Gwenno Fôn Jones 2304266 Dysgu yn yr Oes Ddigidol Gwiriwr Tebygrwydd Sgiliau Hanfodol ar Gyfer Astudio a Chyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol Mae’r gallu i astudio ac ennill cyflog yn y diwydiant creadigol yn dod law yn llaw a nifer o sgiliau hanfodol. Ymysg y sgiliau hyn mae ‘Hunan-hyder’ yn allweddol a phwysig. O fewn y byd addysg, mae hunan-hyder yn arwyddocaol gan ei bod yn dylanwadu ar y ffordd yr ydym yn teimlo amdanom ein hunain, a’n hagwedd at ein galluoedd. Ag wrth symud ymlaen i fyd gwaith, fe ddywedodd 1[Daniel Higginbotham. (2023) ]“A confident, can-do attitude will help you stand out in job interviews and may help in securing work experience. Felly, mae’n amlwg bod hunan-hyder yn sgil hanfodol er mwyn astudio a chyflogaeth yn y Diwydiannau Creadigol. Sgil sydd ddim mor amlwg yw y gallu i gymryd adborth a gweithio arno, darllenais yn y llyfr ‘Acting in Musical Theatre’ [Joe Deer and Rocco Dal Vera. (2021). Acting in Musical Theatre. New York: Routledge. P.9.] bod hi’n bwysig i “Take the note and be greatful for it and gracious about it” mae hyn yn galluogi i chi fod yn berfformwyr sydd wastad yn gwella ac yn dysgu i fod ym berfformwyr o’r safon orau. Mae swyddi yn y diwydiannau creadigol yn gofyn am weithwyr cryf yn gorfforol, mae’r gallu i gadw deiet cytbwys ac ymarfer corff yn aml yn angenrheidiol er mwyn gallu dawnsio, cynnal sioeau, perfformio 7 gwaith yr wythnos a llawer mwy. Darllenais mewn erthygl ar wefan ‘Indeed’ bod yna ystyr dyfnach i hyn hefyd o fewn y maes actio, sef “Physical performance is vital; if used correctly, it lets the audience know a great deal about your character before you even open your mouth.” 2[ Indeed Editorial Team. (2023). What are the essential skills for acting?. [Online]. Indeed. Last Updated: 17 January.] Credaf bod hyn yn ddiddorol iawn gan ei fod yn pwysleisio pwysigrwydd iechyd corfforol o fewn y diwydiannau creadigol, ac ei fod yn effeithio ar lawer o bethau gwahanol. I ddod i gasgliad, mae nifer o sgiliau corfforol a meddyliol yn hanfodol er mwyn astudio ag ennill cyflog yn y diwydiannau creadigol, a mae’r sgiliau yma yn angenrheidiol er mwyn creu perfformwyr iach yn ogystal a llwyddiannus.