I ba raddau mae dod mewn i’r ystafell dosbarth ar ôl amser chwarae yn effeithio ar gyfranogiad plant meithin? Cyflwyniad Dewisais y cwestiwn hwn gan ei fod yn cyfeirio at ystyr pwysig o ran datblygiad plant ac addysg. Mae'r cwestiwn yn trafod effaith amser chwarae ar gyfranogiad disgyblion meithrin, a phwysleisio pwysigrwydd rôl ystafell dosbarth fel amgylchedd dysgu (Trawick-Smith, J. 2003). Mae'n herio'r berthynas rhwng gweithgareddau chwarae a datblygiad plant, gan gynnig cyfle i ystyried ffactorau ymarferol a theriol. Mae'n cynrychioli diddordeb mewn dadansoddi'r cysyniad hwn o fewn y cyd-destun ysgolion modern ac addysg oes gynnar. Mae fy aseiniad yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth am bwysigrwydd gweithgareddau chwarae ac effeithiau amser chwarae ar ddatblygiad plant. Yn yr ysgol wnes i fy ymchwil, mae 333 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed ar y gofrestr, gan gynnwys 39 o ddisgyblion rhan amser a llawn amser yn y dosbarth meithrin. Mae gan yr ysgol 10 dosbarth un oedran a thri dosbarth oedran cymysg. Mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn mynychu’r ffrwd Gymraeg, a daw 32% o’r disgyblion o gartrefi Gymraeg (Estyn, 2020). Mae’r ysgol yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae pob disgybl yn dysgu yn y Gymraeg fel iaith gyntaf yn y cyfnod sylfaen, ac yna ym mlwyddyn 3 mae rhieni’r disgyblion yn ddewis pa iaith maent eisiau i’w plant i ddysgu mewn. Ar gyfer fy ymchwil, dewisais 4 disgybl (Disgybl A, B, C a Ch) o’r dosbarth meithrin. Mae disgybl A a C yn fechgyn 4 oed ac mae disgybl B a Ch yn ferched 4 oed. Dewiswyd y disgyblion yma gan ddaw nhw rhan o’r disgyblion sydd yn yr ysgol llawn amser, os o’n i am ddewis y plant sydd yna ran amser bydd fy ymchwil ddim mor ddibynadwy gan fod nhw yna am lai o amser. Llenyddiaeth Mae’r Cyfnod Sylfaen yn darparu ar gyfer plant rhwng 3 a 7 oed ac mae’n gyfnod hanfodol sy’n anelu at leinio’r sylfeini ar gyfer dysgu gydol oes. Yng Nghymru, mae’r Cyfnod Sylfaen yn pwysleisio dysgu profiadol, gweithgareddau yn seiliedig ar chwarae, ac ymagwedd holistaidd at ddatblygiad plentyn. Mae’n canolbwyntio ar chwe maes dysgu, gan gynnwys datblygiad personol a chymdeithasol, iaith, llythrennedd, a rhifedd, yn ogystal â datblygiad creadigol, datblygiad corfforol, a datblygiad iaith Gymraeg. Trwy gyfuniad o weithgareddau strwythedig ac archwiliad dan arweiniad y plentyn, mae’r Cyfnod Sylfaen yn anelu at feithrin chwilfrydedd, creadigrwydd, a hyder y plant. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar y Cyfnod Sylfaen yn tanlinellu pwysigrwydd dysgu awyr agored, profiadau ymarferol, a meithrin cariad at ddysgu o oedran cynnar. Yn ogystal, mae’r cwricwlwm yn hyrwyddo cynhwysedd, gan sicrhau bod pob plentyn, waeth beth fo’u cefndir neu’u gallu, â mynediad cyfartal at addysg o ansawdd uchel (Llywodraeth Cymru, 2020). Mae amser chwarae i blant ysgol gynradd y meithrin yn hanfodol i’w datblygiad holistaidd. Mae’n cynnig cyfleoedd i ryngweithio’n gymdeithasol, datblygu eu creadigrwydd â’i sgiliau datrys problemau (Bruce.T, 2004). Trwy chwarae, mae plant yn dysgu i drafod, cydweithio, a datblygu empathi. Ar ben hynny, mae chwarae’n ysgogi twf cofiadol, gan ymestyn eu dealltwriaeth iaith a fathemategol. I adio at hyn, yn fy ysgol ymchwil, gwelais fod amser chware i blant Cyfnod Sylfaen yn ffordd i’r plant cael hwyl yn yr awyr agored, cymdeithasu efo’i ffrindiau, a chael gwared â’i egni, sydd efallai wedi bod yn adeiladu trwy gydol y dydd yn y dosbarth. Yn ôl Cyngor East Ayshire (2023), mae chwarae tu allan yn helpu i wella lles a gwydnwch y plant, ac yn cael effaith cadarnhaol ar gyrhaeddiad addysgol. Roedd fy niwrnodau ymchwil yn Ysgol A yn seiliedig ar y ffaith hon, ac roeddwn eisiau gweld yr effeithiau maent yn cael ar ddisgyblion gwahanol, a sut a pham mae hyn yn digwydd. Mae gweithgaredd syml fel amser chwarae yn weithgaredd naturiol a chymhellol sy’n hybu lles gwybyddol, corfforol, cymdeithasol ac emosiynol plant Cyfnod Sylfaen (Porto Biomed J, 2017). Mae hyn yn gysylltiedig efo’r Cwricwlwm i Gymru, mae datblygu’r sgiliau hyn i gyd yn rhan bwysig o’r cwricwlwm. I adio at hyn, trwy chwarae, mae plant yn gallu arbrofi, datrys problemau, meddwl yn greadigol a chael gwybodaeth ddyfnach am ei hun a’r byd. Mae hyn yn syml iawn i rai agweddau o’r pedwar diben e.e.. yn unigolion iach, hyderus sydd yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, ac yn gyfranwyr mentrus, creadigol sydd yn meddwl yn greadigol er mwyn ail-lunio a datrys problemau (Hwb, 2020). Methodoleg Yn fy niwrnodau ymchwil, defnyddiais Raddfa Leuven i nodi cyfranogiad y plant. Mae yna pum pwynt i’r raddfa Leuven ar gyfer cyfranogiad, gyda’r cyntaf yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfranogiad eithriadol o isel, a phwynt pump yn cael ei defnyddio ar gyfer cyfranogiad uchel iawn. Mae’r Raddfa Leuven yn cynnig dull strwythuredig o asesu ymgysylltiad plant mewn gweithgareddau dysgu. Mae ei manteision yn cynnwys darparu fframwaith cynhwysfawr ar gyfer sylw a dogfennu, gan hwyluso ymyriadau targedu i wella cyfranogiad. Fodd bynnag, gall ei natur ddyddiol arwain at fias dehongli a sgorio anghyson ymhlith ymchwilwyr. Gwelais ddefnyddio'r raddfa yn galed ar adegau, gan ei bod yn galed i wir barnu nhw ar sail eu cyfranogiad efo ddim llawer o amser dros y ddau ddydd. Roedd dim llawer o amser gen i gan fy mod yn helpu’r athrawes a’r plant fel cynorthwyydd dosbarth trwy gydol y dydd. Pan o’n i’n harsylwi roedd e’n galed i mi anwybyddu’r disgyblion oedd eisiau help a.y.b.. Hefyd, teimlais roedd eisiau i mi baratoi bach yn fwy gan wneud rhyw fath o rownd ymarfer o ddefnyddio’r raddfa. Gan wneud hyn, byddaf wedi cael fwy o syniad sut byddai yn chwarae mas. Serch hynny, welais fod y raddfa yn weddol rwydd i ddefnyddio a llwyddais i gofnodi cyfranogiad y plant yn dda. Dwi’n meddwl gwelais i fe’n weddol rwydd i ddefnyddio oherwydd wnes i roi fy hun 10 munud cyn ac ar ôl pob amser chwarae, felly roedd digon o wybodaeth gen i drwy ddefnyddio dim gormod o amser. Ar ben defnyddio’r raddfa, defnyddiais i amserlen arsylwi i nodi fy nghanlyniadau ac unrhyw sylwadau arall oedd gen i. Trafodaeth a chanfyddiadau Mae bod yn foesegol mewn ymchwil ar blant yn hanfodol, trwy sicrhau i’w diogelwch, lles a’i hawliau. Mae canllawiau 2018 Cymdeithas Ymchwil Addysg Prydain (BERA) yn cynnig fframwaith moesegol cadarn penodol ar gyfer cyd-destunau ymchwil ar blant. Mae’r canllawiau hyn yn pwysleisio pwysigrwydd caniatâd gwybodaeth, gan bwysleisio’r angen i gyfathrebu am nodau’r ymchwil, y prosesau, a’r peryglon posibl mewn modd sy’n addas ar gyfer datblygiad y plant. Roedd rhaid i mi fel ymchwilir blaenoriaethu lles gorau’r plant, gan sicrhau bod eu cyfranogiad yn wirfoddol, heb ddylanwadu. Yn ogystal, mae cyfrinachedd a phreifatrwydd yn hanfodol, gan ddiogelu gwybodaeth sensitif a rannwyd gan blant yn ystod y broses ymchwil. Ar ben hynny, mae ymchwil moesegol ar blant yn gofyn am adlewyrchiad parhaus ac ymatebion i alluoedd, dewisiadau, a phryderon datblygu’r plant. Dylai ymchwilwyr anelu at ddulliau cynhwysol a chyfrannog, gan werthfawrogi lleisiau, safbwyntiau, a chyfraniadau plant trwy gydol y daith ymchwil. Drwy gadw at ganllawiau moesegol gan BERA, mae ymchwilwyr yn cynnal dilysrwydd a chredadwyedd ymchwil ar blant gan feithrin amgylchedd parhaus a chymorthgar i gyfranogwyr ifanc. Yn fy ymchwiliadau gefais ganlyniadau eithaf diddorol. Peth cyntaf yn y bore, roedd cyfranogwr A yn chwarae o gwmpas ac oedd o’n edrych yn flinedig iawn. Ar ôl yr amser chware gyntaf roedd e’n gweithio yn dda ac roedd ei lefel o gyfranogiad wedi cynyddu llawer. “Play helps to build the safe, stable and learning and nurturing relationships that buffer against toxic stress and build social-emotional resilience” (Healthy Children, 2023). O fod yn yr ystafell ddosbarth efo’r disgybl hon yn benodol dros yr wythnosau diwethaf, dwi weld bod e yn tueddu o chwarae o gwmpas llawer a chael llawer o tranciau gyda’r athrawes. Wrth arsylwi, gwelais fod ar ôl amser chwarae mae e’n fwy caredig tuag at staff a'i gyfoedion, fe all hun bod oherwydd mae amser chwarae yn siawns i blant cyfathrebu efo’i gilydd a gweithio mewn tîm sydd yna’n helpu ymddygiad a chyfranogiad nhw. Gwelais ei fod yn di-stresio ar ôl amser chwarae, mae’n siawns iddo cael gwared o’I egni sydd wedi adeiladu lan trwy gydol y dydd, “Playing… [is a great way] to relieve stress for your child” (Unicef, dim dyddiad). Drwy gydol y dydd, dangosodd cyfranogwyr B a Ch lefelau cyfranogiad cadarn. Arddangosodd y ddau ymddygiad gwych drwy eistedd yn dawel ac yn daclus yn ystod gweithgareddau, gan ddangos sylweddolrwydd ac ymgysylltiad. Wrth gael eu hannog gyda chwestiynau gan yr athrawes dosbarth, cyfranogodd y ddau drwy ddarparu Atebion, gan nodi eu dealltwriaeth a’u cyfranogiad yn y broses ddysgu. Fodd bynnag, tuag at ddiwedd y dydd, roedd newid nodedig yn eu lefelau cyfranogiad. Roedd y cyfranogwyr B yn ymddangos yn flinedig yn amlwg, ac o ganlyniad, disgwyliwyd ei fod wedi colli llawer o ran ei gyfranogiad, yn enwedig yn ystod sesiwn ddarllen stori’r athro. Teimlir y gallai blinder fod wedi chwarae rhan yn ei lefel o gyfranogiad, gan ei fod yn anodd cynnal ffocws a chysondeb pan fo rhywun yn teimlo’n flinedig. Ar y llaw arall, cynyddodd lefel cyfranogiad cyfranogwr Ch yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n debygol fod yr amser chwarae olaf wedi cael effaith wahanol ar y ddau, gan fod cyfranogwr Ch yn teimlo’n adfywiol neu’n arbennig o ddiddordebus yn y gweithgaredd a ddilynodd, sef y stori. Gallai’r cynnydd hwn yn eu cyfranogiad hefyd gael ei ateb i wahaniaethau unigol mewn lefelau egni. Fe allwch ddadlau efallai mai’r disgyblion yn cael gormod o amser chwarae, oherwydd roedd lefel cyfranogiad cyfranogwr B wedi gostwng ar ddiwedd y dydd hefyd. Serch hynny, mae pob plentyn yn wahanol ac yn ymateb i bethau yn wahanol, hefyd mae’r World Health Organisation yn dweud bod eisiau o leiaf awr o amser chwarae ar blant ysgol gynradd (Outdoor Classrom Day, 2019), sef bron yn union faint mae’r plant yn cael yn fy ysgol ymchwil. Mae ymchwil, fel y dangoswyd gan Pellegrini a Smith (1998), yn tynnu sylw at effaith dwys amser chwarae ar ymgysylltiad ac ymddygiad plant mewn amgylcheddau addysgol. Mae chwarae yn cynnig buddion cymdeithasol ac emosiynol, gan feithrin sgiliau datrys problemau, creadigrwydd, sy’n hanfodol i ddatblygiad academaidd a chymdeithasol. Yn achos cyfranogwr C, gallai’r gostyngiad mewn lefelau cyfranogiad ddod oherwydd ffactorau fel symud o weithgareddau hamddenol i dasgau academaidd, blinder o chwarae egnïol neu resymau personol. Mae hyn yn pwysleisio’r angen i ystyried gwahaniaethau unigol ac effeithiau amgylcheddol wrth ddehongli ymddygiad plant mewn cyd-destun addysgol. Serch hynny, dydw i ddim yn gallu dweud bod hyn yw rheswm am ei lefelau cyfranogiad, gan nad ydw i’n gwybod am eu cefndir cartrefol a teuluol. Mae hyn yn cyfeirnodi nol i’r canllawiau BERA ac i drin pob cyfranogwyr yn yr un ffordd. Serch hynny, mae’n bwysig i mi fel ymarferwr addysg fod yn sensitif ac yn ymatebol yn fy nosbarth yn y dyfodol, wrth ddehongli ymddygiad plant ac ymateb i’w anghenion unigol. Casgliad ac argymhellion Yn ystod fy ymchwiliad, roeddwn wedi dewis cwestiwn sy’n targedu’r berthynas rhwng amser chwarae a chyfranogiad disgyblion meithrin, gan bwysleisio pwysigrwydd rôl ystafell dosbarth fel amgylchedd dysgu. Trwy ganolbwyntio ar wella dealltwriaeth am bwysigrwydd gweithgareddau chwarae ac effeithiau amser chwarae ar ddatblygiad plant, roeddwn yn ymdrechu i ymchwilio i’r berthynas hon o fewn y cyd-destun ysgolion modern ac addysg oes gynnar. Roedd pob cyfranogwr yn dod â safbwynt unigryw ac yn cyfrannu at ddealltwriaeth gynhwysfawr o effeithiau amser chwarae ac ymgysylltiad ar eu hymddygiad a’u datblygiad cyffredinol. Drwy eu sylwadau a’u rhyngweithiadau, cefais fewnwelediadau gwerthfawr i rôl amser chwarae wrth feithrin rhyngweithiadau cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu, a lles emosiynol ymhlith dysgwyr ifanc. Trwy ddeall y deunyddiau unigol a’r ymatebion o’r cyfranogwyr hyn, mae’n cyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o bwysigrwydd amser chwarae ac amgylcheddau dosbarth yn addysg yn yr oes gynnar. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd dulliau wedi’u teilo i gwrdd ag anghenion a phrofiadau amrywiol dysgwyr ifanc, gan amlinellu ac ysbrydoli arferion dysgu yn y dyfodol. Roedd y defnydd o’r Raddfa Leuven fel dull asesu o bwys o fewn fy ngwaith. Er oedd ganddo lawer o fanteision, gwelais ei fod yn heriol iawn i ddefnyddio mewn amser cyfyngedig a gwerthuso cyfranogiad y plant i gyd ar yr un pryd. Fodd bynnag, drwy ymgyrchu’n gadarnhaol, llwyddais i gyfuno gwybodaeth ac ymwybyddiaeth oherwydd fy ngwaith ymchwil. Serch hynny, mae’n rhaid cydnabod bod gan fod dull ei gyfyngiadau ei hun, ac mae’n bwysig ddeall hyn wrth gynllunio ymchwil. Bydd fy ngwaith ymchwil yn fy nghymell i wella’r profiadau dysgu yn fy nosbarth a rhoi pwyslais ychwanegol ar amser chwarae fel elfen hanfodol o’r cwricwlwm. Drwy fy ymchwiliad, mae fy meddyliau wedi’u hymestyn ac adeiladu fy ngwaith ymarferol, gan fy ngalluogi i fod yn athro mwy ymwybodol ac effeithiol.