{"panels":[{"content":{"params":{"text":"<p>Yn y fideo hwn, bydda i\u2019n dangos sut i ddefnyddio <em>Tracio camau tuag at gwblhau<\/em>.<\/p><p><strong>Cam 1: Trowch <\/strong><em><strong>Tracio camau tuag at gwblhau <\/strong><\/em><strong>ymlaen<\/strong><\/p><p>I ddefnyddio'r nodwedd hon, mae angen i chi ei droi ymlaen ar lefel cwrs yn gyntaf, wedyn ei ffurfweddu ar gyfer gweithgareddau neu adnoddau unigol.<\/p><p>Yn gyntaf, ewch i'ch tudalen cwrs Moodle a dewiswch <em>Gosodiadau<\/em> o'r ddewislen uchaf.<\/p><p>Wedyn, sgroliwch i lawr i'r adran<em> Tracio camau tuag at gwblhau<\/em>. Gosodwch y ddau opsiwn <em>Galluogi tracio camau tuag at gwblhau <\/em>a <em>Dangos amodau cwblhau gweithgaredd <\/em>i <em>Iawn<\/em> a wedyn dewiswch <em>Cadw ac arddangos<\/em>.<\/p><p>Ar \u00f4l ei alluogi, byddwch chi\u2019n gallu ffurfweddu gosodiadau cwblhau ar gyfer pob eitem ar dudalen eich cwrs.<\/p><p><strong>Cam 2: Gosod meini prawf cwblhau ar gyfer gweithgareddau ac adnoddau<\/strong><\/p><p>Nawr gallwch chi ddewis sut y caiff y gwaith sydd wedi cael ei gwblhau ei dracio ar gyfer pob gweithgaredd neu adnodd.<\/p><p>I wneud hynny, trowch <em>y Modd golygu<\/em> ymlaen a dewiswch y tri dot (\u22ee) wrth ymyl yr eitem rydych chi am ei dracio, wedyn dewiswch <em>Golygu gosodiadau<\/em>.<\/p><p>Sgroliwch i'r adran<em> Amodau cwblhau<\/em>. Fe welwch chi opsiynau ar gyfer gosod amodau cwblhau. Mae'r rhain yn penderfynu sut mae Moodle yn tracio a yw gweithgaredd neu adnodd wedi'i gwblhau. Bydd gennych chi dri phrif opsiwn:<\/p><ul><li>Os dewiswch <em>Dim<\/em>, ni chaiff unrhyw beth ei dracio. Defnyddiwch hwn ar gyfer eitemau nad oes angen eu tracio.<\/li><li>Os dewiswch <em>Rhaid i fyfyrwyr farcio \u00e2 llaw fod y gweithgaredd wedi'i wneud<\/em>, bydd blwch ticio yn ymddangos wrth ymyl yr eitem, gan ganiat\u00e1u i fyfyrwyr ei dicio pan fyddan nhw wedi cwblhau'r dasg.<\/li><li>Os dewiswch <em>Ychwanegu gofynion<\/em>, byddwch chi\u2019n gallu gosod amodau penodol ar gyfer cwblhau, sy'n amrywio yn dibynnu ar y math o weithgaredd neu adnodd. Er enghraifft, yma mae gen i adnodd <em>Tudalen<\/em>, a galla i ei osod i farcio ei fod wedi\u2019i gwblhau pan fydd myfyriwr yn ei weld. Mae gweithgareddau eraill, megis cwisiau neu fforymau, yn cynnig gwahanol opsiynau megis gofyn am radd neu nifer penodol o bostiadau.<\/li><\/ul><p>Pan fyddwch chi wedi gorffen, dewiswch <em>Cadw a dychwelyd i'r cwrs<\/em>.<\/p><p><strong>Cyrchu'r adroddiad Cwblhau gweithgaredd<\/strong><\/p><p>Ar \u00f4l i chi alluogi <em>Tracio camau tuag at gwblhau<\/em> yn eich cwrs a gosod meini prawf cwblhau, gallwch chi weld adroddiad sy'n dangos pa fyfyrwyr sydd wedi cwblhau gweithgareddau ac adnoddau penodol. Mae hon yn ffordd ddefnyddiol o fonitro ymgysylltiad a nodi myfyrwyr a allai fod ar ei h\u00f4l hi neu mewn angen cymorth ychwanegol.<\/p><p>I wneud hynny, ewch i'ch tudalen cwrs Moodle ac o'r ddewislen uchaf, dewiswch <em>Mwy <\/em>ac <em>Adroddiadau<\/em>.<\/p><p>Dewiswch <em>Cwblhau gweithgaredd<\/em> o'r rhestr o adroddiadau sydd ar gael.<\/p><p>Mae'r adroddiad yn dangos tabl gyda rhestr o fyfyrwyr cofrestredig, gweithgareddau neu adnoddau gyda\u2019r gosodiadau cwblhau wedi'i alluogi, a statws cwblhau ar gyfer pob eitem.<\/p><p>Gallwch chi ddefnyddio hidlwyr i gyfyngu'r edrychiad, er enghraifft, yn \u00f4l gr\u0175p neu\u2019r math o weithgaredd, a didoli'r data i ganolbwyntio ar fyfyrwyr neu dasgau penodol.<\/p><p>I gadw cofnod neu ddadansoddi'r data ymhellach, gallwch chi lawrlwytho'r adroddiad ar fformat CSV, y gallwch chi ei agor yn Excel.<\/p><p>A dyna ni, sut i ddefnyddio <em>Tracio camau tuag at gwblhau<\/em> ar Moodle.<\/p>"},"library":"H5P.AdvancedText 1.1","subContentId":"1279f1ab-be92-47cf-ab21-ee93cf5cfaa4","metadata":{"contentType":"Text","license":"U","title":"Untitled Text"}},"title":"Trawsgrifiad fideo: Sut i ddefnyddio\u2019r dull Tracio camau tuag at gwblhau"}],"hTag":"h4"}