Gan ddefnyddio'r proffil disgybl a roddir, nodwch sut y gellid cwrdd ag agweddau penodol o ddatblygiad cyfannol y plentyn mewn lleoliad addysgol. Defnyddiwch gyfeiriadau at ddamcaniaethau perthnasol, ymchwil ac enghreifftiau o arfer rhagorol fel sail i hyn. Yn yr aseiniad hwn byddaf yn defnyddio’r wybodaeth dwi wedi casglu am ddamcaniaethau dysgu, arbenigwyr gwahanol a fy mhrofiadau pontio i weithio allan sut fyddwn yn dod i ddeall a chwrdd ag anghenion Ella a sut fyddwn yn ymateb i rain yn y dosbarth. Wrth ddarllen proffil disgybl Ella yn fanwl, rwyf wedi dod i ystyried ei anghenion yn y camau datblygiad ymddygiadol. Y tri datblygiad fyddaf yn trafod ac ymateb i fydd eu hymddygiad emosiynol, cymdeithasol a gwybyddol. Trwy gydol yr wythnosau diwethaf rwyf wedi sylweddoli a dod i’r casgliad bod e’n holl bwysig i athrawon cael dealltwriaeth fanwl o ddatblygiad plant. Mae hyn yn er mwyn i athrawon deall sut i helpu disgyblion datblygu a thyfu yn iach. Mae cael y ddealltwriaeth hon yn paratoi athrawon i weithio efo plant i gwrdd â’i anghenion corfforol, gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol. “For children to achieve their full potential… they need responsive caregiving – like talking, singing and playing – with parents and caregivers who love them.’ (UNICEF, 2020). Y datblygiad cyntaf rwyf am trafod yw cymdeithasol. Mae datblygiad cymdeithasol plant yn ei blynyddau cynnar yn holl bwysig er mwyn wneud yn siwr bod ansawdd ei profiadau a’r perthnasoedd y maent yn ei datblygu yn rhai sydd yn iach, “Forming healthy, positive relationships helps children and young people feel safe and supported as they grow up” (NSPCC, 2021). Mae plant sydd â sgiliau cymdeithasol cryf yn tueddu i gymryd mwy o ran yn y broses addysgu a pherformio’n well yn yr ysgol. Mae Vegotsky yn cytuno efo hwn gan bod e’n ddweud yn eu ddamcaniaeth bod dysgu yn broses gymdeithasol yn hytrach na thaith ddarganfod annibynol. Y peth cyntaf wnaeth sefyll allan yn proffil disgybl Ella i fi fel athro oedd y ffaith bod Ella yn ar adegau ddim yn hapus i wahani oddi wrth ei mam yn y bore. Mae’n glir i fi bod efallai mae ganddo hi pryder gwahanu (separation anxiety). I taclo hon, fe fyddaf yn gwobrywo hi pob tro maent yn dod mewn i’r dosbarth yn y bore a chymryd rhan yn yr amser cylch. O fy mhrofiad gweithio fel cynorthywydd dosbarth yn y cyfnod sylfaen, rwyf wedi gweld yn blaen llaw bod y strategaeth hon yn helpu plant i setlo mewn i'r dosbarth yn well. Hefyd, gwelais esiampl o hyn yn fy amser pontio yn Ysgol Lon Las ble oedd un athro gyda “pegs” ar gyfer y disgbylion ble roedden yn ddathlu eu hymddygiad da a ddrwg. Roedd hyn yn cymhellu’r plant i ymddwyn yn dda a dwi’n credu bydd hyn yn strategaeth dda i chael Ella i cymryd fwy o rhan yn y dosbarth. Rwy’n gobeithio bydd hyn yn wella hyder Ella hefyd gan bod “Using praise and rewards helps your child feel happier about him/herself and also makes them more confident” (West Lothian CAMHS, 2014). I wella’r tebygolrwydd o’r gweithrediad cyflyrru hyn i weithio byddaf yn wneud yn siwr bod yr amgylchedd dosbarth yn un sy’n groesawgar, diogel a chysurus. Yn ôl damcaniaeth Bowlby ‘Formation of a Reciprocal Relationship’ (SimplyPsychology 2023), fe ddylai Ella yn goddef gwahaniadau o’i fam gyda llai o ofid. Gyda’r strategaethau dwi wedi nodi rwy’n credu gyda amser bydd Ella yn dod I'r arfer o dod mewn I'r dosbarth yn dawel ag anghofio am ei ofidion o gadael I'w fam I'r ysgol. Fe sylwais fod ni all Ella drafod atebion posib i unrhyw wrthdaro heb ymyrraeth oedolion. Y peth cyntaf aeth trwy fy meddwl i oedd y posibilrwydd o Ella cael problemau synhwyraidd. O fy mhrofiad yn fod yn LSA yn ysgol uwchradd a gweithio efo pobl sydd â’r un problemau, dwi’n gwybod bod weithiau mae cael ymlyniad gryf gyson tuag at oedolion yn arwydd o anhwylder synhwyraidd neu bryder. Nodwyd y Natural Library of Science bod “Higher levels of adult attachment avoidance and adult attachment anxiety will be associated with higher levels of parental sensory sensitivity” (2019). Mae hyn yn gysylltu efo Ella yn cael trafferth gwahanu oddi wrth ei fam. Mae’n amlwg i fi bod Ella yn debynnol ar oedolion yn y dosbarth oherwydd efallai maent yn gweld nhw fel rhyw fath o ‘safety blanket’ yn lle ei fam. Mae hyn yn peth dda i raddau oherwydd mae Ella yn ymddiried yn yr oedolion hyn (yr athrawon) a mae hyn yn dweud i fi bod yr athrawon yn wneud ei jobyn yn iawn. Ar y llaw arall mae rhan o’r Gwriciwlm i Gymru yn nodi bod eisiau plant cael y “sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen i ddelio â’u bywyd pob dydd mor annibynnol ag y gallant” (Gov.Wales, 2022). Felly, mae angen I'r athrawon dysgu Ella sut i bod fwy annibynnol yn y dosbarth ac ateb am ei hun yn fwy. I sicrhau ei bod yn fwy annibynol byddaf yn wneud yn siwr bod Ella yn dilyn rwtin o tynnu ei chot bant, rhoi ei bag ar ei pheg a.y.b a gyda amser adeiladu ar hyn trwy annog hi i wneud y pethau hyn pob bore, “Learning to follow routines is one way for little kids to become more independent” (Child Mind Institute, 2023). I cael Ella i ateb fwy yn y dosbarth byddaf yn ceisio i ofyn cwestiynau i hi yn wahanol fel actio ei fod yn gem yn lle o wneud i hi meddwl o dan bwysau ac yna wneud i hi ddim eisiau ateb. Hefyd, fe allai defnyddio sgrin a chael Ella i dod lan ac ei ateb ar y sgrin oherwydd efallai bydd hi’n gweithio’n well efo pethau gweledol yn lle’n cyfathrebol. Mae dysgu wrth chwarae yn hanfodol a felly byddaf yn wneud hyn efo Ella a gobeithio codi ei hyder trwy hi chwarae efo’r plant. Me ddamcaniaeth Piaget yn cefnogi hyn oherwydd mae’n yn ffocysu ar ddysgu wrth chwarae. Mae Piaget yn pwysleisio bod cael caniatâd i arbrofi ac archwilio trwy chwarae yn rhoi cyfleoedd i blant adeiladu gwybodaeth. Mae hyn yn atgyfnerthu pwysigrwydd amgylcheddau chwarae ysgogol sy’n caniatáu i blant ddilyn eu diddordebau eu hun. Yr ail datblygiad rwyf am trafod yw emosiynol. Mae datblygiad emosiynol yn blynyddau cynnar plant yn holl bwysig oherwydd mae’n helpu nhw cael y deall i rheoli eu hemosiynau. Mae hyn yn cynnwys datblygu sgiliau hanfodol fel mynegu eu teimladau, rheoli straen a’i hwyliau. Hefyd, mae’n bwysig oherwydd mae’n cynyrthwyo plant i feithrin hunan-ymwybyddiaeth a hunan-reolaeth, “The ability to regulate one’s own emotions and manage successful interactions with other people is key for later academic performance, mental health, and social relationships” (Harvard Univeristy, 2021). Yn proffil Ella mae’n dweud bod hi yn dechrau cyfleu ei theimladau ac mae’n ymwybyddol y gallai fod teimladau gwahanol gan eraill. Mae hyn yn peth positif oherwydd mae’n rhywbeth fe allaf fel athro helpu datblygu yn fwy trwy ymarferion wahanol. Un ffordd fe allaf helpu Ella datblygu a deall eu hemosiynau yn well yw trwy trafod eu theimladau mewn ffyrdd hwylus I'w gymharu i ffyrdd fwy ffurfiol, “By helping them explore and recognise their emotions in a fun way, they can also start to learn about what skills they can call on in different situations (Learning Resources, 2023). Gwelais i enghraifft o hyn yn un o fy sesiynau pontio yn Lon Las. Roedd yr athro/wes hyn yn defnyddio pypedi ‘Mwd/Mood’ i drafod efo’r dosbarth amdano’i emosiynau. Bydd yr athro/wes yn gofyn cwestiynau I'r plant mewn llais hwylus a defnyddio’r pyped petai oedd y pyped yn siarad i nhw. Roedd hyn yn wneud I'r plant teimlo mwy cyfforddus i agor lan am pethau penodol. Dwi’n credu bydd hyn yn helpu Ella gymaint oherwydd bydd hi mewn ffordd, yn datblygu eu hemosiynau a trafod eu theimladau heb hyd yn oed sylweddoli. Hefyd, trwy gofyn cwestiynau I'r dosbarth i gyd a cael atebion wahanol wrtho pawb bydd Ella yn gallu gweld bod mae gyda pawb teimladau wahanol tuag at pethau. Yn dilyn hyn, fe allaf wneud hyn i dangos i Ella fel mae’n gwneud I'w gyfeillion a’r pobl o’i gwmpas i teimlo, pan nad ydy hi’n dangos gofal a parch tuag at eraill yn gyson. Byddaf yna yn modelu ymddygiad positif a moesau da i helpu Ella deall sut i ryngweithio’n briodol ag eraill mewn ffordd garedig. Gobeithio bydd hyn yn dangos i Ella mae eu ymddygiad a’r ffordd maent yn siarad a trin pobl yn gallu wneud i nhw teimlo’n ffordd penodol e.e. (drist, grac a.y.b.) “It's also important to help children understand how their behaviors affect other people” (Michigan State Univeristy, 2016). Ar adegau, mae Ella yn amaharod i rannu adnoddau yn ystod gweithgareddau chwarae gydag eraill. Dwi’n meddwl efallai bod Ella yn unig plentyn yn eu cartref oherwydd mae plant sy’n unig plentyn yn tueddol i bod yn llai awyddus i rhannu efo phobl arall, “Only children may not have to share resources–including material resources and their parents' attention–with siblings, they may have less experience in sharing with others (National Institute of Health, 2011). I helpu Ella dod drosto hyn a ddechrau rannu adnoddau yn fwy yn y dosbarth, byddaf yn wahanu’r dosbarth mewn i grwpiau ac wneud i nhw chwarae gemau sydd yn cynnwys rhannu ynddo fe. Byddaf yn mynd trwyddo’r gemau cam wrth cam yn esbonio’r rheolau fel e.e (‘’Ar ôl tro .... mae’n tro Ella”). Dwi’n credu bydd hyn yn helpu Ella deall faint mor bwysig yw rhannu gan nad bydd hi gallu chwarae’r gem heb wneud e. Y datblygiad olaf rwyf am siarad am yw gwybyddol. Mae datblygiad gwybyddol yn bwysig oherwydd mae’n, “help(s) children to think about and understand the world around them” (Help Me Grow, 2019). Mae damcaniaeth Piaget o datblygiad gwybydddol yn edrych ar ‘sgemau’ sydd (yn syml) yn edrych ar adeiladu ymenydd plant trwy ail adrodd. Mae’r ‘sgemau’ hyn efo 4 cam wahanol sef Assimilation, Disequilibrium, Accommodation a Equilibrium. Maent yn esbonio yn rhain bod rydyn yn dechrau trwy cysylltu gwybodaeth newydd gyda gwybodaeth mae plant yn gwybod yn barod. Yna, maent yn dysgu mwy a mwy amdano pethau trwy adio lan gwybodaeth am pwnc penodol ar ôl amser. Er enghraifft, mae Ella yn deall bod ‘bore da’ yn gyfarchiad ond ddim yn deall bod ‘bore da’ yn gyfarchiad mewn iaith wahanol I'w hiaith ei hun. Trwy defnyddio damcaniaeth Piaget byddaf yn dweud yn y bore wrth Ella ‘bore da’ yn Cymraeg a Saesneg pob bore. Bydd yr ail adrodd o’r ddau iaith yn adael i hi ddeall mewn amser, bod y gyfarchiad yn iaith wahanol. Dwi’n gweld esiamplau o hyn yn y cyfnod sylfaen trwy’r amser yn fy swydd gyda plant ble mae Cymraeg eu ail iaith. Bydd yr athrawon yn ail adrodd geiriau mae’r plant ddim yn ddeall yn y Cymraeg ac yna’n dweud nhw yn y Saesneg i nhw ar ôl amser cysylltu’r eiriau efo’i gilydd. Yn ogystal a hyn, nid yw Ella yn gallu bwyntio ar ddeg gwrthrych a’u cyfrif yn gywir. I helpu Ella i allu cyflawni hyn yn y pen draw byddaf yn gweithio allan pa rhifau mae Ella yn gwybod ac adeiladu o hyn. Trwy ail adrodd y rhifau mae Ella yn gwybod, byddaf yn symud ymlaen I'r rhifau nesaf a cadw ail-adrodd a mynd yn ôl i gwirio ei fod yn cofio. Efallai byddaf yn gofyn un bore i hi cyfri lan i rhif pump ac yna i tri bore arall ac yn y pen draw symud lan i rhif 10. Gwelais esiampl o hyn yn pontio yn Lon Las ble oedd y disgyblion yn wneud rhywbeth o’r enw ‘clic’, ble maen nhw’n wneud cwestiynau mathemategol wahanol pob dydd ac yna yn cael prawf ar diwedd yr wythnos ar amrywiaeth o gwestiynau. Trwy edrych ar canlyniadau’r disgyblion yn y profion roeddwn I'n gweld gwelliant yn eu sgôr fel bo’r wythnosau yn mynd ymlaen. Mae hyn yn gadarnhau i fi bod hyn yn ffyrdd effeithiol o datblygu sgiliau gwybyddol Ella. I gloi yn fy marn i, drwy ddangos dealltwriaeth dda o’r damcaniaethau wahanol a ddefnyddio fy mhrofiadau unigryw o gwaith a’r pontio, dwi’n credu fy mod i wedi adeiladu dealltwriaeth da o sut i cysylltu rhain mewn I'r dosbarth. Dwi’n credu bydd y Cwriciwlwm newydd yn buddiol iawn i Ella a rwy’n gobeithio bydd y strategaethau dwi wedi nodi yn yr aseiniad yn helpu chwrdd ag anghenion Ella. Books: Bowlby, J. (1969). Attachment. Attachment and loss: Vol. 1. Loss. New York: Basic Books. Journal Articles: Jerome, E. M., & Liss, M. (2005). Relationships between sensory processing style, adult attachment, and coping. Personality and Individual Differences, 38(6), 1341–1352. DOI: 10.1016/j.paid.2004.08.016 Websites: NSPCC. (2021). 'Healthy and unhealthy relationships'. 8 Nov. Available at: URL. (Accessed: 26th October 2023). UNICEF. (2019). 'Early childhood development: For every child, every moment matters'. Available at: URL. (Accessed: 28th October 2023). Book Chapter: Feeney, J. A., Noller, P., & Hanrahan, M. (1994). Assessing adult attachment. In Attachment in adults: Clinical and development perspectives (pp. 128–152). New York: Guilford Press. Webpage: Kavushansky, A. (2019). 'Sensory sensitivity and its relationship with adult attachment and parenting styles'. PubMed Central [blog]. Jan 9. Available at: URL. (Accessed: 21st October 2023).