{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos i chi sut i ychwanegu dolen gan ddefnyddio'r&nbsp;<em> adnodd<\/em> URL.<\/p><p>Yn gyntaf, gwnewch yn si\u0175r bod <em>y Modd golygu<\/em> wedi'i droi ymlaen gan ddefnyddio'r togl ar frig eich tudalen cwrs. Yna, ewch i ble rydych chi am i'ch dolen ymddangos, dewiswch yr arwydd plws a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd.<\/em><\/p><p>O'r rhestr, dewiswch <em>URL<\/em> a dewiswch <em>Ychwanegu<\/em>. Yn y maes <em>Enw<\/em>, rhowch deitl clir a disgrifiadol. Dyma beth fydd myfyrwyr yn ei weld ar dudalen y cwrs ac ym <em>mynegai'r Cwrs<\/em>. Yn y&nbsp; maes <em>URL allanol<\/em>, gludwch y cyfeiriad gwe llawn.<\/p><p>Defnyddiwch y maes<em> Disgrifiad<\/em> i esbonio beth yw pwrpas yr adnodd. Cofiwch dicio ar <em>Dangos disgrifiad ar dudalen y cwrs<\/em> i wneud i'r disgrifiad ymddangos o dan y ddolen.<\/p><p>O dan <em>Ymddangosiad<\/em>, gallwch chi ddewis sut mae'r ddolen yn agor. Rydyn ni\u2019n awgrymu ei bod wedi'i osod i <em>Ffenestr newydd<\/em>, gan fod llawer o borwyr yn atal ffenestri naid erbyn hyn.<\/p><p>Yn olaf, dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p>Bydd eich dolen nawr yn ymddangos yn eitem y gellir clicio arni ar dudalen eich cwrs.<\/p><p>A &nbsp;dyna ni, sut i ychwanegu dolen gan ddefnyddio'r adnodd <em>URL<\/em>.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"4c989f1f-186c-40fc-a9a8-92628279afcc","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i ychwanegu dolen gan ddefnyddio&#039;r adnodd URL"}],"hTag":"h4"}