WEBVTT

00:00:08.500 --> 00:00:11.700
Wrth i ni ffeindio ein ffordd trwy dirlun addysg,

00:00:11.900 --> 00:00:14.500
mae’n hanfodol dod yn rhugl mewn iaith dysgu ar-lein.

00:00:14.900 --> 00:00:15.600
Yn yr adran hon,

00:00:15.900 --> 00:00:19.000
byddwn yn darparu rhestr termau a fydd yn gweithio fel cwmpawd,

00:00:19.500 --> 00:00:26.000
gan eich tywys trwy’r termau a chysyniadau allweddol 
sy’n ffurfio asgwrn cefn ein haddysgeg ddigidol.

00:00:26.500 --> 00:00:33.300
O ‘anghydamserol’ i ‘hyflex’, 
mae pob term yn floc adeiladu ym mhensaernïaeth addysg ar-lein.

00:00:33.900 --> 00:00:37.300
Nid yn unig y bydd y termau hyn yn cyfoethogi eich dulliau cyfathrebu

00:00:37.400 --> 00:00:44.800
gyda chydweithwyr a myfyrwyr ond hefyd byddant yn dyfnhau 
eich dealltwriaeth o’r strategaethau ac offer sydd ar gael i ni.

00:00:45.500 --> 00:00:51.500
Felly, gadewch i ni gymryd ychydig funudau 
i ymgyfarwyddo ein hunain gyda’r termau hyn,

00:00:51.900 --> 00:00:57.900
gan sicrhau ein bod i gyd yn siarad yr un iaith 
cyn i ni barhau gyda gweddill y cwrs.
