WEBVTT

00:00:01.240 --> 00:00:02.060
&gt;&gt; Stuart: Mae hwn i ti, Pete.

00:00:02.160 --> 00:00:03.120
&gt;&gt; Peter: Diolch, Stu.

00:00:03.300 --> 00:00:04.780
&gt;&gt; Stuart: Gallet ti wneud y tro ag ychydig o gaffein, yn ôl dy olwg di.

00:00:04.780 --> 00:00:06.000
Yn y dafarn neithiwr eto?

00:00:06.120 --> 00:00:07.240
&gt;&gt; Peter: Byddwn i wedi dwlu bod yno.

00:00:07.320 --> 00:00:09.920
Na, roedd yn rhaid i fi gasglu Ben a Melissa o barti.

00:00:10.060 --> 00:00:12.180
Roedd hi wedi dau o’r gloch arna’ i’n cyrraedd y gwely.

00:00:12.260 --> 00:00:14.180
&gt;&gt; Stuart: Wel, fel yna y mae plant yn eu harddegau.

00:00:14.440 --> 00:00:15.700
Felly, pwy yw Melissa?

00:00:15.960 --> 00:00:17.100
&gt;&gt; Peter: Cariad Ben.

00:00:17.140 --> 00:00:19.000
&gt;&gt; Stuart: O, mae ganddo fe gariad erbyn hyn, oes e’?

00:00:19.010 --> 00:00:21.890
&gt;&gt; Peter: Oes, mae ganddo ddiddordeb mawr mewn merched yn ddiweddar.

00:00:21.890 --> 00:00:23.840
Gel gwallt, persawr eillio, ac wn i ddim beth arall.

00:00:23.920 --> 00:00:26.360
Mae’n treulio hanner ei fywyd yn yr ystafell ymolchi’n ymbincio.

00:00:26.440 --> 00:00:27.660
&gt;&gt; Harry: Cenfigen yw’r cyfan!

00:00:27.660 --> 00:00:29.600
&gt;&gt; Peter: Hmm, mae’n siŵr dy fod di’n iawn.

00:00:29.760 --> 00:00:31.780
&gt;&gt; Stuart: Felly, yw Ben wedi dod â Melissa adre i gwrdd â ti a Marge,

00:00:31.780 --> 00:00:33.940
neu a yw gwneud hynny braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn?

00:00:34.080 --> 00:00:35.660
&gt;&gt; Peter: Nac ydy, mae Ben yn hen fachgen iawn.

00:00:35.760 --> 00:00:37.520
Daeth e’ â hi draw i gael pryd o fwyd ychydig wythnosau’n ôl.

00:00:37.820 --> 00:00:38.940
&gt;&gt; Stuart: Sut berson yw hi?

00:00:39.160 --> 00:00:41.580
&gt;&gt; Peter: Mae’n ddigon neis – mae’n bert iawn,

00:00:41.860 --> 00:00:42.899
mae gan Ben lygad da!

00:00:43.160 --> 00:00:45.880
Mae’n astudio harddwch, neu rywbeth fel ’ny, yn y coleg,

00:00:45.880 --> 00:00:48.820
felly blonden braidd yn dwp yw hi.

00:00:48.940 --> 00:00:50.960
Fel rhai o’r merched sy’n gweithio fan hyn, 

00:00:50.960 --> 00:00:52.220
ti’n gwybod beth rwy’n ei feddwl.

00:00:52.520 --> 00:00:53.340
&gt;&gt; Stuart: O, iawn.
