Heddiw, mae dim ond un peiriant cynaeafu grawn cyffredinol yng Ngogledd America – y combein. Y combein cyfoes, ffatri mewn cae wedi’i chydosod o ddros 35,000 o ddarnau cydrannol, ydy syndod technoleg beirianneg a chynhyrchiad. Gyda’r un peiriant hwn a dim llawer o atodion bach, gellir dros 100 o rhywogaethau gwahanol o hadau, o’r bron microsgopig i ffa (dewis 5000 o waith), cynaeafu. Mae’r combein yn ddrud, ac mae e’n cael ei ‘danddefnyddio’ gyda defnydd am 200 o oriau y flwyddyn ar gyfartaledd. Ond mae rhesymeg ariannol yn gorchymyn yr yswiriant hwn rhag colled cnwd. Os bydd ffermwyr dewis ganddynt, byddant yn prynu peiriant mwy cynhyrchiol (a drutach) fel y gallant ddod â’u cnydau i mewn ar y pryd gorau y tymor. Mae oediadau cynhaeaf yn ddrud. Er hynny, bydd y combein mor gynhyrchiol yn unig â’r cysylltiad gwannaf yn y peiriant, gan gynnwys y gweithredwr a’i reolaethau. Parheir i roi pwyslais mewn cynllun combein dyfodol ar y lle’r gweithredwr, achos fod y cysur a chyfleustra’r gweithredwr yn aros pryderon difrifol. Monitrir mwy gweithredoedd yn electronig oherwydd fod y gweithredwr yn ynysedig yn y caban caeedig a’r peiriant ei hunan yn fwy cymhleth. Bydd monitro gweithredol a phroses yn dyfod mwy soffistigedig. Profir monitorau lleithder cnwd a cholled grawn y gallant roi arwydd y golled ganrannol dros y cefn y peiriant a rheoli gweithredoedd combein yn awtomatig yn ôl cyflyrau cnwd. Mae gwelliannau fel hyn yn galluogi’r gweithredwr i fanteisio ar y potensial llawn y peiriant.