Nod yr asesiad hon yw defnyddio proffil disgybl Ella fel enghraifft i drafod sut gall addysgwyr gwrdd ag anghenion plant a phobl ifanc. Mi fyddaf yn gwneud hyn drwy edrych ar nifer o wahanol syniadau a damcaniaethau gan arbenigwyr. Bydd fy mhrofiadau o’r sesiynau pontio hefyd o fudd i mi wrth edrych ar sut mae agweddau ymarferol yn clymu mewn gyda’r damcaniaethau a sut bydd modd helpu yr unigolyn rydym wedi ei astudio. Mae’n bwysig i ni fel addysgwyr fod yn ymwybodol o’r ffyrdd gwahanol mae pob unigolyn yn dysgu , yn ogystal a beth sydd angen ei wneud i helpu y rhai sydd efallai yn gweld hi’n anodd dal fyny, neu sydd yn dysgu drwy ddefnyddio dulliau gwahanol. Mae gan unrhyw oedolyn sydd yn gweithio gyda plant rol a chyfrifoldeb i wneud yn siwr eu bod yn ddiogel ac yn cael yr addysg ora posibl. Mae yna fwy i disgrifiad swydd athro/athrawes na dim ond unigolyn sydd yn dilyn y cwricwlwm a gofalu am blant o naw tan dri yn ystod y dydd. Mae gofynion pellach yn ymwnued a’r swydd. Sydd yn gwneud iddym ofyn y cwestiwn, beth sydd yn gwneud addysgwyr da? Er mwyn bod yn unigolyn sydd yn ennill ymddiriaeth a chefnogaeth y plant a addysgwyd a’r holl o’i amgylch, mae rhaid talu sylw at anghenion penodol pob plentyn ac yna addasu gweithgareddau a’r amgylchedd o’i cwmpas er mwyn sirhau ein bod yn cyrraedd y gofynion sydd ganddynt. Bydd hyn yn cael ei wneud drwy dreulio amser gyda’r disgyblion a cymryd sylw o ble maent wedi cyrraedd gyda ei datblygiad corfforol, addysgol, emosiynol yn ogystal a datblygiad cymdeithasol. Mi fyddaf yn trafod y rhain mewn mwy o fanyldeb wrth fynd ymlaen. Bydd llawer o gamau datblygiad plentyn yn cael ei gymorthwyo yn ystod eu hamser yn yr ysgol, felly mae’n hanfodol bwysig fod yr oedolion o’i hamgylch yn gwneud eu gorau i sicrhau fod pob gweithgaredd a darn o waith yn rhai sydd yn annog datblygiad. Mae’n ddyletswydd ar athrawon a staff yr ysgol i fod yn ymwybodol o sut mae annog datblygiad, wrth addysgu eu hunain ar beth sydd yn bwysig a sut gallent helpu datblygiad pob unigolyn. Gall hyn cael ei wneud drwy greu ymchwil mewn i pa weithgareddau sydd yn hyrwyddo datblygiad. Er mwyn annog a cynorthwyo datblygiad plentyn, mae’n bwysig cael trafodaethau agored gyda’r plant, drwy holi a chwestiynu, a ceisio cael nhw i ddatrys problemau eu hunain. Mae rhai yn credu fod angen llawer o gymorth ac arweiniad ar blant yn ystod y cyfnod sylfaen, a bod hi’n bwysig i’r arweinwyr nodi sut mae’r uniglion yn dysgu orau ac yn lle maent yn teimlo fwyaf cyfforddus.( Y Cyfnod Sylfaen 3-7 oed, S.Siencyn, tud 112) . Mae hyn yn rhan o ddysgu drwy ddefnyddio dull cyfannol. Mae hyn yn golygu annog unigoliaeth a thalentau pob plentyn, gan geisio cydblethu rhain mewn i’w haddysg, a cael y plant i ddysgu ar gyflymder a lefel eu hunain. (Badjanova and Ilisko, ‘Making sense of Holistic Approach in the Context of Primary Education content’ ) Mae’r dull yma wedi ei ddylanwadu gan nifer o ddamcaniaethau, yn cynnwys y ddamcaniaeth ymddygiadol. Cafodd y ddamcaniaeth hon ei ddatblygu gan Pavlov, Watson, a Skinner. Mae’n ddamcaniaeth sydd yn esbonio sut mae plant yn dysgu trwy cael ei canmol a’i gwobrwyo. Maent yn esbonio fod gwobrwyo ymddygiad positif neu gwaith da plentyn yn arwain at feddylfryd gwell, sydd yn gwneud y cysylltiad rhwng gwaith da a chanmoliaeth. Cafodd Watson llawer o ddylanwad ar y ddamcaniaeth, a’i waith wnaeth sefydlu’r ddamcaniaeth fel un sydd yn rhoi’r plentyn gyntaf. Mae’r ffordd roedd Dewy yn disgrifio addysgu a’r ffordd oedd o’n credu oedd orau yn dal i fod yn bethnasol i sut mae ysgolion yn dysgu plant heddiw. (Y Plentyn Bach, S.Siencyn, Tud 116) Damcaniaeth pwysig arall sydd wedi cael dylanwad ar addysg heddiw yw damcaniaeth Piaget. Hefyd yn cael ei adnabod fel damcaniaeth gwybyddol, mae’n seiliedig ar y syniad fod plant yn dysgu mewn camau, sydd yn cael ei ddiffinio gan y camau datblygol. Er enghraifft, bydd plant 18 mis i chwe mlwydd oed yn y cyfnod cynweithredol, ble byddent yn ffurfio syniadau ar sail eu canfyddiadau’ a byddent yn gallu ‘canolbwyntio ar un newidyn ar y tro’. Dyma un o’r damcaniaethau sydd rhoi’r plentyn gyntaf, gan ei fod yn credu fod plant yn dysgu ar gyflymder eu hunain, mewn camau sydd yn gweddu nhw. Maent yn credu fod plant ifanc yn dysgu gan arsylwi yr amgylchedd o’i hamgylch gan dysgu ac addasu sgiliau wrth fynd yn ei flaen. Mae’r damcanweithwyr yn credu fod y ffordd yma o ddysgu yn helpu datblygiad gan fod plant yn dysgu o weld ymateb y rhai sydd o’i cwmpas ac yr amgylchedd maent ynddo. Cred Piaget fod y ffordd hon o ddysgu yn arwain at ddatblygiad sgiliau archwiliol mwy soffistigedig’. (Y Plentyn Bach,S.Siencyn, tud 118 ).Wrth rhoi amser ac ymchwil mewn i’r gwahanol damcaniaethau, gall addysgwyr gael gwell syniad ar sut mae gwyddoniaeth a seicoleg yn chwarae rol yn y cysylltiad rhwng addysg a datblygiad. Mae’n bwysig cadw mewn cof fod cyfradd datblygiad pob plentyn yn wahanol, fel sydd ei weld yn amlwg wrth astudio Ella, felly bydd rhaid addasu ein ffyrdd o ddysgu er mwyn hybu datblygiad unigolion, gan gymeryd amser ac amynedd. Fel mae Piaget yn ei ddweud “children have real understanding only of that which they invent themselves, and each time that we try to teach them too quickly, we keep them from reinventing themselves” sydd yn ddyfyniad pwysig i gadw mewn cof wrth drafod datblygiad plentyn. Damcaniaeth pwysig arall sydd yn ymwneud gyda datblygiad plentyn yw theori farcsaidd Vygotsky. Mae’r theory hon yn pwysleisio pwysigrwydd effaith y gymdeithas ar ddatblygiad plentyn. Cred Vygotsky fod magwraeth, perthnasau a diwylliant plant yn chwarae rol pwysig yn y ffordd maent yn dysgu. Roedd Vygotsky yn credu mai y rhai o gwmpas plant yn ystod magwraeth oedd yn cael yr effaith mwyaf ar y ffordd maent yn gweld y byd a sut maent yn datblygu yn gyffredinol. Yn hytrach na edrych ar lefel perfformiad plant yn ystod ei amser yn arsylwi, roedd Vygotsky yn edrych ar sut roedd plant gwahanol yn defnyddio dulliau gwahanol i gwbwlhau yr un dasg. Mae hyn eto yn profi pwysigrwydd cydnabod unigoliaeth plant wrth ddysgu, er mwyn gallu cefnogi plant a hyrwyddo datblygiad, bydd rhaid cofio fod strategaethau a dulliau am weithio yn wahanol i plant gwahanol. ( Y Plentyn Bach, 2008, S.Siencyn, tud 123) Mae yna tri wahanol fath o ddatblygiad mae pob plentyn yn ei brofi wrth fynd yn hyn sef, datblygiad corfforol, datblygiad cymdeithasol, datblygiad emosiynol, ac yn olaf datblygiad gwybyddol.. Yn gyntaf mi fyddaf yn trafod datblygiad corfforol. Yn (Montessori, 2003, tud 188) mae’r awdur yn dweud fod plant yn mynd drwy cyfnod o ‘rapid physical development’ rhwng 3-7 mlwydd oed. Mae hyn yn golygu fod Ella mewn cyfnod allweddol o’i ddatblygiad corfforol, ond wrth edrych ar ei phroffil, nid yw hi i’w weld yn datblygu gymaint a sydd ei ddisgwyl ar gyfer plentyn o’i hoedran. Yn nol (https://www.healthywa.wa.gov.au/Articles/A_E/Child-development-4-5-years ) mae disgwyl i blentyn oedran Ella allu mynd fyny staer heb drafferth, yn mynd fyny un droed ar pob stepan. Wrth edrych yn nol ar proffil Ella, mae’n dweud ei bod yn gallu mynd fyny’r staer dwy droed ar y tro, gyda cymorth gan oedolyn. Mae hyn yn un o nifer o bethau sydd yn gwneud i mi feddwl fod datblygiad corfforol Ella ychydig tu ol i beth ddylai fo fod. Mae’r wefan hefyd yn awgrymu fod plant 4-5 mlwydd oed yn gallu sefyll ar un troed, ac hyd yn oed hopian ar un troed. Dyma enghraifft arall o gweithgaredd sydd ddim eto yn dod yn hawdd i Ella gan nad yw hi’n gallu sefyll ar un droed, ac mae hi i weld yn simsan ar ei thraed yn gyffredinol. Gyda’r rhwystrau yma yn dangos diffyg datblygiad Ella, bydd gofyn i’r athrawon talu sylw at beth sydd yn dod yn anodd i Ella a sut bydd mynd ati i helpu annog ei datblygiad corfforol. Gall hyn ddigwydd drwy ceisio cael Ella i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol. Mae’n amlwg ei bod yn unigolyn sydd a dychymyg byw, gall hyn fod o fantais i’r athrawon wrth iddynt geisio creu gweithgareddau hwylus, gan fod yna siawns dda wneith hi ymuno. Bydd gweithgareddau sydd yn ymwneud gyda sgiliau echddygol bras yn annog datblygiad corfforol ac yn hybu y sgiliau penodol mae hi’n cael trafferth gyda fel cadw cydbwysedd. Wedi i mi arsylwi gwersi ymarfer corff yn ystod ein sesiynau pontio, rwyf wedi gweld ambell i weithgaredd fysa o fudd di ddatblygiad Ella. Fysa gem fel un goleuadau traffic yn un da i’w ddefnyddio gyda hi, gan ei fod yn weithgaredd hwylus, oedd yn cynnwys nifer o wahanol symuniadau, i gyd yn ymwneud a defnyddio sgiliau echddygol bras. Bysa unrhyw symudiadau sydd yn galw am ddefnyddio cydbwysau’r corff yn un da i’w ddefnyddio gyda Ella gan ei bod yn cael trafferth gwneud symudiadau pendant. Gweithgaredd arall gall fod yn un hwylus i Ella fysa yoga. Dangoswyd fod yoga yn gallu gwellau datblygiad corfforol a meddyliol plant oedran cyfnod sylfaen, gan ei fod yn gwellau cydbwysedd, cryfder a dygnwch. Mi fysa’r ffactorau hyn i gyd yn fuddiol i ddatblygiad corfforol Ella, ar ben hyny, mae wedi ei brofi fod ioga yn dda i iechyd meddwl plant, gan ei fod yn help magu hunan-barch, ffocws, a cof. (MD,Wei, Harvard Health blog, 2016) Mae wedi ei nodi ar y proffil fod Ella yn ferch hapus a phoblogaidd yn y dosbarth er ei bod yn cael rhai trafferthion wrth setlo mewn i arferion yr ysgol. Yn nol (healthychildren.org), ddylai plant oedran Ella fod yn awyddus i blesio ffrindiau ac yn ceisio ffitio mewn gyda eraill o’i chwmpas. Eto, nid yw hyn yn berthnasol i Ella gan bod well ganddi chwarae yn annibynnol, ac nid yw hi’n dangos ymwybyddiaeth o blant eraill. Er fod hyn yn gallu cyflwyno problemau wrth weithio mewn tim gyda ei chyfoedion, mae wedi nodi fod Ella yn dechrau cyfleu ei theimladau ac yn deall fod gan pobl eraill teimladau a bod yr hyn mae hi yn ei wneud yn cael effaith arnynt. Mae hyn felly yn awgrymu fod Ella yn datblygu’n emosiynol ar gyfradd arferol i’w hoedran. Gall hyn fod o fudd i’w haddysg hi gan fod yna gysylltiad pendant rhwng llythrennedd emosiynol a llwyddiant wrth ddysgu.( Y Plentyn Bach, Susan Allan, 2008, tud 146). Un peth sydd yn achos i boeni yw y ffaith ei bod yn dal i gael trafferth i wahanu oddi wrth ei mam yn y bore. Mae hyn yn brobIem eithaf cyffredin ymysg plant ifanc wrth iddynt fynd drwy’r trosglwyddiad o fod yn gofal eu rhieni, i fod yn rhan o ddosbarth. Mae llawer o blant ifanc yn dioddef o ‘seperation anxiety’, ac mae i’w weld mewn mwy o blant dyddiau yma, yn enwedig ar ol y cyfnod clo, a mae plant yn poeni am ddychwelyd i’r ysgol. Gall yr ysgol helpu Ella gyda’r teimladau yma drwy rhoi cynnig ar strategaethau fel rhoi rol i Ella i’w wneud wrth iddi gyrraedd yr ysgol. Ellith hyn fod yn rhywbeth mor syml a helpu’r athrawes groesawu’r plant eraill i’r dosbarth pob bore. (Separation anxiety: tools for teachers : Mentally Healthy Schools, 2021)Yn ogystal, mi welais fod yr ysgol rydym yn ei arsylwi yn ystod pontio yn defnyddio system o ‘buddies y buarth’ ble mae plant hyn yr ysgol yn cael y swydd o gefnogi y rhai llai yn ystod amser chwarae. Credaf fysa system fel honno yn fuddiol i Ella gan ei bod yn cael trafferth cymysgu gyda eraill ac yn ddibynol ar oedolion. Mi fysa hyn yn rhoi cyfle iddi droi at plant eraill at gymorth a dysgu iddi sut i gyflwyno ei theimladau i eraill heblaw am athrawon. Mae’r proffill hefyd yn dweud ei bod yn hoffi blant eraill ‘edrych ar ei hol’ felly falla fysa hyn yn syniad da. Y math olaf o ddatblygiad rwyf am edrych arno yw datblygiad cymdeithasol. Mae plant yn dysgu llawer drwy chwarae a cymdeithasu. Mae Ella yn gweld hi’n anodd cymdeithasu yn llwyddianus, gan ei bod yn cael trafferth rhannu gyda eraill, ac yn dewis bod ar phen ei hyn y mwyafrif o’r amser. Er fod annibyniaeth yn nodwedd dda i’w gael, mae’n bwysig fod plant ifanc yn cymdeithasu gyda eu cyfoedion gan ei fod yn annog rhyngweithio o fewn dosbarth, gan ei fod yn dysgu mwy i blant am eu amgylchedd. (Y Plentyn Bach, Susan Allan, 2008, tud 141). Rydym wedi dysgu fod gan Ella ddychymyg da, ac mae hi’n hoffi chwarae rol. Gall athrawon ddefnyddio hyn fel cyfle i cael hi i weithio gyda eraill i geisio annog datblygiad cymdeithasol. Efallai fysa gweithgaredd fel actio mewn grwp yn helpu Ella gyd-chwarae gyda plant wrth wneud rhywbeth mae hi yn ei fwynhau. I gloi, credaf fod Ella yn unigolyn sydd yn gwynebu ambell i rwystr mewn rhai maesydd o’i datblygiad, yn enwedig datblygiad corfforol. Wrth edrych ar diddordebau a chryfderau Ella, ddylai ei athrawon allu cynllunio gweithgareddau fydd yn help iddi wrth fynd ymlaen yn yr ysgol, ac effallai gyda cymorth gan sefydliadau tu hwnt i’r ysgol i hybu ei datblygiad corfforol. Cyfeiriadau ; “Child Development 4–5 Years.” Wa.gov.au, 2020, www.healthywa.wa.gov.au/Articles/A_E/Child-development-4-5-years. “Developmental Milestones: 4 to 5 Year Olds.” HealthyChildren.org, 2019, www.healthychildren.org/english/ages-stages/preschool/pages/developmental-milestones-4-to-5-year-olds.aspx. “Separation Anxiety: Tools for Teachers : Mentally Healthy Schools.” Www.mentallyhealthyschools.org.uk, Jan. 2021, www.mentallyhealthyschools.org.uk/resources/separation-anxiety-tools-for-teachers/. Accessed 29 Oct. 2021. Badjanova, Jelena, and Dzintra Ilisko. “Making Sense of Holistic Approach in the Context of Primary Education Content.” Procedia - Social and Behavioral Sciences, vol. 191, June 2015, pp. 1517–1521, 10.1016/j.sbspro.2015.04.343. Accessed 30 Jan. 2020. MD, Wei. “More than Just a Game: Yoga for School-Age Children - Harvard Health Blog.” Harvard Health Blog, 30 Aug. 2016, www.health.harvard.edu/blog/more-than-just-a-game-yoga-for-school-age-children-201601299055. Montessori, 2003, tud 188 Y Cyfnod Sylfaen 3-7 oed, 2010, S.Siencyn, Eileen Merriman ac Angela Rees , tud 112 Y Plentyn Bach, 2008 , S.Siencyn, Y Plentyn Bach, 2008, Susan Allan, tud 146