I gloi, mae ADHD yn dylanwadu'n sylweddol ar lwybrau datblygiadol, gan effeithio ar dwf academaidd, cymdeithasol ac emosiynol. Mae cydnabod yr heriau hyn yn hanfodol ar gyfer ymyriadau a chymorth. Mae adnabod cynnar, ynghyd â strategaethau wedi'u targedu ac amgylchedd cefnogol, yn grymuso unigolion ag ADHD i lywio cerrig milltir ddatblygiadol gyda gwydnwch a chyflawni eu potensial llawn.
Yn ol NHS (2021) gellir dosbarthu symptomau anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) yn ddau fath o broblemau ymddygiadol:
Felly, gwelir bod nifer o’r ymddygiadau yma yn rhai fydd yn profi’n anodd I'w ymdopi gyda yn amgylchedd fel ysgol gan felly ychwanegu her arall I'r anawsterau a brofir ganddynt. Gall hyn cael effaith negyddol ar ddatblygiad plant yn enwedig os ydyn nhw mewn sefyllfa lle nad oes ddealltwriaeth o’r anghenion ac o ganlyniad cosbir y unigolyn am ym ymddygiadau hyn sy’n gallu arwain at ddiffyg hunan hyder a chymhelliant yn yr ysgol. Heb os mae hyn yn effeithio’n negyddol ar ddatblygiad academaidd a datblygiad emosiynol. I atgyfnerthu hyn, dywed Henker a Whalen (1989) bod gan blant ag ADHD perthnasoedd gwael gyda’i cyfoedion ac eu chael yn anodd gwneud ffrindiau oherwydd eu anallu i ddilyn rheolau a’r tueddiad i droi’n ymosodol pan nad yw pethau’n mynd yn ffordd sy’n eu plesio nhw.
Mae deilliannau ADHD yn gymysg; er bod ymchwil yn dangos bod symptomau yn gallu lleihau wrth i blant dyfu mae 30-50% o blant a’r anhawster yn parhau i ddioddef yn oedolion (Crowley, 2017). Gall hyn felly arwain at problemau wrth ymgeisio am swyddi, ac hefyd gweithgareddau dyddiol fel mynd I'r archfarchnad, aros mewn ciw a gyrru mewn traffig (Mayo Clinic, 2023). Felly bydd eu diffyg amynedd yn achosi I'r tymer ffrwydro ac gall hyn ymddangos yn ymosodol. Mae hyn eto yn gallu effeithio ar perthnasau a datblygiad cymdeithasol a fel maent yn cael eu dderbyn yn y gymuned.
Yn ddiddorol, mae Milberg et al, (1977), yn datgan bod ffactorau amgylcheddol yn gallu bod yn gyfrifol am ddatblygiad ADHD mewn plant. Hynny yw, os ydynt yn dod o gartrefi ble mae llawer o dadlau a gwrthdaro cyson. Os oes gwirionedd yn hyn, gellir dadlau mai dyma’r cam cyntaf sy’n effeithio ar eu datblygiad gan fod y gwrthdaro o fewn y cartref yn effeithio’n emosiynol a meddyliol; mae’r sefyllfa yn magu y diagnosis a datblygiad ADHD sydd yn effeithio arnynt yn yr ysgol ac ym cymdeithasol ac wedyn yn effeithio ar eu bywyd fel oedolion. Ni ellir felly gwahanu amgylchedd y cartref a magwraeth oddi wrth eu datblygiad ym mhob ffordd.
Yn ôl astudiaethau (WebMD, 2018), gallai cael un person yn y teulu ag ADHD gael effaith ar ba mor hapus yw rhieni, brodyr a chwiorydd, ac aelodau eraill o'r teulu gyda'u bywydau bob dydd. Mae plant ag ADHD, er enghraifft, yn creu llawer mwy o alw ar amser a sylw eu rhieni. Gall hyn arwain at broblemau perthynas, llai o undod teuluol, a mwy o wrthdaro. Yn ôl ymchwil, mae rhieni â phlant ADHD hyd yn oed yn fwy tebygol o ysgaru a dioddef o iselder na theuluoedd eraill. Mae theorïau ymlyniad yn nodi pam efallai bydd ADHD yn effeithio ar ddatblygiad plant; daeth damcaniaeth ymlyniad i'r amlwg o waith ymchwilwyr amrywiol, yn bennaf, John Bowlby a Mary Ainsworth. Yn ôl Ainsworth (1963), mae ymlyniad yn " secure base from which to explore," ac mae'r cysyniad hwn wedi parhau i fod yn egwyddor sylfaenol damcaniaeth ymlyniad. Diffiniodd Bowlby (1969/1982) ymlyniad yn ddiweddarach fel perthynas ar wahân rhwng plentyn a’i ofalwr sy’n gweithredu fel sylfaen ar gyfer datblygiad iach yn y dyfodol. Gan fod y ddamcaniaeth hon yn honni bod datblygiad emosiynol a chymdeithasol plant yn cael ei ddylanwadu'n drwm gan eu perthynas â'u prif ofalwyr gall hyn cael effaith negyddol ar blant sydd yn dioddef gydag e. Dywedir bod pobl sydd yn dioddef o ADHD yn teimlo bod hi’n anodd creu perthnasoedd gan eu bod yn gallu ymddwyn yn fyrbwyll. Mae'n debygol fydd y rheini a phlant yn gwrthdaro yn erbyn ei gilydd o ganlyniad I'r ymddygiad hwn, os mae hyn yn digwydd yn aml a bod llawer o gwympo allan rhyngddynt gall hyn arwain at broblemau fwy. Hynny yw’r plentyn teimlo'n isel am eu bod wedi cael ‘stŵr’ ac wedyn mae’r risg colli allan ar y perthynas pwysig yma mae Bowlby’n pwysleisio sy’n hanfodol er mwyn datblygiad iachus. Felly, mae sawl ffactor gwahanol sydd yn gallu effeithio ar ddatblygiad y plant yma.
Mae elusennau yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi unigolion ag ADHD trwy godi ymwybyddiaeth, cynnig adnoddau addysgol, a darparu cymorth ariannol ar gyfer therapi neu raglenni arbenigol. Maent yn cyfrannu at ymchwil sy'n rhoi dealltwriaeth ddyfnach iddynt o ADHD. Mae elusennau hefyd yn creu cymunedau sy'n cysylltu unigolion a theuluoedd, gan gynnig llwyfan ar gyfer rhannu profiadau a chyngor. Mae'r sefydliadau hyn yn gweithio tuag at hyrwyddo cynhwysiant, a sicrhau bod y rhai yr effeithir arnynt yn cael y ddealltwriaeth a'r adnoddau sydd eu hangen ar gyfer bywyd grymus.
Mae yna nifer o sefydliadau sy'n cefnogi pobl ag ADHD:
Mae'r honiad mai genynnau sy’n bennaf gyfrifol am ddatblygiad plentyn yn tanio dadl sydd wedi swyno ymchwilwyr mewn seicoleg ddatblygiadol. Bydd y cofnod hwn yn trafod ai’r amgylchedd neu allu naturiol a deallusol sy'n dylanwadu ar ddatblygiad. Mae'r ddadl natur yn erbyn magwraeth yn un sydd wedi para ers blynyddoedd ac nid oes ateb cadarn erbyn hyn hyd yn oed. O safbwynt rhai, nid yw dylanwad geneteg wedi'i gyfyngu i nodweddion corfforol yn unig; mae'n rhannol gyfrifol am allu deallusol, ymddygiad a thueddiad plentyn i amodau amrywiol (Baker, 2007). Ond, i gyferbynnu, damcaniaethodd Bandura (1977) bod dysgu a datblygu yn digwydd trwy arsylwi, dynwared, a modelu ac yn cael ei ddylanwadu gan ffactorau megis sylw, cymhelliant, agweddau, ac emosiynau ac nid yn fiolegol.
Delwedd ar gael at The Ongoing Debate of Nature vs Nurture – Miami High News
Natur-
O eiliad y cenhedlu, crëir cod genetig unigryw, sy’n adeiladu'r sylfaen ar gyfer agweddau corfforol, gwybyddol ac emosiynol yn natblygiad plentyn. Dywedodd Haddad (2021) bod ffactorau biolegol yn brif ddylanwad ar blant ifanc, a gall hyn gael effeithiau positif a negatif ar ddatblygiad y plentyn. Mae arbenigwyr o safbwynt y ddadl natur yn gweld datblygiad fel proses o aeddfedu, gyda newidiadau ffisegol a seicolegol yn digwydd o ganlyniad i'r cynllun parod a etifeddir wrth ein rhieni (Crowley, 2017).
O ganlyniad i astudiaeth yn seiliedig ar anian ddynol yn 2018, daethon nhw i'r casgliad ei fod yn cael ei ddylanwadu'n gryf gan fwy na 700 o enynnau sy'n modiwleiddio cyflyru cysylltiadol gan brosesau moleciwlaidd. Mae hyn yn cael effaith ar blastigrwydd synaptig sef gallu'r ymennydd i newid ac addasu i wybodaeth newydd a chof hirdymor (Zwir et al., 2020). Felly yn amlwg mae natur yn dylanwadu ac yn chwarae rôl yn natblygiad plant. Gall hyn gael effaith negyddol neu bositif ar blant, er enghraifft, os oes tymer ddrwg gyda rhiant, mae’n bosib y bydd y plentyn yn ei etifeddu sydd yn gallu cael effaith negyddol ar y plentyn. Ond, ar y llaw arall, os oes sgiliau academig eithriadol gyda rhiant, o bosib bydd y plentyn hefyd yn etifeddu’r sgiliau a chael canlyniadau da yn yr ysgol.
Roedd G. Stanley Hall, un o’r seicolegwyr datblygiadol cyntaf, yn credu’n gryf yn arwyddocâd natur mewn datblygiad a chafodd ei ysbrydoli’n drwm gan y ddamcaniaeth esblygiadol. Gellir gweld hyn yn ei ail ddangosiad o theori chwarae (Hall,1904) lle nododd fod chwarae plant yn esblygu mewn modd sy'n cyfateb i hanes esblygiadol dynolryw. Ymysg rhai o'r pethau y daeth o hyd iddynt oedd chwarae ymladd ac erlid, sy'n dynwared greddfau hela ein hynafiaid. Mae'n glir bod gan sawl seicolegydd safbwyntiau gwahanol ac yn dadlau ynghylch yr hyn sy’n cael yr effaith fwyaf ar ein nodweddion, ymddygiad a datblygiad ond efallai bod yr holl ddadleuon yn gytbwys o ran eu dilysrwydd.
Magwraeth
I'r gwrthwyneb, mae arbenigwyr o safbwynt magwraeth yn gweld datblygiad fel proses o ddysgu. Cafodd theorïau dysgu eu dechrau gyda John Watson, sef seicolegwr a sefydlodd ‘The Behavioural School of Phsychology’ gyda barn gryf bod magwraeth yn cael effaith gryfach na natur a genynnau. Pwysleisiodd Watson (1930) bwysigrwydd profiadau a dysgu amgylcheddol, gan honni y gallai ddefnyddio'r amgylchedd siapio a datblygu unrhyw blentyn.
Give me a dozen healthy infants, well-formed on my own specified world to bring them up in, and I'll guarantee to take any one at random and train him to become any type of specialist I might select- doctor, lawyer, merchant-chief, and yes, even beggar-man and thief, regardless of his talents, penchants, tendencies, vocations and race of his ancestors. (1903:104)
Mae damcaniaeth ymddygiadol Watson yn datgan bod amgylchiadau amgylcheddol yn dylanwadu ar ymddygiad. Credai Watson pe bai plentyn yn dod i gysylltiad â'r ysgogiadau a'r atgyfnerthiad cywir, y gellid ei hyfforddi i ddatblygu unrhyw allu neu nodwedd, gan bwysleisio rôl magwraeth wrth siapio unigolion. Esiampl enwocaf Watson i brofi’r theori yma yw’r astudiaeth achos ‘little Albert’ (Watson and Raynor,1920) lle rhoddwyd llygoden fawr wen i Albert, bachgen naw mis oed, ac i ddechrau roedd Albert yn cropian tuag ati a dechrau chwarae a hi. Yn ddiweddarach, cyflwynodd Watson y llygoden fawr ar y cyd a sŵn annymunol uchel iddo, ac o ganlyniad roedd gweld y llygoden fawr yn ddigon i godi ofn ar Albert, gan ei fod bellach yn cysylltu ymweliadau’r llygoden gyda sŵn oedd yn peri pryder iddo. O ganlyniad i hyn, daeth Watson i'r casgliad mai'r amgylchedd oedd yr elfen bwysicaf yn natblygiad plant gan fod yr hyn sydd o’u hamgylch yn dylanwadu ar eu hymddygiad.
Yn ôl Skinner (1953), yn seiliedig ar ymchwil ar anifeiliaid, mae e’n dadlau bod anifeiliaid a bodau dynol yn ailadrodd ymddygiadau a hyn sydd yn arwain at ganlyniadau cadarnhaol. O ganlyniad, mae llygoden fawr mewn cawell sy'n derbyn bwyd ar ôl cyffwrdd barrau y gawell yn debygol o ailadrodd yr ymddygiad hwn achos ei fod yn dwyn canlyniadau pleserus I'r llygoden. Yn yr enghraifft hon, gellir cyfeirio at fwyd fel atgyfnerthiad. Fodd bynnag, gall rhai ymddygiadau arwain at ganlyniad, a elwir yn gosbwr, sy'n debygol o leihau'r tebygolrwydd y bydd yr ymddygiad yn digwydd eto. O'i gymhwyso i ddatblygiad plentyn, gellir diffinio dysgu fel y plentyn yn cysylltu ymddygiadau â chanlyniadau. Er enghraifft, yn ystafell ddosbarth yr ysgol, gellir rhoi sticer i blentyn sydd wedi perfformio'n dda. Bydd hyn yn annog y plentyn i barhau i wneud yn dda er mwyn derbyn gwobr arall.
Damcaniaethwr dysgu arall yw Albert Bandura, sy’n cytuno â Skinner ar rôl cyflyru weithredol mewn datblygiad, ond maent hefyd yn pwysleisio bod plant yn dysgu sgiliau ychwanegol yn syml trwy wylio ac efelychu ymddygiadau eraill (Bandura, 1977), sef yn nifer o achosion y rhieni neu’r bobl maent o gwmpas fwyaf. Mae ei athroniaeth yn pwysleisio dysgu arsylwi neu fodelu wrth ddatblygu. Un o arbrofion mwyaf adnabyddus Bandura oedd yr ‘Bobo Doll Experiment’- lle mae plant ifanc yn gwylio oedolion yn ymddwyn yn ‘dreisgar’ yn erbyn dol Bobo chwyddadwy, ac o ganlyniad bu'r plant yn efelychu'r gweithgareddau yn dro nhw i chwarae gyda’r ddol, gan gynnwys gwthio'r ddol. Mae hyn yn dangos dysgu arsylwi mewn ymddygiad ymosodol (Bandura et al., 1961).
I gasglu, mae’n glir bod nifer o ddamcaniaethwyr a theorïau gwahanol ar y testun ‘natur neu fagwraeth sy’n effeithio bywyd a datblygiad plant’ ac mae sawl agwedd wahanol. Yn bersonol, credaf mai magwraeth sy’n cael yr effaith fwyaf, ond beth gredwch chi? A’i Watson sy’n mynd ach bryd neu a’i credoau Crowley sy’n eich dwyno? Un peth sy’n sicr yw bod dadleuon cryd ym mhob maes.
...
Ydy iaith yn datblygu'n organig neu oes angen dysgu’r sgil o gyfathrebu? Mae’r cwestiwn yma’n archwilio’r ddadl natur yn erbyn magwraeth, gan archwilio ein galluoedd ieithyddol cynhenid ac effaith addysgu amgylcheddol ar ddatblygiad iaith. Ers degawdau, mae ymchwilwyr ledled y byd wedi ymddiddori yn y broses o ddatblygiad iaith a’r mewnwelediad y gall ei ddarparu ar gyfer ein dealltwriaeth o wybyddiaeth ddynol (Maynard a Powell, 2013).
Fel pob dadl arall, mae sawl barn a safbwynt gwahanol ar y mater. Er enghraifft, mae Locke (1960) yn dadlau bod yr ymennydd, ar enedigaeth’ fel llechen wag (tabula rasa) I'w ysgrifennu trwy brofiad, hynny yw bod pob un plentyn yn cael ei eni heb unrhyw ddeallusrwydd naturiol ac yn dysgu popeth wrth fynd trwy fywyd. Yr enw ar y persbectif yma yw empiriaeth. Mae damcaniaeth datblygiad iaith Jean Piaget yn awgrymu bod plant yn dysgu o’u hamgylchoedd ar ôl iddo sylwi bod meddwl y plant yn aml yn groes i natur y byd gan eu bod ond yn gallu meddwl o’u persbectif eu hunain, (Piaget a Inhelder, 1956). Teimlai Piaget fod angen i blant ddatblygu'n ddeallusol cyn y gallent ddysgu iaith roedd Piaget yn cysylltu dysgu sgiliau iaith â datblygiad gwybyddol. Dywedodd fod yn rhaid i blentyn ddeall pwnc cyn dysgu ei ffurf lafar. Yn ôl ef, mae plant yn dechrau trwy greu strwythurau meddyliol o fewn eu meddyliau, ac mae datblygiad iaith yn dilyn o'r sgemâu hyn (Social Sci LibreTexts, 2021). Mae'r ddamcaniaeth yma yn perthyn i bersbectif empiriaeth, gan eu bod yn meddwl bod plant yn datblygu eu sgiliau iaith wrth ddysgu a modelu beth sydd o’u hamgylch.
I gymharu, mae’r persbectif natifiaeth, sef yr honiad nid all plant ddysgu trwy brofiad a gwybodaeth yn unig ond bod elfen fewnol naturiol gyda phlant yn barod o enedigaeth (Gleitman, 1995; Pinker, 1994) mae damcaniaethwyr o’r persbectif yn disgwyl i blant ddysgu’n gyflym ac yn ddiymdrech felly mae gallu cynhenid plentyn yn effeithio ar ei allu i ddatblygu iaith. Enghraifft o ddamcaniaethwr sydd â phersbectif natifiaeth yw Noam Chomsky, awgryma Chomsky - pan fydd plant mewn sefyllfa ffafriol, maen nhw’n dysgu iaith yn ddiymdrech (Wood 1998) ac nid oes rhaid addysgu iaith i blant, yn hytrach, byddant yn ei dysgu’n naturiol o ganlyniad i fod yn yr amgylchedd (Sutherland, 1992). Y cysyniad yma yw mai adwaith i ffactorau allanol yn hytrach nag ymdrech fwriadol ar ran y plentyn yw iaith, fel twf corfforol. Fodd bynnag, mae’r gallu i amsugno iaith o’u hamgylchedd yn rhannol ddibynnol ar eu gallu cynhenid hefyd. Felly, heb y gallu cynhenid hwn mae caffaeliad iaith yn fwy anodd i blant wrth ddatblygu eu hiaith.
Crynodeb o’r Gwrs Datblygiad Iaith (Keenan et al., 2016)
Dyma tabl sy’n adlewyrchu’r cerrig milltir iaith fwyaf bwysig yn y cyfnodau ym mlwyddyn gynnar bywyd plentyn-
Arbrawf 'Adam', 'Eve', a 'Sarah'
Adroddodd Brown (1973) am un astudiaeth lle astudiodd ddatblygiad ieithyddol cynnar tri phlentyn bach o'r enw 'Adam', 'Eve', a 'Sarah'. Mae'r enghraifft nesaf o iaith 'Eve' yn dangos pa mor gyflym y mae hi'n datblygu mewn cyfnod byr o amser.
Eve yn 18 mis: 'Right Down', 'look dolly'
Eve yn 27 mis: ' I go get a pencil 'n' write', 'We're going to make a blue house'
Dros gyfnod o naw mis, symudodd Eve ymlaen o frawddegau dau air syml i frawddegau wedi’u ffurfio’n gyfan gwbl. Mae’r datblygiad cyflym hwn yn gyffredin mewn plant, ac mae’n syndod i blentyn mor ifanc fod wedi datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ddysgu iaith. Ar y lefel fwyaf sylfaenol, mae’n rhaid i blant ddysgu creu'r synau hanfodol sy'n ffurfio gair mewn iaith, a elwir yn ffonoleg. Rhaid i'r plentyn ddeall ystyr y geiriau, set o sgiliau a elwir yn semanteg. Rhaid i'r plentyn hefyd gaffael set o reolau sy'n rheoleiddio trefniant cywir geiriau mewn ymadrodd, megis trefn enwau ac ansoddeiriau. Cystrawen yw gwybodaeth yr egwyddorion sy'n pennu trefn gywir geiriau. (Crowley, 2017).
Mae Llafaredd ar Draws y Cwricwlwm Cymreig (Oracy Cambridge, 2018) yn gynllun gweithredu gan y llywodraeth i wella datblygiad iaith plant, ac mae’n cynnwys canllawiau i ymarferwyr mewn ysgolion i helpu plant i gaffael sgiliau llafaredd. Mae’r datganiad yn awgrymu bod llafaredd (a ddiffinnir fel: ‘y gallu i siarad yn glir ac yn ramadegol gywir’ (Cambridge Dictonary, d,d.)) mor bwysig a darllen a rhifedd er mwyn rhoi’r sgiliau i fyfyrwyr ddefnyddio’r iaith lafar yn hyderus ac yn gywir.
Anableddau dysgu a datblygiad iaith.
A yw plant ag anableddau dysgu yn datblygu ieithoedd yn yr un ffordd â phlant eraill, neu a ydynt yn wynebu anawsterau? Mae data cymysg yn awgrymu nad oes ateb clir i'r pwnc hwn. Yn ôl Harley (2014), mae plant â Syndrom Down yn cael anhawster i gaffael ieithoedd, gyda dangosyddion cychwynnol yn cynnwys oedi iaith sy’n is na’u hoedran cronolegol ond sy’n cyd-fynd â’u hoedran meddyliol. Ar ôl pedair oed, gall iaith ddechrau llusgo y tu ôl i oedran meddwl, a daw anawsterau gyda geirfa a gramadeg i’r amlwg (Roberts et al., 2007). Serch hynny, mae ymchwil gyda phlant â Syndrom Williams wedi profi y gallant ddysgu geirfa’n rhugl sy’n ramadegol gywir. Felly .....
I gloi, mae datblygiad iaith plant yn ddadl amlochrog rhwng galluoedd cynhenid a dylanwadau amgylcheddol. Er bod geneteg yn darparu fframwaith sylfaenol, mae'r amgylchedd, sy'n cwmpasu rhyngweithiadau teuluol, cyd-destun diwylliannol, ac amlygiad addysgol yn ffactorau holl-bwysig. Mae arsylwi iaith fel cyfanwaith deinamig yn tanlinellu arwyddocâd amgylchedd meithringar ac ysgogol. Yn bersonol, credaf mai’r amgylchedd sy’n chwarae’r rhan fwyaf sylweddol, gan ddarparu’r ysgogiadau a’r gefnogaeth angenrheidiol i blentyn ddatblygu e’u hiaith ond ar llaw arall, mae rhaid fod rywfaint o allu a deallusrwydd cynhenid er mwyn magu greirfa a chystrawennau cyfoethog ac amrywiol ac i allu cynnal sgwrs aeddfed.
Delwedd ar gael at First 100 Words: A Padded Board Book : Priddy, Roger: Amazon.co.uk: Books
...
Yn y Deyrnas Unedig, mae tua 2.6 miliwn ag ADHD (ADHD UK, d,d). Mae archwilio’r berthynas gymhleth rhwng anghenion dysgu ychwanegol a datblygiad plant yn datgelu agwedd hollbwysig ar addysg. Yn y blog hwn, ymchwilir i effaith ADHD (Attention Hyperactivity Deficit Disorder). Hefyd, ystyrir rôl elusen wrth gefnogi datblygiad plant sy’n dioddef ag ADHD.
Beth yw ADHD?
Yn aml gwelwyd bod y cyflwr yn cael ei ddiystyred neu ei gamgymryd ar adegau am ymddygiad negyddol, anghwrtais ac anweddus. Fodd bynnag, o brofiad personol, o weithio gyda phlant a diagnosis ADHD wrth weld yr anawsterau sy’n gysylltiedig a’i datblygiad atgyfnerthir bod yr anghenion yn ddyfnach ac yn ddwysech na’r ffordd mae’n ymddangos.
- Ainsworth, M. D. (1963) The development of infant-mother interaction among the Ganda. ‘Determinants of infant behavior’. New York: Wiley pp. 67–112.
- ADHD UK (n.d.). About ADHD | ADHD UK. [online] ADHD UK. Available at: https://adhduk.co.uk/about-adhd/#:~:text=Summary%3A%20We%20believe%20the%20best.
- Baker, L. A. (2007). THE BIOLOGY OF RELATIONSHIPS: WHAT BEHAVIORAL GENETICS TELLS US ABOUT INTERACTIONS AMONG FAMILY MEMBERS. De Paul law review, [ar lein] 56(3), pp.837–846. Ar gael at: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC4685725/#:~:text=Genes%20influence%20each%20individual.
- Bandura, A. (1977) Social learning theory. Englewood Cliffs. NJ: Prentice Hall.
- Bandura, A., Ross, D. a Ross, S.A. (1963) ‘Imitation of film-mediated aggressive models’, Journal of Abnormal and Social Psychology, 66 (1): 3-11.
- Bowlby, J. (1969). Attachment and loss. 2nd ed. New York: Basic Books.
- Cambridge Dictionary (nd.) Oracy. Available at: https://dictionary.cambridge.org/dictionary/english/oracy (Accessed: 13/01/2024).
- Chomsky, N. (1986) Knowledge of language: Its nature, origins and use. New York: Praeger.
- College of Medicine. (2021). Elias El Haddad, PhD: Infectious Diseases & HIV Medicine. [ar lein] Ar gael at: https://drexel.edu/medicine/faculty/profiles/elias-haddad/ [Accessed 10 Jan. 2024].
- Crowley, K. (2017). Child development: a practical introduction. 2nd ed. Los Angeles: Sage.
- Gleitman, L. (1990). The structural sources of verb meanings. Language Acquisition, 1, 3-55.
- Hall, G. S. (1904) Adolescence: Its Psychology and its Relations to Physiology, Anthropology, Sociology, Sex, Crime, Religion and Education. New York: Appleton.
- Harley, T. (2014) The Psychology of Language: From Data to Theory (4th edn). Hove: Psychology Press.
- Holmes, J. (2014). John Bowlby and attachment theory. 2nd ed. London ; New York: Routledge, Taylor & Francis Group.
- Keenan, T., Evans, S. and Crowley, K. (2016) An Introduction to Child Development. London: Sage.
- Locke, J. (1690). An essay concerning human understanding. Cleveland, OH: Meridian Books.
- Mayo Clinic (2023). Adult attention-deficit/hyperactivity disorder (ADHD) - Symptoms and causes. [online] Mayo Clinic. Ar gael at: https://www.mayoclinic.org/diseases-conditions/adult-adhd/symptoms-causes/syc-20350878#:~:text=Adults%20with%20ADHD%20may%20find.
- Maynard, T. a Powell, S. (2013). An Introduction to Early Childhood Studies. SAGE.
- NHS (2021). Symptoms - Attention deficit hyperactivity disorder (ADHD). [online] NHS. Available at: https://www.nhs.uk/conditions/attention-deficit-hyperactivity-disorder-adhd/symptoms/.
- Oracy Cambridge (2018) Oracy across the Welsh curriculum. Available at: https://oracycambridge.org/wp-content/uploads/2018/07/Oracy-across-the-Welsh-curriculum-July-2018.pdf (Accessed: 12/01/2024).
- Piaget, J. and Inhelder, B. (1956) The Child's Conception of Space. London: Routledge & Kegan Paul.
- Pinker, S. (1984). Language Learnability and Language Development. Cambridge MA: Harvard University Press.
- Roberts, J.E., Price, J., and Malkin, C. (2007) ‘Language and communication development in Down syndrome’, Mental Retardation and Developmental Disabilities Research Reviews, 3 (1): 26-35.
- Skinner, B.F (1953) Science and Human Behavior. New York: Macmillan.
- Snow, C.E., 1972. Mothers' speech to children learning language. Child development, pp.549-565.
- Sutherland, P. (1992) Cognitive Development Today: Piaget and his critics. London: Sage Publications Ltd. Available at: https://sk-sagepub-com.ezproxy.uwtsd.ac.uk/books/cognitive-development-today (Accessed: 12/01/2024).
- Social Sci LibreTexts. (2021). 11.10: Theories of Language Development. [ar lein] Ar gael at: https://socialsci.libretexts.org/Courses/Rio_Hondo/CD_106%3A_Child_Growth_and_Development_(Andrade)/11%3A_Middle_Childhood_-_Cognitive__Development/11.10%3A_Theories_of_Language_Development#:~:text=Jean%20Piaget.
- Watson, J.B. (1930) Behaviorism. New York: Norton.
- Watson, J.B., & Rayner, R.R. (1920) ‘Conditioned emotional reactions’, Journal of Experimental Psychology, 3 (1): 1-14.
- WebMD (2018). How ADHD Can Affect Your Family. [online] WebMD. Ar gael at: https://www.webmd.com/add-adhd/childhood-adhd/adhd-effects-on-family.
- Wood, D. (1998) How Children Think and Learn. 2nd edn. Malden: Blackwell Publishing.
- Zwir, I., Arnedo, J., Del-Val, C., Pulkki-Råback, L., Konte, B., Yang, S.S., Romero-Zaliz, R., Hintsanen, M., Cloninger, K.M., Garcia, D., Svrakic, D.M., Rozsa, S., Martinez, M., Lyytikäinen, L.-P., Giegling, I., Kähönen, M., Hernandez-Cuervo, H., Seppälä, I., Raitoharju, E. and de Erausquin, G.A. (2020). Uncovering the complex genetics of human temperament. Molecular Psychiatry, [ar lein] 25(10), pp.2275–2294. doi:https://doi.org/10.




