‘Rwyf am i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru gael cyfle i ddysgu Cymraeg yn llwyddiannus’ (Lewis, 2015, tud. 2). Dyma mae Lewis yn honni y dylai’r cwricwlwm cynnig i bobl ifanc yng Nghymru. Ond mae Lewis (2015) yn cydnabod bod problemau parhaus yn y cwricwlwm sydd eisiau ei thaclo gan fod pobl ifanc yn gadel yr ysgol heb y sgiliau iaith berthnasol sydd ei angen yn ei bywydau bob dydd ac yn y dyfodol. Cydnabyddai Lewis waith yr Athro Sioned Davies, Un iaith i bawb (Davies,2013) gan dderbyn ei argymhellion er mwyn ffurfio cwricwlwm newydd i fynd i’r afael a phroblemau a safonau isel. Ers hynny mae’r Athro Donaldson wedi cyhoeddi ei adolygiad o’r cwricwlwm, Dyfodol Llwyddiannus (Donaldson, 2015) sydd yn cyflwyno deg argymhelliad am y Gymraeg sydd yn cynnwys holl argymhellion y Dr Sioned Davies. Mae erthygl Lewis (2015) yn crynhoi'r camau ychwanegol ers adroddiad Donaldson (2015). Er mwyn sicrhau fod plant yn gadel gyda’r sgiliau iaith gorau, mae Lewis (2015) yn annog bod Cymraeg yn cael ei addysgu ar ôl 16 mlwydd oed. Mae pob disgybl yn dysgu Cymraeg tan 16 mlwyddyn oed, gan orffen gan astudio TGAU. Argymhella Davies (2013) y dylai fod modiwlau iaith fod yn orfodol ar ôl 16 gan mynd ymhellach wrth awgrymu y dylai fod modiwlau penodol ar gyfer datblygu sgiliau iaith yn ymwneud a’r gweithle. Sgiliau iaith felly sydd yn ymarferol ac yn fwy perthnasol i fywyd pob dydd. Cynigwyd hyn hefyd gan yr Athro Donaldson (2015) sydd yn meddwl y dylai ysgolion neud defnydd da o’r arfer mewn ysgolion Cymraeg ac adnoddau Cymraeg sydd ar gael i ddatblygu sgiliau iaith. Mae argymhelliad pump Donaldson (2015) yn annog ein bod yn neud defnydd da o Gomisiynydd y Gymraeg a Gyrfa Cymru fel cynghorwyr i ddatblygu sgiliau iaith. Mae Comisiyned y Gymraeg (Rolewska, 2017) yn cydnabod yr un her a nodwyd gan Lewis (2015) gan ymhelaethu fod nifer fawr o bobl ifanc yn colli ei sgiliau ar ddiwedd cyfnod TGAU, lle maent yn colli’r cyfle i ymarfer ei sgiliau iaith yn rheolaidd. Felly, mae’r Comisiyned y Gymraeg yn awgrymu y dylai fod cefnogaeth barhaol i brentisiaethau sydd ar allu i roi'r ystod o gyfleoedd sydd angen ar bobl ifanc i barhau i ymarfer ei Cymraeg er mwyn atal nhw rhag colli’r sgiliau allweddol yma. Mae’r cwricwlwm presennol (Llywodraeth Cymru, 2015) yn rhoi pwyslais cyfartal ar lafaredd, darllen ac ysgrifennu wrth addysgu. Fodd bynnag amlyga Lewis (2015) y dylai fod pwyslais cryf ar addysgu ‘fel ffordd o gyfathrebu yn bennaf, yn enwedig cyfathrebu llafar’. Mae Lewis (2015) eisiau gweld Cymraeg yn cael ei hyrwyddo yn gyntaf trwy sgiliau llafar trwy gyfathrebu a deall sgyrsiau llafar cyn cymryd y camau i ddatblygu sgiliau arall. Mae Donaldson (2015) yn bendant bod sgiliau llafaredd ‘yn hanfodol bwysig ar gyfer meddwl a dysgu’ (Donaldson, 2015, tud 48). Mae Davies (2013) yn honni y dylai fod gan bobl ifanc y sgiliau iaith sylfaenol sydd ei angen arnynt i alli gyfathrebu yn hyderus gan osgoi'r arfer presennol mewn ysgolion wrth astudio TGAU ail iaith. Mae nifer o ysgolion yn paratoi paragraffau ysgrifenedig o flaen llaw ar gyfer arholiadau llafar lle mae’r plant yn ailadrodd yr hyn maent wedi ddysgu ar y gof, sydd ddim yn datblygu ei sgiliau llafar mae nhw angen bob dydd. Awgryma Davies (2013) bod angen newid cwrs addysgu iaith, gyda ffyrdd newydd gan neud defnydd o gynorthwywyr ac athrawon bro. Yn ôl gwefan Estyn (2012) mae Ysgol Plasgrug Aberystwyth yn neud defnydd da o gynorthwywyr fro yn wythnosol sydd yn rhoi cyfle i’r ysgol cyflwyno’ rhaglen ‘grŵp targed’ sydd yn rhoi cymorth ychwanegol i ehangu sgiliau iaith sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr ysgol. Fodd bynnag, mae dogfen fwy diweddar gan Estyn, Datblygu’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen (2013) yn nodi bod cynnydd da wedi bod yn sgiliau siarad a gwrando yn genedlaethol ond bod ei gallu i ddarllen ac ysgrifennu yn wan, gan awgrymu bod eisiau fwy o ffocws ar hyn ac yn mynd yn groes i’r hyn mae Lewis (2015) yn awgrymu. Crybwylla Lewis (2015) her arall mae angen mynd i’r afael arno ydy sicrhau sgiliau iaith ein hathrawon. Mae Davies (2013) yn honni bod safonau isel gan nifer fawr o athrawon. Awgryma Davies (2013) y ddyled neud defnydd da o Gonsortia Rhanbarthol i gynnig cyrsiau fydd yn gwella safonau athrawon ond hefyd i annog sgiliau rhieni. Mae nifer o argymhellion o fewn dogfen Davies (2013) sydd yn mynd i afael ar sgiliau athrawon gan gynnwys rhif un deg chwech sydd yn sôn y dylai’r llywodraeth neu ddefnydd o’r Consortia Rhanbarthol neu argymhelliad un deg wyth sydd yn sôn am greu adnoddau Cymraeg, megis y wefan hwb. Mae’r defnydd o’r system ranbarthol yn golygu bod gwybodaeth gyson yn cael ei ddosbarthu. Mae dogfen Estyn (2012) am Ysgol Plasgrug yn hyrwyddo sgiliau iaith well yn athrawon gan adael i’w staff wneud cyrsiau Sabothol i fynd i’r afael a safonau isel gan roi caniatâd i’w staff gael ei rhyddhau i fynd ar gyrsiau iaith. Mae’r ysgol yn honni bod ei sgiliau iaith wedi gwneud nhw llawer yn fwy hyderus yn siarad yr iaith. Mae Davies (2013) yn angerddol am roi ystod o brofiadau i blant achos credai yn gryf bod angen ysbrydoli diddordeb ein plant i ddefnyddio’r iaith trwy’r diwylliant os ydyn ni eisiau gweld parhad i’n hiaith. Mae Davies yn honni bod disgyblion ddim yn mynd i ddefnyddio’r iaith os nad ydynt yn ymwybodol o’n hanes ac ein diwylliant. Er mwyn mynd i afael a’r problemau mae Lewis (2015) yn honni'r tyle ni fod yn annog Cymraeg tu allan i’r dosbarth ac yn hyrwyddo diwylliant Cymru i’r plant fel modd o godi diddordeb mewn siarad yr iaith. Mae Lewis (2015) yn credu yn gref bod dwyieithrwydd yn bwysig a bod hynny yn dod gyda dealltwriaeth o’n diwylliant. Mae Lewis (2015) yn nodi gwaith yr urdd sef mudiad iaith Cymraeg yn angerddol mewn trefnu gweithgareddau sydd yn hyrwyddo defnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd anffurfiol. Gall manteision neud gweithgareddau fel hyn datblygu hyder ac annog plant i siarad pob dydd. Fodd bynnag rhaid cydnabod bod y profiadau yma yn gallu cael ei chynnal o fewn y dosbarth, mae’r cwricwlwm presennol yn trosglwyddo gwybodaeth am ein diwylliant trwy' saith maes dysgu yn y cyfnod Sylfaen (Llywodraeth Cymru 2015). Mae hwn yn arwain at thema'r cwricwlwm Cymraeg, ‘y dylai pob un o’r chwe Maes Dysgu a Phrofiad gynnwys, lle’n briodol dimensiwn Cymreig a phersbectif rhyngwladol yn unol ag argymhellion yr Athro Davies’ (Lewis, 2015 tud 2). Mae’r cwricwlwm Cymraeg yn rhan o’r fframwaith presennol yn barod, a dylai fod yn cael ei hyrwyddo. I gloi felly er bod mannau da o fewn y cwricwlwm presennol a llawer o elfennau sydd eisoes yn ceisio hyrwyddo Cymraeg ond mae nifer o gamau sydd eisiau cymryd lle er mwyn gwella'r safonau isel. Mae angen cymryd camau o fewn y dosbarth trwy addasu'r cwricwlwm, creu adnoddau a sicrhau gwybodaeth gywir yn cael ei throsglwyddo. Ond hefyd yn ehangach, mi allwn ni codi safonau trwy hyrwyddo ein diwylliant er mwyn annog diddordeb a gwneud plant eisiau dysgu’r Gymraeg. (Nifer o eiriau: 1,177) Rhestr Cyfeirnodau: Lewis, H. (2015). Cymraeg Ail Iaith yn ein cwricwlwm newydd, Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Davies, S. (2013) Un iaith i bawb, Caerdydd: Llywodraeth Cymru. A’r cael yn: https://beta.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-02/adolygiad-o-gymraeg-ail-iaith-yng-nghyfnodau-allweddol-3-a-4.pdf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018) Donaldson, G. (2015) Dyfodol Llwyddiannus: Adolygiad annibynnol o’r cwricwlwm a’r trefniant asesu yng Nghymru Hawlfraint y Goron. Ar cael yn: https://gov.wales/docs/dcells/publications/150225-successful-futures-cy.pdf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018) Rolewska, A. (2017) Nodyn birffio Sefyllfa’r Gymraeg mewn Rhaglenni Prentisiaeth yng Nghymru, Caerdydd: Comisiynydd y Gymraeg. A’r gael yn: http://www.comisiynyddygymraeg.cymru/Cymraeg/Rhestr%20Cyhoeddiadau/20171114%20C%20Nodyn%20briffio%20Prentisiaethau%20%282%29.pdf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018) Estyn. (2012) Cymraeg ail iaith sy’n dod yn gyntaf. Hawlfraint y Goron. A’r gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/arfer-effeithiol/cymraeg-ail-iaith-sy’n-dod-yn-gyntaf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018) Estyn. (2013) Datblygu’r Gymraeg yn y Cyfnod Sylfaen, Caerdydd, Hawlfraint y Goron. Ar gael yn: https://www.estyn.llyw.cymru/sites/default/files/documents/Datblygu%27r%20Gymraeg%20yn%20y%20Cyfnod%20Sylfaen%20-%20Ionawr%202013.pdf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018) Llywodraeth Cymru. (2015) Fframwaith y Cyfnod Sylfaen, Caerdydd: Llywodraeth Cymru. Ae gael yn: http://learning.gov.wales/docs/learningwales/publications/150803-fp-framework-cy.pdf (Cyrchwyd: 28 Tachwedd 2018)