Mae cydweithio rhwng ysgolion a’u cymunedau lleol yn hanfodol ar gyfer addysg gyflawn, gan gyfoethogi’r profiad dysgu ac yn meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb a ranwyd. Fel y mae Epstein (2001) yn pwysleisio, mae “School, Family and Community Partnerships” yn chwarae rôl hanfodol wrth baratoi disgyblion ar gyfer y dyfodol ac yn gwella ysgolion. Mae ymgysylltu â’r gymuned leol yn cyfoethogi’r cwricwlwm trwy ddarparu cymwysiadau’r byd go iawn a safbwyntiau amrywiol. Mae’r cydweithio hwn nid yn unig yn cryfhau’r sylfaen addysgol ond hefyd yn hyrwyddo cynhwysiant, gwerthfawrogi diwylliant ac amgylchedd cefnogol. Serch hynny, mae ysgolion yn wynebu llawer o broblemau efo’i plant, rhieni a cymuned leol. Un broblem sydd yn codi yn aml yn ysgolion yw tlodi. Mae tlodi yn taflu cysgod hir a gwanychol dros brofiadau addysgol plant mewn ysgolion cynradd, yn enwedig yng Nghymru. Fel y noda’r ennillydd Nobel James Heckman, “Poverty is not just a lack of money; it’s about economic insecurity, lack of access to education and health care” (2013). Mae hyn yn crynhoi’r heriau a wynebir gan blant mewn sefyllfaoedd tlawd, lle mae cyfyngiadau ariannol yn treiddio i wahanol agweddau o’u bywydau. Mae ysgolion cynradd yn gallu chwarae rôl hanfodol wrth gefnogi plant sy'n wynebu tlodi. Trwy weithredu ymyriadau targedu, fel rhaglenni prydau am ddim a darparu adnoddau addysgol hanfodol fel llyfrau darllen, fe wnaeth hyn sicrhau bod anghenion sylfaenol y plant yn cael eu diwallu. Drwy sefydlu rhaglenni ar ôl ysgol a chymorth gyda gwaith cartref, geiff y plant cyfleoedd dysgu ychwanegol. Trwy feithrin amgylchedd cefnogol a chynhwysol yn yr ysgol, mae ysgolion yn allu wella effaith emosiynol a ddaw o dlodi, gan hyrwyddo lles meddyliol cadarnhaol. Drwy gydweithio â sefydliadau cymunedol, gall ysgolion ymestyn eu dylanwad, efallai bydd yr ysgol gyda fwy o siawns i cael cymorth ariannol ar gyfer gwisgoedd neu drefnu digwyddiadau cymunedol i codi arian ar gyfer pobl mewn tlodi. Yn y pen draw, yr allwedd yw creu amgylchedd sy'n cydnabod ac yn mynd i'r afael ag anghenion unigryw plant mewn tlodi, gan sicrhau cyfleoedd addysgol cyfartal. Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru gan bod y Llwyodraeth wedi addo I ddarparu “Bwydydd ysgol am ddim I bob plenty yn ysgolion cynradd yng Nghymru erbyn 2024” (Llywodraeth Cymru, 2023). Yn yr ysgol lle roeddwn yn pontio, Ysgol A, mae tua 7% o’r disgyblion yn cael prydau ysgol am ddim (Estyn, 2018). Mae hyn ar fun cynyddu yn y flwyddyn nesaf oherwydd yr hyn a addawyd gan y Llywodraeth. Er mwyn cynnal hyn, mae’r ysgol yn trefnu clwb brecwast yn y bore. Mae’r clwb brecwast yn ffordd bositif o gefnogi plant sy’n wynebu tlodi, gan sicrhau nad yw’r rhai hyn yn colli’r cyfle I gael brecwast, y pryd pwysigaf o’r dydd. Yn ogystal, mae Ysgol A’n annog rhieni i rhoddi hen gwisgoedd eu plant sydd wedi ymadael â’r ysgol neu rhai sydd ddim yn ffito’r plant yn iawn I’r ysgol. Mae hyn yn cyfrannu at gydraddoldeb gan bod yr ysgol rhoi rhain I rieni sy’n wynebu heriau economaidd. Mae hyn hefyd yn helpu lles disgyblion gan bydd y plant yn teimlo’n gyfforddus a bu’n nhw’n osgoi unrhyw amhwylliant neu fwlian oherwydd eu gwisg. Mae gweithio’n agos efo rhieni yn bwysig iawn i ysgolion cynradd. Pan mae rhieni’n cymryd rhan yn addysg eu plant gartref ac yn yr ysgol, mae’n gwneud gwahaniaeth mawr. Fel y mae ymchwilwyr Anne T.Henderson a Karen L Mapp yn nodi, “When parents are involved in their children’s education at home, they do better in school” (Henderson & Mapp, 2002). Pan fo ysgolion yn gweithio’n agos gyda rhieni, mae’n helpu plant i ddysgu’n well. Mae gan rieni wybodaeth bwysig am eu plant, ac wrth weithio gyda ysgolion, gallant rannu’r wybodaeth hynny. Mae hyn yn helpu ysgolion I ddeall sut mae pob disgybl yn dysgu a pha gefnogaeth y gallant ei chael. Hefyd, mae’n creu amgylchedd cadarnhaol lle mae plant yn teimlo’n dda am ddysgu a mynd I’r ysgol. Mae’r cydweithio hwn yn arbennig o bwysig pan mae plant yn dechrau’r ysgol, oherwydd mae’n creu sail gryf ar gyfer cariad o ddysgu sy’n para trwy’r oes. Mae ysgolion cynradd yn gallu gwella ymgysylltiad rhieni drwy sianeli cyfathrebu agored, cynadleddau rheolaethu rhieni-athrawon rheolaidd, a gweithdai hysbysfwrdd. Drwy drefnu digwyddiadau teuluol, annog rhaglenni gwirfoddoli rhieni, a defnyddio platfformau digidol, mae modd hwyluso'r cysylltiad. Trwy sefydlu pwyllgorau cynghori rhieni, darperir fforwm ar gyfer cydweithredu wrth wneud penderfyniadau. Drwy gynnig rhaglenni cymorth gwaith cartref a dathlu cyflawniadau myfyrwyr, cynhwysir rhieni yn fwy yn eu plant. Trwy greu amgylchedd cynhwysol, gan ystyried cefndiroedd ieithyddol amrywiol, mae’n sicrhau cyfathrebu effeithiol a chyfranogiad rhieni yn eu plentyn. Mae gweithio gyda rhieni yn un o brif ffyrdd Ysgol A i greu cymuned addysgol gadarnhaol. Rhoddir pwyslais mawr ar hyn trwy ddulliau amrywiol. Mae Ysgol A'n cynnig gwersi Cymraeg i rieni, gan hybu'r iaith Gymraeg ac yn cefnogi disgyblion sy'n dechrau ar eu taith ddwyieithog. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg gartref, gan greu awyrgylch croesawgar a chynhwysol. Mae Ysgol A hefyd yn gwahodd rhieni i rhannu eu harbenigedd gyda'r ysgol, gan ddangos ymrwymiad i'r addysg. Mae diwrnodau fel "Dewch a rhiant i'r ysgol" yn adeiladu linc cadarnhaol rhwng cartref a’r ysgol. Mae hyn yn arbennig o bwysig i'r plant sy'n dechrau eu taith ysgolion, gan cefnogi wrth iddynt ymgartrefu yn eu hamgylchedd newydd. Er mwyn annog cydweithio teuluol ac i helpu plant i ymgartrefu'n hwylus, mae'r ysgol yn trefnu diwrnodau agored cyn i’r plant dechrau yn mis Medi. Pob hanner tymor mae’r ysgol yn anfon llyfrau thema neu mathemateg adref, mae'r ysgol yn sicrhau bod y disgyblion yn dechrau'r tymor yn gyfarwydd â beth maent newydd gyflawni yn yr ysgol y tymor cyn. Gyda hysbysfyrddau gwaith plant a chyfleoedd cyson i ymgysylltu â gwaith y disgyblion, mae'r ysgol yn ymrwymo i ddarparu profiadau dysgu well. Mae'r ysgol yn newid gwaith y plant ar yr hysbfyrddau, trwy hyn mae’r ysgol yn cynnig heriau ac ysbrydoli creadigrwydd y plant. Hefyd, mae’n gadael y plant i deimlo i’w fod yn cael ei weld a werthfawrogi gan yr athrawon. Mae amrywiaeth mewn ysgolion cynradd yn bwysig iawn gan ei bod yn adlewyrchu'r byd go iawn. Fel y mae Sonia Nieto, arbenigwr addysg, yn pwysleisio, mae cael addysg aml-ddiwylliannol ac wrth-hiliaethol yn hanfodol mewn cymdeithas ddemocrataidd (Nieto, 2010). Pan mae plant yn cael profiad o wahanol ddiwylliannau a safbwyntiau yn yr ysgol, maent yn dysgu gwerthfawrogi amrywiaeth ac yn deall y byd yn well. Mae cael disgyblion o gefndiroedd amrywiol yn helpu pawb i ddysgu mwy, meddwl yn feirniadol, a datrys problemau (Page, 2007). Mae hefyd yn paratoi plant ar gyfer byd lle byddant yn cwrdd â phobl o wahanol leoedd. Pan fydd athrawon yn dod o gefndiroedd amrywiol, maent yn rhoi enghreifftiau i ddisgyblion o wahanol gefndiroedd, gan ddangos bod pawb yn gallu llwyddo. Mewn termau syml, mae amrywiaeth mewn ysgolion cynradd fel cael cymysgedd o bobl wahanol, sy'n dda gan ei fod yn helpu pawb i ddysgu ac yn eu paratoi ar gyfer y byd go iawn. Mae ysgolion cynradd yn gallu hyrwyddo amrywiaeth trwy ddathlu gwahaniaethau ac addysgu plant am wahanol ddiwylliannau, ieithoedd, a thrafodaethau. Drwy ddefnyddio llyfrau, straeon, a gweithgareddau cynhwysol, mae'n helpu plant i ddeall ac i werthfawrogi amrywiaeth. Mae trefnu digwyddiadau amrywiol, gwahodd siaradwyr, a chyflwyno enghreifftiau o wahanol rolfeision yw'r ffordd i greu amgylchedd croesawgar. Gan bwysleisio caredigrwydd, parch, a chyfeillgarwch, mae'n meithrin agweddau cadarnhaol tuag at eraill. Mae anogu prosiectau cydweithredol lle mae disgyblion yn rhannu eu cefndiroedd unigryw yn hyrwyddo ymdeimlad o undod. Yn y pen draw, drwy greu awyrgylch ysgol sy'n gwerthfawrogi ac yn croesawu amrywiaeth, mae'n helpu plant i ddysgu ac i dyfu gyda'i gilydd mewn lle cyfeillgar a chynhwysol. Rwyf wedi gweld yn yr ysgol fod y ddisgyblion yn defnyddio llyfrau sy'n adlewyrchu'r amrywiaeth o gefndiroedd yn yr ysgol. Gyda lleiafrifoedd o grwpiau ethnig yn yr ysgol, mae hyn yn allweddol i ysbrydoli'r disgyblion ac i'w gwneud yn teimlant eu bod yn cael eu cynrychioli'n llawn yn ystod dysgu. Rwyf wedi gweithio fel cynorthwydd dosbarth ac wedi gweld amrywaieth fawr o ddisgyblion o'r dosbarth meithrin hyd at flwyddyn 6. Yn fy mhrofiad fel cynorthwydd dosbarth, mae'r disgbylion bob tro yn parchu'r disgyblion o gefndir lleiafrifol ethnig. Roedd hyn ddim yn wahanol i'r dosbarthiadau eraill y bues i'n eu hystyried yn fy ysgol pontio. Yn hytrach, mae'r ymagwedd hon yn rhoi pwyslais ar werthfawrogi amrywiaeth ac yn annog cydweithio o fewn y dosbarth. Mae mynychu'r ysgol yn hollbwysig i ddatblygiad cyffredinol a llwyddiant academaidd Pan fydd plant yn mynychu'r ysgol yn gyson, maent yn elwa ar amgylchedd dysgu strwythuredig sy'n meithrin sgiliau cymdeithasol, disgyblaeth, a synnwyr o drefn. Mae ymchwil yn awgrymu bod presenoldeb cyson yn gysylltiedig â chyflawniad academaidd (Gottfried, 2010). Mae plant sy'n mynychu'r ysgol yn gyson yn fwy tebygol o adeiladu sail gryf mewn llythrennedd a rhifedd. Yn ogystal, mae presenoldeb yn hanfodol ar gyfer rhyngweithiadau cymdeithasol a ffurfio ffrindiau. Mae'n helpu myfyrwyr i ddatblygu ymdeimlad o berthynas a lles emosiynol. Gall athrawon roi cymorth wedi'i anelu at disgyblion penodol pan maent yn sylwi ar batrymau presenoldeb, gan sicrhau bod pob plentyn yn cael y cyfle i ffynnu'n academaidd ac yn gymdeithasol. Mewn termau syml, mae mynd i'r ysgol bob dydd yn helpu plant i ddysgu, gwneud ffrindiau, ac adeiladu sail gryf ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Gall ysgolion cynradd weithredu nifer o strategaethau i atal presenoldeb isel a chynnal cyfraddau presenoldeb uchel. Yn gyntaf, trwy feithrin diwylliant ysgol cadarnhaol a chynhwysol, mae'n creu amgylchedd lle mae disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cael eu hysbrydoli i fynychu'n rheolaidd. Trwy adeiladu perthnasoedd cryf rhwng athrawon, disgyblion, a rhieni drwy gyfathrebu effeithiol, mae'n helpu i nodi a mynd i'r afael â materion presenoldeb yn gyflym. Drwy weithredu dulliau dysgu diddorol a berthnasol, mae'n cynyddu diddordeb myfyrwyr mewn dysgu, gan wneud yr ysgol yn lle mwy deniadol. Gall cynnig gweithgareddau allgyrsiol a chreu rhwydwaith cefnogol i fyfyrwyr sy'n wynebu heriau y tu allan i'r ysgol gyfrannu at godi'r cyfraddau presenoldeb. Trwy fonitro patrymau presenoldeb, fe ddylai athrawon nodi y myfyrwyr mewn perygl, a chynnig ymyriadau targedu, fel rhaglenni mentora neu gyngor, mae'n helpu i ymdrin â materion sylfaenol sy'n effeithio ar bresenoldeb. Mae cydweithio â sefydliadau cymunedol a defnyddio technoleg ar gyfer monitro presenoldeb a chyfathrebu yn ychwanegu at ymdrechion i sicrhau presenoldeb cyson. Un peth rwyf yn awgrymu i Ysgol A wneud i hyrwyddo presenoldeb ymhlith y disgyblion yw cyflwyno gwobrau yn gwasanaeth i'r plant sy'n dangos presenoldeb uchel. Mae'n anhygoel sut y gall gwobrau bach, megis diolchgarwch neu gydnabyddiaeth, fod yn ysgogiad i blant barhau i fod yn bresennol yn y dosbarth. Gan ddangos parch a werthfawrogiad tuag at y disgyblion sy'n ymddangos yn rheolaidd, bydd hyn yn ysgogi eraill i ddilyn eu enghraifft. Gall hyn fod yn gyfraniad gwerthfawr at ysbrydoli presenoldeb, gan gael effaith gadarnhaol ar y cyfleuster dysgu cyfan. O fy mhrofiad o weld hyn yn gweithio mewn ysgol uwchradd, gwelais fod gwobrau fel hyn yn annog plant i ymrwymo'n fwy tuag at eu presenoldeb yn y dosbarth ac yn ysgogi cysondeb. I gloi, mae cyfleoedd a heriau fel tlodi, gweithio efo rhieni, amrywiaeth, a presenoldeb yng nghymuned ysgol yn chwarae rol hanfodol wrth ddylanwadu ar ysgolion, gan effeithio ar addysgu, dysgu, a manylion eraill o'r broses addysg. Mae her tlodi yn herio addysg draddodiadol gan dynnu sylw at yr angen am strategaethau penodol i gefnogi plant mewn cyd-destunau tlodi. Mae'r cyfleoedd sy’n cael ei gynnig gyda gweithio efo rhieni'n creu partneriaethau cryf, gan gryfhau'r berthynas rhwng cartref ac ysgol. Mae amrywiaeth yn ysgogi dealltwriaeth o'r byd ac yn hyrwyddo cymdeithas gymdeithasol, gan ddylanwadu ar farn a phrofiadau personol. A mae presenoldeb yn galluogi ysgolion i ymateb i anghenion unigolion.