Ym Mhrydain, mae’n gyffredin gweld drudwy sy’n clwydo ar gefnau defaid a gwartheg wrth iddynt bori yn y meysydd. Pe byddech chi’n gwylio yr adar hyn am gyfnod, byddech chi’n eu gweld chwilota yn brysur â’u pigau ar gefnau’r anifeiliaid, ac efallai byddech chi’n gofyn beth maent yn gwneud. Yr ateb yw bod y drudwy’n yn bwyta pryfed a lindys y maent yn tynnu allan o’r crwyn anifeiliaid. Mae’r adar yn gwahanu’r edafedd gwlân ar gefn dafad â’u pigau, a chasglu a bwyta pryfed a throgod y maent yn ffeindio yna. Ar gefnau gwartheg maent yn cael gwared ar lindys sydd yn achosi dolur a chlefyd. Mae’r adar yn mwynhau’r lindys hyn. Felly, mae’r anifeiliaid yn darparu bwyd i’r adar, ac yn gyfnewid am hynny, mae’r adar yn gwaredu’r anifeiliaid rhag plâu niweidiol. Yn Affrica, ffeindir partneriaethau diddorol rhwng anifeiliaid ac adar. Efallai mae crocodeil yn torheulo yn llygad yr haul gerllaw dŵr, ei enau yn agored yn lled y pen. Mae ei bartner yn hopian i mewn, y cornicyll sydd yn gweithredu fel brws dannedd yr ymlusgiad, ac yn syth mae e’n dechrau casglu a bwyta tameidiau cig sydd yn glynu wrth y dannedd y crocodeil. Wedi hynny, mae e’n cael gwared ar fwydod, o’r enw gelenod, o’r tafod y crocodeil. Mae’n ymddangos bod y crocodeil yn gwybod y mae’r aderyn hwn yn gyfaill, achos fod e byth yn drygu’r cornicyll.