{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, byddwn yn archwilio\u2019r prif feysydd a\u2019r nodweddion y byddwch yn eu defnyddio wrth osod a rheoli eich modwl.<\/p><p><strong>Ardal cynnwys&nbsp;<\/strong><\/p><p>Mae baner ar frig pob tudalen cwrs y gellir ei haddasu, a rhywfaint o le lle gallwch ychwanegu neges groeso fyr. Ar dudalennau newydd, enw\u2019r adran hon yw Cyffredinol, ond gallwch ei hailenwi i rywbeth mwy croesawgar, megis \u201cCroeso i [Enw\u2019r Modwl]\u201d fel y dangosir yn yr enghraifft hon.<\/p><p>O dan yr adran hon, mae teils: dyma le rydych yn ychwanegu eich deunyddiau. Gallwch drefnu cynnwys i adrannau wythnosol neu adrannau seiliedig ar bwnc, gan ddibynnu sut mae eich modwl wedi\u2019i strwythuro.<\/p><p><em><strong>Mynegai\u2019r cwrs&nbsp;<\/strong><\/em><\/p><p>Ar y chwith, mae <em>Mynegai\u2019r cwrs. <\/em>Mae hwn yn rhoi trosolwg byr o\u2019r holl adrannau a\u2019r eitemau ar eich tudalen cwrs, gan ei wneud yn haws llywio i gynnwys penodol.<\/p><p><em><strong>Dr\u00f4r y bloc&nbsp;<\/strong><\/em><\/p><p>Ar y dde, mae <em>Dr\u00f4r y bloc.<\/em> Mae\u2019r blociau\u2019n baneli bach sy\u2019n rhoi mynediad cyflym i offer a gwybodaeth ddefnyddiol. Er enghraifft, gallwch weld dolenni i Holiadur Adborth y Modwl, eich Rhestr Adnoddau Ar-lein, apiau Microsoft a\u2019r GanolfanDigidol. Gallwch ddewis pa blociau sy\u2019n ymddangos yma i gyd-fynd ag anghenion eich modwl a\u2019ch myfyrwyr.<\/p><p><strong>Golygu cynnwys<\/strong>&nbsp;<\/p><p>I wneud newidiadau i\u2019ch tudalen cwrs, trowch y modd Golygu ymlaen drwy ddefnyddio\u2019r botwm ar y dde uchaf. Mae hyn yn eich galluogi i ychwanegu, symud, dileu neu ddiweddaru cynnwys. Bydd unrhyw newidiadau rydych yn eu gwneud yn ymddangos ar unwaith i fyfyrwyr, oni bai eich bod yn dewis cuddio\u2019r eitem oddi wrthynt.<\/p><p>I ychwanegu cynnwys, ewch i le rydych am iddo ymddangos, dewiswch yr arwydd plws (+) a dewiswch <em>Gweithgaredd neu adnodd<\/em>. Bydd ffenestr ddeialog yn agor,&nbsp;gan eich caniat\u00e1u i ddewis pa fath o gynnwys i\u2019w ychwanegu.<\/p><p>Mae gan bob eitem ar eich tudalen cwrs ddewislen golygu a gynrychiolir gan dri dot fertigol (\u22ee).&nbsp;Mae\u2019r rhai y byddwch yn eu defnyddio\u2019n amlach fel a ganlyn:<\/p><ul><li>Mae<em><strong> Golygu gosodiadau <\/strong><\/em>yn agor y set lawn o opsiynau ar gyfer eitem. Yma, byddwch yn gallu diweddaru ei gynnwys, newid ei enw a\u2019i ddisgrifiad, gosod dyddiadau argaeledd, ychwanegu cyfyngiadau mynediad, a gosod amodau tracio cynnydd. Gan ddibynnu ar y math o gynnwys, gall fod mwy o osodiadau ar gael. Defnyddiwch yr eicon marc cwestiwn (?) ar gyfer arweiniad ar yr hyn mae pob gosodiad yn ei wneud.<\/li><li>Mae<em><strong> Symud <\/strong><\/em>yn caniat\u00e1u i chi ail-leoli\u2019r eitem o fewn y cwrs.<\/li><li>Mae <em><strong>Symud i\u2019r dde <\/strong><\/em>yn mewnoli\u2019r eitem ychydig i\u2019r dde. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio ar gyfer grwpio eitemau cysylltiedig yn weledol gan greu hierarchaeth o fewn adran.<\/li><li>Mae <em><strong>Argaeledd <\/strong><\/em>yn caniat\u00e1u i chi guddio neu ddangos yr eitem yn gyflym i fyfyrwyr.<\/li><li>Mae <em><strong>Dyblygu <\/strong><\/em>yn creu copi o\u2019r eitem. Mae hwn yn ddefnyddio pan ydych chi eisiau ailddefnyddio gweithgaredd neu adnodd tebyg heb ei ailadeiladu o\u2019r dechrau.<\/li><li>Yn olaf, mae <em><strong>Dileu <\/strong><\/em>yn gwaredu\u2019r eitem o\u2019ch tudalen cwrs. Gofynnir i chi gadarnhau cyn iddi gael ei dileu. Anfonir eitemau wedi\u2019u dileu i\u2019r <em>bin Ailgylchu, <\/em>y gellir dod o hyd iddo drwy ddewis <em>Mwy <\/em>yn y bar uchaf. Os ydych chi\u2019n dileu eitem drwy gamgymeriad, gallwch ei hadfer o fewn 14 diwrnod; ar \u00f4l hynny bydd yn cael ei thynnu\u2019n barhaol.<\/li><\/ul><p>I wirio sut olwg sydd ar eich tudalen o safbwynt myfyriwr, defnyddiwch <em>Newid r\u00f4l i... &gt;Myfyriwr <\/em>o ddewislen y defnyddiwr. Mae hyn yn ffordd ddefnyddiol i weld beth fydd eich myfyrwyr yn ei brofi. Er enghraifft, bydd myfyrwyr yn gweld llawer llai o osodiadau.<\/p><p><strong>Rheoli cwrs<\/strong><\/p><p>Ar frig y dudalen, byddwch chi\u2019n gweld rhes o dabiau:<\/p><ul><li><em><strong>Gosodiadau, <\/strong><\/em>lle gallwch newid delwedd y faner a galluogi <em>tracio Cynnydd<\/em> ar gyfer eich tudalen.<\/li><li><em><strong>Cyfranogwyr, <\/strong><\/em>lle gallwch ddod o hyd i restr o bawb sydd wedi cofrestru ar y cwrs, gan gynnwys myfyrwyr a staff.<\/li><li><em><strong>Graddau, <\/strong><\/em>lle gallwch gael mynediad at y llyfr graddau i weld a rheoli marciau\u2019r myfyrwyr.<\/li><li><em><strong>Gweithgareddau, <\/strong><\/em>lle gallwch gael mynediad at drosolwg o holl weithgareddau\u2019r cwrs.<\/li><li>A <em><strong>Mwy, <\/strong><\/em>sy\u2019n cynnwys offer ychwanegol megis <em>Adroddiadau, <\/em>y <em>Banc Cwestiynau <\/em>a\u2019r <em>bin Ailgylchu.<\/em><\/li><\/ul><p>Felly, dyma drosolwg cyflym o rannau allweddol tudalen cwrs Moodle.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"8ee60bf4-a047-4bd0-9b4b-20acbbc269bd","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut olwg sydd ar dudalen cwrs?"}],"hTag":"h4"}