2. Cwmnïau Yswiriant Mae cronfeydd cwmnïau yswiriant yn bodoli i gwrdd â hawliadau deiliaid polisi pan fydd rhaid iddynt gael eu cwrdd â nhw, ac mae’r cwmnïau yn gofalu amdanynt braidd yn debyg i ymddiriedolwyr. Mae hefyd yn wir dweud bod naw deg y cant o’r elwau o’r cronfeydd bywyd yn mynd i’r deiliaid polisi ‘gydag elw’. Sut, felly, adeiledir cronfa cwmni yswiriant? Buddsoddir y symiau anferth o arian sydd yn llifo bob dydd i swyddfeydd yswiriant bywyd – premiymau’r deiliaid polisi - dan reolaeth arbenigol y cwmni. Defnyddir yr arian hwn a fuddsoddir i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau llywodraeth ac awdurdodau lleol; buddsoddir hefyd mewn cwmnïau cyhoeddus ar gyfer eu datblygiad a’u hehangiad. Fel mewn mathau eraill o fuddsoddiad, mae defnyddiwr y cyllid yn talu llog am ei ddefnydd, ac mae’r incwm ychwanegol hefyd yn mynd i gronfa’r cwmni yswiriant, gan ei gwneud yn fwy nag y byddai pe bai’n gynwysedig o bremiymau yn unig. Ceir sawl effaith o ganlyniad i hyn. Yn gyntaf, mae’n galluogi’r cwmnïau yswiriant i gadw premiymau yn is nag y byddent fel arall. Yn ail, mae’r arian a ddarperir ar gyfer prosiectau llywodraeth ganolog a lleol yn cadw ein trethi’n is nag y gallent. Yn drydydd, gellir dosbarthu unrhyw weddill, ar ben yr hyn sydd ei angen i dalu hawliadau, fel elwa i rai mathau o ddeiliaid polisi.