WEBVTT

00:00:00.000 --> 00:00:20.730
Mewn Astudiaethau Busnes, ffordd amlwg o roi dysgu yn ei gyd-destun yw dadansoddi astudiaethau achos go iawn o strategaethau busnes llwyddiannus ac aflwyddiannus ac arwain myfyrwyr i drafod sut mae amodau economaidd a’r farchnad yn effeithio ar wneud penderfyniadau mewn busnes.

00:00:20.730 --> 00:00:25.020
Ni fyddai hyn yn syndod i unrhyw un sy’n addysgu’r pwnc.

00:00:25.020 --> 00:00:26.040
Fodd bynnag,

00:00:26.040 --> 00:00:31.860
mae’n rhy hawdd naill ai dewis astudiaethau achos y mae’r darlithydd yn gyfarwydd iawn â nhw,

00:00:31.860 --> 00:00:35.820
neu enghreifftiau sylfaenol/generig/adnabyddus,

00:00:35.820 --> 00:00:38.130
fel Blockbuster

00:00:38.130 --> 00:00:41.940
Netflix neu Blackberry vs. Apple.

00:00:41.970 --> 00:00:51.120
I rai myfyrwyr bydd y rhain yn enghreifftiau sy’n ysgogi eu diddordeb ac sy’n berthnasol iddynt.
Ac eto, gan ddibynnu ar y garfan,

00:00:51.120 --> 00:00:53.160
ni fydd hynny’n wir yn aml.

00:00:53.160 --> 00:00:57.810
Gall cael enghreifftiau o gwmnïau lleol greu mwy o ymdeimlad o gyd-destun

00:00:57.810 --> 00:00:59.100
i rai myfyrwyr;

00:00:59.100 --> 00:01:02.520
er enghraifft cwmni yswiriant Admiral yng Nghymru.

00:01:02.520 --> 00:01:11.010
Neu efallai bod rhai diwydiannau yn fwy perthnasol i’r garfan neu’r myfyrwyr penodol yn dibynnu ar eu diddordebau a’u huchelgeisiau.

