5. Erthygl Papur Newydd Mae cwmnïau cyfreithiol yn gwrthod mynd ’y filltir ychwanegol’ mewn protest (Carmarthen Journal 8/7/2015) Mae cwmnïau cyfreithiol dros Orllewin Cymru yn sefyll yn unol ag eraill dros y DU yn erbyn toriadau’r Llywodraeth i'r system cymorth cyfreithiol. Cafodd ffïoedd cyfreithwyr yn Lloegr ac yng Nghymru eu lleihau o 8.75 y cant o fis Gorffennaf 1af ar ôl iddynt gael eu torri o’r un ganran yn 2014. Mae’r llywodraeth yn gweithredu toriadau i leihau’r bil o £1.7 biliwn ar gyfer cymorth cyfreithiol, sydd yn helpu pobl nad ydynt yn gallu fforddio costau cyngor cyfreithiol. Mae cyfreithwyr mewn cwmnïau yng Ngheredigion bellach yn gwrthod derbyn gwaith wedi’i ariannu gan gymorth cyfreithiol o dan y cyfraddau gostyngol newydd, mewn protest yn erbyn y toriadau. Mae’r sir yn ymuno â chwmnïau yn Merseyside, Manceinion, Swydd Efrog, Newcastle, Durham a Llundain, sydd hefyd yn gwrthod derbyn gwaith wedi’i ariannu drwy gymorth cyfreithiol. Ar yr un pryd, bydd cwmnïau yn Sir Gaerfyrddin yn gwneud yr hyn sydd yn ofynnol o dan reolau cymorth cyfreithiol, ond ni fyddant yn mynd y filltir ychwanegol heb eu talu fel y maent wedi bod yn y gorffennol. Helpodd yr oriau ychwanegol heb dâl osgoi’r system rhag tagu ac oediadau mewn achosion. Mae pob cwmni wedi penderfynu cymryd y ffordd o weithredu y maent yn ei gweld yn dda. Dywedodd cyfreithwraig o Gaerfyrddin, Katy Hanson, o gwmni Welch & Co, y byddai’r penderfyniad o beidio derbyn achosion cymorth cyfreithiol yn parhau “am gyfnod amhenodol” nes bod y Llywodraeth yn barod i siarad â’r proffesiwn cyfreithiol. Ymunodd y cwmni ag eraill dros y DU drwy fynd ar streic ddydd Mercher diwethaf. Dywedodd Mrs Hanson: “Mae’r system gyfreithiol ar fin torri ac mae wedi bod ers tro. Yr hyn sydd yn gwahanu Gorllewin Cymru yw’r materion daearyddol o deithio a’r ffaith y bydd yn anodd cynnal gwasanaethau cymorth cyfreithiol dan y toriadau. Nid yw ein cwmni na rhai eraill yng Ngheredigion yn derbyn unrhyw gymorth cyfreithiol dan y toriadau. Mae cwmnïau yng Nghaerfyrddin a Llanelli yn gweithio i reol a dim byd arall.” Yn y pen draw, rhybuddiodd hi y gallai arwain pobl i wynebu cyfweliadau heddlu ac ymddangosiadau mewn llys heb gynrychiolaeth gyfreithiol.