1. Animal Partners Ym Mhrydain, mae’n olygfa gyffredin i weld drudwyod wedi’u clugio ar gefnau defaid a gwartheg wrth iddynt bori yn y caeau. Pe baech yn gwylio’r adar hyn dros ennyd, byddech yn eu gweld nhw yn palu’n brysur o gwmpas â’u pigau ar gefnau’r anifeiliaid, ac efallai y byddech yn meddwl beth oeddent yn ei wneud. Yr ateb yw bod y drudwyod yn bwyta trychfilod a maceiod y maent yn eu tynnu oddi ar grwyn yr anifeiliaid. Â’u pigau mae’r adar yn gwahanu’r ceinciau o wlân ar gefn dafad, a phigo lan a bwyta’r trychfilod a thorogod y maent yn dod o hyd iddynt yno. O gefnau gwartheg maent yn tynnu maceiod sy’n achosi poen a chlefyd. Mae’r adar yn mwynhau’r maceiod hyn. Felly, mae’r anifeiliaid yn darparu bwyd ar gyfer yr adar, wrth i’r adar yn eu tro wared yr anifeiliaid rhag y plâu niweidiol. Yn Affrica ceir rhai partneriaethau diddorol rhwng anifeiliaid ac adar. Efallai y bydd crocodeil yn torheulo yn yr haul yn agos i ddŵr, â’i enau’n llydan agored. I mewn mae’i bartner yn hopio, y cwtiad sydd yn gweithredu fel brws dannedd yr ymlusgiad, ac ar unwaith yn dechrau pigo a bwyta unrhyw dameidiau o gig sydd yn glynu wrth ddannedd y crocodeil. Ar ôl hyn, mae’n tynnu rhyw bryfed, a elwir yn elod, o dafod y crocodeil. Ymddengys fod y crocodeil yn gwybod mai cyfaill yw’r aderyn, gan nad yw byth yn amharu ar y cwtiad. 2. Cwmnïau Yswiriant Mae cronfeydd cwmnïau yswiriant yn bodoli i gwrdd â hawliadau deiliaid polisi pan fydd rhaid iddynt gael eu cwrdd â nhw, ac mae’r cwmnïau yn gofalu amdanynt braidd yn debyg i ymddiriedolwyr. Mae hefyd yn wir dweud bod naw deg y cant o’r elwau o’r cronfeydd bywyd yn mynd i’r deiliaid polisi ‘gydag elw’. Sut, felly, adeiledir cronfa cwmni yswiriant? Buddsoddir y symiau anferth o arian sydd yn llifo bob dydd i swyddfeydd yswiriant bywyd – premiymau’r deiliaid polisi - dan reolaeth arbenigol y cwmni. Defnyddir yr arian hwn a fuddsoddir i ddarparu cyllid ar gyfer prosiectau llywodraeth ac awdurdodau lleol; buddsoddir hefyd mewn cwmnïau cyhoeddus ar gyfer eu datblygiad a’u hehangiad. Fel mewn mathau eraill o fuddsoddiad, mae defnyddiwr y cyllid yn talu llog am ei ddefnydd, ac mae’r incwm ychwanegol hefyd yn mynd i gronfa’r cwmni yswiriant, gan ei gwneud yn fwy nag y byddai pe bai’n gynwysedig o bremiymau yn unig. Ceir sawl effaith o ganlyniad i hyn. Yn gyntaf, mae’n galluogi’r cwmnïau yswiriant i gadw premiymau yn is nag y byddent fel arall. Yn ail, mae’r arian a ddarperir ar gyfer prosiectau llywodraeth ganolog a lleol yn cadw ein trethi’n is nag y gallent. Yn drydydd, gellir dosbarthu unrhyw weddill, ar ben yr hyn sydd ei angen i dalu hawliadau, fel elwa i rai mathau o ddeiliaid polisi. 3. Yr Ardd Gyfrinachol Ymsefydlasant yn feddal ar y gwair ac eisteddasant yno heb symud. ‘Rhaid i ni beidio ymddangos fel ’sen ni’n edrych arno fe’n rhy agos’, meddai Dickson. ‘Bydde fe mas ’da ni am byth ’se fe’n meddwl bo’ ni’n busnesu nawr. Bydd e’n eitha gwahanol nes bod hyn ’di cwpla. Ma fe’n ymgartrefu. Bydd e’n fwy swil ac yn haws ei ddigio. ’Sdim amser ‘da fe i ymweld na chlebran. Rhaid i ni aros yn llonydd am dipyn a thrio edrych fel ’sen ni’n wair a choed a llwynau. Yna, erbyn iddo fe ddod yn gyfarwydd â’n gweld ni, fe wna i drydar yn ychydig ac fe fydd e’n gwybod na fyddwn ni yn ei ffordd.’ Nid oedd Meistres Mary yn sicr o gwbl ei bod hi’n gwybod, fel petai’n ymddangos bod Dickson yn gwybod, sut i geisio edrych fel gwair a choed a llwynau. Ond roedd ef wedi dweud y peth rhyfedd fel pe bai’r peth symlaf a mwyaf naturiol yn y byd oedd e, ac roedd hi’n teimlo bod rhaid bod yn eithaf hawdd iddo, ac, mewn gwirionedd, edrychai arno yn ofalus am ychydig funudau, wrth feddwl a fyddai’n bosib iddo droi’n wyrdd yn dawel a datblygu canghennau a dail. Ond nid eisteddai ond yn rhyfeddol o lonydd, a phan siaradodd, gostyngodd ei lais i’r fath feddalwch fel ei fod yn hynod y gallai hi ei glywed, ond fe allai. ‘Mae’n rhan o’r gwanwyn, yr adeiladu nythod ’ma’, meddai. ‘Fe weda i ’thot ti ei fod e ’di mynd ymlaen yn yr un modd bob blwyddyn ers cyn cof. Mae ‘da nhw eu modd o feddwl a ’neud pethe, ac mae’n well i neb beidio ymyrryd. Ti’n gallu colli ffrind yn y gwanwyn yn haws nag unrhyw dymor arall os wyt ti’n rhy fusneslyd.’ 4. Y Combein Erbyn hyn nid oes ond un peiriant cynaeafu gwenith cyffredinol yng Ngogledd America – y combein. Rhyfeddod o beirianneg a thechnoleg cynhyrchu yw’r combein modern, ffatri sy’n mynd dros y caeau ac sydd wedi’i gydosod o dros 35,000 o gydrannau. Â’r un peiriant hwn ac ychydig o atodiadau bychain, gellir cynaeafu dros gant o rywogaethau gwahanol o hadau, o’r rhai bron yn feicrosgopig i ffa llydain (maint o 5000 gwaith). Mae’r combein yn ddrud ac, â 200 awr o ddefnydd y flwyddyn ar gyfartaledd, “tanddefnyddir” ef. Ond mae rhesymeg ariannol yn gorfodi’r yswiriant hwn rhag colli cnydau. Os bydd gan ffermwyr ddewis, prynant beiriant mwy cynhyrchiol (a drutach) fel y gallant ddod â’u cnydau i mewn ar yr adeg orau yn y tymor. Mae oediadau cynhaeaf yn gostus. Serch hynny, ni fydd y combein ond mor gynhyrchiol â’r ddolen wanaf yn y peiriant, gan gynnwys y gweithredwr a’i offer llywio. Bydd pwyslais yng nghynllun dyfodol combeiniau yn parhau i gael ei ganolbwyntio ar safle’r gweithredwr, gan fod cyfforddusrwydd a chyfleuster y gweithredwr yn dal i fod yn brif bryderon. Mae mwy o weithrediadau yn cael eu monitorio’n electronig oherwydd arwahanrwydd y gweithredwr yn y caban caeëdig a chymhlethdod mwy’r peiriant ei hunan. Bydd monitorio gweithrediadol a phrosesu yn dod yn fwy soffistigedig. Profir monitorau gwlybaniaeth gnwd a cholled grawn a all ddangos y ganran o golled dros gefn y peiriant a llywio gweithrediadau’r combein yn awtomatig yn ôl cyflyrau cnydiol. Mae gwelliannau fel y rhain yn galluogi’r gweithredwr i gael elw ar lawn botensial y peiriant. 5. Erthygl Papur Newydd Mae cwmnïau cyfreithiol yn gwrthod mynd ’y filltir ychwanegol’ mewn protest (Carmarthen Journal 8/7/2015) Mae cwmnïau cyfreithiol dros Orllewin Cymru yn sefyll yn unol ag eraill dros y DU yn erbyn toriadau’r Llywodraeth i'r system cymorth cyfreithiol. Cafodd ffïoedd cyfreithwyr yn Lloegr ac yng Nghymru eu lleihau o 8.75 y cant o fis Gorffennaf 1af ar ôl iddynt gael eu torri o’r un ganran yn 2014. Mae’r llywodraeth yn gweithredu toriadau i leihau’r bil o £1.7 biliwn ar gyfer cymorth cyfreithiol, sydd yn helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio costau cyngor cyfreithiol. Mae cyfreithwyr mewn cwmnïau yng Ngheredigion bellach yn gwrthod derbyn gwaith wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol o dan y cyfraddau gostyngol newydd, mewn protest yn erbyn y toriadau. Mae’r sir yn ymuno â chwmnïau yn Merseyside, Manceinion, Swydd Efrog, Newcastle, Durham a Llundain, sydd hefyd yn gwrthod derbyn gwaith wedi’i ariannu drwy gymorth cyfreithiol. Ar yr un pryd, bydd cwmnïau yn Sir Gaerfyrddin yn gwneud yr hyn sydd yn ofynnol o dan reolau cymorth cyfreithiol, ond ni fyddant yn mynd y filltir ychwanegol heb eu talu fel y maent wedi bod yn y gorffennol. Helpodd yr oriau ychwanegol heb dâl osgoi’r system rhag tagu ac oediadau mewn achosion. Mae pob cwmni wedi penderfynu cymryd y ffordd o weithredu y maent yn ei gweld yn dda. Dywedodd cyfreithwraig o Gaerfyrddin, Katy Hanson, o gwmni Welch & Co, y byddai’r penderfyniad o beidio derbyn achosion cymorth cyfreithiol yn parhau “am gyfnod amhenodol” nes bod y Llywodraeth yn barod i siarad â’r proffesiwn cyfreithiol. Ymunodd y cwmni ag eraill dros y DU drwy fynd ar streic ddydd Mercher diwethaf. Dywedodd Mrs Hanson: “Mae’r system gyfreithiol ar fin torri ac mae wedi bod ers tro. Yr hyn sydd yn gwahanu Gorllewin Cymru yw’r materion daearyddol o deithio a’r ffaith y bydd yn anodd cynnal gwasanaethau cymorth cyfreithiol dan y toriadau. Nid yw ein cwmni na rhai eraill yng Ngheredigion yn derbyn unrhyw gymorth cyfreithiol dan y toriadau. Mae cwmnïau yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn gweithio i reol a dim byd arall.” Yn y pen draw, rhybuddiodd hi y gallai arwain pobl i wynebu cyfweliadau heddlu ac ymddangosiadau mewn llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol.