WEBVTT

00:00:01.110 --> 00:00:03.090
&gt;&gt; Stuart: Felly, yw Ben wedi dod â Melissa adre i gwrdd â ti a Marge,

00:00:03.090 --> 00:00:05.270
neu a yw gwneud hynny braidd yn hen ffasiwn erbyn hyn?

00:00:05.270 --> 00:00:07.150
&gt;&gt; Peter: Nac ydy, mae Ben yn hen fachgen iawn.

00:00:07.150 --> 00:00:08.860
Daeth e’ â hi draw i gael pryd o fwyd ychydig wythnosau’n ôl.

00:00:09.140 --> 00:00:10.140
&gt;&gt; Stuart: Sut berson yw hi?

00:00:10.420 --> 00:00:12.900
&gt;&gt; Peter: Mae’n ddigon neis – mae’n bert iawn,

00:00:12.980 --> 00:00:14.299
mae gan Ben lygad da!

00:00:14.400 --> 00:00:17.240
Mae’n astudio harddwch, neu rywbeth fel ’ny, yn y coleg,

00:00:17.240 --> 00:00:19.980
felly blonden braidd yn dwp yw hi.

00:00:20.200 --> 00:00:22.180
Fel rhai o’r merched sy’n gweithio fan hyn,

00:00:22.180 --> 00:00:23.420
ti’n gwybod beth rwy’n ei feddwl.

00:00:23.620 --> 00:00:24.480
&gt;&gt; Stuart: O, iawn.

00:00:24.720 --> 00:00:25.660
&gt;&gt; Harry: Clyw, Pete,

00:00:25.660 --> 00:00:28.120
Dyw dweud pethau fel ’na ddim yn dderbyniol.

00:00:28.280 --> 00:00:29.180
&gt;&gt; Peter: Beth rwyt ti’n ei feddwl?

00:00:29.280 --> 00:00:30.380
&gt;&gt; Harry: Ti’n gwybod beth rwy’n ei feddwl:

00:00:30.500 --> 00:00:32.560
“blonden dwp” ac ati.

00:00:33.300 --> 00:00:35.060
Maen nhw’n gwneud i fi deimlo’n anghyffyrddus.

00:00:35.200 --> 00:00:37.480
Mae... wel... maen nhw’n sylwadau sarhaus.

00:00:37.800 --> 00:00:39.600
Byddwn i’n gwerthfawrogi taset ti’n rhoi’r gorau i’w gwneud nhw, iawn.

00:00:39.740 --> 00:00:42.900
&gt;&gt; Peter: Hei, aros funud, do’n i ddim o ddifri.

00:00:42.980 --> 00:00:44.900
&gt;&gt; Harry: Wel, dydw i ddim yn meddwl ei fod e’n ddoniol.

00:00:44.980 --> 00:00:46.460
&gt;&gt; Peter: O, dere.

00:00:46.680 --> 00:00:49.080
Stu, oeddet ti’n meddwl ’mod i o ddifri?

00:00:49.100 --> 00:00:50.430
&gt;&gt; Stuart: Wel, a dweud y gwir, Pete,

00:00:50.430 --> 00:00:52.340
Dydw inne ddim yn hoffi clywed y math yna o bethau chwaith.

00:00:52.340 --> 00:00:54.510
Rwy’n gwybod nad oeddet ti’n meddwl dim drwg, ond fel y dywedodd Harry,

00:00:54.510 --> 00:00:55.500
maen nhw’n sylwadau sarhaus.

00:00:55.880 --> 00:00:56.760
&gt;&gt; Peter: O, iawn.

00:00:56.960 --> 00:00:59.720
Wel, mae’n ddrwg gen i, ond doeddwn i ddim yn bwriadu digio neb…
