WEBVTT

00:00:03.000 --> 00:00:05.600
Mae adborth yn allweddol i'n myfyrwyr

00:00:05.600 --> 00:00:06.700
gan ei fod yn eu helpu

00:00:06.700 --> 00:00:09.200
i ddeall yr hyn y maent yn ei wneud yn dda

00:00:09.400 --> 00:00:11.100
a ble y gallant wella.

00:00:11.600 --> 00:00:17.000
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer rhoi adborth effeithiol
iddynt a fydd yn eu helpu i wella.

00:00:18.000 --> 00:00:20.100
Edrych i'r dyfodol

00:00:21.000 --> 00:00:23.100
Blaenborth yw elfen bwysicaf adborth.

00:00:24.000 --> 00:00:29.100
Dylech sicrhau bod eich sylwadau'n rhoi ffyrdd
i'r myfyriwr wella yn y dyfodol

00:00:29.200 --> 00:00:31.800
a'u cyfleu mewn ffordd sy’n esbonio hynny.

00:00:33.200 --> 00:00:36.000
Bod yn glir, yn benodol ac yn gyson

00:00:37.200 --> 00:00:38.200
Yn eich adborth,

00:00:38.500 --> 00:00:40.800
dylech dynnu sylw at gryfderau

00:00:40.900 --> 00:00:42.300
a meysydd i'w gwella.

00:00:42.900 --> 00:00:44.500
Gall sylwadau amwys

00:00:44.500 --> 00:00:47.200
neu or-gyffredinol fod yn llai defnyddiol.

00:00:47.800 --> 00:00:53.100
Hefyd, gwnewch yn siŵr eich bod yn gyson
yn eich dull adborth drwy gydol y cwrs

00:00:53.400 --> 00:00:56.600
i helpu myfyrwyr i ddeall eich disgwyliadau.

00:00:58.200 --> 00:00:59.800
Beirniadaeth adeiladol

00:01:01.000 --> 00:01:04.599
Geiriwch adborth mewn modd adeiladol a chefnogol.

00:01:05.300 --> 00:01:08.900
Dylech gynnig awgrymiadau ymarferol ar gyfer gwella

00:01:09.100 --> 00:01:12.400
yn hytrach na thynnu sylw at wallau yn unig.

00:01:13.300 --> 00:01:14.500
Brechdan adborth

00:01:15.300 --> 00:01:18.500
Ystyriwch ddefnyddio dull brechdan adborth

00:01:19.000 --> 00:01:22.500
sy'n cynnwys dechrau a gorffen gyda sylwadau cadarnhaol

00:01:23.000 --> 00:01:25.500
wrth fynd i'r afael â meysydd i'w gwella yn y canol.

00:01:28.300 --> 00:01:29.700
Cyfathrebu dwyffordd

00:01:30.900 --> 00:01:35.700
Mae'n arfer da treulio amser yn y dosbarth
yn trafod adborth gyda myfyrwyr

00:01:35.700 --> 00:01:38.000
ar ôl pob asesiad ac,

00:01:38.200 --> 00:01:39.300
os yn bosibl,

00:01:39.400 --> 00:01:41.900
cyn iddynt gyflwyno eu darn nesaf o waith.

00:01:42.700 --> 00:01:45.900
Crëwch gyfleoedd i fyfyrwyr geisio eglurhad

00:01:45.900 --> 00:01:50.100
ac annogwch ddeialog i fynd i'r afael â chwestiynau a phryderon.

00:01:50.800 --> 00:01:55.200
Gall y trafodaethau hyn helpu myfyrwyr i adfyfyrio ar eu gwendidau

00:01:55.300 --> 00:01:58.400
a chynllunio ar gyfer gwelliannau yn y dyfodol.

00:01:59.000 --> 00:02:05.800
Gallwch hefyd dywys myfyrwyr i nodi cryfderau yn eu gwaith gan ddefnyddio adborth a'r cyfarwyddiadau.

00:02:07.600 --> 00:02:08.600
Gosod nodau

00:02:09.699 --> 00:02:14.800
Anogwch fyfyrwyr i osod nodau ar gyfer gwella yn seiliedig ar eich adborth.

00:02:15.600 --> 00:02:19.800
Mae hyn yn eu helpu i gymryd perchnogaeth o'u dysgu a'u cynnydd.

00:02:21.600 --> 00:02:22.800
Proffesiynoldeb

00:02:23.900 --> 00:02:24.500
Yn olaf,

00:02:24.800 --> 00:02:29.800
gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnal tôn broffesiynol a pharchus yn eich adborth,

00:02:30.100 --> 00:02:32.600
gan bwysleisio ei fod yn ymwneud â'r gwaith,

00:02:32.900 --> 00:02:33.900
nid yr unigolyn.

