{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n yn dangos i chi sut i ddefnyddio golygydd Moodle i ychwanegu a fformatio testun. Bydda i\u2019n gweithio gyda <em>Maes testun a chyfryngau<\/em> er enghraifft, ond mae'r un camau yn berthnasol ble bynnag y byddwch chi'n defnyddio'r golygydd.<\/p><p>I ychwanegu testun, dechreuwch deipio yn y golygydd neu gludiwch eich testun. Gallwch chi wneud y maes cofnod testun yn fwy trwy lusgo'r ddolen fach yn y gornel dde isaf.<\/p><p><strong>Y bar offer golygu<\/strong><\/p><p>Ar frig y golygydd, fe welwch chi far offer gyda llawer o nodweddion cyfarwydd, yn debyg i'r hyn y byddech chi'n dod o hyd iddo mewn proseswyr geiriau megis Microsoft Word. Mae botymau i roi\u2019r testun mewn print trwm neu italig, ychwanegu hyperddolenni, addasu aliniad a mewnoli, a chreu rhestrau neu hafaliadau.<\/p><p>Cofiwch y gall rhai botymau bar offer fod yn guddiedig, yn enwedig os byddwch chi'n defnyddio sgrin lai neu os byddwch chi wedi chwyddo ar y dudalen. I ddatgelu pob opsiwn, dewiswch y tri dot (...) i ehangu'r bar offer.<\/p><p>Pan fyddwch chi'n uwcholeuo testun, bydd bar offer cyflym yn ymddangos. Mae hyn yn rhoi mynediad cyflym i offer fformatio cyffredin i chi. Er enghraifft, er mwyn rhoi fformat pennawd i\u2019r testun hwn, uwcholeuwch e a dewis H3. I roi\u2019r gair hwn mewn print trwm, tynnwch sylw ato a dewis yr eicon trwm.<\/p><p><strong>Cyngor hygyrchedd<\/strong><\/p><p>Cofiwch fformatio penawdau \u00e2'r arddulliau penawdau adeiledig bob tro. Mae hyn yn helpu myfyrwyr sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol megis darllenwyr sgrin i ddehongli strwythur y dudalen.<\/p><p>I gael rhagor o opsiynau fformatio, agorwch y ddewislen <em>Fformatio<\/em>. Er enghraifft, i fformatio testun fel cod, tynnwch sylw ato, ewch i <em>Fformatio<\/em>, a dewis <em>Cod<\/em>.<\/p><p>I fewnosod tabl, dewiswch <em>Tabl<\/em> yn y bar offer. Defnyddiwch y grid i ddewis faint o resi a cholofnau y mae eu hangen arnoch chi. Ar \u00f4l ychwanegu'r tabl, gallwch chi barhau i wneud newidiadau naill ai trwy ddefnyddio'r bar offer llwybr byr sy'n ymddangos pan fyddwch chi'n dewis y tabl, neu drwy ddewis <em>Tabl<\/em> eto yn y ddewislen uchaf.<\/p><p>O dan <em>Offer,<\/em> fe welwch nodweddion defnyddiol eraill megis y <em>Gwiriwr hygyrchedd<\/em> a'r gwyliwr<em> Cod gwreiddiol<\/em>, sy'n gadael i chi olygu'r HTML yn uniongyrchol os bydd angen.<\/p><p>A dyna ni - sut i ychwanegu a fformatio testun gan ddefnyddio golygydd Moodle!<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"0eb5cf02-39cf-415c-a373-78ac96a79d25","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Defnyddio&#039;r golygydd i ychwanegu a fformatio testun"}],"hTag":"h4"}