4. Y Combein Erbyn hyn nid oes ond un peiriant cynaeafu gwenith cyffredinol yng Ngogledd America – y combein. Rhyfeddod o beirianneg a thechnoleg cynhyrchu yw’r combein modern, ffatri sy’n mynd dros y caeau ac sydd wedi’i gydosod o dros 35,000 o gydrannau. Â’r un peiriant hwn ac ychydig o atodiadau bychain, gellir cynaeafu dros gant o rywogaethau gwahanol o hadau, o’r rhai bron yn feicrosgopig i ffa llydain (maint o 5000 gwaith). Mae’r combein yn ddrud ac, â 200 awr o ddefnydd y flwyddyn ar gyfartaledd, “tanddefnyddir” ef. Ond mae rhesymeg ariannol yn gorfodi’r yswiriant hwn rhag colli cnydau. Os bydd gan ffermwyr ddewis, prynant beiriant mwy cynhyrchiol (a drutach) fel y gallant ddod â’u cnydau i mewn ar yr adeg orau yn y tymor. Mae oediadau cynhaeaf yn gostus. Serch hynny, ni fydd y combein ond mor gynhyrchiol â’r ddolen wanaf yn y peiriant, gan gynnwys y gweithredwr a’i offer llywio. Bydd pwyslais yng nghynllun dyfodol combeiniau yn parhau i gael ei ganolbwyntio ar safle’r gweithredwr, gan fod cyfforddusrwydd a chyfleuster y gweithredwr yn dal i fod yn brif bryderon. Mae mwy o weithrediadau yn cael eu monitorio’n electronig oherwydd arwahanrwydd y gweithredwr yn y caban caeëdig a chymhlethdod mwy’r peiriant ei hunan. Bydd monitorio gweithrediadol a phrosesu yn dod yn fwy soffistigedig. Profir monitorau gwlybaniaeth gnwd a cholled grawn a all ddangos y ganran o golled dros gefn y peiriant a llywio gweithrediadau’r combein yn awtomatig yn ôl cyflyrau cnydiol. Mae gwelliannau fel y rhain yn galluogi’r gweithredwr i gael elw ar lawn botensial y peiriant.