“The Earth provides enough to satisfy everyone’s needs, but not for everyone’s greed”- Mahatma Gandi (Young & Commins, 2002) Geiriau sydd yn atseinio materion mwyaf cyfoes ein byd. Sut mae adnoddau’r byd wedi ei rhannu? Fel bod rhai yn dlawd a rhai eraill yn gyfoethog? A fyddai llai o wastraff yn caniatáu digon o adnoddau i ni gyd? Dyma rhai o’r cwestiynau cychwynnol a fyddai dod i’r meddwl wrth ystyried geiriau Mahatma Gandi. Mae Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang (ADCDF) yn archwilio i faterion cyfoes megis y rhai a godwyd yn y datganiad yma. Pwrpas ADCDF ydy addysgu ein disgyblion am faterion a fydd yn ymdreiddio i mewn i’n bywydau pob dydd. Yn nôl Llywodraeth Cymru, ADCDF ydy “Addysg a fydd yn paratoi pobl ifanc ar gyfer byw yn yr unfed ganrif ar hugain” (Yr Adran Plant, Gorffennaf, 2008, p. 4). Ein swydd ni felly fel addysgwyr ydy rhoi’r arfau i’r plant er mwyn gallu neud dewisiadau a phenderfyniadau a fydd yn cadarnhaol i’r ddaear ac i’n gilydd. Pwysleisir addysg ADCDF bod ganddyn ni gyd cyfrifoldeb yn y byd i fod yn dinasyddion byd-eang ymwybodol, a fydd yn gweithredu gyda canlyniadau mewn golwg. Ystyriwyd ADCDF goblygiadau ein gweithredoedd ar anghenion ni heddiw ac i genedlaethau y dyfodol sydd yn cyfateb a beth ddwedodd Bruntland yn ei adroddiad, “development which meets the needs of the present without compromising the ability of future generations to meet their own needs” (Brutland, 1987). Mae tueddiad i feddwl bod ADCDF yn fater sydd yn ymwneud a’r amgylchedd a’r byd naturiol yn unig ond mae Dr Sioned Hughes (2017) yn honni bod ADCDF yn fater ehangach a phwyslais ar faterion dinasyddiaeth megis tegwch, credoau a thraddodiadau dynol hefyd mor bwysig ar amgylchedd naturiol (Hopwood & Defis, 2017, pp. 147-148). Mae’r ddogfen llywodraeth a chyfeiriwyd ato yn barod (2008) hefyd yn pwysleisio na ddylai ADCDF cael ei addysgu fel pwnc ar wahân, ac felly dylai elfennau’r gwaith yma ymdreiddio i mewn i wersi'r cwricwlwm. Mae ADCDF yn datblygu saith thema sydd yn cysylltu i’r cwricwlwm personol: Dewisiadau a Phenderfyniadau, Iechyd, Hunaniaeth a Diwylliant, Treuliant a Gwastraff, Cyfoeth a Thlodi, Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd Naturiol. O ran addysgu ADCDF o fewn y cwricwlwm, mae Estyn (2014) yn awgrymu bod yr ysgolion gorau yn sicrhau bod y gwaith yn ymdreiddio i mewn i’r cwricwlwm yn gyson ac yn drawsgwricwlaidd mewn ystod eang o bynciau (Estyn, 2014). Dylid cofio nad yw ADCDF yn bwnc ar wahân ond yn hytrach yn ffordd o addysgu sydd yn gyd fynd gyda’r cwricwlwm presennol, lle bydd elfennau ADCDF yn cael ei integreiddio i bynciau cyfnod allweddol dau megis daearyddiaeth neu meysydd dysgu'r cyfnod sylfaen megis dealltwriaeth o’r byd. Ni ddylai ADCDF cael ei chyfyngu i’r ystafell ddosbarth. Os ydyn ni am i’n plant fod yn barod i fyw yn ein byd ni heddiw, dylai fod cyfleoedd i’r plant ymgymryd yn y gymdeithas i brofi'r hyn ydym ni eisiau iddynt wneud. Mae Estyn (2014) yn honni bod yr ysgolion gorau yn rhoi ystod o brofiadau dan do ac yn allanol sydd yn cynnwys gweithgareddau allgyrsiol hefyd. Mae yna le i ADCDF yn y cwricwlwm presennol fel y soniwyd eisoes ond bydd perthnasedd ADCDF yn cynyddu mewn pwysigrwydd pam cyflwynwyd y cwricwlwm newydd. Mae adroddiad Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) yn nodi pedwar diben sydd yn cysylltu yn gryf a bwriadau ADCDF i greu unigolion sydd yn barod i ddysgu, i gyfrannu, bod yn ymwybodol ac i ymgymryd yn ein byd. Mae ADCDF yn ymweld â saith maes gwahanol sydd yn ategu beth mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2015 yn honni bod angen i blant ddeall (LlywodraethCymru, 2015). Nod y ddeddf ydy datblygu pedwar peth sef dealltwriaeth am y gymdeithas, yr economi, yr amgylchedd a diwylliant yma yng Nghymru. Mae addysgedd ADCDF yn cyfrannu felly at gyrraedd y ddeddf hon. Yn debyg iawn, mae addysgedd ADCDF yn bwysig er mwyn cyrraedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plentyn, sydd yn honni dylai plant cael y cyfle i ddysgu am yr amgylchedd a pherthnasau dynol (Nations, 1989, p. 9) sydd yn digwydd wrth hyrwyddo ADCDF. Rwyf wedi creu adnodd sydd yn cynnwys gwersi a’r ddwy thema sydd yn debyg iawn yn ei chynnwys gan ffocysu ar faterion yn ymwneud a’r byd daearyddol a chynaladwyedd. Yn cyfnod allweddol dau mae fy ngwersi yn edrych yn ehangach ar unigolion sydd wedi cyfoethogi ein byd ni gan gynnwys dylanwadau dynol ar ein byd. Mae’r adnodd yn gynnwys elfennau o bob thema ADCDF. Gwelir y thema amgylchedd naturiol trwyddi draw ar hyd yr adnodd. Mae’r plant yn cael y cyfle i ddatblygu ystod o gyfleoedd ac i ddeall amrywiaeth o syniadau newydd megis gwerthfawrogi amgylcheddau godidog sydd gyda ni. Er enghraifft, yn y wers llosgfynyddoedd bydd y plant yn datblygu ei dealltwriaeth o ryfeddod naturiol ein byd tra yn y cyfnod sylfaen bydd y plant yn sylwi ar y pethau anhygoel yn yr amgylchedd naturiol rydym yn cymryd yn ganiataol. Mae gofyn yn y thema yma bod plant yn ymwybodol o amgylcheddau naturiol gwahanol a thymhorau. Ceir hyn ei hyrwyddo o fewn gwers masnach deg lle bydd y plant yn dysgu am Golombia a pam bod hi’n fwy addas i dyfu bananas yma yn hytrach nag yng Nghymru, tra yn y wers rhannau planhigion bydd y disgyblion yn deall bod daffodil yn tyfu o fewn tymor. Yn cyfnod allweddol dau bydd dealltwriaeth yn cael ei throsglwyddo am ein dibyniaeth ddynol ar yr amgylchedd am adnoddau megis ynni, lle bydd y plant yn gweld y defnydd mae’r ardd fotaneg yn neud o’r byd i gynhyrchu egni gwyrdd. Yn ehangach fydd y plant yn datblygu dealltwriaeth o bwysigrwydd ofalu am y byd, ymadroddir elfen hon o’r thema i mewn i sawl gwers. Er enghraifft yn y gwersi cyfnod sylfaen byddant yn meddwl am sut gall prynnu nwyddau masnach deg yng nghymru helpu ddatblygu amgylchedd cynaladwy yn Columbia neu y ffyrdd i osgoi llygredd moroedd gan delio gyda gwastraff yn briodol. Mae hwn yn codi thema arall ADCDF sef treuliant a gwastraff. Mi fydd disgyblion yn cael y cyfle i ddysgu sut i beidio gwastraffu ynni a defnyddio moddau o ynni sydd yn cynaliadwy, megis edrych ar ffynhonellau adnewyddadwy a ddefnyddiwyd yn yr ardd fotaneg. Mae’r wers ar ynni hefyd yn datblygu thema newid hinsawdd lle bydd y plant yn edrych ar ffynhonellau gwahanol i’r rhai traddodiadol, lle geir y cyfle i ddatblygu dealldwriaeth y disgyblion am ffordd newydd o gynyrchu egni sydd yn ffordd o atal newid hinsawdd. Ceir y cyfle i ddatblygu'r themâu dinasyddiaeth ADCDF, megis hunaniaeth a diwylliant yn yr adnodd. Er enghraifft, yn y wers am Hedd Wyn fydd y plant yn cael y cyfle i ddysgu am ein hunaniaeth a’n diwylliant yng Nghymru gan werthfawrogi traddodiadau Cymraeg megis yr eisteddfod a cherddi traddodiadol gan unigolion o bwys yn ein hanes. Mae’r thema cyfoeth a thlodi yn chwarae rôl o fewn fy adnodd. Mae’r wers Masnach Deg er enghraifft yn trosglwyddo gwybodaeth am dlodi'r ffermwr sydd yn cynhyrchu rhai o’n bwyd ni mewn gwledydd eraill gan ehangu dealltwriaeth y plant bod pawb ddim yn gydradd. Bydd y plant yn dod i ddeall sut mae ei dewisiadau nhw yn gallu helpu eraill, er enghraifft trwy brynu nwyddau masnach deg mi allwn ni helpu sicrhau pris teg. Mae’r defnydd o’r thema dewisiadau a phenderfyniadau yn amlwg ar draws yr adnodd lle mae’r disgyblion yn datblygu ei sgiliau gwrando a pharchu barn pobl eraill ar faterion cyfoes, er enghraifft am ynni adnewyddadwy neu rannau planhigion. Yn ogystal bydd disgyblion yn datblygu ei dealltwriaeth o’r thema yma wrth feddwl am ffordd i arbed effaith llosgfynyddoedd. Mae’r thema iechyd hefyd yn cael ei hyrwyddo yn y cyfnod sylfaen yn y wers masnach deg. Byddant yn dysgu am fwyd iach yn y wers hon, bydd y plant yn dysgu am rhai o ffrwythau mwyaf poblogaidd a lle maent yn cael ei chynhyrchu. Yn ogystal bydd y plant yn dod i ddeall sut mae’r ffermwr yn brin o fwyd a dŵr, felly allwn ni helpu drwy brynu nwyddau masnach deg. Yn y cyfnod sylfaen bydd ddatblygiad o wahanol feysydd dysgu megis datblygiad personol a chymdeithasol. Yn y wers am ddechrau’r byd mi fydd y plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau am faterion moesol ac ysbrydol gan ystyried ymddygiad cadarnhaol tuag at y ddaear ac am les wrth ystyried yr hyn allwn ni neud i ofalu am y blaned. Yn y wers masnach deg bydd y plant yn dangos parch at eraill ac yn ystyried yr hyn sydd yn deg ag yn annheg wrth ystyried trin ffermwr. Bydd y plant wrth ddysgu am rannau’r planhigion yn datblygu sgiliau ymarferol wrth blannu bylbiau gan cyfoethogi ystod ei phrofiadau yn yr awyr agored gan hefyd ddatblygu hoffter at yr amgylchedd. Maes dysgu arall o fewn fy adnodd ydy gwybodaeth a dealltwriaeth o’r byd. Yn y wers gyntaf bydd y plant yn canolbwyntio ar amgylcheddau gan ystyried sut maent yn newid a sut i ofalu amdanynt. Wrth ddysgu am fasnach deg byddant yn ehangu ei dealltwriaeth o’r byd ehangach gan ddysgu am wledydd eraill. Mae’r wers yn datblygu ei sgiliau map wrth leoli lle mae ein bwyd yn dod a hefyd yn ehangu geirfa ddaearyddol anghyfarwydd y digyblion. Yng nghydestun rhannau planhigion bydd y disgyblion yn dysgu o dan do ac yn yr ardal agored gan blannu bylbiau byddant yn datblygu ei dealltwriaeth o blanhigion. Yn nghyfnod allweddol dau mae gwers Gwyddoniaeth, Daearyddiaeth a Hanes yn rhan o’r adnodd. Mae’r wers ynni, yn datblygu ystod eang o sgiliau gwyddonol gan edrych ar weithrediad nwyddau adnewyddadwy a hefyd y ddaear gynaliadwy wrth ystyried egni gwahanol i’r rhai traddodiadol. Yn y wers Daearyddiaeth, bydd y plant yn dysgu defnyddio mapiau wrth leoli llosgfynyddoedd a hefyd yn dysgu am ryfeddod amgylcheddol y byd. Yn y wers Hanes bydd y plant yn datblygu ei dealltwriaeth o bethau cronolegol gan roi bywyd Hedd Wyn mewn trefn a ddeall y gwahaniaeth rhwng barn a ffaith wrth ddarllen taflen wybodaeth. A’r draws yr adnodd mae pwyslais ar sgiliau llythrennedd a rhifedd. Bydd cyfleoedd eang i ddatblygu ei sgiliau siarad, gwrando ac ysgrifennu. Bydd y disgyblion yn datblygu ei sgiliau siarad â gweithio ar y cyd gyda eraill, lle bydd disgwyl iddynt ddefnyddio geiriau allweddol gan ehangu ar ei ystod geirfa. Bydd y disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o ddesgiau ysgrifenedig a fydd yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu amrywiaeth o ffurf ysgrifenedig megis ymson, prif eitem newyddion a gweddi. Ym mhob gwers yn yr adnodd mi fydd y disgyblion yn defnyddio ei sgiliau gwrando ar yr athro/athrawes a hefyd ar disgyblion arall. Bydd sgiliau gwrando yn cael ei ddatblygu yn gyfnod allweddol dau wrth i ddisgyblion gorfod neud nodiadau ar y gwybodaeth y cyflwynwyd iddynt. Yn y cyfnod sylfaen, er mwyn cael trafodaeth bydd y plant yn gorfod dysgu gwrando ar ei gilydd er mwyn ymateb yn berthnasol. Elfen bwysig arall o’r adnodd ydy meddwl, bydd y plant yn cofio gwybodaeth flaenorol, yn meddwl yn greadigol ac yn rhesymegol yn y gwesi yma. Mae TGCh hefyd yn rhan anfodol, mae’r plant yn cael y cyfle i weithio gyda adnoddau technegol a rhaglennu newydd. Yn ogystal mae fy ngwersi'r hyrwyddo elfennau o’r cwricwlwm Cymraeg wrth edrych ar faterion mewn cyd-destun Cymraeg, er enghraifft sut mae Cymru wedi defnyddio egni adnewyddadwy. Wrth astudio gwaith am wledydd eraill rydw i wedi cymryd y cyfle i gymharu y gwledydd yma gyda Chymru, er enghraifft sut mae amgylchedd Colombia yn wahanol i Gymru. I gloli felly, mae ADCDF yn cynyddu mewn pwysigrwydd wrth i bobl ystyried yr angen i greu unigolion gwybodus a deallus. Fel addysgwyr mae cyfrifoldeb arnom I sicrhau bod ein disgyblion gyda’r ystod o sgiliau sydd ei angen arnynt I fyw tu allan I’r ystafell ddosbarth.