Mae cwmnïau cyfraith dros Orllewin Cymru’n sefyll ochr yn ochr gyda lleill dros y DU yn erbyn toriadau llywodraeth mewn y system cymorth cyfreithiol. Gostyngwyd ffioedd cyfreithwyr yn Lloegr a Chymru 8.75 y cant o’r 1af o Orffennaf wedi’u gostyngwyd yr un ganran yn 2014. Mae’r lywodraeth yn gweithredu toriadau er mwyn gostwng y bil cymorth cyfreithiol £1.7 biliwn – sy’n helpu bobl sy ddim yn gallu fforddio’r costau cyngor cyfreithiol. Nawr, mae cyfreithwyr yng nghwmnïau yng Ngheredigion yn gwrthod derbyn gwaith wedi’i drawsgronni gan gymorth cyfreithiol yn ôl y cyfraddau newydd wedi’u slaesio, mewn protest yn erbyn y toriadau. Mae’r sir yn ymuno â chwmnïau yn Merseyside, Manceinion, Swydd Efrog, Newcastle, Durham a Llundain sy’n gwrthod derbyn gwaith wedi’i drawsgronni gan gymorth cyfreithiol hefyd. Yn y cyfamser, neith cwmnïau yn Sir Gâr yr hyn sy angen gan gymorth cyfreithiol, ond fyddan nhw ddim yn mynd i drafferth heb eu talu fel maen nhw wedi gwneud yn y gorffennol. Roedd yr oriau ychwanegol di-dâl o gymorth i rwystro’r system cyfoes rhag mynd yn dagu ac achosi oediadau mewn achosion. Mae pob cwmni wedi penderfynu cymryd y ffordd o weithredu fel y gwelant yn dda. Dywedodd y gyfreithwraig yn Aberteifi, Katy Hanson, o Welch a’u Cwmni, y bydd y penderfyniad i beidio â derbyn achosi cymorth cyfreithiol yn parhau ‘yn benagored’ nes bod y lywodraeth yn barod i drafod â’r alwedigaeth gyfreithiol. Ymunodd y cwmni â lleill dros y DU i fynd ar streic ddydd Mercher diwethaf. Meddai y Fns Hanson: ‘Mae’r system gyfreithiol yn cael ei hymestyn i’r eithaf, a chafodd ers amser. Yr hyn sy’n gosod Gorllewin Cymru ar wahân ydy’r materion daearyddol o deithio a’r ffaith bydd hi’n anodd cadw gwasanaethau cymorth cyfreithiol yn ôl y toriadau. Dydy’n cwmni a lleill yng Ngheredigion ddim yn derbyn cymorth cyfreithiol yn ôl y toriadau. Mae cwmnïau yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn gweithio yn ôl rheol a dim mwy.’ Yn y diwedd, rhybuddiodd hi efallai byddai rhaid i bobl wynebu cyfweliadau heddlu ac ymddangosiadau mewn llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol.