WEBVTT

00:00:01.290 --> 00:00:06.900
Mae'r fideo hwn yn gyflwyniad i offeryn cynorthwyydd ymchwil AI yng nghatalog y llyfrgell.

00:00:09.210 --> 00:00:12.960
Pwrpas y fideo hwn yw rhoi cyflwyniad byr i beth yw'r offeryn

00:00:13.620 --> 00:00:19.890
beth, mae'n chwylio, sut mae chwilio, ble yw darganfod ynghyd a defnyddiau a'u gyfyngiadau.

00:00:23.140 --> 00:00:26.860
Mae'r offeryn wedi bod ar gael ers mis Medi 2024

00:00:27.550 --> 00:00:33.400
ac mae'r ymatebion cychwynnol wedi bod yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Drwy symleiddio'r broses ymchwil

00:00:33.400 --> 00:00:39.550
gychwynnol i ddefnyddwyr mae'n defnyddio AI i ddychwelyd deunydd o ffynonellau academaidd llyfrgell.

00:00:40.600 --> 00:00:48.549
Gan ddefnyddio iaith naturiol yn hytrach nag allweddeiriau. Fel mae'r enw'n awgrymu,

00:00:48.550 --> 00:00:53.410
mae'n defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol i gynorthwyo wrth chwilio adnoddau

00:00:53.410 --> 00:00:59.140
academaidd. Yn hytrach na chwilio a chyfuno allweddeiriau gyda gweithredwyr Booleaidd,

00:01:00.310 --> 00:01:08.430
 gellir rhoi cwestiynau mewn iaith naturiol yn y blwch chwilio. Mae hyn yn ei wneud yn fan cychwyn defnyddiol wrth archwilio llenyddiaeth ar bwnc.

00:01:09.420 --> 00:01:14.549
Mae defnyddwyr yn elwa ar ganlyniadau ar draws y 'Central Discovery Index' ac felly

00:01:14.550 --> 00:01:19.320
gallant hefyd weld crynodebau o ffynonellau perthnasol nad ydynt wedi'u tanysgrifio.

00:01:20.160 --> 00:01:27.030
Yn ogystal, gall defnyddwyr ofyn cwestiynau a derbyn atebion mewn sawl iaith heblaw Saesneg, gan gynnwys y Gymraeg.

00:01:30.800 --> 00:01:33.920
Felly beth yn union mae'r offeryn ymchwil AI newydd yn ei chwilio?

00:01:34.850 --> 00:01:40.130
Mae'n chwilio ar draws y 'Central Discovery Index' cyfan sy'n cynnwys dros 6 biliwn o gofnodion,

00:01:40.550 --> 00:01:44.420
gan gynnwys ffynonellau sydd wedi tanysgrifio gan sefydliadau arall.

00:01:45.650 --> 00:01:50.600
Mae'n galluogi mynediad testun llawn i erthyglau a'r llyfrau rydym yn tanysgrifio

00:01:50.600 --> 00:01:57.150
iddynt ac yn darparu crynodebau o rai nad ydym yn tanysgrifio iddynt ar gyfer rhain

00:01:57.580 --> 00:02:01.090
darperir opsiwn cais drwy ein gwasanaeth benthyca rhwng llyfrgell

00:02:01.100 --> 00:02:09.170
Need More. Mae rhai ffynonellau tanysgrifedig y llyfrgell wedi eu heithrio o'r chwiliad am resymau caniatad neu anghydnawsedd.

00:02:12.040 --> 00:02:23.020
Sut mae'n gweithio. Pan roddir cwestiwn yn yr offeryn caiff ei anfon at Fodel Iaith Mawr (LLM) yw drosi'n ymholiad Booleaidd gyda gwahanol amrywiadau.

00:02:24.880 --> 00:02:31.300
Anfonir yr ymholiad yma i'r Central Discovery Index lle caiff ei defnyddio i nodi'r erthyglau mwyaf

00:02:31.300 --> 00:02:37.000
perthnasol, yn seiliedig ar eu crynodebau er mwyn adfer yr atebion mwyaf berthnasol i'r cwestiwn.

00:02:38.050 --> 00:02:41.470
Caiff y canlyniadau gorau eu restru i gynhyrchu 5 canlyniad gorau.

00:02:42.430 --> 00:02:47.260
Anfonir rhain yn ol at yr LLM sy'n creu tosolwg a gynhyrchir yn artiffisial.

00:02:48.280 --> 00:02:53.920
Dychwelir y trosolwg i ffynonellau a rhagor o gwestiynau cysylltiedig atoch i'w harchwilio ymhellach.

00:02:56.800 --> 00:03:00.880
Ble i'w ganfod. Mae ar gael o'r rhuban uchaf yng nghatalog y llyfrgell,

00:03:01.540 --> 00:03:09.760
bydd angen i chi fewngofnodi i gael mynediad ac nid yw ar gael ar hyn o bryd i staff a myfyrwyr nad ydynt yn rhan o PCYDDS.

00:03:12.560 --> 00:03:20.030
Ble i ddechrau. Rhowch eich cwestiwn gan ddefnyddio iaith naturiol yn y blwch chwilio a chliciwch ar eicon i ddewis eich hidlwyr.

00:03:21.080 --> 00:03:28.130
Fel gydag unrhyw offeryn AI arall, po fwyaf penodol y gallwch fod gyda'ch anogiad y gorau fydd y canlyniadau.

00:03:32.010 --> 00:03:36.480
Bydd eich tudalen ganlyniadau yn cynnwys rhestr o'r 5 canlyniad gorau,

00:03:37.170 --> 00:03:43.079
trosolwg a gynhyrchir gan AI o grynodeba'r 5 canlyniad gorau a sut maent yn gysylltiedig

00:03:43.080 --> 00:03:48.420
a'ch cwestiwn, cwestiynau ymchwil cysylltiedig pellach y gallech fod am eu harchwilio.

00:03:52.420 --> 00:03:59.320
Bydd yr offeryn yn dychwelyd rhestr o'r 5 canlyniad gorau yn seiliedig ar chwiliad crynodebau yn y Central Discovery Index.

00:04:00.070 --> 00:04:04.930
Gall y rhain gynnwys canlyniadau nad yw ein llyfrgell yn tanysgrifio iddynt ar hyn o bryd.

00:04:05.920 --> 00:04:11.950
Mae'r opsiwn olaf yn darparu dolen i holl ffynonellau tanysgrifedig ein llyfrgell i'w archwilio ymhellach.

00:04:12.730 --> 00:04:19.000
Mae'n bwysig nodi mai man cychwyn yn unig yw'r canlyniadau hyn ac mae archwiliad pellach yn hanfodol.

00:04:22.130 --> 00:04:31.370
Cliciwch ar ffynhonnell a restrir i ddarllen y crynodeb a chael mynediad at unrhyw ddeunydd sydd wedi'i danysgrifio gan y llyfrgell. O'r fan hon

00:04:31.790 --> 00:04:37.340
gallwch lawrlwytho'r PDF neu glicio ar yr opsiwn testun llawn ar-lein i ddarllen yr erthygl llawn.

00:04:44.290 --> 00:04:51.250
Ar gyfer ffynonellau nad ydynt wedi'u danysgrifio gan ein llyfrgell ar hyn o bryd, neu nad ydynt ar gael drwy fynediad agored

00:04:51.820 --> 00:04:55.750
darperir opsiwn mwy o fanylion neu opsiwn cais o dan y crynodeb.

00:04:58.940 --> 00:05:05.780
Bydd hyn yn mynd a chi gatalog y llyfrgell ac yn cynnig y cyfle chi i ofyn am yr erthygl drwy ein gwasanaeth benthyca rhyng-lyfrgell,

00:05:06.200 --> 00:05:16.599
Need More neu Angen Rhagor. Cynhyrchir y trosolwg gan AI o'r wybodaeth a geir yng nghrynodebau'r

00:05:16.600 --> 00:05:23.530
prif ffynonellau academaidd am yr offeryn wedi'u darganfod. Mae'n cynnwys y cyfeiriadau i chi eu harchwilio ymhellach.

00:05:26.330 --> 00:05:30.950
I archwilio beth arall sydd gennym yn y llyfrgell sy'n gysylltiedig a'ch chwestiwn chwilio,

00:05:31.400 --> 00:05:34.760
cliciwch ar y ddolen olaf yn rhestr canlyniadau'r ffynonellau.

00:05:35.300 --> 00:05:40.010
Bydd hyn yn allforio ymholiad Booleaidd a greuwyd gan yr LLM i'n catalog llyfrgell.

00:05:43.800 --> 00:05:51.750
Gan ddefnyddio'r ymholiad hwn, gallwch wedyn hidlo ymhellach i ehangu neu gyfyngu eich chwiliad. Yn ogystal ag ychwanegu termau eraill

00:05:51.750 --> 00:05:55.670
os oes angen. Mae'n syniad da copio'r llinyn chwylio a'i ludo i

00:05:55.680 --> 00:06:02.850
ddogfen Word fel y gallwch weld pa dermau mae'r offeryn AI wedi'u defnyddio i greu'r chwiliad a'r chanlyniadau gwreiddiol.

00:06:08.150 --> 00:06:09.950
Gan ddefnyddio'r llinyn chwilio hwn,

00:06:09.950 --> 00:06:18.740
nodwch unrhyw allweddeiriau a chysyniadau defnyddiol i'ch helpu i chwilio cronfeydd data unigol a chreu eich llinyn chwilio a'ch strategaeth ei hun.

00:06:23.810 --> 00:06:28.310
Yn olaf, mae'r offeryn hefyd yn darparu cwestiynau cysylltiedig i chi eu pori.

00:06:29.090 --> 00:06:37.400
Gall hyn fod yn ddefnyddiol pan nad ydych yn hollol sicr o gwmpas derfynol eich ymchwil. Gan ei fod yn caniatau i chi archwilio dewisiadau eraill.

00:06:38.450 --> 00:06:45.340
Bydd pob un yn agor mewn chwiliad a phwnc newydd. Rhai pwyntiau allweddol i'w cofio.

00:06:46.150 --> 00:06:51.100
Mae'n caniatau i fyfyrwyr chwilio am ffynonellau academaidd o fewn amgylchedd diogel.

00:06:52.360 --> 00:06:57.130
Mae'r defnydd o RAG yn lleihau'r risg o rhithwelediadau neu atebion dychmygol.

00:06:58.470 --> 00:07:06.120
Bydd y chwiliad yn dychwelyd ffynonellau tanysgrifiedig gan y llyfrgell o ffynonellau heb danysgrifiad sydd tu ol i furiau talu.

00:07:07.450 --> 00:07:11.380
Mae'n cadw eich hanes ac yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer unrhyw ymchwil.

00:07:14.380 --> 00:07:20.140
Cyfyngiadau. Er bod yr hidlwyr yn dal yn gyfyngedig, maent yn swyddogaeth ddefnyddiol.

00:07:20.890 --> 00:07:24.910
Fodd bynnag, rhaid cofio ei bod yn dibynnu ar ei ddehongliad o'ch anogiad.

00:07:26.020 --> 00:07:29.710
Cofiwch gall LLM gynhyrchu ymatebion nad ydynt yn gywir.

00:07:30.700 --> 00:07:38.410
Yn ogystal gall tuedd bresennol yn y llenyddiaeth ymchwil neu'r data hyfforddi arwain at ymatebion rhagfarnllyd,

00:07:39.010 --> 00:07:52.060
gwiriwch bob amser am gywirdeb. Mae'n bwysig cofio y bydd angen dal i gwblhau chwiliad manwl o'r catalog er mwyn sicrhau chwiliad cynhwysfawr,

00:07:52.510 --> 00:07:58.120
er enghraifft dim ond drwy gatalog y llyfrgell y gellir dod o hyd i lyfrau print ar hyn o bryd.

00:08:01.540 --> 00:08:04.930
Mae cronfeydd data ychwanegol nad ydynt wedi'u cynnwys yn y chwiliad.

00:08:05.650 --> 00:08:11.110
Felly rydym bob amser yn argymell, fel gyda phob strategaeth chwilio, y dylid cynnal chwiliadau

00:08:11.110 --> 00:08:16.660
ychwanegol mewn cronfeydd data unigol er mwyn sicrhau archwiliad cynhwysfawr o'r llenyddiaeth.

00:08:21.990 --> 00:08:26.250
Cafodd yr offeryn ei gyflwyno gyntaf ym mis medi 2024.

00:08:27.030 --> 00:08:35.999
Fel y gwelwch rydym wedi cael rhyngweithiadau da ag ef dros y 18 mis diwethaf. Mae wedi cael mynediad dros 155,000 o weithiau hyd

00:08:36.000 --> 00:08:43.110
yma gyda dros 230,000 o weithredoedd megis cynnal ymchwiliad neu glicio ar ddolen wedi'i cyflenwi.

00:08:45.230 --> 00:08:47.870
Er bod yr offeryn yn syml iawn i'w defnyddio,

00:08:48.230 --> 00:08:56.450
rydym yn cynghori bob aelod o staff i'w archwilio er mwyn iddynt allu ei brofi a thrafod ei gryfderau a'i gyfyngiadau o fewn eu maes pwnc.

00:08:57.670 --> 00:09:06.400
Mae'r llyfrgell yn croesawu adborth gennych fel defnyddiwr ac fel addysgwyr, ynghylch ei defnyddioldeb ac ansawdd y ffynonellau sy'n cael eu cyflwyno.

00:09:07.660 --> 00:09:12.070
Rydym wedi darparu rhai dolenni defnyddiol os hoffech archwilio ymhellach.

00:09:15.560 --> 00:09:25.130
Fel bob amser gallwch gysylltu a'ch llyfrgellydd sgiliau gwybodaeth i gael sgwrs i roi adborth neu i drefnu sesiwn ymchwil sy'n ymgorffori'r offeryn hwn.

00:09:26.210 --> 00:09:28.160
Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi.