WEBVTT

00:00:00.433 --> 00:00:05.605
Yn ystod fy PhD, darllenais i’r llyfr Noughts & Crosses
gan Malorie Blackman

00:00:05.705 --> 00:00:10.076
mae yna adran yn y llyfr lle... yn y bôn,

00:00:10.176 --> 00:00:15.048
y prif beth am y llyfr yw bod y
strwythurau hil yn cael eu gwrthdroi.

00:00:15.115 --> 00:00:18.118
Felly mae gennych chi'r Noughts,
sef y boblogaeth Ddu,

00:00:18.251 --> 00:00:21.755
a nhw yw'r bobl sy'n dal y pŵer
yn y byd a ddisgrifir yn y llyfr.

00:00:21.855 --> 00:00:27.093
Ac maen nhw'n cyflawni hiliaeth yn
erbyn y Crosses,

00:00:27.093 --> 00:00:30.096
sef y boblogaeth o bobl wyn.

00:00:30.130 --> 00:00:34.601
Yn yr adran yma yn y llyfr,
mae un o'r Crosses

00:00:34.667 --> 00:00:37.670
yn torri ei fys ac yn gofyn am blastr.

00:00:37.737 --> 00:00:39.939
Ac mae un o'r Noughts yn
rhoi plastr iddyn nhw,

00:00:39.939 --> 00:00:44.577
ac mae’r plastr yn lliw croen du.

00:00:44.677 --> 00:00:49.149
Sylweddolais i yr eiliad honno,

00:00:49.149 --> 00:00:52.452
a finnau bellach yn oedolyn –
dros yr holl flynyddoedd wrth i fi dyfu i fyny,

00:00:52.452 --> 00:00:55.455
doeddwn i erioed wedi meddwl o
ddifri bod pob plastr

00:00:55.588 --> 00:01:00.326
ro’n i wedi’i weld erioed wedi’i deilwra
i liw fy nghroen i, sef croen gwyn.

00:01:00.393 --> 00:01:05.331
A meddyliais hefyd am y ffaith fy
mod i’n astudio

00:01:05.532 --> 00:01:08.334
PhD mewn anghydraddoldeb ethnig,

00:01:08.334 --> 00:01:14.074
ac roedd y peth bach pitw
yma o fy mlaen, mor fach â phlastr

00:01:14.074 --> 00:01:18.812
yn anghydraddoldeb ethnig
enfawr o flaen fy llygaid.

00:01:18.912 --> 00:01:24.150
Ac ro’n i wedi fy syfrdanu gan hyn,
a meddyliais,

00:01:24.150 --> 00:01:27.353
dyma beth mae’n rhaid i
bobl o liw ei brofi

00:01:27.353 --> 00:01:31.724
bob dydd gyda rhywbeth mor
fach â phlastr.

00:01:31.791 --> 00:01:34.861
Ac yr wyf yn credu bod fel pobl gwyn,
A dw i’n credu fel pobl wyn,

00:01:34.861 --> 00:01:40.366
mae ganddon ni gyfrifoldeb i
sylwi ar y pethau yna a

00:01:40.433 --> 00:01:42.368
sylwi pan rydyn ni’n anghywir
am bethau penodol.

00:01:42.368 --> 00:01:46.873
Fe berodd hyn i fi edrych ar
fy hunan a’r ffaith

00:01:46.873 --> 00:01:51.611
fy mod i’n anwybodus am y byd o fy
nghwmpas weithiau.

00:01:51.678 --> 00:01:55.081
Trwy gydol fy astudiaethau PhD rydw i
wedi bod yn edrych allan ar y byd

00:01:55.081 --> 00:01:58.818
ac ar ddiwylliant ac ar bobl eraill o fy nghwmpas,
ond heb ystyried

00:01:58.818 --> 00:02:02.055
fy anwybodaeth i o’r pethau yna.

