{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos i chi sut i ychwanegu ffeiliau a ffolderi at eich tudalen cwrs Moodle.<\/p><p><strong>Ychwanegu ffeil<\/strong><\/p><p>Yn yr enghraifft hon, bydda i\u2019n lanlwytho copi o'r llawlyfr Modwl.<\/p><p>Yn gyntaf, gwnewch yn si\u0175r bod y<em> Modd golygu<\/em> ymlaen. Yna, ewch i ble rydych chi am i'ch ffeil ymddangos, dewiswch yr arwydd plws a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd<\/em>. O'r rhestr, dewiswch <em>Ffeil<\/em> a dewiswch <em>Ychwanegu<\/em>.<\/p><p>Rhowch enw clir, ystyrlon i'ch ffeil: dyma beth fydd myfyrwyr yn ei weld ar y dudalen ac ym mynegai\u2019r cwrs. Yn fy achos i, bydda i\u2019n ychwanegu <em>Llawlyfr Modwl.<\/em><\/p><p>Ychwanegwch ddisgrifiad byr neu gyfarwyddiadau yn y maes<em> Disgrifiad<\/em>, a thiciwch ar <em>Arddangos disgrifiad ar dudalen y cwrs<\/em> fel ei fod yn ymddangos ar y dudalen.<\/p><p>Lanlwythwch eich ffeil trwy ei llusgo i'r maes lanlwytho neu drwy ddefnyddio'r dewisydd ffeiliau.<\/p><p>Pan fyddwch wedi gorffen, sgroliwch i lawr a dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i\u2019r cwrs<\/em>.<\/p><p><strong>Ychwanegu ffolder<\/strong><\/p><p>Nawr gadewch i ni ychwanegu ffolder.<\/p><p>Dywedwch fy mod am rannu'r sleidiau Wythnos 1 ar fformat PowerPoint a PDF, fel y gall myfyrwyr ddewis y fersiwn sy'n well ganddyn nhw. Galla i grwpio'r ffeiliau hyn mewn ffolder.<\/p><p>A'r <em>Modd golygu <\/em>ymlaen o hyd, ewch i'r man lle rydych chi am i'ch ffolder ymddangos, dewiswch yr arwydd plws a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd<\/em>. O'r rhestr, dewiswch <em>Ffolder <\/em>a dewiswch <em>Ychwanegu<\/em>.<\/p><p>Ychwanegwch enw a disgrifiad, a thiciwch <em>Arddangos disgrifiad ar dudalen y cwrs<\/em> i roi gwybod i fyfyrwyr beth sydd y tu mewn. Er enghraifft, bydda i\u2019n ysgrifennu: \"Yn y ffolder hon, fe welwch chi gopi o'r sleidiau ar gyfer Wythnos 1 ar fformat PowerPoint a PDF.\"<\/p><p>Nawr gallwch chi lanlwytho'ch ffeiliau. Yma rwy'n llusgo a gollwng y ddwy ffeil, ond gallwch chi hefyd ddefnyddio'r dewisydd ffeiliau. Pan fyddwch wedi gorffen, sgroliwch i lawr a dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p>A dyna ni! Sut i ychwanegu ffeiliau a ffolderi at Moodle.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"004f45af-00ad-4144-bc25-5721a0a4e6ae","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i ychwanegu ffeiliau a ffolderi"}],"hTag":"h4"}