{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, byddwn ni\u2019n edrych ar sut i reoli adrannau ar eich tudalen cwrs Moodle gan ddefnyddio'r fformat<em> Teils<\/em>. Byddwch chi\u2019n dysgu sut i ychwanegu teils newydd, eu hailenwi, newid eu delwedd neu eicon, eu symud, a'u cuddio neu eu dileu pan fo angen.&nbsp;<\/p><p><strong>Ychwanegu teilsen newydd<\/strong><\/p><p>Gadewch i ni ddechrau gydag ychwanegu teils newydd. I wneud hyn, gwnewch yn si\u0175r bod <em>y modd Golygu<\/em> ymlaen. Wedyn sgroliwch i ble rydych chi am ychwanegu teilsen newydd a dewiswch <em>Ychwanegu adran<\/em>. Bydd hyn yn creu teilsen newydd, y gallwch chi ei haddasu. I ailenwi teils, dewiswch y tri dot (\u22ee) wrth ymyl enw'r deilsen a dewiswch <em>Golygu gosodiadau<\/em>. Teipiwch eich teitl newydd ac os dymunwch, ychwanegwch rai manylion am yr hyn sydd yn yr adran yn y maes<em> Disgrifiad<\/em>. Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewiswch <em>Cadw newidiadau<\/em>.<\/p><p>Nesaf, gadewch i ni edrych ar sut i newid y ddelwedd neu'r eicon ar gyfer teilsen. Tra byddwch chi yn y <em>modd Golygu<\/em>, dewiswch yr eicon neu'r ddelwedd i'r chwith o deitl y deilsen. Bydd ffenestr deialog yn agor, gan roi\u2019r opsiwn i chi ddewis eicon newydd, dangos rhif, neu lanlwytho delwedd. I ychwanegu delwedd, dewiswch <em>Lanlwytho llun newydd<\/em>&nbsp;a dilynwch y cyfarwyddiadau i lanlwytho'ch ffeil.&nbsp;&nbsp;<\/p><p>Os ydych chi'n defnyddio delwedd, cadwch hi'n syml. Osgowch delweddau sydd \u00e2 thestun neu ddyluniadau prysur, gan y gall y rhain ei gwneud hi\u2019n anodd darllen teitl y deilsen. Y maint a argymhellir ar gyfer delweddau teils yw 300x200 picsel (neu ddelweddau mwy o faint sydd \u00e2'r un gymhareb).<\/p><p><strong>Symud teils<\/strong><\/p><p>I symud teils, agorwch <em>fynegai'r Cwrs<\/em> tra yn y <em>modd Golygu<\/em> a llusgwch yr adran i safle newydd. Fel arall, dewiswch y tri dot (\u22ee) wrth ymyl y deilsen ac wedyn <em>Symud<\/em>. Bydd ffenest deialog yn agor. Yma, dewiswch yr adran yr hoffech chi i'r deilsen ymddangos ar ei h\u00f4l hi.<\/p><p><strong>Cuddio teils<\/strong><\/p><p>I guddio teilsen, dewiswch y tri dot (\u22ee) a dewis <em>Cuddio<\/em>. Mae hyn yn ddefnyddiol os ydych chi'n dal i weithio ar adran neu eisiau rhyddhau cynnwys yn nes ymlaen.&nbsp;&nbsp;<\/p><p><strong>Dileu teilsen<\/strong><\/p><p>I ddileu teils, dewiswch y tri dot (\u22ee) a dewiswch <em>Dileu<\/em>. Cadwch mewn cof y bydd hyn yn dileu'r deilsen a'i chynnwys yn barhaol, felly defnyddiwch yr opsiwn hwn dim ond os ydych chi'n hollol si\u0175r nad oes angen y deunydd mwyach!&nbsp;&nbsp;<\/p><p>Felly dyna ni! Gyda'r offer hwn, gallwch chi wneud eich tudalen cwrs Moodle yn fwy trefnus, yn weledol ddeniadol ac yn haws i fyfyrwyr ei llywio.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"29c425a7-a5c5-46c3-ba49-7bd4c546dfc8","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i ychwanegu, symud, cuddio a dileu adrannau"}],"hTag":"h4"}