{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos i chi sut i sefydlu fforwm ar Moodle.<\/p><p>Yn gyntaf, trowch ymlaen y<em> Modd golygu<\/em>. Wedyn, ewch i ble rydych chi am ychwanegu'r fforwm, dewiswch y botwm plws a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd<\/em>. Dewiswch <em>Fforwm<\/em> o'r rhestr ac wedyn dewiswch <em>Ychwanegu<\/em>.<\/p><p>Rhowch enw a disgrifiad clir i'ch fforwm. Mae hyn yn helpu myfyrwyr i ddeall ei bwrpas.<\/p><p>O dan <em>Math o Fforwm<\/em>, fe welwch chi wahanol fathau o fforymau. Rydyn ni\u2019n argymell dechrau gyda <em>Un drafodaeth syml<\/em>, sy'n eich galluogi chi i bostio un cwestiwn neu awgrym y gall myfyrwyr ymateb iddo. Ni fyddan nhw\u2019n gallu dechrau llinyn trafod newydd, sy'n helpu i gynnal ffocws y sgwrs ac yn ei gwneud hi\u2019n haws ei dilyn.<\/p><p>Fe welwch chi hefyd opsiynau eraill. Os ydych chi'n newydd i ddefnyddio fforymau, rydyn ni\u2019n awgrymu cadw'r gosodiadau diofyn ar hyn o bryd ac archwilio'r nodweddion hyn nes ymlaen, unwaith y byddwch chi a'ch myfyrwyr yn fwy hyderus gyda gweithgareddau seiliedig ar fforwm.<\/p><p>Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p>Felly dyma hi, sut i ychwanegu fforwm trafod syml ar Moodle.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"a0872c45-636b-4ee5-a9ba-1816799677f4","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i sefydlu fforwm trafod"}],"hTag":"h4"}