‘Pwrpas ymarfer myfyriol yw eich cynorthwyo i wella’r hyn rydych yn ei wneud ac ymateb yn gadarnhaol i newidiadau’ (Llywodraeth Cymru, tud. 3-4, 2015). Yn nôl llywodraeth Cymru (2015) mae athrawon sydd yn adfyfyrio yn edrych yn fanwl ar ei gwendidau er mwyn ei gwella ond hefyd yn edrych ar ei chryfderau er mwyn ei datblygu ymhellach a’i gynnwys yn ei dysgu yn y dyfodol. Y dylid rhoi ffocws ar y pethau cadarnhaol gan obeithio ei datblygu a’i gynnwys yn eich dysgu yn y dyfodol. Tra ar yr ochor arall y dylen ni fod yn defnyddio'r profiadau negyddol i arwain dysgu gwell gan ei weld fel cyfle i edrych yn nôl a defnyddio cyn profiadau i gynllunio gwersi effeithiol a cynhwysfawr yn y dyfodol. Mae’r broses o adfyfyriol mor bwysig yn llygaid y llywodraeth (2009) y disgwylir i chi ei wneud er mwyn cyrraedd safonau SAC sef S1.7, sydd yn nodi y dylai athrawon ‘gallu ystyried eu harferion eu hunain’ ac bod atharwon yn ‘cydnabod eu hanghenion eu hunain ac yn cymryd cyfrifoldeb dros eu datblygiad proffesiynol parhaus’ (Llywodraeth Cymru, 2009). Dywed yn y safon SAC yma bod adfyfyriol a gwella fel athrawes yn broses ‘proffesiynol parhaus’, sydd yn awgrymu felly bod ni byth yn cyrraedd man lle byddwn ni yn addysgwr perffaith. Mae modelau adfyfyriol megis un Borton (1970) wedi selio ar dri cham, y cyntaf i nodi beth a ddigwyddodd, beth a ellir dysgu a hefyd beth a allwn ni wneud y tro nesa. Mae hwn yn broses cylchog sydd yn ddiddiwedd ac yn broses barhaus y bydd disgwyl i athrawon gwneud ar hyd ei gyrfa. Wedi treulio wythnos yn nosbarth Meithrin a Derbyn ac yn dod i adnabod yr ysgol a’r plant teimlais fy mod wedi cyrraedd safon SAC S1.2 sef fy mod i yn ‘dangos y proffesiynoldeb sy’n sicrhau mai ar ymddiriedaeth a pharch o’r ddeutu yr adeiladir perthynas â dysgwyr ac yn cydnabod y bydd hyn yn help i wneud y gorau o’r potensial i ddysgu’ (Llywodraeth Cymru, 2009). Treuliais i gyfnod o amser yn dod i adnabod y plant trwy ddysgu ei enwai a’i chynorthwyo gyda thasgau crwydro yn y dosbarth a bod ar ddyletswydd amser chwarae. Yn ystod fy wythnos gyntaf fe wnes i hefyd ddod i adnabod y plant trwy anfon llythyr adref at ei rhieni gan gyflwyno fy hun a gofyn iddyn nhw gwblhau gweithgaredd gwaith cartref syml iawn gyda'i phlentyn i dynnu llun o ei hoff fwyd, rhaglen deledu, lliw a thegan. Fe wnaeth hyn helpu mi ddod i adnabod y plant a oedd yn galluogi fi i gynllunio gwersi yn nôl diddordebau'r plant. Yn nôl Llywodraeth (2008) mae dysgu yn nôl diddordebau plant yn bwysig dros ben gan fod plant yn dysgu orau wrth adeiladu ar ei phrofiadau a dealltwriaeth flaenorol. Mae’r damcanwr Piaget yn dweud bod plant yn dysgu drwy ei hamgylchedd a gwneud cysylltiadau rhwng profiadau newydd a’r hyn a ddysgwyd eisoes. Trwy ddysgu am ddiddordebau'r plant, roeddwn mewn gwell sefyllfa wrth i mi gynllunio. Roedd cyflwyno fy hun i rieni trwy’r llythyr a bod yn rhan o noson rhieni yn fy helpu mi i gyrraedd safon SAC S1.4 hefyd, sef i ‘feithrin perthynas bositif rhwng y cartref a’r ysgol’. Yn nôl Griggs (2015) mae gwneud cyswllt da gyda rhieni yn fanteisiol iawn er mwyn rhoi seiliau da i ddysgu’r plant yn y dosbarth. Wedi dod i adnabod yr ysgol y cam nesa i mi oedd cynllunio fy ngwersi ar gyfer fy wythnos gyntaf yn addysgu. Felly gyda fy mentor fe wnaethon ni benderfynu byddai targed ynghlwm gyda chynllunio yn lle da i ganolbwyntio. Fy nharged cyntaf oedd creu adnoddau pwrpasol ar gyfer addysgu grŵp o blant, mae’r targed yma yn cyfateb gyda safon SAC S3.1.3 ‘Eu bod yn dewis ac yn paratoi adnoddau, ac yn cynllunio ar gyfer eu trefnu’n ddiogel ac yn effeithiol, gan roi ystyriaeth i ddiddordeb dysgwyr, eu hiaith a’u cefndiroedd diwylliannol, gyda chymorth staff cefnogi pan fo hynny’n briodol’ (Llywodraeth Cymru, 2009). Roeddwn yn ymwybodol bod y dosbarth yn hoff o anifeiliaid o’i gwaith cartref felly ddewisais stori am robin coch, er mwyn dysgu yn nôl ei diddordebau fel awgrymir Piaget i mi wneud. Mewn gwers arall fe wnes i gynhyrchu pwynt pŵer er mwyn cyflwyno gwybodaeth i’r plant am grempogau a wnaeth effeithio yn gadarnhaol ar berfformiad y plant yn y wers mathemateg gan fod nhw dilyn cyd-destun y wers yn dda. Fe wnes i hefyd casglu amrywiaeth o adnoddau megis gwrthrychau gweledol, sain a rhai a gellir cyffwrdd gyda nhw. Fe wnes i ddod a’r cynhwysion i greu crempogau er mwyn i’r plant cael ei threfnu yn nôl ei maint, roedd rhain yn angenrheidiol ac yn effeithiol yn gadarnhaol ar y dysgu achos fod y plant mor ifanc byddai hi wedi bod yn anodd iawn iddynt ddychmygu maint y gwrthrychau heb ei gweld. Bu rhai yn defnyddio adnoddau technolegol meis y beebot i gwblhau gwaith thema oedd yn ddefnydd effeithiol iawn o dechnoleg sydd yn cyrraedd cofynion y fframwaith cymhwysedd digidol (Llywodraeth Cymru, 2018). Mae Griggs (2014) yn honni bod hi’n fanteisiol bod athrawon yn addysgu gan ddefnyddio technoleg yn y dosbarth er mwyn paratoi plant ar gyfer ein byd o gwmpas lle bydd disgwyl i blant fod yn ymwybodol o wahanol adnoddau technolegol. Teimlais fel y gwnes i gynnydd yn fy ngarged erbyn diwedd y wythnos gan fod mod i erbyn hynny yn creu digon o adnoddau i ganiatáu'r plant cyrraedd y nodau dysgu. Mewn un wers ar ddechrau’r wythnos roeddwn heb dorri digon o siapau papur allan i’r plant bu rhaid i mi wneud hyn yn ystod y wers, cafodd hyn effaith negyddol ar y dysgu achos doeddwn ni ddim ar gael i gefnogi’r plant gymaint pam oedd gyda nhw gwestiynau. Erbyn i mi ddysgu'r wers yma gyda’r grŵp nesaf roeddwn wedi sicrhau fy mod i wedi paratoi digon o adnoddau er mwyn i mi ganolbwyntio ar gefnogi’r plant a'i bod nhw’n gallu cyflawni bwriadau dysgu'r wers heb rwystredigaeth o ganlyniad i diffyg adnoddau. Yn yr ail wythnos cytunwyd y dylwn ni ffocysu ar wahaniaethu o fewn tasg ffocws a oedd yn cyfateb a safon SAC 3.1.1 sydd yn sôn am ‘gosod amcanion addysgu’ sydd yn ‘berthnasol i bob dysgwr’. Roedd y dosbarth yma yn gynnwys dwy flwyddyn ysgol sef Meithrin a Derbyn felly roedd hi’n bwysig iawn fy mod i yn gwahaniaethu'r gwaith er mwyn sicrhau fy mod i gwthio bob plentyn. I gychwyn roeddwn yn gwahaniaethu trwy wneud tasgau yn haws i rai hynny oedd yn gweld y gwaith yn anodd ond wedi adfyfyrio fe wnes i sylweddoli bod angen i mi wahaniaethu trwy wneud tasgau yn fwy anodd i rai plant neu grwpiau o blant er mwyn sicrhau bod y rhai hynny yn cael ei herio hefyd. Ystyriais ar ôl adfyfyrio a thrafod gyda fy mentor, bod gwahaniaethu yn fwy na gwneud y gwaith yn fwy cyrhaeddiad i’r rhai sydd yn cael trafferth ond bod gwahaniaethu hefyd yn broses o wthio'r rhai hynny sydd angen mwy o her. Fe wnes i fynd ati wedyn i greu bwriadau dysgu gwahanol i’r tri grŵp oedd wedi sefydlu eisoes. Er mwyn gwahaniaeth roedd angen i mi ddangos dealltwriaeth o allu'r plant a gyda’r wybodaeth yma es i ymlaen i greu bwriadau dysgu heriol ond oedd yn gyrhaeddiadol i bob plentyn. Erbyn diwedd yr ail wythnos fe wnes i ddechrau gynllunio ar gyfer unigolion o fewn grwpiau hefyd er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael ei herio. Mewn un achos fe wnes i wahaniaethu i ddau unigolyn o fewn y grŵp gallu uwch sef unigolion mwy abl a thalentog, lle fe wnes i addasu gwers iaith er mwyn ei herio nhw ymhellach. Mae adnabod y disgyblion uchel ei gallu yn holl bwysig yn nôl Grigg (2014) ym mhennod deg, lle y soniwyd bod yr athrawon gorau yn sicrhau fod neb o fewn y dosbarth yn gweld y gwaith yn hawdd ac y dylai fod y gwaith yn herio pob plentyn. I gloi, credaf yn gryf fy mod i wedi elwa yn fawr o fy mhrofiad cyntaf a’r PAP. Rydw i wedi datblygu fel athrawes dan hyfforddiant, rydw i llawer mwy hyderus yn y dosbarth gan fy mod wedi datblygu fy strategaethau addysgu. Mae fy nealltwriaeth o’r fframwaith addysgu wedi gwella yn fawr, sydd wedi cael effaith cadarnhaol ar fy nghynllunio. Credaf fy mod i yn fwy gwybodus ynghylch cynllunio yn nôl gallu plant amrywiol. Er hyn mae llefydd i mi wella o hyd, mae’r broses o wella yn un parhaol, lle gellir gwneud gwelliant bob tro. Trwy barhau i adfyfyriol ar fy mhrofiad gellir datblygu'r elfennau llwyddiannus ymhellach a newid ac addasu'r elfennau gwan yn fy mherfformiad. Fel y gwelir yn waith Borton (1970) mae myfyrio yn broses gylchol, sef broses barhaus a fyddaf yn parhau yn ystod fy ngyrfa fel athrawes. Nifer o eiriau: 1464 Cyfeirnodi: Llywodraeth Cymru, (2015) Ymarfer Myfyriol, Caerdydd: Llywodraeth Cymru A’r gael: https://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/150611-reflective-practice-booklet-cy.pdf Llywodraeth Cymru (2009) Safonnau Statws Athro Cymwysiedig. Ar gael: https://gweddill.gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/educationwales/2009/3220099/?skip=1&lang=cy Llywodraeth Cymru, (2018) Fframwaith Cymhwysedd Digidol, Caerdydd: Llywodraeth Cymru. http://learning.gov.wales/resources/browse-all/digital-competence-framework/?lang=cy Borton, T. (1970) Read, touch, and teach: Student Concerns and Process Education, New York: McGraw Hill, Inc. Llywodraeth Cymru, (2008) Addysgeg Dysgu ac Addysgu, Caerdydd: Llywodraeth Cymru Grigg, R. (2014) Becoming an Outstanding Primary School Teacher (2nd edn), London: Routledge.