n anodd iddi. Er bod yn rhaid teithio rhywfaint rhwng dau brif gampws y brifysgol, mae’r ddau brif gampws yn yr un ddinas, felly mae’n debyg nad yw gyrru’n hanfodol: mae teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, rhannu car, defnyddio tacsis, beicio neu gerdded i gyd yn debygol o fod yn opsiynau posibl.","paragraph7":"Wrth gwrs, nid yw hynny’n golygu bod gofyn am briodoleddau, sgiliau neu gymwysterau penodol bob amser yn gyfystyr â gwahaniaethu! Yr unig beth y mae’n ei olygu yw bod yn rhaid iddynt fod yn ofynion galwedigaethol hanfodol ar gyfer y swydd. Os nad ydynt, gallai gofyn amdanynt fod yn gyfystyr â gwahaniaethu."},"title":"Gyrru, gyrru, gyrru"},"ede-02-020-100":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydynt, dim ond dadl danbaid yw hi.","option2":"Ydynt, mae’n enghraifft o erlid.","option3":"Ydynt, mae’n enghraifft o wahaniaethu ar sail hil.","option4":"Ydynt, mae’n enghraifft o aflonyddu ar sail crefydd.","question":"Yn eich barn chi, a yw Malcolm ac Alex wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mewn adran gymorth brysur, mae Malcolm ac Alex yn trafod cynlluniau gwaith ar gyfer yr wythnosau nesaf ac mae Kashif yn digwydd cerdded heibio. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae’n enghraifft eithaf clir o aflonyddu ar sail crefydd.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, yn ein barn ni mae’n enghraifft eithaf clir o aflonyddu ar sail crefydd.","paragraph3":"Gwnaeth Malcolm ac Alex nifer o sylwadau sarhaus a difrïol ynghylch credoau crefyddol Kashif, fel y sylw ynghylch bod angen diod arno. Mae ymddygiad fel hyn yn anghyfreithlon, ac ni ddylai neb orfod ei oddef yn y gwaith."},"title":"Gwawdio gweddi?"},"ede-02-020-110":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Mae Anne yn llygad ei lle: nid hi sy’n gyfrifol am ymddygiad y dyn dosbarthu pecynnau, felly bydd yn rhaid i Malika ei oddef.","option2":"Nid oes yn rhaid i Anne wneud dim o safbwynt cyfreithiol, ond byddai’n arfer rheoli da pe bai’n cymryd camau i atal y dyn dosbarthu pecynnau rhag aflonyddu ymhellach ar Malika.","option3":"Mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau i atal y dyn dosbarthu pecynnau rhag aflonyddu ymhellach ar Malika.","option4":"Mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i roi gwybod i’r heddlu am y dyn dosbarthu pecynnau, er mwyn i’r heddlu allu cymryd unrhyw gamau angenrheidiol.","question":"Felly, beth yw eich barn am gyfrifoldebau Anne yn y sefyllfa hon?"},"text1":{"paragraph1":"Yn ddiweddar, dechreuodd Malika weithio wrth y dderbynfa mewn prifysgol. Ar y dechrau, roedd ganddi gwmni cydweithiwr profiadol a ddangosodd iddi sut yr oedd popeth yn gweithio. Ond yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, bu’n gweithio ar ei phen ei hun yn bennaf.","paragraph2":"Nid yw’r gwaith ei hun wedi achosi unrhyw broblemau i Malika, ond mae ganddi broblem gydag un o’r dynion sy’n dod â phecynnau i’r adeilad yn rheolaidd. Mae’n gwneud hwyl am ben ei henw o hyd – gan esgus nad yw’n gallu ei ynganu – ac mae’n dynwared ei hacen. Mae’n meddwl bod dweud pethau fel “Sori, dim byd o Affrica heddiw” yn ddoniol iawn.","paragraph3":"Mae Malika eisoes wedi gofyn i’r dyn dosbarthu pecynnau roi’r gorau i’w phoeni. Ond y cyfan a wnaeth e’ oedd chwerthin gan ddweud bod angen iddi ddod i arfer “â’n synnwyr digrifwch ni ym Mhrydain”. Ers hynny, mae wedi dechrau gwneud mwy fyth o sylwadau am ei golwg a’i chefndir Affricanaidd.","paragraph4":"Mae Malika wedi cwyno sawl gwaith am y dyn dosbarthu pecynnau wrth ei rheolwr llinell, Anne. Ond er bod Anne wedi cydymdeimlo â hi, mae wedi egluro nad oes fawr ddim y gall ei wneud am y sefyllfa: nid hi sy’n ei gyflogi ac nid hi sy’n gyfrifol am yr hyn y mae’n ei wneud. At hynny, yn ôl Anne, mae Malika mewn swydd reng flaen, ac mae’n anochel felly y bydd yn dod ar draws y math hwn o ymddygiad o bryd i’w gilydd."},"text2":{"paragraph1":"Rydych yn llygad eich lle. Mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau i warchod Malika.","paragraph10":"Felly, pa fath o gamau rhesymol y gall Anne eu cymryd i warchod Malika? Wel, yn gyntaf dylai ystyried siarad â’r dyn dosbarthu pecynnau, er mwyn egluro bod ei ymddygiad yn annerbyniol ac nad yw’r sefydliad yn bwriadu ei oddef. Ond os nad yw hynny’n briodol neu os nad yw’n gweithio, dylai Anne roi gwybod am y mater i’r cwmni sy’n cyflogi’r dyn, er mwyn i’r sefydliad hwnnw allu cymryd camau fel ei gyflogwr. Yr hyn sy’n bwysig i’w nodi yw na ddylai neb orfod goddef achosion o aflonyddu, gan gydweithiwr na thrydydd parti.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau i warchod Malika, felly all hi ddim anwybyddu beth sy’n digwydd.","paragraph3":"Mewn gwirionedd, mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau i warchod Malika, felly mae’n fwy na mater sy’n ymwneud ag arfer rheoli da.","paragraph4":"Wel, mae’n sicr bod gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau i warchod Malika, ond nid yw hynny o reidrwydd yn golygu rhoi gwybod i’r heddlu am y mater.","paragraph5":"Dyma enghraifft o’r hyn a elwir yn aflonyddu gan drydydd parti – ar sail hil, yn yr achos hwn – ac oherwydd ei fod wedi digwydd fwy nag unwaith mae gan Anne gyfrifoldeb cyfreithiol i gymryd camau rhesymol i’w atal. Ceir llawer o ddryswch ynghylch sut y mae’r gyfraith yn berthnasol i achosion o aflonyddu gan drydydd parti, felly mae’n werth mynd drwy’r pwyntiau allweddol yn y fan hon…","paragraph6":"Er nad yw’r Ddeddf Cydraddoldeb yn ymdrin yn benodol ag aflonyddu gan drydydd parti, nid yw hynny’n golygu bod modd i gyflogwyr ei anwybyddu! Mewn gwirionedd, gallai’r cyflogwr gael ei ystyried yn gyfrifol am yr aflonyddu os yw – drwy beidio â gweithredu – wedi cyfrannu at greu amgylchedd gelyniaethus, bygythiol neu ddiraddiol ar gyfer ei weithwyr.","paragraph7":"Ond nid y Ddeddf Cydraddoldeb yw’r unig ddeddf sy’n berthnasol yn yr achos hwn: dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol hollbwysig i gymryd camau rhesymol i warchod eu gweithwyr rhag anaf corfforol neu seicolegol y gellir ei ragweld. Ac wrth gwrs, gallai aflonyddu gan drydydd parti achosi anaf o’r fath.","paragraph8":"A dyna sydd wedi arwain at ddryswch. Ar ôl dirymu’r darpariaethau yn y Ddeddf Cydraddoldeb, a oedd yn ymwneud â thrydydd parti, mae llawer o bobl wedi tybio nad oes gan gyflogwyr mwyach unrhyw gyfrifoldebau cyfreithiol i fynd i’r afael ag achosion o aflonyddu gan drydydd parti. Ond nid yw hynny’n wir o gwbl.","paragraph9":"Dan ddeddfwriaeth ynghylch iechyd a diogelwch, mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol hollbwysig i gymryd camau rhesymol i warchod eu gweithwyr rhag anaf corfforol neu seicolegol y gellir ei ragweld. Ac wrth gwrs, gallai aflonyddu gan drydydd parti achosi anaf o’r fath."},"title":"Clust i wrando?"},"ede-02-020-120":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, nid yw Leonard yn ceisio rhwystro gyrfa Alana – y gwrthwyneb sy’n wir, mewn gwirionedd.","option2":"Ydy, mae ymddygiad Leonard yn gyfystyr ag aflonyddu ar sail rhyw.","option3":"Ydy, mae ymddygiad Leonard yn gyfystyr ag aflonyddu ar sail hil.","option4":"Ydy, mae ymddygiad Leonard yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail rhyw.","question":"Felly, beth yw eich barn am yr hyn yr ydych newydd ei weld? Yn eich barn chi, a yw Leonard wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Ers graddio y llynedd, mae Alana wedi bod yn gweithio fel Cynorthwy-ydd Ymchwil ym maes Peirianneg Amgylcheddol mewn prifysgol. Mae’n atebol i Arweinydd y Prosiect, Leonard, ac mae hanner ffordd drwy gyfarfod adolygu gydag ef. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Byddem yn cytuno â hynny. Mae sylwadau awgrymog Leonard ynghylch golwg Alana, a’r modd y mae’n defnyddio ei awdurdod i geisio ei gwthio i mewn i berthynas bersonol, yn gyfystyr ag aflonyddu ar sail rhyw.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, yn ein barn ni mae sylwadau awgrymog Leonard ynghylch golwg Alana, a’r modd y mae fel pe bai’n defnyddio ei awdurdod i geisio ei gwthio i mewn i berthynas bersonol, yn gyfystyr ag aflonyddu ar sail rhyw.","paragraph3":"Wel, byddem yn cytuno bod Leonard yn ymddwyn yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, yn ein barn ni mae ei sylwadau awgrymog ynghylch golwg Alana, a’r modd y mae’n defnyddio ei awdurdod i geisio ei gwthio i mewn i berthynas bersonol, yn golygu bod hwn yn achos o aflonyddu ar sail rhyw yn hytrach nag ar sail hil.","paragraph4":"Wel, mae’n wir bod Leonard yn ymddwyn yn anghyfreithlon. Fodd bynnag, yn ein barn ni mae ei sylwadau awgrymog ynghylch golwg Alana, a’r modd y mae’n defnyddio ei awdurdod i geisio ei gwthio i mewn i berthynas bersonol, yn golygu bod hwn yn achos o aflonyddu ar sail rhyw yn hytrach nag yn achos o wahaniaethu.","paragraph5":"Wrth gwrs, efallai nad yw’n fwriad gan Leonard geisio gwneud i Alana deimlo’n anghyffyrddus neu dan fygythiad, ond nid dyna’r brif ystyriaeth mewn achosion o aflonyddu: y brif ystyriaeth yw’r effaith y mae’r ymddygiad yn ei chael ar yr unigolyn arall.","paragraph6":"Felly, a yw hyn i gyd yn golygu ei bod yn debygol y byddai datblygu unrhyw fath o berthynas bersonol â chydweithiwr yn cael ei ystyried yn achos o aflonyddu? Wel, nac ydy. Er bod cyfuno perthynas broffesiynol â pherthynas bersonol yn gallu bod yn anodd, y gwir amdani yw bod llawer o barau’n cwrdd drwy eu gwaith, ac nid oes unrhyw gyfraith yn gwahardd hynny! Y peth allweddol yw sicrhau nad yw’r naill unigolyn na’r llall yn teimlo dan bwysau neu dan orfodaeth, ac nad yw’r berthynas bersonol yn cael unrhyw effaith ar eu gwaith."},"title":"Dringo’r ysgol?"},"ede-02-020-130":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydynt, nid ydynt yn sarhau Sandra yn ei hwyneb – dyw hi ddim hyd yn oed yn yr ystafell – felly, er bod eu hymddygiad yn amhroffesiynol, nid yw’n anghyfreithlon.","option2":"Ydynt, mae eu hymddygiad yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol.","option3":"Ydynt, mae eu hymddygiad yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol.","option4":"Ydynt, mae eu hymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu.","option5":"Ydynt, mae eu hymddygiad yn gyfystyr ag erlid.","question":"Mae’n amlwg nad yw Tamsin yn hapus â Fahim a Lucy. Felly, beth yw eich barn am yr olygfa hon? Yn eich barn chi, a ydynt wedi mynd yn rhy bell o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Fahim, Lucy a Tamsin yn gweithio yn yr adran Datblygu Staff mewn prifysgol. Maent wedi dod ynghyd i drafod y trefniadau ymarferol ar gyfer gweithdy newydd, ond yn gyntaf mae gan Fahim gyfrinach y mae am ei rhannu â’r lleill. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae sylwadau homoffobig a difrïol Fahim a Lucy yn annerbyniol ac yn gyfystyr ag aflonyddu. ","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae’r ffaith nad yw Fahim a Lucy yn sarhau Sandra yn ei hwyneb yn amherthnasol. Mae eu sylwadau homoffobig a difrïol yn dal yn gyfystyr ag aflonyddu.","paragraph3":"Wel, byddem yn cytuno bod Fahim a Lucy wedi mynd yn rhy bell, ond mae hynny oherwydd bod eu sylwadau homoffobig a difrïol yn gyfystyr ag aflonyddu.","paragraph4":"Y pwynt allweddol yw bod unigolyn – fel Tamsin – yn gallu gwneud honiad ynghylch achos o aflonyddu, hyd yn oed pan nad yw’r aflonyddu hwnnw wedi’i gyfeirio ati hi’n bersonol. Y rheswm am hynny yw bod aflonyddu’n cynnwys unrhyw ymddygiad y gellir ystyried yn rhesymol ei fod yn fygythiol, yn atgas, yn elyniaethus neu’n ddiraddiol i unigolyn arall."},"title":"Hel clecs"},"ede-02-020-140":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Nac ydy, mae’r hyn y mae Marianne wedi’i wneud yn rheolaeth wael, ond nid yw wedi gwneud dim byd anghyfreithlon gan nad yw taldra yn nodwedd warchodedig. ","option2":"Ydy, mae ymddygiad Marianne yn gyfystyr ag aflonyddu.","option3":"Ydy, mae ymddygiad Marianne yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol.","option4":"Ydy, mae ymddygiad Marianne yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol.","option5":"Ydy, mae Marianne yn erlid Tim.","question":"Beth yw eich barn am hynny? Yn eich barn chi, a yw Marianne wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Tim yn gweithio i Marianne yn y tîm caffael. Er eu bod yn cyd-dynnu’n eithaf da, mae Marianne yn hoffi tynnu coes Tim am ei daldra –mae’n 5 troedfedd 3 modfedd, felly fe yw aelod byrraf y tîm. Yn ddiweddar, cafodd ei alw’n “Tim bach twt” gan Marianne yn ystod cyfarfod â chyflenwr allanol, a wnaeth i Tim deimlo’n annifyr iawn.","paragraph2":"Ar ôl y cyfarfod, siaradodd Tim â Marianne am ei deimladau. Ond y cyfan wnaeth Marianne oedd chwerthin, gan ddweud nad oedd hi o ddifri ac nad oedd yn golygu dim wrth ei alw’n hynny. Ar ddiwedd y drafodaeth, dywedodd Marianne hyd yn oed bod gan Tim feddwl mawr ohono’i hun o ystyried ei fod mor fach."},"text2":{"paragraph1":"Byddem yn cytuno â hynny. Er nad yw sylwadau a bychaniadau Marianne yn ymwneud â nodwedd warchodedig, mae ei hymddygiad yn dal yn gyfystyr ag aflonyddu. ","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae’r ffaith nad yw sylwadau a bychaniadau Marianne yn ymwneud â nodwedd warchodedig yn amherthnasol. Mae’r ymddygiad hwn yn dal yn gyfystyr ag aflonyddu. ","paragraph3":"Rydych yn gywir ynghylch y ffaith bod Marianne yn ymddwyn yn anghyfreithlon, ond mae hynny oherwydd bod ei hymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu.","paragraph4":"Y darn allweddol o ddeddfwriaeth yn y fan hon yw Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997. Dan y Ddeddf honno, mae pob math o aflonyddu sy’n digwydd dro ar ôl tro yn anghyfreithlon, hyd yn oed os nad yw’n ymwneud â nodwedd warchodedig. Hynny yw, mae aflonyddu’n cynnwys unrhyw ymddygiad y gellir ystyried yn rhesymol ei fod yn fygythiol, yn atgas, yn elyniaethus neu’n ddiraddiol i unigolyn arall."},"title":"Yn fyr o amynedd"},"ede-02-020-150":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","option2":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","option3":"Aflonyddu","option4":"Erlid","option5":"Dim un o’r uchod","question":"Yn eich barn chi, beth y mae ymddygiad Maggie yn gyfystyr ag ef o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Maggie a rhai o’i chydweithwyr yn cael seibiant am goffi ac yn trafod y newyddion diweddaraf wrth i Jude gyrraedd. Dewiswch y botwm Chwarae i weld beth sy’n digwydd."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae Maggie yn erlid Jude. Erlid yw pan fydd rhywrai’n cael triniaeth niweidiol oherwydd eu bod wedi cyflwyno cwyn, neu’n bwriadu cyflwyno cwyn, ynghylch achos o aflonyddu neu wahaniaethu neu’u bod yn cefnogi cwyn o’r fath. Yn yr achos hwn, mae’n amlwg bod Jude yn cael ei herlid am wneud cwyn ynghylch Derek.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae Maggie yn erlid Jude. Erlid yw pan fydd rhywun yn cael triniaeth niweidiol oherwydd eu bod wedi cyflwyno cwyn, neu’n bwriadu cyflwyno cwyn, ynghylch achos o aflonyddu neu wahaniaethu neu’u bod yn cefnogi cwyn o’r fath. Yn yr achos hwn, mae’n amlwg bod Jude yn cael ei herlid am wneud cwyn ynghylch Derek."},"title":"Yn methu â chymryd jôc?"},"ede-02-020-160":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Nac ydy, mae gan Dmitri hawl i wrthod syniadau Hugh os nad yw’n cytuno â nhw.","option2":"Ydy, mae ymddygiad Dmitri yn gyfystyr ag erlid.","option3":"Ydy, mae ymddygiad Dmitri yn gyfystyr ag aflonyddu.","option4":"Ydy, mae ymddygiad Dmitri yn gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol.","option5":"Ydy, mae ymddygiad Dmitri yn gyfystyr â gwahaniaethu anuniongyrchol.","question":"Felly, beth yw eich barn am ymddygiad Dmitri? Yn eich barn chi, a yw’n gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Hugh wedi bod yn gweithio fel darlithydd mathemateg mewn prifysgol ers 12 mlynedd. Mae’n atebol i’r Pennaeth Adran, Dmitri.","paragraph2":"Mae Hugh yn uchel iawn ei barch, ac roedd ei berthynas â Dmitri yn arfer bod yn gadarnhaol iawn. Ond newidiodd hynny ychydig fisoedd yn ôl, ar ôl i Dmitri gyflogi Tanvir, sef darlithydd newydd sy’n ifanc ac yn amhrofiadol. Gofynnwyd i Hugh fod yn fentor i Tanvir, ac roedd yn fwy na pharod i wneud hynny. Yn ystod un o’u cyfarfodydd, fodd bynnag, holodd Tanvir ynghylch agweddau ar becyn ei swydd, a oedd yn dangos ei fod e’n cael sawl mantais na chawsant eu cynnig i Hugh.","paragraph3":"Ar ôl y cyfarfod, holodd Hugh Dmitri ynghylch y gwahaniaethau. I ddechrau, ceisiodd Dmitri wadu unrhyw annhegwch. Fodd bynnag, pan drodd Hugh y mater yn achos posibl o wahaniaethu ar sail oedran, sy’n fater mwy difrifol, newidiodd Dmitri ei feddwl a chytunodd i sicrhau bod pecyn swydd Hugh yn cyd-fynd â phecyn swydd Tanvir.","paragraph4":"Roedd Hugh yn hapus â hynny. Ond y drafferth yw bod agwedd Dmitri tuag ato wedi newid ers yr helynt. Er ei fod yn parhau’n gwrtais, nid yw mwyach yn gofyn am farn Hugh wrth wneud penderfyniadau allweddol. At hynny, yn ystod cyfarfodydd, mae fel pe bai’n gwrthod syniadau ac awgrymiadau Hugh yn ddiseremoni, heb unrhyw reswm da. Nid yw’n syndod bod Hugh yn teimlo’n fwyfwy ar y cyrion ac ar wahân i bawb arall."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae’n eithaf amlwg bod Dmitri yn trin Hugh yn llai ffafriol a bod hynny wedi’i achosi gan gŵyn Hugh ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran. Mae hynny’n golygu bod hwn yn achos o erlid anghyfreithlon.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, yn ein barn ni mae’n eithaf amlwg bod Dmitri yn trin Hugh yn llai ffafriol a bod hynny wedi’i achosi gan gŵyn Hugh ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran. Mae hynny’n golygu bod hwn yn achos o erlid anghyfreithlon.","paragraph3":"Wel, mae’n wir bod Dmitri yn trin Hugh yn llai ffafriol. Fodd bynnag, mae’n eithaf amlwg bod hynny wedi’i achosi gan gŵyn Hugh ynghylch gwahaniaethu ar sail oedran, sy’n golygu bod hwn yn achos o erlid anghyfreithlon yn hytrach nag unrhyw beth arall."},"title":"Dal dig?"},"ede-02-020-170":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, mae wedi ymddwyn mewn modd hollol dderbyniol.","option2":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail rhyw. ","option3":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail hil.","option4":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn erlid.","question":"Yn eich barn chi, a yw Sandeep wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol? "},"text1":{"paragraph1":"Mae pedwar gweithiwr newydd yn cwrdd â’i gilydd amser cinio. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae gofyn i rywun fynd allan gyda chi mewn sefyllfa gymdeithasol fel hyn yn hollol dderbyniol. Roedd Sandeep yn gwrtais iawn ac nid oedd yn ceisio gorfodi neb i wneud dim. ","paragraph2":"Mewn gwirionedd, does dim i awgrymu bod Sandeep wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Mae gofyn i rywun fynd allan gyda chi mewn sefyllfa gymdeithasol fel hyn yn hollol dderbyniol. Roedd Sandeep yn gwrtais iawn ac nid oedd yn ceisio gorfodi neb i wneud dim.","paragraph3":"Felly, pryd y gall sefyllfa fel hon droi’n sefyllfa fwy difrifol? Wel, pe bai Trish wedi gwrthod cynnig Sandeep a phe bai e’ wedi parhau i’w phoeni ar ôl iddi egluro nad oedd ganddi ddim diddordeb, gallai hynny gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail rhyw."},"title":"Cynnig anaddas?"},"ede-02-020-170-01":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, mae wedi ymddwyn mewn modd hollol dderbyniol.","option2":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail rhyw. ","option3":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail hil.","option4":"Ydy, gallai ei ymddygiad gael ei ystyried yn erlid.","question":"Yn eich barn chi, a yw Sandeep wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae’n ddechrau wythnos arall i Oscar, Trish, Sandeep ac Abby, pedwar ffrind sy’n astudio yn y brifysgol. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae gofyn i rywun fynd allan gyda chi mewn sefyllfa gymdeithasol fel hyn yn hollol dderbyniol. Roedd Sandeep yn gwrtais iawn ac nid oedd yn ceisio gorfodi neb i wneud dim. ","paragraph2":"Mewn gwirionedd, does dim i awgrymu bod Sandeep wedi gwneud unrhyw beth o’i le. Mae gofyn i rywun fynd allan gyda chi mewn sefyllfa gymdeithasol fel hyn yn hollol dderbyniol. Roedd Sandeep yn gwrtais iawn ac nid oedd yn ceisio gorfodi neb i wneud dim.","paragraph3":"Felly, pryd y gall sefyllfa fel hon droi’n sefyllfa fwy difrifol? Wel, pe bai Trish wedi gwrthod cynnig Sandeep a phe bai e’ wedi parhau i’w phoeni ar ôl iddi egluro nad oedd ganddi ddim diddordeb, gallai hynny gael ei ystyried yn aflonyddu ar sail rhyw."},"title":"Cynnig anaddas?"},"ede-02-020-180":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, nid yw Janice yn euog o ddim byd mwy na rheoli gyda phendantrwydd.","option2":"Ydy, mae Janice yn bwlio Gozie.","option3":"Ydy, mae ymddygiad Janice yn gyfystyr ag aflonyddu ar sail hil.","option4":"Ydy, mae ymddygiad Janice yn gyfystyr â gwahaniaethu ar sail hil.","option5":"Ydy, mae Janice yn erlid Gozie.","question":"Wel, roedd Gozie yn amlwg yn edrych ymlaen at ei ginio, ond bydd yn rhaid iddo ohirio ei gynlluniau. Beth yw eich barn am hynny? Yn eich barn chi, a yw Janice wedi croesi unrhyw ffiniau o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Janice yn arwain yr adran Datblygu Staff mewn prifysgol, ac mae ynghanol ei chyfarfod adolygu misol gyda’r tri arweinydd tîm sy’n atebol iddi: Gozie, Tamsin a Fahim. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Byddem yn cytuno â hynny. Yn ôl pob golwg, mater yn ymwneud â pherfformiad yn unig yw hwn, a’r unig beth y mae Janice wedi’i wneud yw rheoli gyda phendantrwydd er mwyn sicrhau bod Gozie yn canolbwyntio ar anfon y wybodaeth y mae arni ei hangen... fel y cytunwyd yn flaenorol.","paragraph2":"Wel, mae Janice yn sicr yn rheoli gyda phendantrwydd, ond yn ein barn ni nid oes unrhyw beth ynghylch ei hymddygiad sy’n gyfystyr â bwlio. Yn ôl pob golwg, mater yn ymwneud â pherfformiad yn unig yw hwn, a’r unig beth y mae Janice yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod Gozie yn canolbwyntio ar anfon y wybodaeth y mae arni ei hangen... fel y cytunwyd yn flaenorol.","paragraph3":"Wel, mae Janice yn sicr yn rheoli gyda phendantrwydd, ond yn ein barn ni nid oes unrhyw beth ynghylch ei hymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu – boed ar sail hil neu fel arall. Yn ôl pob golwg, mater yn ymwneud â pherfformiad yn unig yw hwn, a’r unig beth y mae Janice yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod Gozie yn canolbwyntio ar anfon y wybodaeth y mae arni ei hangen... fel y cytunwyd yn flaenorol.","paragraph4":"Wel, mae Janice yn sicr yn rheoli gyda phendantrwydd, ond yn ein barn ni nid oes unrhyw beth ynghylch ei hymddygiad sy’n gyfystyr â gwahaniaethu – boed ar sail hil neu fel arall. Yn ôl pob golwg, mater yn ymwneud â pherfformiad yn unig yw hwn, a’r unig beth y mae Janice yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod Gozie yn canolbwyntio ar anfon y wybodaeth y mae arni ei hangen... fel y cytunwyd yn flaenorol.","paragraph5":"Wel, mae Janice yn sicr yn rheoli gyda phendantrwydd, ond yn ein barn ni nid oes unrhyw arwydd ei bod yn erlid Gozie. Yn ôl pob golwg, mater yn ymwneud â pherfformiad yn unig yw hwn, a’r unig beth y mae Janice yn ceisio ei wneud yw sicrhau bod Gozie yn canolbwyntio ar anfon y wybodaeth y mae arni ei hangen... fel y cytunwyd yn flaenorol.","paragraph6":"Mae’n amlwg bod Janice wedi ymdrin â Gozie gyda phendantrwydd, ond drwy gydol y drafodaeth roedd hi’n broffesiynol, ni chododd ei llais a nododd yn glir beth yr oedd arni ei angen a pham. A dyw hi ddim wedi gofyn iddo wneud unrhyw beth afresymol: cafodd pawb fis cyfan o rybudd, a llwyddodd Tamsin a Fahim i fodloni’r terfyn amser yn hollol ddiffwdan. O ystyried hyn i gyd, mae ei hymddygiad yn ymddangos yn hollol resymol.","paragraph7":"Felly, pryd y gallai sefyllfa fel hon droi’n sefyllfa fwy difrifol? Wel, pe bai Janice wedi dechrau ymddwyn yn ymosodol neu’n sarhaus, neu wedi dechrau beirniadu Gozie yn annheg, gallai hynny gael ei ystyried yn ymddygiad sy’n gyfystyr ag aflonyddu neu wahaniaethu."},"title":"Gweithio dros ginio"},"ede-02-020-190":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, mae wedi ymddwyn mewn modd cwbl dderbyniol.","option2":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd.","option3":"Ydy, mae’n enghraifft o wahaniaethu anuniongyrchol ar sail anabledd.","option4":"Ydy, mae’n enghraifft o erlid.","question":"Yn eich barn chi, a yw Chris wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Chris yn ddarlithydd mewn prifysgol ac mae ar fin dod â seminar ar ddaeareg i ben gyda rhai o’i fyfyrwyr blwyddyn gyntaf. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Cywir, byddem yn cytuno â hynny – dyma enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud pob addasiad rhesymol posibl i sicrhau bod modd i fyfyrwyr ag anableddau gael mynediad i’r ystod lawn o wasanaethau a gynigir gennym.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, mae hyn yn enghraifft o wahaniaethu uniongyrchol ar sail anabledd. Mae dyletswydd gyfreithiol arnom i wneud pob addasiad rhesymol posibl i sicrhau bod modd i fyfyrwyr ag anableddau gael mynediad i’r ystod lawn o wasanaethau a gynigir gennym.","paragraph3":"Mae’n bwysig sylweddoli bod gwneud addasiadau rhesymol yn ddyletswydd ragflaenol – hynny yw, ni allwn aros nes y bydd unigolyn anabl yn ymgeisio am le ar gwrs neu’n ceisio defnyddio gwasanaeth, cyn meddwl pa addasiadau rhesymol y gellid eu gwneud.","paragraph4":"Felly, beth y dylai Chris fod wedi’i wneud yn y sefyllfa hon? Wel, yn ddelfrydol, dylai fod wedi ystyried anghenion Sue a threfnu cludiant addas yn llawer cynt. Fel arall, dylai fod wedi cynnig cludiant arall i Sue er mwyn sicrhau ei bod yn cael ei chynnwys yn y daith. Yn ogystal, dylai fod wedi gwneud unrhyw baratoadau angenrheidiol i sicrhau bod modd i Sue gymryd rhan mor llawn ag a oedd yn bosibl yn y daith maes.","paragraph5":"Y pwynt yw, drwy ystyried o flaen llaw a meddwl yn greadigol, mae fel rheol yn hawdd iawn diwallu anghenion pobl ag anableddau."},"title":"Man gwyn man draw"},"ede-02-020-200":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydynt, dim ond dadl danbaid yw hi.","option2":"Ydynt, mae’n enghraifft o aflonyddu ar sail hil.","option3":"Ydynt, mae’n enghraifft o wahaniaethu ar sail hil.","option4":"Ydynt, mae’n enghraifft o erlid.","question":"Yn eich barn chi, a yw Terry a George wedi gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae’n hwyr y nos mewn neuadd breswyl mewn prifysgol. Mae Deepak yn ceisio adolygu ond mae Terry a George newydd darfu arno, wrth iddynt ddod adref ar ôl noson allan. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Mae’n enghraifft eithaf clir o aflonyddu ar sail hil.","paragraph2":"Mewn gwirionedd, byddem yn dweud bod hyn yn enghraifft eithaf clir o aflonyddu ar sail hil.","paragraph3":"Defnyddiodd Terry a George iaith hiliol sarhaus. Mae geiriau megis “Paki” yn hynod sarhaus, ac mae’r un yn wir am sylwadau sy’n atgyfnerthu stereoteipiau negyddol hefyd, megis y sylw am redeg siop bapur newydd. Mae ymddygiad o’r fath yn anghyfreithlon ac ni chaiff ei oddef yn unrhyw le yn y brifysgol."},"title":"Does dim llonydd i’w gael"},"ede-02-040-010":{"text1":{"paragraph1":"Gan eich bod wedi gorffen yr adran hon yn awr, dylech fod yn gyfarwydd â deddfwriaeth allweddol ym maes cydraddoldeb a dylech fod yn gwybod pa fathau o ymddygiad a all gael eu hystyried yn wahaniaethu, yn aflonyddu neu’n erlid.","paragraph2":"Yn yr adran nesaf byddwn yn ystyried beth y dylech ei wneud os ydych yn dod ar draws ymddygiad annerbyniol yn y gwaith. Dewiswch y botwm Ymlaen i symud ymlaen i’r adran nesaf yn awr, neu’r botwm Hafan i fynd yn ôl i ddewislen y cwrs."},"title":"Crynodeb"},"ede-03":{"description":"Dyma gyfle i ddysgu sut mae dileu stereoteipiau a rhagdybiaethau negyddol.","title":"Dileu’r rhwystrau"},"ede-03-000-010":{"text1":{"paragraph1":"Os ydych am chwarae rhan lawn yn y gwaith o hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, mae angen yn gyntaf i chi wybod beth sydd o’ch blaen. Ac mae hynny’n golygu deall y prif rwystrau yr ydych yn debygol o’u hwynebu.","paragraph2":"Yn yr adran hon, byddwn yn ystyried beth yw’r rhwystrau hynny, sut y maent yn dod i fod, a sut y gallant achosi annhegwch. Ond yn bwysicach na dim, byddwn hefyd yn edrych ar rai o’r pethau ymarferol y gallwch eu gwneud i’w dileu. Dewiswch y botwm Ymlaen i ddechrau arni."},"title":"Cyflwyniad"},"ede-03-010-010":{"text1":{"paragraph1":"Felly, pam y mae rhai pobl yn trin pobl eraill yn annheg? Wel, yr hyn sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o anghydraddoldeb yw rhagfarn – agwedd negyddol ddi-sail tuag at aelodau o grŵp penodol. Un enghraifft amlwg yw rhagfarn ar sail hil.","paragraph2":"Ond beth yw tarddiad ein rhagfarnau? Yn yr adran hon, byddwn yn canolbwyntio ar bethau a gaiff eu hystyried yn gyffredinol yn dri sbardun allweddol: rhagdybiaethau, tuedd anymwybodol a stereoteipiau. Gadewch i ni ddechrau gyda phos bach…"},"title":"Deall rhagfarn"},"ede-03-020-010":{"question-footer":{"text":"Nodwch eich meddyliau yn y blwch testun, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni."},"question-header":{"text":"Sut y mae hynny’n bosibl?"},"text1":{"paragraph1":"Mae peilot a nyrs yn priodi.","paragraph2":"Un diwrnod, maent allan yn hedfan gyda’i gilydd mewn awyren fach.  ","paragraph3":"Maent yn dod ar draws tyrfedd cas, ac mae e’n cael ei daro’n anymwybodol.  ","paragraph4":"Fodd bynnag, mae ei wraig yn llwyddo i reoli’r awyren a glanio’n ddiogel."},"text2":{"paragraph1":"Y wraig yw’r peilot a’i gŵr yw’r nyrs, felly mae’n hollol naturiol ei bod yn gallu glanio’r awyren!","paragraph2":"Mae’n siŵr eich bod wedi sylweddoli eisoes mai bwriad y pos oedd datgelu unrhyw ragsyniadau – neu ragdybiaethau – a allai fod gennych ynghylch rolau dynion a menywod mewn cymdeithas. Os oedd eich ateb yn gywir, mae’n debyg ei fod yn dangos nad oes gennych unrhyw ragdybiaethau cryf yn y maes hwn, sy’n wych o beth. Ond nid yw’n golygu nad oes gennych unrhyw ragdybiaethau cryf mewn meysydd eraill!"},"title":"Pos rhagdybiaethau"},"ede-03-020-020":{"text1":{"paragraph1":"Yn ein hisymwybod, wrth i ni dyfu, byddwn yn datblygu rhagdybiaethau dwfn ynghylch y byd, ar sail y pethau yr ydym yn eu gweld ac yn eu profi o’n cwmpas. Gyda’i gilydd, mae’r rhagdybiaethau hynny’n diffinio ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n “normal” ac yn sail i’n gwerthoedd a’n credoau.","paragraph2":"Er bod rhagdybiaethau’n naturiol, gallant fod yn rhwystrau i gydraddoldeb. Y perygl yw eu bod yn gallu parhau’n ddigyfnewid a’u bod yn gallu ein hatal rhag gweld neu dderbyn sut y mae’r byd yn newid o’n cwmpas. Ac mae hynny’n berthnasol i’r rolau y mae gwahanol bobl yn eu cyflawni mewn cymdeithas.","paragraph3":"Yn waeth na hynny, mae ein rhagdybiaethau’n gallu sbarduno tuedd anymwybodol o blaid neu yn erbyn grwpiau penodol o bobl. Er enghraifft, gall meddwl bod pob peilot yn ddyn a bod pob nyrs yn fenyw ymddangos yn eithaf diniwed ynddo’i hun. Ond y drafferth yw mai bwlch bach yn unig sydd rhwng hynny a thybio mai dim ond dynion sydd â’r gallu i fod yn beilot ac mai dim ond menywod sydd â’r gallu i fod yn nyrs.","paragraph4":"Wrth gymryd y cam hwn, dyna pryd y bydd ein rhagdybiaethau a’n tueddiadau yn troi’n rhagfarnau a all beri i ni wneud penderfyniadau annheg sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl. Ac oherwydd nad ydym yn ymwybodol ohonynt, dydyn ni ddim hyd yn oed yn gwybod ein bod yn gwneud hynny!"},"title":"O ragdybiaethau i ragfarn "},"ede-03-020-030":{"text1":{"paragraph1":"Felly, beth y gallwch ei wneud i ddileu rhagdybiaethau a lleihau effeithiau tuedd anymwybodol?","paragraph2":"Wel, y cam cyntaf yn syml iawn yw ceisio dod yn ymwybodol ohonynt. Ceisiwch ddadansoddi eich safbwyntiau a’ch disgwyliadau ynghylch grwpiau penodol o bobl, a tharddiad eich safbwyntiau a’ch disgwyliadau. I ddechrau arni, gallai fod o help pe baech yn ceisio cofio am sefyllfaoedd lle cawsoch syndod o weld unigolyn yn cyflawni rôl benodol. Ceisiwch nodi’r rhesymau pam y cawsoch eich synnu: beth y mae’r rhesymau yn ei ddatgelu am eich safbwynt ar y byd?","paragraph3":"Yn ail, pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau am bobl, dylech wneud yn siŵr bob amser eu bod wedi’u seilio ar ffeithiau pendant a gwrthrychol yn hytrach nag “amheuon” amwys neu “deimladau greddfol”. Dylai hynny eich helpu i sicrhau nad yw tuedd anymwybodol yn dylanwadu arnoch.","paragraph4":"Yn olaf ond nid yn lleiaf, dylech bob amser geisio bod yn gadarnhaol ynghylch newidiadau mewn cymdeithas, a pheidio â’u diystyru yn ddiseremoni. Yn aml bydd pobl yn meddwl bod newid yn rhywbeth negyddol, dim ond oherwydd nad ydynt yn hoffi bod pethau’n newid. Cofiwch fod hanes wedi dangos mai’r bobl a’r sefydliadau mwyaf llwyddiannus yw’r rhai sydd fwyaf parod i achub ar y cyfleoedd y mae newid yn eu cynnig."},"title":"Dileu rhagdybiaethau"},"ede-03-030-010":{"drop-label1":{"text":"CATEGORI 1"},"drop-label2":{"text":"CATEGORI 2"},"drop-label3":{"text":"CATEGORI 3"},"question-footer":{"text":"Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch y botwm Cadarnhau. "},"question-header":{"text":"Edrychwch ar bob un o’r gwrthrychau a ddangosir yma, a cheisiwch eu grwpio’n dri chategori drwy eu llusgo i mewn i’r blychau."},"text1":{"paragraph1":"Er bod rhagdybiaethau a thuedd anymwybodol yn gallu sbarduno rhagfarn, gall stereoteipiau wneud hynny hefyd. Gadewch i ni ddechrau archwilio stereoteipiau gydag ymarfer syml…"},"text2":{"paragraph1":"Mae hynny’n gywir. Er bod y gwrthrychau i gyd yn wahanol, gallant gael eu grwpio gyda’i gilydd yn awyrennau, yn geir ac yn feiciau modur. On’d oedd yr ymarfer yna’n un hawdd?","paragraph2":"Wel, mae’r ateb yn sicr yn ddiddorol. Ond byddai’r rhan fwyaf o bobl wedi grwpio’r gwrthrychau’n awyrennau, yn geir ac yn feiciau modur, fel y dangosir yn awr.","paragraph3":"Diben yr ymarfer hwn oedd dangos pa mor dda y mae ymennydd pobl yn gallu sylwi ar batrymau a rhoi pethau mewn categorïau. Felly, pam yr ydym cystal am wneud hynny?","paragraph4":"Wel, yn ein bywydau o ddydd i ddydd, bydd gwybodaeth yn ein cyrraedd o bob cyfeiriad. Dim ond i chi gerdded i lawr y stryd gan edrych yn ofalus o’ch cwmpas, fe welwch chi filoedd o bethau gwahanol: ceir gwahanol, tai gwahanol, pobl wahanol, ac ati. Heb ryw ffordd neu’i gilydd o allu symleiddio cymhlethdod y byd sydd o’n cwmpas, fyddai dim modd i ni ddeall sefyllfaoedd yn sydyn ac ymateb iddynt. Ac yn y cynfyd, cyflymder ymateb oedd y gwahaniaeth yn aml rhwng bywyd a marwolaeth."},"text3":{"paragraph1":"Felly, sut y mae hynny i gyd yn berthnasol i stereoteipiau? Wel, yn yr un modd ag yr ydym yn gosod y gwrthrychau sydd o’n cwmpas mewn categorïau, rydym yn gwneud hynny hefyd gyda phobl, ar sail llawer o nodweddion: oedran, rhyw, hil, lliw ac ati.","paragraph2":"Nawr, does dim o’i le ar hynny ynddo’i hun. Mewn gwirionedd, gall grwpio pobl yn ôl nodweddion penodol fod yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd – pobl sydd â chyflyrau meddygol penodol, er enghraifft.","paragraph3":"Yr unig bryd y mae’n broblem yw pan fyddwn yn mynd â phethau gam ymhellach, ac nid yn unig yn gosod pobl mewn grwpiau ond hefyd yn cyffredinoli ynghylch ymddygiad, sgiliau a galluoedd y grwpiau hynny. Er enghraifft: “Dyw pobl hŷn ddim yn gallu defnyddio cyfrifiaduron yn dda iawn”, “Dyw menywod ddim yn gallu gweithredu gyda digon o bendantrwydd i ymgymryd â swyddi uwch”, ac ati.","paragraph4":"Caiff cyffredinoliad ynghylch grŵp penodol o bobl ei alw’n “stereoteip”, ac yn rhy aml o lawer mae stereoteip yn sail i ragfarn. Fel yn achos ein rhagdybiaethau, byddwn yn aml yn crynhoi stereoteipiau yn ystod ein blynyddoedd ffurfiannol. Ond byddwn fel rheol yn fwy ymwybodol o stereoteipiau. Felly, sut yn union y mae stereoteipiau’n creu rhwystrau i gydraddoldeb?","paragraph5":"Yr ateb yw pan fyddwn yn dechrau trin pobl ar sail stereoteip yn hytrach nag ar sail eu haeddiannau fel unigolion. Felly, er enghraifft, un peth yw meddwl nad yw pobl hŷn yn gallu defnyddio cyfrifiaduron yn dda iawn; peth arall yw mynd y tu hwnt i hynny, er enghraifft, drwy wrthod pob person hŷn ar gyfer rolau sy’n cynnwys cyfrifiaduron.","paragraph6":"Mewn gwirionedd, mae’n gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol, sy’n anghyfreithlon."},"title":"Beth yw stereoteipiau?"},"ede-03-030-040":{"text1":{"paragraph1":"Yr hyn sy’n gwneud stereoteipiau’n arbennig o niweidiol yw’r ffaith eu bod yn gallu troi’n “broffwydoliaethau hunangyflawnol”. Gadewch i ni edrych ar sut y gall hynny ddigwydd…","paragraph2":"Dewch i gwrdd ag Amisha sy’n rheoli adran weinyddu. Fel yng ngweddill y sefydliad, mae TG yn chwarae rôl fwyfwy pwysig yn adran Amisha.","paragraph3":"Mae Mike yn un aelod o dîm Amisha. Mae wedi bod yn gweithio i’r sefydliad ers amser maith, mewn amrywiaeth eang o swyddi. Mae yn ei bumdegau erbyn hyn.","paragraph4":"Oherwydd oedran Mike, mae Amisha yn credu nad oes ganddo lawer o ddiddordeb na llawer o allu pan ddaw’n fater o ddefnyddio cyfrifiaduron a systemau TG. Ar y dechrau, nid yw’r gred hon yn seiliedig ar ddim byd y mae Mike wedi’i ddweud na’i wneud – mae’r gred yn tarddu o farn wedi’i stereoteipio sydd gan Amisha am bobl hŷn.","paragraph5":"Felly, nid yw Amisha yn rhoi llawer o gyfleoedd i Mike fynd ar gyrsiau hyfforddiant ynghylch TG, ac mae’n tueddu i’w gyfeirio oddi wrth waith sy’n cynnwys cyfrifiaduron. Hynny yw, mae’n gwahaniaethu yn ei erbyn.","paragraph6":"Nid yw’n syndod, felly, bod sgiliau TG Mike yn dechrau mynd yn waeth na sgiliau TG ei gydweithwyr iau.","paragraph7":"O ganlyniad, pan fydd angen i Mike ddefnyddio cyfrifiadur, mae angen llawer o help arno’n ddieithriad ac mae’n cymryd llawer o amser i gwblhau unrhyw dasg.","paragraph8":"Mae’r cyfan hyn yn cadarnhau’r farn wedi’i stereoteipio sydd gan Amisha, sef nad yw Mike – fel pob person hŷn – yn dda iawn gyda chyfrifiaduron.","paragraph9":"Fel y gwelwch, mae’r cylch yn ailddechrau’n awr. Caiff ei alw’n broffwydoliaeth hunangyflawnol oherwydd bod cred gychwynnol Amisha wedi creu cyfres o ddigwyddiadau sydd, yn anochel, yn cadarnhau’r gred honno. Pan fydd cylch fel hyn yn dechrau, mae’n anodd iawn i unrhyw un dorri allan ohono."},"title":"Proffwydoliaethau hunangyflawnol?"},"ede-03-030-050":{"option1-label":{"text":"Cam 1"},"option1-text":{"paragraph1":"Y peth pwysicaf yw canolbwyntio bob amser ar yr unigolyn. Neilltuwch amser i ddod i adnabod a deall pobl, er mwyn i chi allu gweld y tu hwnt i unrhyw nodweddion arwynebol. A pheidiwch â chwilio am nodweddion sy’n eich galluogi i gategoreiddio pobl. Yn hytrach, chwiliwch am y pethau sy’n gwneud pob unigolyn yn unigryw."},"option2-label":{"text":"Cam 2"},"option2-text":{"paragraph1":"Byddwch yn ymwybodol o’r stereoteipiau yr ydych wedi dod i gysylltiad â nhw, ac ystyriwch sut y gallent amharu ar y modd yr ydych yn dirnad pobl eraill ac yn rhyngweithio â nhw. Bydd hynny’n eich helpu i sylwi pan fyddwch yn dechrau trin rhywun fel stereoteip yn hytrach nag fel person."},"option3-label":{"text":"Cam 3"},"option3-text":{"paragraph1":"Cydnabyddwch ein bod i gyd yn perthyn i nifer o grwpiau gwahanol, ac na all yr un o’r grwpiau hynny ddod yn agos at esbonio neu ddiffinio pwy ydym fel unigolion. Mae meddwl bod pawb sydd mewn grŵp penodol yr un fath â’i gilydd yr un mor annoeth â meddwl bod pob llyfr ffeithiol sydd mewn llyfrgell yr un fath!"},"text1":{"paragraph1":"Felly, sut y gallwch ddileu stereoteipiau ac osgoi syrthio i drap y broffwydoliaeth hunangyflawnol? Dewiswch bob un o’r botymau a ddangosir yma er mwyn cael ambell gyngor. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"title":"Dileu stereoteipiau"},"ede-03-040-010":{"text1":{"paragraph1":"Yn yr adran hon, buoch yn archwilio rhai o’r prif rwystrau i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant: rhagfarn, rhagdybiaethau, tuedd anymwybodol a stereoteipiau. Buoch yn ystyried sut y mae’r rhwystrau hynny’n dod i fod a beth y gallwch ei wneud i’w dileu.","paragraph2":"Yn yr adran nesaf, byddwn yn ystyried beth y dylech ei wneud os ydych yn dod ar draws ymddygiad annerbyniol yn y gwaith. Dewiswch y botwm Ymlaen i symud ymlaen i’r adran nesaf yn awr, neu’r botwm Hafan i fynd yn ôl i ddewislen y cwrs."},"title":"Crynodeb "},"ede-04":{"description":"Dyma gyfle i archwilio’r camau y dylech eu cymryd os ydych yn teimlo eich bod chi, neu unrhyw un arall, yn cael eich trin yn annheg. ","title":"Herio ymddygiad annerbyniol"},"ede-04-000-010":{"text1":{"paragraph1":"Fel yr ydych eisoes wedi gweld, mae deddfwriaeth gynhwysfawr ym maes cydraddoldeb wedi cael ei chyflwyno er mwyn helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg. Fodd bynnag, y gwir amdani yw nad yw’r cyfan hyn yn ddim byd mwy na geiriau ar bapur os na fyddwch chi a phawb arall sy’n gweithio yma’n cymryd camau gweithredu.","paragraph2":"Yn yr adran hon, byddwn yn archwilio pam y mae mor bwysig i chi herio ymddygiad annerbyniol, a’r camau y dylech eu cymryd os ydych yn teimlo eich bod chi, neu unrhyw un arall, yn cael eich trin yn annheg."},"title":"Cyflwyniad"},"ede-04-050-010":{"text1":{"paragraph1":"Os ydych yn gweld – neu’n dioddef – unrhyw ffurfiau ar aflonyddu neu wahaniaethu, mae gennych gyfrifoldeb i gymryd camau gweithredu. Ond pa gamau’n union y gallwch eu cymryd? Gadewch i ni chwilio am yr ateb..."},"text2":{"paragraph1":"Mae’n amser cinio ac mae Stuart, Peter a Harry yn cael sgwrs dros baned. Dewiswch y botwm Chwarae i wylio’r olygfa."},"text3":{"paragraph1":"Beth yw eich barn am hynny? Weithiau, bydd pobl yn honni bod modd esgusodi ymddygiad fel hyn neu’i fod hyd yn oed yn ddiniwed, ond y gwir amdani yw bod hyd yn oed yr hyn a elwir yn aflonyddu “lefel isel” – boed ar sail rhyw, homoffobia, hil neu unrhyw beth arall – yn gallu cael effaith niweidiol.","paragraph2":"Dyna pam y dylech herio ymddygiad annerbyniol bob amser, p’un a yw wedi’i anelu atoch chi neu at rywun arall, oherwydd fel arall mae’n debygol o ddigwydd eto. Y broblem yw bod herio pobl yn gofyn am ddewrder a hyder, felly gadewch i ni ystyried ambell gyngor ymarferol a rhai canllawiau a all fod o help."},"title":"Herio ymddygiad annerbyniol"},"ede-04-050-020":{"option1-label":{"text":"Cam 1"},"option1-text":{"paragraph1":"Y ffordd fwyaf effeithiol bob amser o herio ymddygiad annerbyniol yw ei herio’n syth. Peidiwch ag oedi yn y gobaith y bydd cyfle gwell yn codi’n nes ymlaen."},"option2-label":{"text":"Cam 2"},"option2-text":{"paragraph1":"Siaradwch yn bendant heb gynhyrfu, a pheidiwch â chael eich temtio i wenu neu chwerthin oherwydd mae’n bosibl na fyddant yn eich cymryd o ddifri."},"option3-label":{"text":"Cam 3"},"option3-text":{"paragraph1":"Byddwch yn glir ac yn benodol:","paragraph2":"Dywedwch wrthynt yn union beth oedd yn annerbyniol i chi.","paragraph3":"Disgrifiwch sut y gwnaeth hynny i chi deimlo.","paragraph4":"Esboniwch beth yr ydych am iddynt ei wneud – neu roi’r gorau i’w wneud – yn y dyfodol.","paragraph5":"Er enghraifft, gallech ddweud “Dydw i ddim yn hoffi’r sylwadau awgrymog r’ych chi wedi bod yn eu gwneud, maen nhw’n gwneud i fi deimlo’n annifyr ac yn anghyffyrddus. Byddwn yn gwerthfawrogi tasech chi’n rhoi’r gorau i’w gwneud nhw.”"},"option4-label":{"text":"Cam 4"},"option4-text":{"paragraph1":"Os yw’r unigolyn yn ceisio chwerthin am ben y ffaith eich bod yn ei herio, dywedwch wrtho/wrthi eich bod o ddifri ac esboniwch fod yr ymddygiad yn annerbyniol ac y gallai arwain at ganlyniadau difrifol iddo/iddi."},"option5-label":{"text":"Cam 5"},"option5-text":{"paragraph1":"Os yw’r unigolyn yn dechrau dadlau â chi ac os yw’r sefyllfa’n arwain at wrthdaro, cerddwch i ffwrdd. Bydd hynny’n dangos eich bod o ddifri ynghylch ei (h)ymddygiad."},"text1":{"paragraph1":"Dewiswch bob un o’r camau a ddangosir yma er mwyn cael ambell gyngor a chanllaw ynghylch sut i herio ymddygiad annerbyniol yn effeithiol. Dewiswch y botwm Ymlaen pan fyddwch wedi gorffen."},"text2":{"paragraph1":"Beth am ailystyried yr olygfa y buom yn edrych arni’n gynharach er mwyn gweld sut y gellir rhoi’r cyfan hyn ar waith..."},"title":"Ambell gyngor a chanllaw"},"ede-04-050-030":{"text1":{"paragraph1":"Yn ystod amser cinio, mae Harry wedi cael digon ac mae’n penderfynu dweud ei ddweud. Dewiswch y botwm Chwarae i weld beth sy’n digwydd."},"text2":{"paragraph1":"Wel, mae hynny fel pe bai wedi gweithio y tro hwn! Y gyfrinach oedd y modd yr aeth Harry ati:","paragraph2":"Dywedodd wrth Peter, heb gynhyrfu, beth oedd yn annerbyniol iddo.","paragraph3":"Disgrifiodd yr effaith yr oedd ei eiriau’n ei chael.","paragraph4":"Ac esboniodd beth yr oedd am i Peter ei wneud.","paragraph5":"Wrth gwrs, dim ond amser a ddengys a yw Peter wedi deall yn iawn beth y mae Harry wedi’i ddweud ond mae’n ddechrau da, o leiaf."},"title":"Rhoi’r cyfan ar waith"},"ede-04-050-040":{"text1":{"paragraph1":"Fel yr ydych newydd weld, gall siarad â’r unigolyn arall fod yn ffordd effeithiol yn aml o atal ymddygiad annerbyniol. Ond beth sy’n digwydd os nad yw hynny’n gweithio, neu os nad ydych yn teimlo eich bod yn gallu gwneud hynny?","paragraph2":"Os felly, dylech ddilyn y canllawiau a ddangosir yma: ","paragraph3":"Beth bynnag wnewch chi, peidiwch â dioddef yn ddistaw. Os ydych yn teimlo eich bod chi, neu unrhyw un arall, yn cael eich trin yn annheg, fe wnawn ni roi’r cymorth y mae arnoch ei angen i ddatrys y mater yn foddhaol."},"text2":{"paragraph1":"Yn gyntaf dylech ystyried siarad â’ch rheolwr llinell, a fydd yn gallu rhoi cyngor i chi a thrafod eich opsiynau â chi. Os nad yw hynny’n briodol neu os nad yw’n llwyddo i ddatrys materion yn foddhaol, gallwch gysylltu ag aelod o’r adran adnoddau dynol."},"title":"Cyfeirio’r broblem at swyddog uwch"},"ede-04-060-010":{"text1":{"paragraph1":"Yn yr adran hon, buom yn ystyried pam y mae mor bwysig i chi herio ymddygiad annerbyniol, a’r camau y dylech eu cymryd os ydych yn teimlo eich bod chi, neu unrhyw un arall, yn cael eich trin yn annheg.","paragraph2":"Yn yr adran nesaf, byddwn yn ystyried y polisïau a’r canllawiau yr ydym wedi’u cyflwyno i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Dewiswch y botwm Ymlaen i symud ymlaen i’r adran nesaf yn awr, neu’r botwm Hafan i fynd yn ôl i ddewislen y cwrs.","paragraph3":"Yn yr adran nesaf, byddwch yn gallu rhoi prawf ar eich dealltwriaeth o’r hyn yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef yn ystod y cwrs. Dewiswch y botwm Hafan i fynd yn ôl i ddewislen y cwrs."},"title":"Crynodeb "},"ede-05":{"description":"Dyma gyfle i gael gwybod mwy am y polisïau a’r canllawiau yr ydym wedi’u cyflwyno i hybu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.","title":"Ein polisïau a’n canllawiau"},"ede-06":{"description":"Dyma gyfle i wirio eich dealltwriaeth o’r hyn yr ydym wedi bod yn ymdrin ag ef yn ystod y cwrs. ","title":"Rhoi prawf ar eich dealltwriaeth"},"ede-quiz-01-010-010":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau. ","option1":"…yn ymwneud yn bennaf â sicrhau bod pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig yn cael eu trin yn deg ac yn cael yr un cyfleoedd â phobl eraill.","option2":"…yn ymwneud â thrin pobl yn deg, a chaiff ei ategu gan ddeddfwriaeth sy’n gwarchod pobl rhag cael eu trin yn llai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol.","option3":"…yn ymwneud â sicrhau bod grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynrychioli’n deg ar bob lefel mewn sefydliadau.","option4":"…yn ymwneud â sicrhau bod menywod yn cael cyfle cyfartal yn y gwaith a’u bod yn cael yr un tâl â’r dynion sy’n gwneud yr un gwaith â nhw.","question":"Yn eich barn chi, pa rai o’r canlynol sy’n nodweddion gwarchodedig? Mae cyfle cyfartal..."}},"ede-quiz-01-010-020":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Cydnabod, gwerthfawrogi a pharchu pob math o wahaniaeth mewn unigolion.","option2":"Gweithredu’n gadarnhaol i ddenu gweithwyr o’r ystod ehangaf posibl o ffynonellau.","option3":"Sicrhau bod grwpiau lleiafrifol yn cael eu cynrychioli’n deg ar bob lefel mewn sefydliadau.","option4":"Datblygu polisïau a gweithdrefnau i brif ffrydio materion yn ymwneud â chydraddoldeb mewn sefydliadau a gwarchod hawliau grwpiau lleiafrifol.","question":"Beth yw amrywiaeth?"}},"ede-quiz-01-010-030":{"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-agree},${manifest.player.question.option.choice-label-disagree}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Mae’n ein helpu i fod yn fwy creadigol ac arloesol.","option2":"Mae’n helpu i symleiddio’r broses recriwtio a dewis.","option3":"Mae’n ein galluogi i ddarparu gwasanaeth gwell i’r bobl yr ydym yn ymwneud â nhw. ","option4":"Mae’n ein galluogi i ddenu a chadw’r staff a’r myfyrwyr gorau.","question":"Beth yw rhai o’r prif fanteision y gall croesawu cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant eu cynnig i ni fel sefydliad? "}},"ede-quiz-01-010-040":{"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-true},${manifest.player.question.option.choice-label-false}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Erbyn hyn mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael yr un cyfleoedd o ran cyflogaeth a datblygiad gyrfa â phobl wyn.","option2":"Mae menywod yn dal i ennill llawer yn llai na dynion, ar gyfartaledd, ac nid ydynt yn cael eu cynrychioli’n ddigonol ar lefelau uwch.","option3":"Mae llawer o ddynion hoyw a lesbiaid yn dal i ddioddef achosion o aflonyddu a gwahaniaethu oherwydd eu cyfeiriadedd rhywiol.","option4":"Mae cyfraddau cyflogaeth ymhlith pobl anabl yn agos iawn yn awr at gyfraddau cyflogaeth pobl nad ydynt yn anabl.","question":"Pa rai o’r datganiadau canlynol sy’n wir?"}},"ede-quiz-02-010-010":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau. ","option1":"Oedran","option10":"Cyfeiriadedd rhywiol","option2":"Anabledd","option3":"Addysg neu gymwysterau","option4":"Ailbennu rhywedd","option5":"Priodas neu bartneriaeth sifil","option6":"Beichiogrwydd neu famolaeth","option7":"Hil","option8":"Crefydd neu gred","option9":"Rhyw","question":"Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ystod o nodweddion gwarchodedig. Yn eich barn chi, beth yw’r nodweddion hynny?"}},"ede-quiz-02-010-020":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","option2":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","option3":"Aflonyddu","option4":"Erlid","option5":"Dim un o’r uchod","question":"Enghraifft o beth yw hyn, o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Mark newydd ddechrau gweithio mewn adran lle mae mwyafrif ei gydweithwyr yn fenywod. Ers y diwrnod cyntaf, mae llawer o bryfocio ac ensynio wedi bod ynghylch y ffaith bod Mark ynghanol y menywod, ac mae hynny wedi gwneud i Mark deimlo’n fwyfwy annifyr ac anghyffyrddus yn y gwaith. Yn ddiweddar, mae wedi cyrraedd y pwynt lle mae Mark yn casáu mynd i’r gwaith bob bore."}},"ede-quiz-02-010-030":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","option2":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","option3":"Aflonyddu","option4":"Erlid","option5":"Dim un o’r uchod","question":"Enghraifft o beth yw hyn, o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Rajeev yn uwch-ddarlithydd mewn prifysgol ac mae Tina, un o’i ddarlithwyr mwyaf profiadol, wedi bod ar absenoldeb mamolaeth ers dau fis. Yn ddiweddar, mae wedi dweud wrtho nad yw’n bwriadu dychwelyd i’w swydd erbyn hyn.","paragraph2":"Mae Rajeev yn awr yn chwilio am rywun i gymryd lle Tina. Mae wedi cyfweld sawl ymgeisydd addawol, a gwnaeth Alison argraff dda arno. Mae’n fenyw ifanc y mae’n ymddangos bod ganddi’r holl sgiliau a’r holl rinweddau priodol ar gyfer y swydd. Yn ystod ei hail gyfweliad, fodd bynnag, mae Alison yn dweud wrth Rajeev ei bod ar fin priodi.","paragraph3":"Mae Rajeev yn poeni bod Alison yn bwriadu dechrau teulu, a allai olygu y bydd yn rhaid iddo chwilio am rywun i gymryd ei lle hi unwaith eto ymhen ychydig fisoedd. Felly, mae’n penderfynu cynnig y swydd i’r ymgeisydd gwrywaidd gorau."}},"ede-quiz-02-010-040":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","option2":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","option3":"Aflonyddu","option4":"Erlid","option5":"Dim un o’r uchod","question":"Enghraifft o beth yw hyn, o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Dechreuodd Jane weithio fel darlithydd mewn prifysgol ddwy flynedd yn ôl. Chwe mis yn ôl, rhoddodd dystiolaeth i gefnogi cydweithiwr yr oedd rhywun yn aflonyddu arni yn y gwaith, ar sail rhyw. O ganlyniad, cafodd rheolwr ei ddiswyddo a chafodd sawl aelod uwch o staff eu ceryddu am beidio â chymryd unrhyw gamau gweithredu i atal yr aflonyddu.","paragraph2":"Cyn y digwyddiad hwnnw, roedd gan bobl feddwl mawr o Jane ac roedd wedi cael ei dyrchafu ddwy waith. Yn ystod y chwe mis diwethaf, fodd bynnag, mae hynny wedi newid: yn awr, nid yw fel pe bai’n cael unrhyw adborth cadarnhaol ac mae’n tueddu i gael yr holl dasgau arferol a dibwys. At hynny, nid yw rhai o’i chydweithwyr a rhai o’r rheolwyr yn siarad fawr ddim â hi."}},"ede-quiz-02-010-050":{"options1":{"option1":"Gwahaniaethu uniongyrchol","option2":"Gwahaniaethu anuniongyrchol","option3":"Aflonyddu","option4":"Erlid","question":"Mae’n enghraifft o’r canlynol:"},"options2":{"option1":"Mae’n creu amgylchedd gelyniaethus, diraddiol neu atgas ar gyfer unrhyw rai nad oes ganddynt radd.","option2":"Mae’n cau pobl allan ar sail eu haddysg neu’u cymwysterau, sydd bob amser yn anghyfreithlon.","option3":"Mae pobl sy’n debygol o fod wedi bod dan anfantais yn addysgol oherwydd nodwedd warchodedig yn cael eu cau allan, yn ddiangen.","question":"Oherwydd..."},"question-footer":{"text":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau."},"question-header":{"text":"Enghraifft o beth yw hyn, o safbwynt cyfreithiol, a pham?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Davinder yn llunio hysbyseb swydd ar gyfer swydd weinyddu ran-amser. Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol ar gyfer y swydd ond mae Davinder yn cynnwys gofyniad ynghylch gradd, y mae’n ei gynnwys yn y rhan fwyaf o hysbysebion, oherwydd ei bod yn credu bod hynny’n ffordd ddefnyddiol o gael ymgeiswyr o safon uwch."}},"ede-quiz-02-010-060":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Ydy, mae ei ymddygiad yn gyfystyr ag aflonyddu.","option2":"Ydy, mae’n gwahaniaethu yn erbyn Tim.","option3":"Ydy, mae’n erlid Tim.","option4":"Nac ydy, efallai fod yr hyn y mae Roger yn ei wneud yn rheolaeth wael, ond nid yw wedi gwneud dim byd anghyfreithlon gan nad yw ei ymddygiad yn gysylltiedig â nodwedd warchodedig.","question":"Yn eich barn chi, a yw Roger yn gwneud unrhyw beth o’i le o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Tim yn gweithio i Roger yn y tîm prynu. Mae eu perthynas waith bob amser wedi bod yn dda, ond mae Roger yn hoffi tynnu coes Tim am ei acen Birmingham gref. Mae hyd yn oed wedi dechrau dynwared acen Tim mewn cyfarfodydd tîm, ac mae Tim yn teimlo bod hynny’n annymunol ac yn sarhaus.","paragraph2":"Mae Tim wedi siarad â Roger ynghylch sut y mae’n teimlo, ond nid yw Roger wedi cymryd unrhyw sylw ohono. Os rhywbeth, mae’r sefyllfa wedi gwaethygu, oherwydd mae Roger yn awr yn cellwair gyda’i gydweithwyr y dylent fod yn ofalus ynghylch beth y maent yn ei ddweud yng nghlyw Tim, gan ei fod yn “Frymi anarferol o sensitif”."}},"ede-quiz-02-010-070":{"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-agree},${manifest.player.question.option.choice-label-disagree}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Gall dargedu hysbysebion swyddi at grwpiau lleiafrifoedd ethnig. ","option2":"Gall gynnal diwrnod codi ymwybyddiaeth o swyddi ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn unig.","option3":"Gall sicrhau bod pob ymgeisydd o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynnwys yn awtomatig ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliadau.","option4":"Gall fynd ati’n fwriadol i ddewis pobl o grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn unig i lenwi’r swyddi.","question":"Mae Carla yn bennaeth Gwasanaethau Myfyrwyr ac mae angen iddi recriwtio dau aelod newydd o staff. Ar hyn o bryd, nid yw grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli’n ddigonol yn y tîm, ac mae Carla yn awyddus i fynd i’r afael â’r anghydbwysedd hwn. Pa gamau cyfreithlon y gall eu cymryd i wneud hynny?"}},"ede-quiz-02-010-080":{"drag-item1":{"label":"Erlid"},"drag-item2":{"label":"Aflonyddu"},"drag-item3":{"label":"Gwahaniaethu uniongyrchol"},"drag-item4":{"label":"Gwahaniaethu anuniongyrchol"},"drop-label1":{"text":"Triniaeth lai ffafriol ar sail un neu ragor o nodweddion gwarchodedig (hil, anabledd, rhyw ac ati)."},"drop-label2":{"text":"Darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol."},"drop-label3":{"text":"Ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas."},"drop-label4":{"text":"Triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater sy’n ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath."},"question-footer":{"text":"Parwch bob term â’r diffiniad cywir. Pan fyddwch wedi gorffen, dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni."},"question-header":{"text":"Beth yw’r diffiniadau cywir ar gyfer pob un o’r termau canlynol?"}},"ede-quiz-02-010-090":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Nac ydy, nid oes gan Suzanne gred grefyddol, felly nid yw deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol iddi.","option2":"Ydy, mae’n gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail rhyw.","option3":"Ydy, mae’n gyfystyr ag aflonyddu ar sail crefydd/cred.","option4":"Ydy, mae’n gyfystyr â gwahaniaethu uniongyrchol ar sail crefydd/cred.","question":"Mae’r grŵp fel pe bai’n bendant yn trin Suzanne yn annheg, ond a yw’r grŵp yn ymddwyn yn anghyfreithlon yn eich barn chi?"},"text1":{"paragraph1":"Mae Suzanne wedi bod yn gweithio yn yr adran gyflenwi mewn prifysgol ers tair blynedd. Mae’n anffyddiwr, ond mae llawer o’i chydweithwyr agosaf yn Gristnogion selog. Maent bob amser wedi bod yn un criw sy’n cymdeithasu â’i gilydd yn y gwaith a’r tu allan i’r gwaith, ond nid yw hynny erioed wedi poeni Suzanne.","paragraph2":"Yn ddiweddar, fodd bynnag, cafodd un o’r Cristnogion ei ddyrchafu’n arweinydd tîm, ac mae Suzanne wedi dechrau teimlo nad yw’n cael ei chynnwys ym mhenderfyniadau’r tîm. Aelodau’r grŵp sydd flaenaf ym mwyafrif y cyfarfodydd tîm, a hyd yn oed pan gaiff gyfle i fynegi ei meddyliau a’i syniadau personol, mae’n teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu’n gwrtais."}},"ede-quiz-02-010-100":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Y gallai unigolion sy’n dwyn honiadau ffug o wahaniaethu neu aflonyddu gerbron tribiwnlys gael eu dal yn gyfrifol am dalu’r holl gostau cyfreithiol.","option2":"Y gallai sefydliad gael ei ddal yn gyfrifol am wahaniaethu neu aflonyddu a gyflawnir gan weithwyr unigol.","option3":"Y gallai unigolion gael eu dal yn gyfrifol am unrhyw wahaniaethu neu aflonyddu a gyflawnir mewn sefydliad.","question":"Beth y mae “atebolrwydd dirprwyol” yn ei olygu?"}},"ede-quiz-02-010-110":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Nac ydy, oherwydd nad yw Rashid yn hoyw mewn gwirionedd, nid yw’r gyfraith yn ei warchod.","option2":"Ydy, gallai ddwyn achos o wahaniaethu ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","option3":"Ydy, gallai ddwyn achos o aflonyddu.","option4":"Ydy, gallai ddwyn achos o gael ei erlid ar sail cyfeiriadedd rhywiol.","question":"Yn eich barn chi, a yw Rashid mewn sefyllfa lle gallai ddwyn achos yn erbyn y sefydliad o safbwynt cyfreithiol?"},"text1":{"paragraph1":"Yn ddiweddar, mae Rashid wedi ymuno ag adran gyllid. Roedd yn teimlo’n gartrefol iawn yno ar y dechrau, ond mae pethau wedi gwaethygu ers parti Nadolig yr adran…","paragraph2":"Roedd y parti ar gyfer holl staff yr adran gyllid ac roedd croeso i wŷr a gwragedd, partneriaid neu ffrindiau ddod hefyd. Mae Rashid yn wahanrywiol ond mae’n rhannu tŷ ag Ian sy’n hoyw. Gan fod perthynas Rashid â’i gariad wedi dod i ben yn ddiweddar, penderfynodd Rashid wahodd Ian i’r parti. O ganlyniad, mae mwyafrif staff yr adran yn credu’n awr bod Rashid yn hoyw neu’n ddeurywiol.","paragraph3":"Ers y parti, mae Rashid wedi sylwi bod sawl unigolyn a oedd yn gyfeillgar iawn o’r blaen wedi ymbellhau oddi wrtho ac yn cadw draw. Mae’n ymddangos nad yw rhai ohonynt hyd yn oed yn barod i siarad o gwbl ag ef, gan gynnwys ei reolwr llinell. At hynny, nid yw’n cael ei wahodd mwyach i ddigwyddiadau cymdeithasol a drefnir gan bobl yn yr adran."}},"ede-quiz-02-010-120":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Nac ydy, bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal y tu allan i’r gweithle, felly ni fydd deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol iddo. ","option2":"Efallai, ond dim ond os bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn ystod oriau gwaith arferol.","option3":"Ydy, oherwydd bod hwn yn ddigwyddiad sy’n gysylltiedig â’r gwaith a bod deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn berthnasol iddo.","question":"Yn eich barn chi, a yw James wedi gwahaniaethu’n anghyfreithlon yn erbyn Lily ar sail ei chyfeiriadedd rhywiol?"},"text1":{"paragraph1":"Mae James yn trefnu digwyddiad yr haf ar gyfer ei dîm, ar gwrs rasio ceffylau lleol. Fel rheol, caiff pob aelod o’r tîm eu gwahodd i fynychu’r digwyddiad gyda’u partneriaid.","paragraph2":"Fodd bynnag, mae James yn gwybod bod un o’i weithwyr newydd, Lily, yn lesbiad ac mae’n poeni y gallai’r ffaith bod partner Lily yno ddigio rhai o aelodau eraill y tîm neu wneud iddynt deimlo’n annifyr. Felly, nid yw’n gwahodd partner Lily i’r digwyddiad."}},"ede-quiz-03-010-010":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Mae Bob yn credu nad yw menywod yn gallu gweithredu gyda digon o bendantrwydd i fod yn rheolwyr da.  ","option2":"Mae Lydia yn credu bod angen cyfleusterau gwell ar gyfer y sawl sy’n defnyddio cadair olwyn.","option3":"Mae Mariama yn credu bod gan bobl anabl anawsterau symud.","option4":"Mae Jaspal yn credu bod dynion hoyw’n fwy creadigol a bod ganddynt sgiliau cyfathrebu gwell.","option5":"Mae Craig yn credu y dylai’r gyfraith roi’r hawl i ddynion gael rhagor o absenoldeb tadolaeth.","question":"Pa rai o’r canlynol sy’n enghreifftiau o stereoteipiau? "}},"ede-quiz-03-010-020":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau er mwyn gweld sut hwyl gawsoch chi arni.","option1":"Proffwydoliaeth hunangyflawnol.","option2":"Cylch dieflig.","option3":"Cylch adborth.","option4":"Rhagdybiaeth.","question":"Un o’r pethau mwyaf peryglus am stereoteipiau yw’r ffaith bod barn gychwynnol wedi’i stereoteipio am unigolyn yn gallu creu cyfres o ddigwyddiadau sydd, yn anochel, yn cadarnhau’r farn honno. Beth yw’r enw ar hynny?"}},"ede-quiz-04-010-010":{"question1":{"choiceLabels":"${manifest.player.question.option.choice-label-agree},${manifest.player.question.option.choice-label-disagree}","instruction":"Dewiswch eich atebion, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Herio’r ymddygiad yn syth a pheidio ag aros tan yn nes ymlaen.","option2":"Siarad yn bendant heb gynhyrfu, er mwyn i’r unigolyn wybod eich bod o ddifri.","option3":"Bod yn glir ac yn benodol, er mwyn i’r unigolyn wybod beth yn union oedd yn annerbyniol i chi a pham.","option4":"Os yw’r unigolyn yn ceisio chwerthin am ben y ffaith eich bod yn ei herio, esboniwch y gallai’r ymddygiad arwain at ganlyniadau difrifol iddo/iddi.","option5":"Os yw’r sefyllfa’n arwain at wrthdaro, peidiwch ag ildio a daliwch eich tir.","question":"Sut y byddech yn mynd ati i herio ymddygiad annerbyniol yn y gwaith?"}},"ede-quiz-04-010-020":{"question1":{"instruction":"Dewiswch eich ateb, yna dewiswch y botwm Cadarnhau.","option1":"Cyflwyno cwyn swyddogol.","option2":"Codi’r mater gyda’ch rheolwr.","option3":"Siarad â’r unigolyn i esbonio sut yr ydych yn teimlo.","option4":"Cymryd camau i osgoi’r unigolyn.","option5":"Ceisio cael eich trosglwyddo i swydd arall. ","question":"Os ydych yn teimlo bod rhywun yn ymddwyn yn amhriodol yn y gwaith, beth yw’r peth cyntaf y dylech ystyried ei wneud? "}},"glossary":{"default-definition":"Dewiswch un o’r termau yn yr eirfa i weld y diffiniad ohono. ","entries":{"ageism":{"definition":"
Gwahaniaethu yn erbyn pobl ar sail tybiaethau a stereoteipiau ynghylch oedran.
","term":"Gwahaniaethu ar sail oedran"},"anti-semitism":{"definition":"
Gelyniaeth tuag at y ffydd Iddewig ac Iddewon.
","term":"Gwrth-Semitiaeth"},"bisexual":{"definition":"
Mae’n disgrifio unigolyn sy’n cael ei ddenu’n rhywiol at ddynion a menywod.
","term":"Deurywiol"},"black-and-minority":{"definition":"
Pobl o grwpiau cenedlaethol, diwylliannol a hiliol lleiafrifol sy’n byw yn y DU. Mae grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn cyfrif am oddeutu 14% o boblogaeth y DU, a gellir eu dadansoddi fel a ganlyn:

Asiaidd/Asiaidd Prydeinig – 7.5%.

Du/Affricanaidd/Caribïaidd/Du Prydeinig – 3.3%.

Cymysg/Grwpiau Aml-ethnig – 2.2%.

Arall – 1%.

","term":"Pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig "},"bullying":{"definition":"
Ffurf ar aflonyddu.
","term":"Bwlio"},"caste":{"definition":"
Yn hanesyddol mae rhai diwylliannau a chymdeithasau wedi mabwysiadu systemau dosbarthiadau cymdeithasol caeth, lle caiff pobl eu gosod mewn dosbarth penodol (cast) ar sail ffactorau megis eu statws neu’u gradd etifeddol, eu galwedigaeth, eu sefyllfa economaidd ac ati. Yn gyffredinol, ond nid yn ddieithriad, mae systemau castau’n gysylltiedig â De Asia, yn enwedig India.
","term":"Cast"},"civil-partnership":{"definition":"
Mae perthynas sifil yn berthynas rhwng dau berson a gaiff ei chydnabod yn ôl y gyfraith, ac mae’n rhoi iddynt fwyafrif y manteision a’r hawliau a gaiff parau priod.

Yn wreiddiol, cafodd partneriaethau sifil eu cyflwyno ar gyfer parau o’r un rhyw, dan Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004. Bryd hynny, nid oedd yn gyfreithlon i barau o’r un rhyw briodi, ond newidiwyd hynny yn 2014.

Am gyfnod, creodd hynny anghydbwysedd lle gallai parau o’r un rhyw ddewis priodi neu fod mewn partneriaeth sifil, tra priodi oedd yr unig ddewis i barau cymysg. Aethpwyd i’r afael â hynny ddiwedd 2019, pan gafodd yr opsiwn o fod mewn partneriaeth sifil ei ymestyn i barau cymysg hefyd.
","term":"Partneriaeth sifil"},"direct-discrimination":{"definition":"
Triniaeth lai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig.

Mae enghreifftiau o wahaniaethu uniongyrchol yn cynnwys:

Penderfynu peidio â chyflogi neu dderbyn rhywun oherwydd bod yr unigolyn hwnnw o grŵp lleiafrif ethnig penodol.

Diswyddo rhywun neu gau rhywun allan oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n hoyw.

Gwrthod rhoi hyfforddiant neu fanteision eraill i rywun oherwydd bod yr unigolyn hwnnw’n anabl.

Gwrthod dyrchafu menyw oherwydd ei bod newydd briodi.

","term":"Gwahaniaethu uniongyrchol "},"disability":{"definition":"
Y diffiniad cyfreithiol o anabledd yw nam corfforol neu feddyliol sy’n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor ar allu unigolyn i gyflawni gweithgareddau arferol o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys ystod eang o:

Namau’n ymwneud â’r gallu i symud, y clyw, lleferydd, y golwg a sgiliau echddygol manwl.

Anableddau ac anawsterau dysgu, gan gynnwys syndrom Down a dyslecsia.

Cyflyrau iechyd corfforol, gan gynnwys canser, HIV, sglerosis ymledol, epilepsi a diabetes.

Cyflyrau iechyd meddwl, gan gynnwys sgitsoffrenia ac iselder.

","term":"Anabledd"},"disability-confident":{"definition":"
Cynllun gwirfoddol Llywodraeth y DU, lle mae cyflogwyr yn ymrwymo’n benodol i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl anabl.
","term":"Hyderus o ran Anabledd"},"discrimination":{"definition":"
Rhoi unigolyn neu grŵp o bobl dan anfantais yn anghyfreithlon oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig. O safbwynt cyfreithiol, ceir dau fath o wahaniaethu:

Gwahaniaethu uniongyrchol.

Gwahaniaethu anuniongyrchol.

","term":"Gwahaniaethu"},"discrimination-by-association":{"definition":"
Gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd bod gan yr unigolyn hwnnw gysylltiad â phobl sydd â nodwedd warchodedig, e.e. perthynas anabl. Mae gwahaniaethu oherwydd cysylltiad yn berthnasol i bob nodwedd warchodedig, ar wahân i un, sef priodas/partneriaeth sifil.
","term":"Gwahaniaethu oherwydd cysylltiad"},"discrimination-by-perception":{"definition":"
Gwahaniaethu yn erbyn unigolyn oherwydd cred bod gan yr unigolyn hwnnw nodwedd warchodedig, hyd yn oed os nad yw hynny’n wir. Felly, er enghraifft, byddai’n anghyfreithlon gwrthod rhoi swydd i rywun oherwydd cred ei fod yn feichiog, p’un a yw’n feichiog mewn gwirionedd ai peidio. Mae gwahaniaethu oherwydd canfyddiad yn berthnasol i bob nodwedd warchodedig, ar wahân i un, sef priodas/partneriaeth sifil.
","term":"Gwahaniaethu oherwydd canfyddiad"},"diversity":{"definition":"
Mae amrywiaeth yn ymwneud â pharchu a gwerthfawrogi pob math o wahaniaeth mewn unigolion, ac ymdrechu’n gadarnhaol i ddiwallu anghenion amryw bobl.
","term":"Amrywiaeth"},"environmentalism":{"definition":"
Ymrwymiad i warchod, adfer a gwella’r amgylchedd naturiol drwy, er enghraifft, rheoli llygredd. Dan ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb, gall amgylcheddaeth – ac unrhyw gred arall sy’n sail i fywyd unigolyn, boed yn grefyddol ai peidio – gael ei hystyried yn nodwedd warchodedig.
","term":"Amgylcheddaeth"},"equality-act":{"definition":"
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r prif ddarn o ddeddfwriaeth ym maes cydraddoldeb sydd mewn grym heddiw. Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig.
","term":"Deddf Cydraddoldeb 2010"},"equality-impact-assessment":{"definition":"
Proses strwythuredig ar gyfer asesu effaith unrhyw bolisi, prosiect neu gynllun ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob corff cyhoeddus i asesu effaith yr hyn a wnânt, er mwyn sicrhau na fyddant yn rhoi grwpiau penodol dan anfantais yn anfwriadol.
","term":"Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb"},"equality-of-opportunity":{"definition":"
Term sy’n cynnwys deddfwriaeth a gyflwynwyd i helpu i sicrhau bod pobl yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt yn cael eu rhoi dan anfantais ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig.

Er bod deddfwriaeth ym maes cydraddoldeb yn arfer cynnwys ystod eang o wahanol ddeddfau a rheoliadau, daeth Deddf Cydraddoldeb 2010 â llawer ohoni dan un ymbarél.
","term":"Cyfle cyfartal"},"equivalent-work":{"definition":"
Mae gan ddynion a menywod hawl gyfreithiol i driniaeth gyfartal a chyflog cyfartal pan fyddant yn cyflawni gwaith cyfartal ar gyfer yr un cyflogwr. Dan y gyfraith, gall gwaith cyfartal gael ei ystyried yn:

Waith tebyg.

Gwaith y bernir ei fod yn gyfartal.

Gwaith sydd o werth cyfartal.

","term":"Gwaith cyfartal "},"ethnicity":{"definition":"
Y modd y mae unigolyn yn uniaethu â grŵp sy’n rhannu unrhyw un neu bob un o’r canlynol: cenedligrwydd, ffordd o fyw, crefydd, arferion ac iaith.
","term":"Ethnigrwydd"},"gender":{"definition":"
Rhyw unigolyn neu’i hunaniaeth o ran rhywedd. Yn hanesyddol, tueddwyd i ystyried rhywedd mewn termau gwrywaidd/benywaidd deuaidd, ar sail y rhyw a bennwyd i unigolyn adeg ei eni. Yn fwy diweddar, mae safbwyntiau ynghylch rhywedd wedi ehangu i gynnwys y canlynol:

Hunaniaeth o ran rhywedd – y rhyw y mae unigolyn yn uniaethu ag ef (nid o reidrwydd y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni).

Mynegiant rhywedd – y modd y mae unigolyn yn dewis mynegi ei rywedd yn allanol.
O ganlyniad, mae’r ffordd ddeuaidd draddodiadol o ystyried rhywedd yn llai cyffredin o lawer erbyn hyn. Dyma rai termau a gaiff eu defnyddio’n aml i gyfeirio at rywedd:
Cisryweddol neu cis – rhywun y mae ei hunaniaeth o ran rhywedd yr un fath â’r rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni.

Dysfforia rhywedd – teimladau o annifyrrwch neu ofid a brofir gan unigolyn am nad yw’r rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni’n cyfateb i’w hunaniaeth o ran rhywedd.

Rhyweddhylifol – rhywun nad yw’n ystyried bod ganddo un rhywedd sefydlog.

Rhyngrywiol – rhywun sydd â nodweddion biolegol y ddau ryw.

Anneuaidd – unigolyn nad yw’n ei ystyried ei hun yn wrywaidd yn unig neu’n fenywaidd yn unig, neu a allai fod yn ei ystyried ei hun yn wrywaidd ac yn fenywaidd.

Traws – rhywun y mae ei hunaniaeth o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni.

","term":"Rhywedd"},"gender-pay-gap":{"definition":"
Y gwahaniaeth rhwng cyfartaledd enillion dynion a menywod yn y gwaith. Er gwaethaf ymdrechion diweddar i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, mae menywod yn dal i ennill bron 20% yn llai na dynion ar gyfartaledd.
","term":"Bwlch cyflog rhwng y rhywiau"},"gender-reassignment":{"definition":"
Proses yw ailbennu rhywedd, lle caiff y modd y mae unigolyn yn mynegi ei rywedd – hynny yw, y modd y mae pobl eraill yn ei weld – ei newid. Gall ailbennu rhywedd fod yn broses sy’n cynnwys triniaeth feddygol, ond nid oes angen iddi gynnwys triniaeth o’r fath.

Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd warchodedig, ac mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol oherwydd ei fod yn bwriadu newid y modd y mae’n mynegi ei rywedd neu’i fod wedi dechrau neu gwblhau’r broses honno.

Mae’n bwysig deall bod ailbennu rhywedd yn wahanol i ryw, sy’n nodwedd warchodedig. Dan Ddeddf Cydnabod Rhywedd 2004, rhaid i unigolyn trawsryweddol gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd er mwyn newid y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni. Heb y dystysgrif hon, ei ryw yn ôl y gyfraith fydd y rhyw a bennwyd iddo adeg ei eni.

Dan adran 22 y Ddeddf Cydnabod Rhywedd, gall fod yn drosedd os caiff gwybodaeth ynghylch cais unigolyn am Dystysgrif Cydnabod Rhywedd, neu ynghylch y ffaith bod unigolyn wedi cael tystysgrif o’r fath, ei datgelu heb ganiatâd yr unigolyn trawsryweddol. Mae hynny’n arbennig o berthnasol i staff adnoddau dynol sy’n trin cofnodion personél.
","term":"Ailbennu rhywedd"},"harassment":{"definition":"
Ymddygiad nas dymunir sy’n tarfu ar urddas unigolyn neu sy’n creu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol neu atgas.

Gall aflonyddu amrywio o fod yn fwlio neu’n gyswllt corfforol amhriodol agored i fod yn ymddygiad mwy cynnil megis defnyddio llysenwau, ensynio, tynnu coes, galw enwau ac ati. Dyma ddau bwynt allweddol i’w cadw mewn cof:

Gall unigolion wneud honiad ynghylch achos o aflonyddu, hyd yn oed os nad yw’r ymddygiad wedi’i gyfeirio atyn nhw’n bersonol, cyhyd â’u bod yn gallu dangos ei fod yn creu amgylchedd atgas ar eu cyfer.

Hyd yn oed pan nad oes unrhyw fwriad maleisus, gall yr hyn y mae unigolyn yn ei ddweud a’i wneud fod yn gyfystyr ag aflonyddu, os gellir disgwyl yn rhesymol i hynny darfu ar urddas neu greu amgylchedd bygythiol, gelyniaethus, diraddiol, bychanol neu atgas.

Mae aflonyddu ar sail y rhan fwyaf o nodweddion gwarchodedig yn anghyfreithlon dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Dan y Ddeddf, gall hyd yn oed un digwyddiad rhwng dau weithiwr gael ei ystyried yn aflonyddu, os yw’n ddigon difrifol.

Ond beth os nad yw’r aflonyddu yn seiliedig ar nodwedd warchodedig? Wel, dan Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997, mae pob math o aflonyddu sy’n digwydd dro ar ôl tro yn anghyfreithlon, hyd yn oed os nad yw’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig.
","term":"Aflonyddu"},"heterosexual":{"definition":"
Mae’n disgrifio unigolyn sy’n cael ei ddenu’n rhywiol at aelodau o’r rhyw arall.
","term":"Gwahanrywiol"},"homophobic":{"definition":"
Agweddau neu ymddygiad gelyniaethus neu wahaniaethol tuag at bobl sydd – neu y credir eu bod – yn ddynion hoyw, yn lesbiaid neu’n bobl ddeurywiol.
","term":"Homoffobig"},"homosexual":{"definition":"
Mae’n disgrifio unigolyn sy’n cael ei ddenu’n rhywiol at aelodau o’r un rhyw.
","term":"Cyfunrhywiol"},"indirect-discrimination":{"definition":"
Darpariaethau, meini prawf, polisïau, rheolau ac arferion sy’n berthnasol i bawb ond sy’n rhoi pobl â nodwedd warchodedig dan anfantais, yn ddiangen ac yn anfwriadol.

Gall gwahaniaethu anuniongyrchol fod yn anodd i’w adnabod, oherwydd yn aml bydd o leiaf rhywfaint o aneglurder ynghylch beth sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion go iawn o ran busnes. Fodd bynnag, dyma rai enghreifftiau o sefyllfaoedd a allai gael eu hystyried yn wahaniaethu anuniongyrchol:

Pennu isafswm taldra gofynnol ar gyfer swydd codi a chario, sy’n golygu bod menywod – sy’n tueddu i fod yn fyrrach na dynion – yn cael eu rhoi dan anfantais.

Mynnu bod pawb yn gweithio oriau sy’n annerbyniol i bobl o rai crefyddau, heb o leiaf ystyried trefniadau gweithio hyblyg.

","term":"Gwahaniaethu anuniongyrchol"},"institutional-racism":{"definition":"
Methiant sefydliad cyfan i ddarparu gwasanaeth priodol a phroffesiynol i bobl oherwydd eu lliw, eu diwylliant neu’u tarddiad ethnig. Gellir ei weld neu’i synhwyro mewn prosesau, agweddau ac ymddygiad sy’n gyfystyr â gwahaniaethu, drwy ragfarn, anwybodaeth a difaterwch diarwybod a thrwy stereoteipio hiliol sy’n rhoi pobl o leiafrifoedd ethnig dan anfantais. (Cyfieithiad o ddyfyniad allan o The Macpherson Report)
","term":"Hiliaeth gyfundrefnol"},"lgbt":{"definition":"
Caiff yr acronym Saesneg LGBT ei ddefnyddio’n aml wrth gyfeirio at y grŵp hwn o bobl.
","term":"Pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsryweddol"},"mainstreaming":{"definition":"
Y broses a ddefnyddir gan sefydliad i sicrhau bod ystyriaethau’n ymwneud â chyfle cyfartal yn rhan annatod o’i holl weithgareddau.
","term":"Prif ffrydio"},"minority-ethnic-group":{"definition":"
Y term a ddefnyddir i gyfeirio at bobl sy’n perthyn i grŵp ethnig y mae nifer lai o bobl yn perthyn iddo na’r grŵp ethnig mwyafrifol (gwyn) yn y DU.
","term":"Grŵp lleiafrif ethnig "},"occupational-requirement":{"definition":"
Nodwedd a gaiff ei hystyried yn hanfodol er mwyn cyflawni swydd benodol.

Wrth benderfynu a yw rhywbeth yn ofyniad galwedigaethol, mae’n rhaid ystyried natur y gwaith a’r cyd-destun y caiff y gwaith ei gyflawni ynddo. Er enghraifft, gallai ysgol Gatholig ddadlau bod angen pennaeth Catholig arni ond mae’n debyg na fyddai modd iddi fynnu bod y gofalwr yn Gatholig.

Mae gofynion galwedigaethol bob amser yn agored i her, ac os cânt eu herio cyfrifoldeb y cyflogwr yw profi eu bod yn angenrheidiol, a bydd yn rhaid iddo gyflwyno tystiolaeth i’w cyfiawnhau.
","term":"Gofyniad galwedigaethol"},"pansexual":{"definition":"
Mae’n disgrifio unigolyn sy’n teimlo atyniad rhywiol, cariad rhamantus neu atyniad emosiynol tuag at bobl o unrhyw ryw neu unrhyw hunaniaeth o ran rhywedd. Caiff unigolyn o’r fath ei alw hefyd yn berson omnirywiol.
","term":"Panrywiol"},"positive-action":{"definition":"
Unrhyw weithredu cyfreithlon a gyflawnir er mwyn gwella cynrychiolaeth grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Mae enghreifftiau o weithredu cadarnhaol yn cynnwys y canlynol:

Llunio hysbysebion swyddi i gyrraedd aelodau o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, a’u hannog i ymgeisio, e.e. drwy ddefnyddio gwasg lleiafrifoedd ethnig.

Defnyddio asiantaethau cyflogaeth a swyddfeydd gyrfaoedd mewn ardaloedd lle ceir llawer o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

Annog gweithwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymgeisio am gyfleoedd i gael eu dyrchafu neu’u trosglwyddo.

Darparu hyfforddiant datblygu gyrfa i weithwyr o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, nad oes ganddynt arbenigedd penodol ond sy’n dangos potensial.

Fel sefydliad, rydym wedi dewis gweithredu’n gadarnhaol mewn penderfyniadau ynghylch recriwtio a dyrchafu hefyd. Mae hynny’n ein galluogi i ffafrio ymgeiswyr o grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ond dim ond wrth ddewis rhwng dau neu ragor o ymgeiswyr y mae eu haeddiant yn gyfartal.

Dan y Ddeddf Cydraddoldeb, gall sefydliadau hefyd ddewis ffafrio ymgeiswyr o grwpiau gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, ond dim ond wrth ddewis rhwng dau neu ragor o ymgeiswyr y mae eu haeddiant yn gyfartal. Rydym wedi dewis peidio â mabwysiadu’r mesur hwn, oherwydd mae’n anodd penderfynu pryd y mae haeddiant dau neu ragor o ymgeiswyr yn wirioneddol gyfartal. Fodd bynnag, rydym yn cymryd camau i weithredu’n gadarnhaol, gan gynnwys yr holl enghreifftiau a nodir uchod, er mwyn sicrhau bod gennym yr ystod orau posibl o ymgeiswyr i ddewis o’u plith wrth recriwtio neu ddyrchafu ein staff.
","term":"Gweithredu cadarnhaol"},"positive-discrimination":{"definition":"
Gwneud penderfyniadau sy’n ffafrio yn weithredol grŵp gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, e.e. mynd ati’n fwriadol i recriwtio person du er mwyn gwella cynrychiolaeth pobl dduon mewn adran benodol. Mae gwahaniaethu cadarnhaol bron bob amser yn anghyfreithlon, oherwydd mae’n golygu bod pobl mewn grwpiau mwyafrifol yn cael eu rhoi dan anfantais annheg.

Mae’n bwysig peidio â drysu rhwng gwahaniaethu cadarnhaol a gweithredu cadarnhaol, sy’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu cyfreithlon a gymerir er mwyn gwella cynrychiolaeth grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
","term":"Gwahaniaethu cadarnhaol "},"preconceptions":{"definition":"
Rhagsyniadau ynghylch y byd a’r rolau y mae gwahanol bobl yn eu cyflawni mewn cymdeithas. Yn ein hisymwybod, wrth i ni dyfu, byddwn yn datblygu rhagdybiaethau dwfn ynghylch y byd, ar sail y pethau yr ydym yn eu gweld ac yn eu profi o’n cwmpas. Y perygl gyda rhagdybiaethau yw eu bod yn gallu sbarduno tuedd anymwybodol o blaid neu yn erbyn grwpiau penodol o bobl. Er enghraifft, bwlch bach yn unig sydd rhwng meddwl bod pob peilot yn ddyn a thybio mai dim ond dynion sydd â’r gallu i fod yn beilot.
","term":"Rhagdybiaethau"},"prejudice":{"definition":"
Agwedd negyddol ddi-sail tuag at aelodau o grŵp penodol, e.e. hil benodol.
","term":"Rhagfarn"},"protected-characteristics":{"definition":"
Dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n anghyfreithlon trin unrhyw un yn llai ffafriol ar sail ystod o ffactorau penodol, a elwir yn nodweddion gwarchodedig. Dyma’r naw nodwedd warchodedig a ddiffinnir yn y Ddeddf:

Oedran

Anabledd

Ailbennu rhywedd

Priodas neu bartneriaeth sifil

Beichiogrwydd neu famolaeth

Hil

Crefydd neu gred

Rhyw

Cyfeiriadedd rhywiol.

","term":"Nodweddion gwarchodedig"},"public-sector-equality":{"definition":"
Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb yn rhoi dyletswydd gyfreithiol arbennig ar gyrff cyhoeddus i hybu cydraddoldeb yn weithredol. Fe’i gelwir yn Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac mae’n mynnu bod pob corff cyhoeddus:

Yn diffinio’r camau y maent yn eu cymryd i ddileu annhegwch, hybu cyfle cyfartal a meithrin cydberthnasau da ar draws y nodweddion gwarchodedig.

Yn asesu effaith yr hyn a wnânt ar bobl sydd â gwahanol nodweddion gwarchodedig, er mwyn sicrhau nad ydynt yn rhoi grwpiau penodol dan anfantais yn anfwriadol.

","term":"Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus"},"race-racial-group":{"definition":"
Yn ôl y Ddeddf Cydraddoldeb, hil yw unrhyw grŵp o bobl sy’n rhannu’r un:

lliw,

cenedligrwydd,

tarddiad ethnig,

tarddiad cenedlaethol.

Yn ogystal, cadarnhawyd erbyn hyn bod cast yn gallu cael ei ystyried yn ôl y gyfraith yn agwedd ar hil.

Caiff nifer o gymunedau sipsiwn a theithwyr eu cydnabod yn grwpiau hil, gan gynnwys:

Sipsiwn Romani,

Teithwyr Gwyddelig,

Sipsiwn a Theithwyr Albanaidd.

Weithiau, ceir gorgyffwrdd rhwng hil a chrefydd, sy’n golygu bod rhai grwpiau crefyddol – megis Siciaid ac Iddewon – hefyd yn cael eu cydnabod yn ôl y gyfraith yn grwpiau hil.
","term":"Hil/grŵp hil"},"racism":{"definition":"
Rhagfarn lle caiff grwpiau hil penodol eu hystyried yn israddol. Caiff y term ei ddefnyddio hefyd i ddisgrifio ymddygiad gwahaniaethol ar sail hil.
","term":"Hiliaeth"},"reasonable-adjustments":{"definition":"
Dan y gyfraith, rhaid i sefydliadau wneud pob “addasiad rhesymol” posibl er mwyn atal pobl anabl rhag bod dan anfantais sylweddol. Gallai addasiadau o’r fath gynnwys:

Gwneud addasiadau i safle (e.e. lledu drysau, gosod rampiau).

Rhoi rhywfaint o’r gwaith/rhan o’r swydd i rywun arall.

Trosglwyddo’r aelod anabl o staff i swydd arall neu weithle arall.

Bod yn hyblyg ynghylch oriau gwaith neu leoliad gwaith.

Darparu hyfforddiant ychwanegol.

Defnyddio offer sydd wedi’u haddasu / darparu offer arbennig neu addasu offer presennol.

Sicrhau bod cyfarwyddiadau a llawlyfrau’n fwy hygyrch.

Darparu gwasanaeth darllenydd neu ddehonglwr.

Darparu goruchwyliaeth ddigonol/ychwanegol.

Nid yw’r gyfraith yn diffinio’r hyn y gellir ei ystyried yn “rhesymol”, felly y cyflogwyr sy’n gyfrifol am asesu a yw addasiad penodol yn ymarferol o ddifrif. Bydd hynny fel rheol yn golygu pwyso a mesur ystod o ffactorau, gan gynnwys:

Y gost sy’n gysylltiedig â gwneud yr addasiad.

Lefel y budd y bydd yr addasiad yn ei gynnig.

Effaith yr addasiad ar bobl eraill.

","term":"Addasiadau rhesymol"},"religion-or-belief":{"definition":"
Cred ddofn sy’n sail i fywyd unigolyn a’i safbwynt ar y byd. Mae’n cynnwys credoau crefyddol ac anghrefyddol, megis dyneiddiaeth ac anffyddiaeth. Mae crefydd/cred yn un o’r naw nodwedd warchodedig y mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ymdrin â nhw.
","term":"Crefydd neu gred"},"self-fulfilling-prophecy":{"definition":"
Sefyllfa lle mae stereoteipiau neu ragfarnau fel pe baent yn cael eu cadarnhau, ond dim ond oherwydd agweddau a disgwyliadau pobl eraill. Er enghraifft, efallai yr ystyrir nad yw person hŷn yn gallu dysgu defnyddio system gyfrifiadurol newydd, felly nid yw’n cael cyfle i wneud hynny.
","term":"Proffwydoliaeth hunangyflawnol"},"sex":{"definition":"
Mewn termau cyfreithiol, hon yw’r nodwedd ddeuaidd o fod yn ddyn neu’n fenyw. Caiff rhyw unigolyn ei bennu adeg ei eni, a dim ond trwy gael Tystysgrif Cydnabod Rhywedd y gellir ei newid.
","term":"Rhyw"},"sexism":{"definition":"
Rhagfarn yn erbyn rhyw penodol. Caiff y term ei ddefnyddio weithiau hefyd i ddisgrifio gwahaniaethu ar sail rhyw.
","term":"Rhywiaeth"},"sexual-orientation":{"definition":"
Y modd y mae unigolyn yn ffafrio ei fynegi ei hun yn rhywiol. Dyma’r categorïau cyfeiriadedd rhywiol a ddefnyddir gan amlaf:

Gwahanrywiol (yn cael ei ddenu’n rhywiol at aelodau o’r rhyw arall).

Cyfunrhywiol (yn cael ei ddenu’n rhywiol at aelodau o’r un rhyw).

Deurywiol (yn cael ei ddenu’n rhywiol at aelodau o’r ddau ryw).

Panrywiol (yn cael ei ddenu’n rhywiol at bobl o unrhyw ryw neu unrhyw hunaniaeth o ran rhywedd).

","term":"Cyfeiriadedd rhywiol"},"stereotype":{"definition":"
Barn ddigyfnewid, a negyddol yn aml, am bob aelod o grŵp ethnig neu grefyddol neu grŵp arall.
","term":"Stereoteip"},"third-party-harassment":{"definition":"
Pan fydd unrhyw drydydd parti, e.e. aelodau’r cyhoedd, cwsmeriaid, cyflenwyr ac ati, y mae gweithiwr yn ymdrin â nhw’n rhan o’i swydd yn aflonyddu arno. Dan ddeddfwriaeth ynghylch iechyd a diogelwch, mae gan bob cyflogwr gyfrifoldeb cyfreithiol hollbwysig i gymryd camau rhesymol i warchod eu gweithwyr rhag anaf corfforol neu seicolegol y gellir ei ragweld. Ac mae hynny’n cynnwys aflonyddu gan drydydd parti, a allai achosi anaf o’r fath.
","term":"Aflonyddu gan drydydd parti"},"trans":{"definition":"
Termau ar gyfer pobl y mae eu hunaniaeth o ran rhywedd a/neu’u mynegiant o ran rhywedd yn wahanol i’r rhyw a bennwyd iddynt adeg eu geni. Bydd rhai pobl drawsryweddol yn ceisio newid eu rhywedd drwy broses ailbennu rhywedd, sy’n defnyddio triniaeth hormonaidd a/neu lawfeddygol.
","term":"Trawsryweddol / Trawsrywiol"},"unconscious-bias":{"definition":"
Tuedd o blaid neu yn erbyn grwpiau penodol o bobl, sydd mor ddwfn fel nad ydym yn ymwybodol ohoni. Gall tuedd anymwybodol ddylanwadu ar ein barn am grwpiau penodol o bobl – naill ai’n gyffredinol neu mewn sefyllfaoedd penodol – a gall beri i ni wneud penderfyniadau annheg a gwahaniaethol.

Yn aml, caiff tuedd anymwybodol ei sbarduno gan ein rhagdybiaethau ynghylch y byd a’r rolau y mae gwahanol bobl yn eu cyflawni mewn cymdeithas. Er enghraifft, gallai rhywun sy’n cael ei fagu mewn amgylchedd lle mae bron bob gwyddonydd yn ddyn dybio, ar sail hynny, mai dim ond dynion sydd â’r gallu i fod yn wyddonwyr. Mae hynny’n debygol wedyn o greu tuedd anymwybodol sy’n ffafrio dynion ar gyfer swyddi gwyddonol ac sy’n rhoi menywod dan anfantais.
","term":"Tuedd anymwybodol"},"vicarious-liability":{"definition":"
Y sail lle gall sefydliad ddod yn gyfrifol yn ôl y gyfraith am weithredoedd gweithwyr neu asiantiaid, hyd yn oed os nad yw’n gwybod amdanynt.
","term":"Atebolrwydd dirprwyol"},"victimisation":{"definition":"
Triniaeth niweidiol oherwydd bod unigolyn wedi cyflwyno, neu’n bwriadu cyflwyno, cwyn neu ymholiad ynghylch mater yn ymwneud â chydraddoldeb, neu oherwydd ei fod yn cefnogi cwyn neu ymholiad o’r fath.

Ceir sawl math gwahanol o erlid: cydweithwyr yn eich anwybyddu; cael eich anwybyddu ar gyfer dyrchafiad; mynediad i gyfleoedd o ran hyfforddiant a datblygiad yn cael ei wrthod i chi; ac ati. Mae unrhyw fath o erlid yn anghyfreithlon, ac os profir ei fod wedi digwydd gall arwain at orchymyn i’r sefydliad a’r sawl sy’n euog dalu iawndal.
","term":"Erlid"}},"title":"Geirfa"},"player":{"acc":{"links":{"glossary":"Term yn yr eirfa."},"message-box":{"error":"Gwall.","information":"Gwybodaeth.","question":"Cwestiwn.","warning":"Rhybudd."},"recommended":"Argymhellir eich bod yn ailastudio’r adran hon.","tabs":"Tab ${tabNum} o ${tabCount}.","time":{"hours1":"${h} awr ${minutes}","hours2":"${h} awr ${minutes}","minutes1":"${m} munud ${seconds}","minutes2":"${m} munud ${seconds}","seconds1":"${s} eiliad.","seconds2":"${s} eiliad."},"titles":{"course":"${core.course.title} cynnwys y cwrs.","page":"${titles.page} cynnwys y dudalen.","section":"Adran: ${titles.section}. ${core.manifest.player.acc.titles.page}"},"toolkit-menu":"Pecyn cymorth."},"button":{"label":{"accept":"Derbyn","ask-the-expert":"Gofyn i’r Arbenigwr","audio-enabled":"Sain","bookmark-page":"Gosod nod tudalen","cancel":"Canslo","clear":"Clirio","close":"Cau","confirm":"Cadarnhau","continue":"Ymlaen","continue-next-page":"Ymlaen","continue-next-section":"Ymlaen","course-menu":"Dewislen","course-summary":"Crynodeb o’r cwrs","dont-know":"Ddim yn gwybod","exit":"Ymadael","false":"Anghywir","focus-outline":"Amlinell botwm","glossary":"Geirfa","help":"Cymorth","high-contrast":"Gwrthdroi’r cynllun lliw","hint":"Awgrym","home-page":"Hafan","more":"Rhagor...","next-page":"I’r dudalen nesaf","next-section":"I’r adran nesaf","next-tab":"I’r tab nesaf","no":"Nac ydw","ok":"Iawn","pause":"Saib","play":"Chwarae","previous-page":"I’r dudalen flaenorol","previous-tab":"I’r tab blaenorol","print":"Argraffu","replay-page":"Ailchwarae’r dudalen","reset":"Ailosod","resources":"Adnoddau","retry":"Ailgynnig","search":"Chwilio","settings":"Gosodiadau","show-all-questions":"Dangos pob cwestiwn","skip":"Neidio ymlaen","start-course":"Dechrau’r cwrs","stop":"Stop","submit":"Cyflwyno","subtitles-off":"Cuddio’r isdeitlau","subtitles-on":"Dangos yr isdeitlau","toolkit":"Pecyn cymorth","true":"Cywir","unsure":"Ddim yn siŵr","video-subtitles":"Isdeitlau","yes":"Ydw"}},"licence":{"copyright":"© Cylix Limited","licence1":"${core.manifest.player.licence.copyright} ${core.manifest.player.licence.licensed-to}","licence2":"${core.manifest.player.licence.licence1} ${core.manifest.player.licence.until-date}","licensed-to":"
Trwyddedwyd i ${core.licence.customerName}","until-date":"nes ${core.licence.expiryDate}"},"marking-symbol":{"correct":"Cywir.","incorrect":"Anghywir."},"message-box":{"certificate-error":{"text":"Methu cynhyrchu tystysgrif cwblhau'r cwrs. Cysylltwch â’ch gweinyddwr.","title":"Tystysgrif cwblhau’r cwrs"},"completed":{"not-available":"Mae’r cwrs wedi’i gwblhau yn awr ac ni allwch ei ailastudio.","text-certificate":"${manifest.player.message-box.completed.not-available

Dewiswch y botwm Argraffu i argraffu eich tystysgrif ar gyfer cwblhau’r cwrs, neu dewiswch y botwm Ymadael i adael y cwrs.","text-no-certificate":"${manifest.player.message-box.completed.not-available}

Dewiswch y botwm Ymadael i adael y cwrs.","title":"Mae’r cwrs wedi’i gwblhau."},"customisation-error":{"text":"Methu adfer cynnwys wedi’i addasu. Cysylltwch â’ch gweinyddwr.","title":"Addasu’r cwrs"},"error":{"text":"Mae problem wedi codi gyda’r cwrs.
[${errorCode}]

Cysylltwch â’ch gweinyddwr.","title":"Wps!"},"exit":{"text":"A ydych chi’n siŵr eich bod am ymadael?","title":"Ymadael?"},"licence-error":{"text":"Methwyd dilysu trwydded y cwrs. Cysylltwch â’ch gweinyddwr.","title":"Dilysu trwydded"},"lms-communication-error":{"text":"Mae problem wedi codi wrth gysylltu â’ch System Rheoli Dysgu.

Caewch y cwrs a rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen.","title":"Cysylltu â’r System Rheoli Dysgu"},"resume":{"text":"Ydych chi am ailafael o’r man lle gadawoch chi’r cwrs?","title":"Ailafael"},"session-ended":{"text":"Mae eich sesiwn ar y cwrs wedi dod i ben.

Gallwch gau’r tab hwn neu’r ffenestr hon yn awr.","text-lms":"Mae eich sesiwn ar y cwrs wedi dod i ben.

Gallwch adael yn awr gan ddefnyddio eich System Rheoli Dysgu.","title":"Mae’r sesiwn wedi dod i ben"}},"question":{"header":{"available-mark":"marc","available-marks":"farc"},"option":{"choice-label-agree":"Cytuno","choice-label-disagree":"Anghytuno","choice-label-false":"Anghywir","choice-label-no":"Nac ydy","choice-label-selected":"Dewiswyd","choice-label-true":"Cywir","choice-label-yes":"Ydy"}},"radial-progress-indicator":{"accName":"${progressPercent}% wedi’i gwblhau."},"search-bar":{"clear-search":"Clirio’r chwiliad.","placeholder-text":"Nodwch air allweddol..."},"video-player":{"accName":"Chwaraewr cyfryngau."}},"quick-start-guide":{"text1":{"paragraph1":"Mae’r cwrs hwn yn un hawdd iawn i’w ddefnyddio. Er mwyn symud drwy’r cwrs, dewiswch y botwm Ymlaen ar yr ochr dde ar waelod y dudalen. Fel arall, mae pwyso c ar y bysellfwrdd yn llwybr byr. Dewiswch y botwm Ymlaen neu pwyswch c ar y bysellfwrdd yn awr i symud ymlaen.","paragraph10":"Adnodd Gofyn i’r Arbenigwr, lle gallwch gael gwybod mwy am y prif bynciau yr ymdrinnir â nhw yn y cwrs.","paragraph11":"Geirfa sy’n diffinio unrhyw dermau arbenigol a ddefnyddir.","paragraph12":"Adnoddau eraill, megis dolenni cyswllt â gwefannau defnyddiol.","paragraph13":"Does dim rhaid i chi astudio’r cwrs i gyd ar un tro. Mae croeso i chi droi ato fel y mynnoch – bydd manylion eich cynnydd yn cael eu cadw ac felly byddwch bob amser yn gallu dechrau o’r man lle gadawoch chi’r cwrs ddiwethaf.","paragraph14":"Dyna’r pethau sylfaenol felly, ond os hoffech gael gwybod mwy am sut i ddefnyddio’r cwrs dewiswch y botwm Cymorth i weld y canllaw cymorth llawn.","paragraph2":"Yn y bar offer ar ben y sgrîn mae nifer o fotymau defnyddiol a fydd yn eich helpu i ddefnyddio’r cwrs a gwneud yn fawr ohono. Dyma grynodeb o’r hyn y mae pob un yn ei wneud. Dewiswch Ymlaen pan fyddwch yn barod i symud ymlaen.","paragraph3":"Hafan:
dychwelyd i ddewislen y cwrs.","paragraph4":"I’r dudalen flaenorol:
Neidio’n ôl i’r dudalen flaenorol.","paragraph5":"Ailchwarae’r dudalen:
Ailchwarae’r dudalen bresennol o’r dechrau.","paragraph6":"I’r dudalen nesaf:
Neidio ymlaen i’r dudalen nesaf.","paragraph7":"Pecyn cymorth:
Cael mynediad i adnoddau a gosodiadau pellach.","paragraph8":"Ymadael:
Cadw’r data ynghylch eich cynnydd ac ymadael â’r cwrs.","paragraph9":"Mae’r botwm Pecyn cymorth yn eich galluogi i gael mynediad i ystod o adnoddau a gosodiadau’n ymwneud â’r cwrs, sy’n cynnwys:"},"title":"Canllaw cyflym i ddechrau arni"},"resources":{"entries":{"custom1":{"group":true,"name":"Adnoddau eraill","resources":["custom1-\\d+"]},"policies":{"group":true,"name":"Ein polisïau, ein gweithdrefnau a'n canllawiau","resources":["policy-\\d+"]},"stats-1":{"group":true,"name":"Ystadegau cyflogaeth ar sail rhywedd","resources":["stats-1-\\d+"]},"stats-1-1":{"name":"Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion: Gwahaniaethau rhwng cyflogau ar sail rhywedd","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede023"},"stats-1-2":{"name":"Ysgol Reolaeth Prifysgol Cranfield: The Female FTSE Board Report","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede024"},"stats-1-3":{"name":"Gwefan Senedd y DU","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede013"},"stats-2":{"group":true,"name":"Ystadegau cyflogaeth ar sail ethnigrwydd","resources":["stats-2-\\d+"]},"stats-2-1":{"name":"Y Swyddfa Ystadegau Gwladol: A09: Statws y farchnad lafur yn ôl grŵp ethnig","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede025"},"stats-2-2":{"name":"Race for Opportunity: Race at the Top: a review of BAME leadership in the UK","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede015"},"stats-3":{"group":true,"name":"Ystadegau addysg economaidd-gymdeithasol","resources":["stats-3-\\d+"]},"stats-3-1":{"name":"Sefydliad Joseph Rowntree: Statws o ran prydau ysgol am ddim a chyflawniad addysgol yn 16 oed","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede026"},"stats-4":{"group":true,"name":"Ystadegau cyflogaeth ar sail anabledd","resources":["stats-4-\\d+"]},"stats-4-1":{"name":"Ymddiriedolaeth Papworth: Disability Facts & Figures 2016","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede027"},"stats-5":{"group":true,"name":"Ystadegau ynghylch bwlio pobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol","resources":["stats-5-\\d+"]},"stats-5-1":{"name":"Stonewall: Adnoddau Addysg","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede028"},"stats-5-2":{"name":"Stonewall: Serves You Right","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede022"},"web-link-1-1":{"name":"Swyddfa Cydraddoldebau Llywodraeth y DU","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede001"},"web-link-1-10":{"name":"Y Gymdeithas Ymchwil ac Addysg ynghylch Hunaniaeth o ran Rhywedd – Gwybodaeth i bobl drawsrywiol, eu teuluoedd a’r gweithwyr proffesiynol sy’n gofalu amdanynt","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede010"},"web-link-1-11":{"name":"Cynllun Mynediad i Waith","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede029"},"web-link-1-2":{"name":"Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol","url":"https://www.equalityhumanrights.com/en/commission-wales"},"web-link-1-3":{"name":"Acas – Cyngor a Chanllawiau ynghylch Cydraddoldeb","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede003"},"web-link-1-4":{"name":"Cyhoeddiadau’r fenter Age Positive ","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede004"},"web-link-1-5":{"name":"Stonewall – Cydraddoldeb a Chyfiawnder i Lesbiaid, Dynion Hoyw a Phobl Ddeurywiol","url":"http://www.stonewallcymru.org.uk/"},"web-link-1-7":{"name":"Calendr Rhyng-ffydd","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede007"},"web-link-1-8":{"name":"Rhwydwaith Rhyng-ffydd y DU","url":"http://redirect.elumos.net/redirect_ede.php?id=ede008"},"web-links":{"name":"Dolenni cyswllt â gwefannau","resources":["policies","custom1","web-links-1","stats-\\d+"],"root":true},"web-links-1":{"group":true,"name":"Ffynonellau allanol o wybodaeth a chyngor pellach","resources":["custom2-\\d+","web-link1-\\d+","web-link-1-\\d+"]}},"title":"Adnoddau"}}