WEBVTT

00:00:04.560 --> 00:00:10.470
Mae cefnogi sgiliau academaidd ein myfyrwyr yn hanfodol ar gyfer eu llwyddiant.

00:00:10.770 --> 00:00:16.920
Dyma rai awgrymiadau ar gyfer gweithgareddau byr y gallwch eu hymgorffori yn eich addysgu!

00:00:18.750 --> 00:00:21.300
Helfa sborion y llyfrgell

00:00:21.660 --> 00:00:27.420
Gallwch ofyn i fyfyrwyr archwilio llyfrgell y Brifysgol i ddod o hyd i adnoddau.

00:00:27.420 --> 00:00:32.040
Bydd y gweithgarwch hwn yn eu haddysgu sut i ddefnyddio catalogau,

00:00:32.040 --> 00:00:36.630
cronfeydd data, deunyddiau cyfeirnodi ac adnoddau corfforol

00:00:36.630 --> 00:00:38.040
ac ar-lein eraill.

00:00:40.620 --> 00:00:42.780
Sesiynau adolygu cyfoedion

00:00:43.230 --> 00:00:51.840
Gallwch drefnu sesiynau lle caiff myfyrwyr gyfnewid a darparu adborth adeiladol ar aseiniadau ysgrifennu ei gilydd.

00:00:51.840 --> 00:00:57.270
Bydd y gweithgarwch hwn yn eu helpu i adnabod meysydd posibl i’w gwella,

00:00:57.270 --> 00:01:00.810
yn ogystal â meithrin parch a chydweithio.

00:01:02.520 --> 00:01:12.330
Gweithdai ysgrifennu. Gallwch drefnu gweithdai ar sgiliau ysgrifennu penodol, fel datblygu traethawd hir, strwythur paragraffau,

00:01:12.330 --> 00:01:14.100
ac arddulliau dyfynodi.

00:01:15.960 --> 00:01:19.290
Ymarfer system gwneud nodiadau Cornell

00:01:19.740 --> 00:01:26.430
Gallwch roi canllawiau i fyfyrwyr ar ddefnyddio’r dull syml ond effeithiol hwn o gymryd nodiadau.

00:01:26.670 --> 00:01:30.120
Gall system Cornel helpu myfyrwyr i drefnu,

00:01:30.120 --> 00:01:34.320
crynhoi ac adalw gwybodaeth y byddant yn ei chlywed neu’n ei darllen.

00:01:35.940 --> 00:01:37.770
Mapio meddwl digidol

00:01:38.280 --> 00:01:50.160
Gallwch annog myfyrwyr i ddefnyddio offer mapio meddwl digidol i drefnu meddyliau a chysyniadau a hwyluso cysylltiadau rhwng syniadau mewn fformat deniadol yn weledol.

00:01:50.490 --> 00:01:54.750
Strategaethau darllen effeithiol

00:01:55.230 --> 00:01:59.490
Gallwch redeg gweithdai ar strategaethau darllen gweithredol,

00:01:59.490 --> 00:02:06.870
fel anodi a chrynhoi. Bydd y technegau hyn yn helpu myfyrwyr i ymgysylltu’n feirniadol gyda’r cynnwys.

00:02:07.740 --> 00:02:18.510
Adfyfyrio ar adborth. Gallwch drefnu gweithdy lle byddwch yn annog myfyrwyr i adfyfyrio ar adborth o aseiniadau blaenorol.

00:02:18.750 --> 00:02:25.500
Bydd y gweithgaredd hwn yn eu helpu i ddeall sut i ddefnyddio adborth i wella eu gwaith yn y dyfodol.

00:02:27.750 --> 00:02:35.640
Trwy ymgorffori’r gweithgareddau hyn yn eich addysgu, galwch rymuso ein myfyrwyr i ddod yn ddysgwyr mwy effeithiol.

00:02:35.730 --> 00:02:41.940
Gyda’n gilydd, gadewch i ni greu amgylchedd cefnogol lle gall pob myfyriwr ffynnu!

