WEBVTT

00:00:01.167 --> 00:00:03.036
Pan ddechreuais i weithio yn y brifysgol

00:00:03.036 --> 00:00:05.638
am y tro cyntaf roeddwn i’n hapus iawn ac yn
teimlo’n gyffrous i weithio yma,

00:00:05.638 --> 00:00:07.340
ond wnaeth hynny ddim para'n hir iawn.

00:00:07.340 --> 00:00:09.275
O fewn y chwe mis cyntaf
o weithio yma,

00:00:09.275 --> 00:00:11.945
roeddwn i'n ystyried gadael, a dim ond
drwy ddyfalbarhad rydw i wedi aros mor hir â hyn,

00:00:11.945 --> 00:00:15.348
nid oherwydd awydd gwirioneddol i aros.

00:00:15.448 --> 00:00:17.917
O fewn y pythefnos cyntaf, cefais
gyfarfod gyda fy rheolwr

00:00:17.917 --> 00:00:21.788
i drafod pa fath o gyfleoedd oedd ar gael
ar gyfer myfyrwyr BAME y gallwn i gymryd rhan ynddyn nhw.

00:00:21.855 --> 00:00:25.492
Ac ymatebodd fy rheolwr yn gyflym drwy ddweud
taw’r broblem yw bod

00:00:25.592 --> 00:00:29.462
myfyrwyr BAME sy’n dod i’r brifysgol yma fel arfer
yn dod gyda chymwysterau BTEC,

00:00:29.596 --> 00:00:31.498
a bod y staff fel arfer yn cael cyfarfodydd ynghylch

00:00:31.498 --> 00:00:34.834
sut i’w haddysgu sut i ymddwyn tra eu bod nhw’n
byw ar y campws.

00:00:34.901 --> 00:00:38.605
Ac fel yr unig aelod o staff BAME ar y
tîm bryd hynny,

00:00:38.671 --> 00:00:42.208
a’r ffaith fy mod wedi dod i’r brifysgol gyda BTEC hefyd,

00:00:42.275 --> 00:00:45.712
allwn i ddim peidio â theimlo bod hyn wedi’i anelu ata i.

00:00:45.812 --> 00:00:47.647
Sut allwn i beidio?

00:00:47.714 --> 00:00:50.583
A doeddwn i ddim wir yn gwybod sut i
ddelio â’r peth ar y pryd.

00:00:50.583 --> 00:00:55.588
Roeddwn i’n meddwl tybed a ddylwn
i ei herio am hyn, a gofyn

00:00:55.588 --> 00:00:59.259
a oes ganddi ffeithiau ynghylch myfyrwyr BAME
sy'n dod i'r brifysgol

00:00:59.325 --> 00:01:02.529
gyda chymwysterau BTEC, neu ai stereoteip
rhagfarnllyd ar ei rhan hi oedd hyn?

00:01:02.595 --> 00:01:05.598
Neu a ddylwn i ei holi pam ei bod

00:01:05.665 --> 00:01:08.668
yn broblem cael pobl â BTEC yn y brifysgol,

00:01:08.902 --> 00:01:13.640
a’i haddysgu ynghylch faint o ormes
a chamwahaniaethu

00:01:13.840 --> 00:01:14.908
y byddai’r myfyrwyr yma wedi’i wynebu

00:01:14.908 --> 00:01:17.243
yn ystod eu bywydau, a faint anoddach y
byddai wedi bod iddyn

00:01:17.243 --> 00:01:21.648
nhw gael lle yn y brifysgol o gymharu â'u cyfoedion gwyn.

00:01:21.748 --> 00:01:25.151
Roedd hyn i gyd yn rhedeg trwy fy meddwl, ond fe
wnes i’r un peth ag y byddai'r rhan fwyaf o bobl Ddu yn ei

00:01:25.285 --> 00:01:27.454
wneud mewn sefyllfa o’r fath gyda rheolwr gwyn

00:01:27.454 --> 00:01:28.922
a oedd yn amlwg yn camwahaniaethu.

00:01:28.922 --> 00:01:32.759
Ddwedais i ddim byd, a mewnoli'r cyfan.

00:01:32.826 --> 00:01:36.529
Nes ymlaen, criais i gyda fy ffrindiau a
fy nheulu am yr anghydraddoldebau.

00:01:36.529 --> 00:01:39.966
Sylweddolais i nad oeddwn i byth yn mynd i symud
ymlaen yn y sefydliad yma,

00:01:40.166 --> 00:01:43.436
ac roeddwn i’n mynd i wynebu'r un
rhwystrau â’r rhai a wynebais

00:01:43.536 --> 00:01:47.774
yn y brifysgol gan fy mod i’n Ddu a gan taw cymwysterau BTEC sydd gen i.

