WEBVTT

00:00:01.040 --> 00:00:02.040
Newyddion da, Alan.

00:00:02.040 --> 00:00:03.040
Beth?

00:00:03.040 --> 00:00:06.259
Mae’r cynlluniau ar gyfer ailddatblygu’r safle wedi mynd drwy’r rownd gyntaf o adolygiadau.

00:00:06.259 --> 00:00:08.690
Gwych, da iawn. Felly, beth nesa’?

00:00:08.690 --> 00:00:11.240
Maen nhw am i dîm fynd i gyflwyno’r cynlluniau i’w staff uwch nhw.

00:00:11.360 --> 00:00:13.820
Mae’n swnio fel rêl parêd pwy yw’r perta’!

00:00:13.820 --> 00:00:15.040
Does dim pwynt i ti fod yno, felly.

00:00:15.040 --> 00:00:15.760
Nawr, nawr!

00:00:15.760 --> 00:00:17.880
Felly, pa rai sy’n cael mynd gyda ti?

00:00:17.940 --> 00:00:20.880
Wel, ro’n i’n meddwl y gallai Bruce esbonio’r elfennau ariannol

00:00:20.980 --> 00:00:23.400
ac y gallai Linda ymdrin â’r holl elfennau sy’n ymwneud â rheoli’r prosiect.

00:00:23.400 --> 00:00:27.320
Linda? Ro’n i’n meddwl y byddet ti’n dweud Zak, ar ôl yr holl waith wnaeth e’ ar y cynlluniau.

00:00:27.380 --> 00:00:29.100
Do, fe wnaeth Zak waith gwych.

00:00:29.220 --> 00:00:33.000
Ond... wel... byddan nhw’n grŵp o ddynion eithaf ‘macho’.

00:00:33.120 --> 00:00:35.500
Beth? Wyt ti’n credu y gallai’r ffaith bod Zak yn hoyw fod yn broblem?

00:00:35.560 --> 00:00:36.820
Ydw. Hynny yw,

00:00:36.980 --> 00:00:39.860
does gen i ddim problem gydag e’. Mae’n rheolwr prosiect heb ei ail.

00:00:40.080 --> 00:00:42.680
Ond dyw e’ ddim fel pe bai’n ceisio cuddio’r ffaith ei fod e’n hoyw, yw e’?

00:00:42.780 --> 00:00:46.540
Mae hynny’n wir. Weithiau, dyw e’ ddim yn gwneud unrhyw ffafr â’i hunan wrth fod mor agored am y peth.

00:00:46.620 --> 00:00:48.620
Dydw i ddim yn credu y byddai’r bobl sydd yno’n ei gymryd o ddifri.

00:00:49.020 --> 00:00:52.300
Allwn ni ddim fforddio gadael i hynny ddigwydd. Fyddai hynny ddim yn deg arnon ni na Zak.

00:00:52.460 --> 00:00:55.940
Mae’n siŵr dy fod di’n iawn. Ond mae’n drueni, ar ôl yr holl waith wnaeth e’ ar y cynlluniau.

00:00:56.140 --> 00:00:59.680
O wel, mae e’n siŵr o gael cyfleoedd eraill. Ac mae Linda yn berson eithaf da i gymryd ei le. 
