WEBVTT

00:00:00.300 --> 00:00:03.870
Un tro, penderfynodd pawb yn fy fflat fynd
i un o ddigwyddiadau undeb y myfyrwyr.

00:00:03.903 --> 00:00:06.906
Taith tafarnau ar thema disgo'r saithdegau.

00:00:07.073 --> 00:00:10.410
Y syniad oedd eich bod chi’n gwisgo
mewn dillad ar thema disgo.

00:00:10.477 --> 00:00:13.346
Ac roeddwn i eisoes yn gwybod bod
hyn yn mynd i greu problemau.

00:00:13.346 --> 00:00:15.115
Penderfynodd un o
fy nghyd-letywyr gwyn

00:00:15.115 --> 00:00:19.452
orffen ei gwisg o'r saithdegau
gyda wig Affro brown.

00:00:19.552 --> 00:00:21.588
Nawr, fe geisiais i a fy ffrind egluro wrthi

00:00:21.588 --> 00:00:23.556
mai adfeddiad diwylliannol

00:00:23.556 --> 00:00:26.893
oedd hyn, ac nad oedd wir angen y wig arni
i gwblhau'r wisg beth bynnag.

00:00:26.960 --> 00:00:30.597
Ond roedd un bachgen yn dadlau nad oedd
adfeddiad diwylliannol yn beth

00:00:30.764 --> 00:00:34.534
go iawn hyd yn oed, a'i bod yn dangos gwerthfawrogiad
o fy niwylliant trwy wisgo'r wig.

00:00:34.601 --> 00:00:38.204
Roedd un o fy nghyd-letywyr,
oedd hefyd yn berson o liw,

00:00:38.438 --> 00:00:42.575
yn cytuno gydag e, er ei fod yn
profi microymosodiadau ei hunan, a bron bob dydd,

00:00:42.609 --> 00:00:44.577
mae rhywun yn ei gamgymryd am rywun arall.

00:00:44.577 --> 00:00:47.680
Mae llawer o fy ffrindiau’n adrodd straeon
am sut mae pobl wedi defnyddio

00:00:47.680 --> 00:00:51.451
iaith hiliol i'w disgrifio nhw,
ac yna’n dweud taw jôc oedd e,

00:00:51.451 --> 00:00:55.055
neu’n waeth fyth, cyhuddo pobl o
fod yn rhy sensitif.

00:00:55.121 --> 00:00:58.391
Mae hyn yn waeth fyth mewn sgyrsiau grŵp,
hyd yn oed ar ôl i rywun dynnu sylw at y peth.

