{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p><strong>Yr Athro Annie Jones<\/strong>: Helo bawb! Yr Athro Annie Jones sydd yma. Yn y fideo hwn, rydym yn mynd i esbonio eich aseiniad cyffrous sy\u2019n mynd i herio eich sgiliau dadansoddol a\u2019ch galluoedd cyfathrebu. &nbsp;<\/p><p>Rydym yn mynd i archwilio\u2019n ddwfn i\u2019r cyfnod canoloesol cyfareddol, yn enwedig y cyfnodau rhwng y 5ed a\u2019r 15fed ganrif. Dychmygwch ddal arteffactau hanesyddol yn eich llaw, rhywbeth a gr\u00ebwyd yn ystod y cyfnod hwn.&nbsp;<\/p><p>Mae\u2019r aseiniad yn mynd i\u2019ch caniat\u00e1u wneud hynny. Byddwch chi\u2019n dadansoddi prif ffynhonnell, darn uniongyrchol o dystiolaeth o\u2019r cyfnod. A dyma\u2019r darn cyffrous. Rydych chi\u2019n mynd i fod yn dditectif hanes.&nbsp;<\/p><p>Byddwch yn datgelu\u2019r stor\u00efau cudd a\u2019r wybodaeth o fewn eich ffynhonnell ddewisol drwy ymchwil a meddwl beirniadol. Bydd gennych 1000 o eiriau i esbonio pan rydych wedi dewis eich prif ffynhonnell, pam ei bod yn hanesyddol bwysig, ac archwilio\u2019r effaith barhaol mae wedi\u2019i chael. &nbsp;<\/p><p>Yna, mae angen i chi greu cyflwyniad fideo pum munud sydd wedi\u2019i ddylunio i ymgysylltu \u00e2 chynulleidfa benodol. Felly, rydych chi\u2019n mynd i ddewis rhwng disgyblion ysgol gynradd, disgyblion ysgol uwchradd, neu efallai hyd yn oed oedolion sydd eisiau dysgu mwy am y cyfnod canoloesol, ond nid ydynt yn arbenigwyr mewn hanes. Felly, yr allwedd fan hyn yw teilwra eich cyflwyniad er mwyn hoelio eu sylw a dod \u00e2\u2019r gorffennol yn fyw mewn ffordd sy\u2019n mynd i atseinio gyda nhw. &nbsp;<\/p><p>Mae angen i chi ysgrifennu 1000 o eiriau i gyd-fynd \u00e2\u2019r cyflwyniad hwn. Dylech esbonio sut a pham rydych chi wedi dewis y dull rydych wedi\u2019i ddefnyddio i gyrraedd eich cynulleidfa darged a chofiwch gefnogi eich dadl gydag ymchwil academaidd pellach. Cofiwch edrych ar friff yr aseiniad am y manylion llawn. &nbsp;<\/p><p>Bydd gennych 1000 o eiriau ar ddadansoddi eich prif ffynhonnell, pum munud ar eich cyflwyniad fideo i ledaenu darganfyddiadau eich ymchwil i\u2019ch cynulleidfa darged a 1000 o eiriau i esbonio eich dull a dyluniad eich cyflwyniad.&nbsp;<\/p><p>Pob lwc!<br>&nbsp;<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"74fd20a6-4863-4d27-bc20-bfa9f6540317","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Briff yr Asesiad"}],"hTag":"h4"}