3. Yr Ardd Gyfrinachol Ymsefydlasant yn feddal ar y gwair ac eisteddasant yno heb symud. ‘Rhaid i ni beidio ymddangos fel ’sen ni’n edrych arno fe’n rhy agos’, meddai Dickson. ‘Bydde fe mas ’da ni am byth ’se fe’n meddwl bo’ ni’n busnesu nawr. Bydd e’n eitha gwahanol nes bod hyn ’di cwpla. Ma fe’n ymgartrefu. Bydd e’n fwy swil ac yn haws ei ddigio. ’Sdim amser ‘da fe i ymweld na chlebran. Rhaid i ni aros yn llonydd am dipyn a thrio edrych fel ’sen ni’n wair a choed a llwynau. Yna, erbyn iddo fe ddod yn gyfarwydd â’n gweld ni, fe wna i drydar yn ychydig ac fe fydd e’n gwybod na fyddwn ni yn ei ffordd.’ Nid oedd Meistres Mary yn sicr o gwbl ei bod hi’n gwybod, fel petai’n ymddangos bod Dickson yn gwybod, sut i geisio edrych fel gwair a choed a llwynau. Ond roedd ef wedi dweud y peth rhyfedd fel pe bai’r peth symlaf a mwyaf naturiol yn y byd oedd e, ac roedd hi’n teimlo bod rhaid bod yn eithaf hawdd iddo, ac, mewn gwirionedd, edrychai arno yn ofalus am ychydig funudau, wrth feddwl a fyddai’n bosib iddo droi’n wyrdd yn dawel a datblygu canghennau a dail. Ond nid eisteddai ond yn rhyfeddol o lonydd, a phan siaradodd, gostyngodd ei lais i’r fath feddalwch fel ei fod yn hynod y gallai hi ei glywed, ond fe allai. ‘Mae’n rhan o’r gwanwyn, yr adeiladu nythod ’ma’, meddai. ‘Fe weda i ’thot ti ei fod e ’di mynd ymlaen yn yr un modd bob blwyddyn ers cyn cof. Mae ‘da nhw eu modd o feddwl a ’neud pethe, ac mae’n well i neb beidio ymyrryd. Ti’n gallu colli ffrind yn y gwanwyn yn haws nag unrhyw dymor arall os wyt ti’n rhy fusneslyd.’