Ym Mhrydain, golygfa cyffredinol yw gweld adar yr eira yn clugio ar gefnau defaid a gwartheg pan borant yn y meysydd. Pe baech am wylio yr adar hyn am gyfnod, gwelech nhw’n pwnio o’u cwmpas gan eu pigau ar gefnau’r anifeiliaid, a gallech ryfeddu beth yr oeddent yn ei wneud. Yr ateb yw bod adar yr eira yn bwyta pryfed a chynrhon a’u codant o groen yr anifeiliaid. Gan eu pigau didola’r adar edafedd gwlân ar gefn dafad a chodant a bwyta’r pryfed a thorogod a ddeuant o hyd iddynt yno. O gefnau’r gwartheg codant cynrhon sy’n achosi poen ac afiechyd. Mwynha’r adar y cynrhon hyn. Felly arlwya’r anifeiliaid yr adar gyda bwyd tra gweryd yr adar yr anifeiliaid rhag plâu niweidiol. Yn yr Affrig, mae partneriaethau diddorol i ddod o hyd iddynt rhwng anifeiliaid ac adar. Caiff grocodeil dorheulo yn yr heulwen ar bwys dwr gyda’i enau’n agor yn llydan. I mewn hercia ei bartner, y gornchwiglen sy’n actio fel brws dannedd yr ymlusgiad, ac ar unwaith dechreua pigo a bwyta unrhyw ddarnau o gig sy’n glynu at ddannedd y crocodeil. Ar ôl hyn coda hi rai abwydod, galwyd gelod, o dafod y crocodeil. Ymddengys y crocodeil i wybod bod yr aderyn hwn yn gyfaill am na niweidia byth y gornchwiglen.