{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p><span style=\";\">Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos sut i greu gweithgaredd <em>Aseiniad<\/em> ym Moodle.<\/span><\/p><p><span style=\";\">Yn gyntaf, trowch y<em> Modd golygu <\/em>ymlaen, ewch i ble rydych chi am ychwanegu'r gweithgaredd, dewiswch yr arwydd plws (+) a dewiswch <em>Gweithgaredd <\/em>neu<em> adnodd<\/em>. Dewiswch <em>Aseiniad<\/em> o'r rhestr.<\/span><\/p><p><span style=\";\">Rhowch enw clir a disgrifiad byr i'ch aseiniad. Cofiwch dicio <em>Dangos disgrifiad ar dudalen y cwrs<\/em>.<\/span><\/p><p><span style=\";\">Yn y maes <em>Cyfarwyddiadau gweithgaredd<\/em>, esboniwch bwrpas y gweithgaredd a'r hyn y disgwylir i fyfyrwyr ei gyflwyno. Gallwch chi hefyd ychwanegu darpariaeth amlgyfrwng a lanlwytho unrhyw ffeiliau ategol ychwanegol os bydd angen.<\/span><\/p><p><span style=\";\">Isod, fe welwch chi lawer o wahanol gosodiadau<\/span><\/p><ol><li><span style=\";\">O dan <em>Argaeledd<\/em>, gallwch chi osod y dyddiad o pryd &nbsp;derbynnir cyflwyniadau a dyddiad dyledus. Gallwch chi hefyd osod eich nodyn atgoffa eich hun ar gyfer graddau.<\/span><\/li><li><span style=\";\">O dan <em>Mathau o gyflwyno<\/em>, gallwch chi ddewis a fydd myfyrwyr yn lanlwytho ffeil megis cyflwyniad neu ddogfen, neu'n teipio'n uniongyrchol i Moodle, neu'r ddau. Mae testun ar-lein yn ddelfrydol ar gyfer tasgau byrrach.<\/span><\/li><li><span style=\";\">O dan <em>Mathau o adborth<\/em>, gallwch chi ddewis gwahanol opsiynau ar gyfer darparu adborth. Rydyn ni\u2019n argymell <em>Sylwadau adborth<\/em>, sy'n gadael i chi ysgrifennu neu ychwanegu amlgyfrwng yn uniongyrchol mewn golygydd testun. Gallech chi hefyd ddewis lanlwytho ffeil.<\/span><\/li><li><span style=\";\">Yn olaf, ar y gwaelod gallwch chi alluogi neu analluogi Turnitin. Yn yr achos hwn, rwy'n sefydlu tasg asesu ffurfiannol, felly byddaf yn ei ddiffodd.<\/span><\/li><\/ol><p><span style=\";\">Mae hyn yn ddigon i sefydlu cyflwyniad syml. Mae gosodiadau eraill y gallwch chi eu harchwilio trwy ddewis yr eicon<em> marc cwestiwn<\/em> wrth ymyl pob elfen neu drwy fynd i ddogfennaeth Moodle.<\/span><\/p><p><span style=\";\">Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/span><\/p><p><span style=\";\"><strong>Gadael adborth<\/strong><\/span><\/p><p><span style=\";\">Ar \u00f4l i fyfyrwyr gyflwyno eu gwaith, dewiswch y gweithgaredd a chlicio ar <em>Gradd<\/em>. Yn dibynnu ar yr opsiynau adborth a ddewisoch, gallwch chi adael sylwadau yn y blwch adborth neu lanlwytho ffeil. Mae'r <em>Blwch hysbysu Myfyriwr<\/em> wedi'i dicio yn ddiofyn, felly hysbysir myfyrwyr pan fydd adborth ar gael.<\/span><\/p><p>&nbsp;Felly dyna ni, sut i greu gweithgaredd aseiniad.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"489961a1-7cc6-45ac-aa68-45a19b597e1f","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i ddefnyddio&#039;r gweithgaredd Aseiniad"}],"hTag":"h4"}