{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, rydw i'n mynd i'ch tywys trwy'r ateb i'r drydedd her Moodle, lle rydyn ni\u2019n sefydlu rhai gweithgareddau ar gyfer <em>Wythnos 1: Rheoli Amser<\/em> yn ein modwl ffug <em>Sgiliau ar gyfer Dysgu Annibynnol<\/em>. Dewch i ni ddechrau!<\/p><p><strong>Tasg 1: Ychwanegu cyfarwyddiadau ar gyfer gwaith cartref<\/strong><\/p><p>&nbsp;Yn gyntaf, rydyn ni'n mynd i ychwanegu neges fer i arwain myfyrwyr trwy eu tasgau gwaith cartref.<\/p><p>Yn y&nbsp; deilsen <em>Wythnos 1<\/em>, ychydig o dan y <em>Dasg cyn-seminar<\/em>, gadewch i ni ychwanegu <em>Maes testun a chyfryngau.<\/em> Rwy'n gosod y <em>Teitl ym mynegai\u2019r cwrs<\/em> ac wedyn yn gludo fy nhestun ac yn fformatio'r pennawd. Pan fyddaf wedi gorffen, rwy'n dewis <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p><strong>Tasg 2: Creu<\/strong><em><strong> <\/strong><\/em><strong>gweithgaredd <\/strong><em><strong>Dewis<\/strong><\/em><\/p><p>Nesaf, byddwn ni\u2019n ychwanegu gweithgaredd <em>Dewis<\/em> i wneud i fyfyrwyr feddwl am dechnegau rheoli amser.<\/p><p>O dan y neges gwaith cartref, rwy'n ychwanegu gweithgaredd newydd ac yn dewis yr opsiwn <em>Dewis<\/em>. Rwy'n ychwanegu enw'r gweithgaredd, disgrifiad a'r gwahanol opsiynau y gall myfyrwyr ddewis ohonyn nhw. Roedd y dasg yn gofyn i mi osod y gweithgaredd i ddangos canlyniadau i fyfyrwyr ar \u00f4l iddyn nhw ateb, a chyhoeddi canlyniadau yn ddienw, felly gadewch i ni wirio'r gosodiadau hynny. O dan <em>Canlyniadau<\/em>, rwy'n newid y gosodiad <em>Cyhoeddi canlyniadau<\/em> i <em>Dangos canlyniadau i fyfyrwyr ar \u00f4l iddyn nhw ateb<\/em>. Mae\u2019r gosodiad arall, <em>Cyhoeddi canlyniadau dienw, <\/em>yno eisoes, felly bydda i\u2019n gadael hwnnw. Rydw i wedi gorffen. Galla i ddewis <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p><strong>Tasg 3: Creu gweithgaredd<\/strong><em><strong> Aseiniad<\/strong><\/em><\/p><p>Nawr gadewch i ni greu gweithgaredd<em> Aseiniad<\/em> lle gofynnir i fyfyrwyr lawrlwytho templed y gellir ei olygu, cwblhau'r gweithgaredd, a'i gyflwyno.<\/p><p>Rwy'n ychwanegu gweithgaredd <em>Aseiniad <\/em>ac yn ychwanegu'r teitl a'r disgrifiad. Nesaf, rwy'n lanlwytho'r ffeil templed yn yr adran <em>Ffeiliau ychwanegol<\/em>.<\/p><p>Yr unig osodiad y gofynnwyd i ni ei olygu oedd analluogi Turnitin, felly rydyn ni'n sgrolio i lawr ac yn dad-dicio'r blwch gwirio<em> Galluogi Turnitin<\/em>.<\/p><p>Wedi'i wneud! Galla i nawr ddewis <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p><strong>Tasg 4: Adolygu'r gosodiadau <\/strong><em><strong>Amodau cwblhau<\/strong><\/em><\/p><p>Yn olaf, gadewch i ni alluogi <em>Tracio camau tuag at gwblhau ac <\/em>adolygu'r gosodiadau <em>Cwblhau gweithgaredd <\/em>ar gyfer y ddau weithgaredd sydd newydd eu creu. Yn gyntaf, gadewch i ni fynd i<em> Gosodiadau<\/em> yn y bar uchaf ac o dan <em>Tracio camau tuag at gwblhau<\/em> gadewch i ni alluogi y ddau opsiwn: <em>Galluogi tracio tuag at gwblhau<\/em> a <em>Dangos amodau cwblhau gweithgaredd.<\/em> Nawr bod yr opsiwn <em>Tracio camau tuag at gwblhau<\/em> wedi'i alluogi ar lefel y cwrs, byddwn ni\u2019n adolygu'r gosodiadau ar gyfer pob gweithgaredd.<\/p><p>Dewiswch y tri dot a <em>Golygu gosodiadau<\/em>. O dan <em>Amodau cwblhau<\/em>, gadewch i ni ychwanegu gofyniad.<\/p><p>Ar gyfer y&nbsp; gweithgaredd <em>Dewis<\/em>, rwy\u2019n dewis <em>Ychwanegu gofynion<\/em> ac yn ticio ar <em>Gwneud dewis<\/em>. Nawr galla i gadw fy newidiadau. Marcir bod y gweithgaredd wedi'i gwblhau pan fydd y myfyrwyr yn gwneud dewis.<\/p><p>Gadewch i ni fynd i olygu amodau cwblhau'r gweithgaredd <em>Aseiniad<\/em>. Unwaith eto, rwy'n dewis <em>Golygu gosodiadau<\/em>, ac o dan <em>Amod cwblhau <\/em>rwy'n dewis <em>Ychwanegu gofynion<\/em> ac yn ticio ar <em>Gwneud cyflwyniad<\/em>. Rwy'n cadw fy newidiadau.<\/p><p>A dyna ni! Bellach rydych chi wedi sefydlu dau weithgaredd rhyngweithiol syml ac wedi ychwanegu amodau cwblhau.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"545a61f8-bcc6-477d-be3e-568e10356429","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Datrysiad her Moodle 3"}],"hTag":"h4"}