Darn 2 - Cwmnïau Yswiriant Talu hawliadau deiliaid polisi os bydd angen yw nod cronfeydd cwmnïau yswiriant. Mae’r cwmnïau’n cadw llygad arnyn ychydig fel ymddiriedolwyr. Mae’n gywir hefyd bod 90% o elw’r cronfeydd bywyd yn mynd i ddeiliaid polisi “gydag elw”. Sut i greu cronfa cwmni yswiriant, felly? Buddsoddir y symiau anferth sy’n arllwys i swyddfeydd aswiriant bywyd bob dydd, sef premiymau deiliaid polisi, o dan reolaeth arbenigol y cwmni. Defnyddir yr arian wedi’i fuddsoddi hwn i ariannu cynlluniau llywodraeth ac awdurdodau lleol. Buddsoddir yr arian yng nghwmnïau cyhoeddus i’w datblygiad ac ehangiad hefyd. Mae derbynnydd yr arian yn talu llog i’w ddefnydd, fel mewn mathau eraill o fuddsoddiad. Mae’r incwm hwn ychwanegol yn mynd i gronfa cwmni yswiriant hefyd. Petai’r gronfa’n cynnwys premiymau yn unig, byddai’n llai. Mae sawl canlyniadau oherwydd hynny. Yn y lle cyntaf, mae’r cwmnïau yswiriant yn gallu cadw’r premiymau’n is nag y byddent fel arall. Yn ail, mae’r arian sy’n mynd i gynlluniau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol yn cadw’n trethi ni’n is nag y byddent. Yn drydydd, gellir dosbarthu hyn sydd ar ôl o’r swm angenrheidiol i dalu hawliadau fel elw i ryw fath o ddeiliaid polisi.