{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos i chi sut i ychwanegu cynnwys fideo neu sain gan ddefnyddio'r gweithgaredd<em> Fideo Panopto<\/em>.<\/p><p>Yn gyntaf, gwnewch yn si\u0175r bod <em>y Modd golygu<\/em> wedi'i droi ymlaen gan ddefnyddio'r togl ar frig eich tudalen cwrs. Yna, ewch i'r man lle rydych chi am i'ch dolen ymddangos, dewiswch yr arwydd plws (+) a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd<\/em>. O'r rhestr, dewiswch <em>Fideo Panopto <\/em>a dewiswch <em>Ychwanegu<\/em>.<\/p><p>Nawr, mae gennych ddau opsiwn.<\/p><p><strong>Arddangos clip fideo neu sain penodol<\/strong><\/p><p>I ddangos clip fideo neu sain penodol, dewiswch <em>Dewis cynnwys<\/em>. Mae hyn yn agor ffenestr ddeialog. Oherwydd y gellir graddio fideos Panopto, gofynnir i chi a ydych chi am alluogi graddio (er enghraifft, os bydd y fideo yn cynnwys cwis). Dewiswch <em>Peidio \u00e2 graddio'r fideo os<\/em> ydych am ddangos y fideo yn unig. Yna, mae gennych chi\u2019r opsiwn i ddewis recordiad presennol, lanlwytho cynnwys newydd, neu recordio trwy Recordio Panopto neu raglen bwrdd gwaith Panopto.<\/p><p>O dan <em>Enw\u2019r gweithgaredd<\/em>, rhowch deitl clir iddo ac ychwanegwch ddisgrifiad yn y blwch isod. Wedyn gallwch chi ddewis:<\/p><ul><li><em>Dangos disgrifiad ar dudalen y cwrs<\/em>: mae hyn yn dangos y disgrifiad o fewn yr adran. Rydyn ni\u2019n ei argymell ar gyfer testun byr.<\/li><li><em>Dangos disgrifiad gweithgaredd pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r offeryn<\/em>: mae hyn yn dangos y disgrifiad ar \u00f4l iddyn nhw ddewis y ddolen. Defnyddiwch hwn ar gyfer testun hirach.<\/li><\/ul><p><strong>Sut i gysylltu i ffolder Panopto eich modwl<\/strong><\/p><p>Os ydych chi am gysylltu \u00e2 ffolder Panopto eich modwl, anwybyddwch <em>Dewiswch gynnwys<\/em>, a rhowch enw a disgrifiad. Er enghraifft: \"Recordiadau darlithoedd \u2013 Yma fe welwch chi holl recordiadau\u2019r darlithoedd ar gyfer y modwl hwn. Bydda i\u2019n ychwanegu'r recordiad newydd bob wythnos\".<\/p><p>Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>. A dyna ni, sut i ychwanegu cynnwys sain neu fideo gan ddefnyddio'r gweithgaredd&nbsp;<em> Fideo Panopto<\/em>.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"9bf19f18-a33e-4f59-901e-2ffea475bcea","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Ychwanegu cynnwys fideo neu sain gyda&#039;r gweithgarwch Fideo Panopto"}],"hTag":"h4"}