Darn 4 - Y Combein Mae un peiriant cyffredinol yn unig ar hyn o bryd sy’n cynaeafu grawn yng Ngogledd America, sef y combein. Mae’r combein cyfoes, sydd wedi’i wneud o fwy na 35’000 o rannau, yn ffatri a fwriadwyd ar gyfer gweithio yn y caeau. Mae’n rhyfeddod peirianneg a thechnoleg cynhyrchu. Gellir cynaeafu mwy na 100 o rywogaethau hadau gwahanol a allai fod yn ficrosgopig neu ffa (sydd 5000 o weithiau yn fwy), gan ddefnyddio’r peiriant penedol hwn yn ogystal ag ychydig o atodion bychain. Mae’r combein yn ddrud. Fe’i defnyddir am 200 o oriau y flwyddyn yn unig ar gyfartaledd felly mae heb ei ddefnyddio ddigon. Mae rhesymeg ariannol yn gyfrifol am yr yswiriant hwn rhag colledion cnydau er hynny. Os bydd ffermwyr yn gallu dewis, byddant yn prynu peiriant yn fwy cynhyrchiol (ac yn ddrutach hefyd) er mwyn cynaeafu eu cnydau ar adeg orau y tymor. Mae oedi cynaeafu’n ddrud. Bydd y combein dim ond mor gynhyrchiol â dolen wanaf y peiriant serch hynny, gan gynnwys y gweithredwr ac ei reolaethau. Bydd dylunio combein yn y dyfodol yn dal i ganolbwyntio ar ble mae’r gweithredwr yn eistedd, oherwyyd bod cysur a chyfleustra y gweithredwr yn dal yn arbennig o bwysig. Monitrir mwy o weithrediadau yn electronig oherwydd bod y gweithredwr ar ei ben ei hunan yn y caban ar gau ac mae’r peiriant ei hunan yn fwy cymhleth. Bydd monitro gweithgaredd yn ogystal â monitro proces yn fwy cymhleth. Rhoir prawf ar fonitoriaid lleithder cnydau a cholled grawn sy’n gallu dangos colled yng nghanran dros gefn y peiriant yn ogystal â rheoli gweithrediadau combein yn ôl cyflyrau cnydau’n awtomatig. Mae’r fath welliannau’n galluogi’r gweithredwr i wireddu potensial y peiriant yn llawn.