‘Gwrthoda gwmnïau cyfraith fynd ‘milltir ychwanegol’ mewn protest’ (Cylchgrawn Caerfyrddin 8/7/2015) Saif cwmnïau cyfraith ar draws Gorllewin Cymru yn unol gydag eraill ar draws y DU yn erbyn toriadau Llywodraeth i’r system cymorth cyfreithiol. Gostyngwyd taliadau cyfreithwyr yn Lloegr a Chymru wrth 8.75 y cant o’r 1af o Orffennaf ar ôl iddynt gael eu torri wrth yr un ganran yn 2014. Gweithreda’r llywodraeth doriadau i ostwng y bil £1.7 biliwn am gymorth cyfreithiol – sy’n helpu pobl nad all fforddio costau’r cyngor cyfreithiol. Nawr gwrthoda gyfreithwyr yng nghwmnïau yng Ngheredigion gymryd gwaith wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol dan y cyfraddau gostyngol newydd, mewn protest yn erbyn y toriadau. Ymuna’r sir â chwmnïau ym Glannau Merswy, Manceinion, Swydd Efrog, Castell Newydd, Swydd Durham a Llundain sy’n gwrthod cymryd gwaith wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol hefyd. Tra gwna gwmnïau yn Sir Gaerfyrddin beth ofynnwyd dan gymorth cyfreithiol ond nid ânt y ‘filltir ychwanegol’ yn ddi-dâl fel yr oeddent yn ei wneud yn y gorffennol. Helpodd yr oriau di-dâl ychwanegol osgoi rhwystrau i’r system cyfredol ac oediadau mewn achosion. Mae bob cwmni wedi penderfynu cymryd y dull o weithredu y maent yn gweld yn addas. Dywedodd Katy Hanson, cyfreithwraig o Welch & Co., Aberteifi, y parai’r penderfyniad i beidio cymryd achosion cymorth cyfreithiol ‘yn ddi-ddiwedd’ nes bod y Llywodraeth yn barod i siarad â’r proffesiwn cyfreithiol. Ymunodd y cwmni ag eraill ar draws y DU yn y streic ddydd Mercher diwethaf. Dywedodd Mrs Hanson: ‘Mae’r system cyfreithiol ar ben ei dennyn ac mae wedi bod am gyfnod. Y peth sy’n neilltuo Gorllewin Cymru yw’r materion teithio a’r ffaith y bydd yn anodd cadw gwasanaethau cymorth cyfreithiol dan y toriadau. Ni chymer ein cwmni na chwmnïau eraill yng Ngheredigion unrhyw gymorth cyfreithiol dan y toriadau. Gweithia gwmnïau Caerfyrddin a Lanelli ‘wrth reol’ a dim mwy.’ Yn y diwedd, rhybuddiodd y gall gweld pobl yn wynebu cyfweliadau heddlu ac ymddangosiadau mewn llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol.